Offeiriad newydd yn cael ei phenodi ar gyfer Dyffryn Nantlle
Mae Esgobaeth Bangor wedi cyhoeddi penodiad y Parchedig Nia Catrin Williams yn offeiriad newydd yn gwasanaethu eglwysi Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd.
Yn siaradwraig Gymraeg ei hiaith gyntaf, mae Nia yn dychwelyd i Esgobaeth Bangor ac i’w hardal enedigol yng Ngogledd Cymru, gan ddod â dros 25 mlynedd o brofiad o weinidogