Neges Nadolig gan Esgob David
Mae sawl cymeriad cyfarwydd yn stori’r Nadolig, ac ymhlith y rhain mae’r Bugeiliaid, — y rhai a oedd yn cadw golwg dros eu praidd liw nos pan ymddangosodd angel yr Arglwydd iddynt. Nhw oedd y cyntaf i glywed y newyddion da am eni Crist.
Roedd y rhain yn bobl yr oedd eu bywydau wedi’u llunio gan y tir a’r tywydd,gan y nosweithiau hir a’r cyfrifoldebau tawel, beunyddiol o ofalu am eu praidd. Yng nghanol eu gwaith gwledig y datgelwyd neges o obaith a llawenydd, gan ein hatgoffa fod Duw yn aml yn llefaru gliriaf yn y mannau y mae’r byd prysur yn eu hanwybyddu -neu hyd yn oed eu hanghofio.
Yma yng Ngogledd-Orllewin Cymru, mae llawer yn parhau i fyw yn ôl rhythmau bywyd gwledig—yn gweithio ar y ffermydd, yn gofalu am yr anifeiliaid, ac yn cynnal diwylliant, iaith a bywyd cymunedol Cymru. Eto i gyd, mae ein cymunedau gwledig yn wynebu pwysau gwirioneddol: ansicrwydd ym myd ffermio ac amaethyddiaeth, costau byw cynyddol, heriau i bobl ifanc aros mewn ardaloedd gwledig, unigrwydd ac arwahanrwydd, a’r ymdrech barhaus i gadw gwasanaethau hanfodol, eglwysi a chapeli, busnesau ac ysgolion yn fyw. Fel y bugeiliaid, mae llawer yn cario eu beichiau’n dawel, yn aml heb i neb sylwi ac yn aml heb gefnogaeth.
Dyna pam mae sefydliadau fel Tir Dewi yn achubiaeth i’r rheini mewn cymunedau gwledig sy’n wynebu heriau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a straen, anawsterau ariannol, a materion yn deillio o ladrad, salwch anifeiliaid a deddfwriaeth sy’n effeithio ar ffermwyr. Mewn sawl sector, mae caplaniaid yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl ag anghenion amrywiol, ac mae sefydliadau fel Tir Dewi hefyd yn cynnig gofal bugeiliol drwy gyfrwng eu caplaniaid, fel y Parchedig Llew Moules-Jones, caplan bywyd gwledig yma yn Esgobaeth Bangor. Mae Llew yn gwirfoddoli gyda Thir Dewi ac yn dod o gefndir ffermio ei hun.
Rydym yn diolch am weinidogaeth y caplaniaid gwledig, gwaith Tir Dewi, a’r holl elusennau a sefydliadau sy’n cefnogi ein cymunedau gwledig.
Amser y Nadolig, mae’r bugeiliaid yn ein hatgoffa nad yw’r rhai sy’n dioddef unigrwydd, amgylcheddau gwaith heriol a chaledi cymdeithasol byth ar ymyl gofal Duw. Mae’r neges o heddwch a gyhoeddwyd iddynt hwy yn cael ei chyhoeddi i ni hefyd: addewid fod goleuni’n disgleirio hyd yn oed yn y gaeafau hir a thywyll; fod gwaith ein dwylo a’r gofal a ddangoswn tuag at ein gilydd yn wirioneddol werthfawr; a bod gobaith yn dod i’r byd nid drwy rym, ond drwy bresenoldeb.
Boed i esiampl y bugeiliaid ein hysbrydoli i wylio, i wrando, ac i adnabod Duw ar waith ynom ni a thrwyom ni.
Boed i’r Nadolig hwn ddod ag anogaeth i bawb sy’n gweithio’r tir ac yn gofalu am braidd, i bawb sy’n cefnogi cymunedau gwledig, ac i bawb sy’n teimlo pwysau newid ac ansicrwydd. Boed i esiampl y bugeiliaid ein hysbrydoli i wylio, i wrando, ac i adnabod Duw ar waith ynom ni a thrwyom ni.
Boed i heddwch, gobaith a llawenydd genedigaeth Iesu Grist orffwys ar ein bryniau ac yn ein dyffrynnoedd, fel y gwnaeth ger Bethlehem ar y Nadolig cyntaf un.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Bishop David's Christmas message
There are several familiar characters in the Christmas story, among them are the Shepherds, who we are told were keeping watch over their flocks by night when an angel of the Lord appeared to them. They were the first to hear the good news of Christ’s birth.
These were people whose lives were shaped by the land, the weather, the long nights, and the quiet daily responsibilities of caring for their flocks. It was in the midst of their rural work that a message of hope and joy was made known, reminding us that God often speaks most clearly in the places the busy world overlooks or forgets.
Here in North-West Wales, many continue to live in the rhythms of rural life—working the farms, tending the animals, sustaining Welsh culture, language, and community life. Yet our rural communities also face real pressures: uncertainty in farming and agriculture, the rising cost of living, challenges for young people to remain in rural areas, loneliness and isolation, and the constant effort to keep essential services, churches and chapels, businesses, and schools alive. Like the shepherds, many carry burdens quietly, often unnoticed and often unsupported.
Which is why organisations such as Tir Dewi, are a lifeline to those in rural communities who struggle with challenges relating to mental health and stress, financial difficulties, and issues arising from theft, animal sicknesses and legislation affecting farmers. In many sectors, chaplains provide critical support to those with different needs, and organisations like Tir Dewi also provide pastoral care through chaplains, such as that offered by the Revd Llew Moules-Jones, our rural life chaplain here in the Diocese of Bangor, who volunteers with Tir Dewi and comes from a farming family himself.
We give thanks for the ministry of rural chaplains, the work of Tir Dewi and all charities and organisations who support rural communities.
Hope enters the world not through power, but through presence.
At Christmas, the shepherds remind us that the people who struggle with isolation, challenging working environments and social hardship are never on the edge of God’s concern. The message of peace proclaimed to them is proclaimed to us too: a promise that light shines even in long dark winters; that the work of our hands and the care we show one another matter deeply; and that hope enters the world not through power, but through presence.
May this Christmas bring encouragement to all who work the land and tend flocks and herds, all who support rural communities, and all who feel the weight of change and uncertainty. May the example of the shepherds inspire us to watch, to listen, and to recognise God at work in and through us.
May the peace, hope and joy of the Christ Child, rest upon our hillsides and in our valleys, as it did near Bethlehem on the very first Christmas.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.