minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Neges Blwyddyn Newydd gan Archesgob Cymru

Annwyl Gyfeillion yng Nghrist,

Wrth i ni gychwyn ar flwyddyn galendr newydd, yr wyf yn ysgrifennu i ddymuno pob bendith i chi ar gyfer 2026 ac i ddiolch i chi am y nifer o ffyrdd yr ydych yn byw allan eich disgyblaeth ffyddlon a’ch gweinidogaeth. Boed i Dduw ein bendithio a’n harwain oll wrth i ni geisio siapio ein bywyd gyda’n gilydd ar batrwm Iesu Grist.

Mae wedi bod yn dda cadw mewn cysylltiad â'r hyn sy’n digwydd ledled yr esgobaeth drwy’r Deon a’r Archddiaconiaid a gweld yr holl straeon newyddion da sy’n dod allan o Fangor trwy’r gwahanol sianeli cyfryngau. Mae llawer i ddiolch i Dduw amdano.

Fel y gwyddoch, pan gyfarfu ym mis Tachwedd, trafododd y Corff Llywodraethu a chymeradwyo’r syniad o benodi esgob dros dro i Fangor. Rwyf wedi gwneud cynnydd da ar hyn ac wedi cael sgyrsiau ffôn â phump o bobl a sgyrsiau e-bost â chwech yn rhagor. Wrth imi ysgrifennu, mae dau berson yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r rôl. Rydym bellach ar y cam o aros i weld a ydym yn derbyn arwyddion ffurfiol o ddiddordeb yn y rôl. Mae’n rhy gynnar i ymgeisydd dewisol ddod yn amlwg.

Pe bai unrhyw ymgeisydd yn cyflwyno cais ffurfiol, bydd gofyn iddynt fynd trwy broses ffurfiol o ddirnad. Bydd hyn yn cynnwys iddynt gwblhau’r un papurau ymgeisydd ag y byddai gofyn amdanynt ar gyfer coleg etholiadol, cael eu gwirio drwy’n prosesau diogelu arferol, a chwrdd ar wahân ag nifer o grwpiau o’r esgobaeth gan gynnwys aelodau’r Coleg Etholiadol ac aelodau o Dîm Staff yr Archesgob ynghyd â Chadeirydd y BCE. Rhoddir adborth gan gynrychiolwyr y grwpiau hynny cyn i gyfweliad ffurfiol gael ei gynnal ganol Chwefror gyda phanel cyfweld a fydd yn cynnwys aelodau o’r esgobaeth.

Ymunwch â mi, os gwelwch yn dda, i weddïo am ddoethineb a dirnadaeth wrth inni geisio ewyllys Duw ar gyfer penodi’r person iawn i arwain fel esgob Esgobaeth Bangor. Efallai yr hoffech ddefnyddio’r weddi hon, a ysgrifennwyd gan rywun o Fangor at y diben hwn.

Dad cariadus,

Diolchwn i ti am Esgobaeth Sant Deiniol, gyda’i hanes cyfoethog o 1,500 o flynyddoedd.

Diolchwn i ti am amrywiaeth y bobl y mae’n eu cynrychioli yng Ngogledd-orllewin a Chanolbarth Cymru, ac am eu hymrwymiad i ddiwylliant a iaith Gymraeg fyw a chryf.

Bendithia bawb sy’n ymwneud â’r weinidogaeth yma o bob math, yn lleyg ac ordeiniedig; o fewn adeiladau eglwysig ac allan yn y gymuned.

Dyro weledigaeth glir a meddyliau dewr ac agored i bawb sy’n rhan o’r broses o geisio esgob newydd.

Gofynnwn i ti yn awr ganfod person gweddigar a fydd yn ceisio adnabod a diwallu dy ewyllys ar ein cyfer, gyda meddwl agored i bethau newydd.

Dyro i ni berson o ddoethineb a phrofiad, gyda’r sgiliau a’r dewrder i weithredu fel Pont Wasanaeth, i ailsefydlu trefn ac undod yn ôl esiampl dy Fab, fel y bydd dy newyddion da yn parhau i gael ei rannu yma gydag egni a hyder o’r newydd yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn ei Enw Ef, ein Harweinydd a’n Harglwydd.
Amen.

Archesgob Cherry

Cymraeg

New Year Message from the Archbishop of Wales

Dear Friends in Christ,

As we embark on a new calendar year, I write to wish you every blessing for 2026 and to thank you for the many ways in which you are living out your faithful discipleship and ministry. May God bless and guide us all as we seek to shape our life together after the pattern of Jesus Christ.

It has been good to keep in touch with what is going on across the diocese via the Dean and Archdeacons and to see all the good news stories coming out of Bangor through the various media channels. There is a lot to thank God for.

As you know, when it met in November, the Governing Body discussed and approved the idea of appointing an interim bishop for Bangor. I have been making good progress on this and have had telephone conversations with five people and e mail conversations with six more. As I write, there are two people who are giving the role serious consideration. We are now at the stage of waiting to see if we receive formal indications of interest in the role. It is too early for there to be a preferred candidate.

Should any candidate put in a formal submission, they will be required to go through a formal process of discernment. This will include them completing the same candidate papers as would be required for an electoral college, being checked through our usual safeguarding processes, and meeting separately with a number of groups from the diocese including the members of the Electoral College and members of the Archbishop’s Staff Team plus the Chair of the DBF. Feedback from representatives of those groups will be given prior to a formal interview taking place mid-February with an interview panel that will include members of the diocese.

Please join me in praying for wisdom and discernment as we seek God’s will for the right person to lead as bishop for the diocese of Bangor. You may like to use this prayer which has been written by someone from Bangor for this purpose.

Loving Father,

We thank you for our diocese of St. Deiniol with its rich 1500 years of History.

We thank you for the diversity of people it represents in North West and Mid Wales and for its commitment to a living and strong Welsh culture and language.

Bless all who are engaged in ministry here of all kinds, lay and ordained; inside church buildings and out in the community.

Give clear vision and bold, open minds to all who are involved in the process of seeking a new Bishop.

We ask you now to raise up a prayer filled person who will seek to know and do your will for us, with a mind open to new things.

Give us a person of wisdom and experience with the skills and courage to act as a Servant Bridge, to re- establish order and unity in and after the example of your Son, so that your good news will continue to be shared here with renewed vigour and confidence in the years to come.

In His name who is our head and Lord.
Amen

Archbishop Cherry Vann