minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cymeriad newydd i blant, “Erin Pererin”, yn dod â phererindod Gristnogol i’r ystafell ddosbarth

Adnodd newydd yn Gymraeg gan Esgobaeth Bangor sy’n helpu disgyblion ledled gogledd-orllewin Cymru i archwilio pererindod Gristnogol, eglwysi lleol, a threftadaeth ffydd drwy weithgareddau sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Erin Pererin, arweinydd dychmygol sy’n tywys plant drwy straeon a theithiau lleol trwy PererinYsgolion, gwefan newydd i ysgolion. Drwy gysylltu’r iaith Gymraeg, y dirwedd, a thraddodiad Cristnogol, mae’r fenter yn manteisio ar yr adfywiad ehangach o ddiddordeb mewn pererindod yng Nghymru, a adlewyrchir yn mhoblogrwydd cyfres Pilgrimage y BBC, gan wahodd cenhedlaeth newydd i brofi pererindod drostynt eu hunain.

Dysgu am bererindod, Ysgol Llandwrog

Datblygwyd Erin Pererin gan Nia Elain Roberts yn ei rôl fel Swyddog Ymgysylltu Pererindod Ysgolion. Gan dynnu ar ei gwaith gydag ysgolion, cafodd y cymeriad ei ddylunio i gyflwyno plant i syniadau pererindod, seintiau a mannau cysegredig mewn ffordd hygyrch a deniadol.

Wrth siarad am y dull dysgu, meddai Nia, “Mae pererindod wedi dod yn fwyfwy poblogaidd mewn ysgolion gan fod plant yn mwynhau’r cyffro o ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae archwilio eglwysi, cerdded llwybrau pererindod a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn helpu disgyblion i gysylltu â seintiau, straeon a threftadaeth Gristnogol leol mewn ffordd sy’n teimlo’n weithredol ac yn berthnasol iddyn nhw.”

Mae datblygiad Pererin Ysgolion yn adlewyrchu cydnabyddiaeth ehangach o bwysigrwydd buddsoddi mewn adnoddau dysgu Cymraeg o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu hanes lleol, diwylliant, a chyd-destun Cristnogol. 

"Roeddem am i blant deimlo fod pererindod a threftadaeth eglwysi yn perthyn iddyn nhw a’u cymunedau. Mae defnyddio adnoddau yn eu iaith bob dydd yn eu helpu i wneud y cysylltiadau deimlo’n naturiol ac yn ystyrlon.

Dysgu ymarferol

Darganfod seintiau lleol, Ysgol Llandwrog

Mae Erin Pererin yn gweithredu fel tywysydd i ddisgyblion wrth iddynt archwilio’r adnoddau ar wefan Pererin Ysgolion. Trwy straeon, cwestiynau a gweithgareddau, mae Erin yn helpu plant i ddarganfod eglwysi a seintiau lleol ac i ddeall pwysigrwydd treftadaeth Gristnogol Cymru.

Mae’r wefan yn darparu deunyddiau parod i’w defnyddio i gefnogi athrawon, gan gynnwys ffilmiau byrion sy’n cynnwys eglwysi o bob rhan o Esgobaeth Bangor, cyflwyniadau PowerPoint, pecynnau gwaith a llyfrau digidol. Mae’r adnoddau hyn yn helpu disgyblion i ddeall hanes, treftadaeth a rôl yr eglwys yn yr ardal leol, wrth gefnogi dysgu am gredoau a gwerthoedd Cristnogol.

Cefnogi Cwricwlwm Cymru

Eglwys Llandwrog

Mae’r holl adnoddau ar y wefan wedi’u mapio i Gwricwlwm Cymru a gellir eu defnyddio ar draws sawl Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r rhain yn cynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, y Dyniaethau, y Celfyddydau Mynegiannol, ac Iechyd a Lles.

Bydd gwefan Pererin Ysgolion yn parhau i dyfu, gyda rhagor o adnoddau’n cael eu hychwanegu dros y misoedd nesaf. Gall ysgolion hefyd ofyn am ddeunyddiau pwrpasol sy’n gysylltiedig ag eglwysi lleol, seintiau neu lwybrau pererindod o fewn Esgobaeth Bangor.

Mae Carys Thomas, Pennaeth Ysgol Llandwrog, o’r farn y bydd y wefan yn dod yn adnodd gwerthfawr sy’n cefnogi addysgu ar draws yr ysgol. Meddai, “Mae Pererin Ysgolion yn adnodd trawsgwricwlaidd gwerthfawr. Mae’n cefnogi cynllunio effeithiol ar draws Llythrennedd, Rhifedd ac amrywiaeth o feysydd eraill y cwricwlwm, ochr yn ochr â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. 

"Gyda digonedd o adnoddau i athrawon a dysgwyr, gan gynnwys cyflwyniadau a chynlluniau, bydd yn darparu budd sylweddol i ysgolion.”

Mae rhagor o wybodaeth a mynediad at yr adnoddau ar gael yn www.pererinysgolion.cymru

Cymraeg

New children’s character "Erin Pererin" brings Christian pilgrimage into classrooms

A new Welsh-language resource from the Diocese of Bangor is helping pupils across north-west Wales explore Christian pilgrimage, local churches, and faith heritage through activities rooted in their own communities.

The project focuses on Erin Pererin, a fictional guide who leads children through stories and local journeys via PererinYsgolion, a new website for schools. By connecting Welsh language, landscape, and Christian tradition, the initiative taps into the wider revival of interest in pilgrimage in Wales, reflected in the popularity of the BBC’s Pilgrimage series, while inviting a new generation to experience pilgrimage for themselves. Pererin means pilgrim in Welsh.

Erin Pererin

Nia Elain Roberts developed Erin Pererin in her role as Schools Pilgrimage Engagement Officer. Drawing on her work with schools, the character introduces children to pilgrimage, saints and sacred spaces in an accessible and engaging way.

Nia says, “Pilgrimage has become increasingly popular in schools because children enjoy the excitement of learning beyond the classroom. Exploring churches, walking pilgrimage routes and taking part in practical activities helps pupils connect with saints, stories and local Christian heritage in a way that feels active and relevant to them.”

Developing this resource reflects a wider recognition of the importance of investing in high-quality Welsh-language learning resources that reflects local history, culture, and Christian context. 

"We wanted children to feel that pilgrimage and church heritage belong to them and their communities. Using resources in the language of their daily lives helps make those connections feel natural and meaningful," added Nia.

Hands-on learning

Enjoying pilgrimage activities

Erin Pererin acts as a guide for pupils as they explore the resources on the PererinYsgolion website. Through stories, questions and activities, Erin helps children to discover local churches and saints and understand the importance of Welsh Christian heritage.

The website provides teachers with ready-to-use materials to support, including short films featuring churches from across the Diocese of Bangor, PowerPoint presentations, work packs and digital books. These resources help pupils understand the history, heritage and the role of the church in the local area, while supporting learning about Christian belief and values.

Supporting the Curriculum for Wales

Pilgrimage to Llandwrog church

All resources on the website are mapped to the Curriculum for Wales and can be used across several Areas of Learning and Experience. These include Religion, Values and Ethics, Humanities, Expressive Arts, and Health and Wellbeing.

The PererinYsgolion website will continue to grow, with new resources added over the coming months. Schools can also request bespoke materials linked to local churches, saints or pilgrimage routes within the Diocese of Bangor.

Carys Thomas, Head Teacher at Ysgol Llandwrog, believes the website will become a valuable resource supporting teaching across the school, "Pererin Ysgolion is a valuable cross‑curricular resource. It supports effective planning across Literacy, Numeracy and a range of other curriculum areas, alongside Religion, Values and Ethics. With extensive resources for both teachers and learners, including presentations and plans, it will provide significant benefit to schools.”

Further information and access to the resources is available at www.pererinysgolion.cymru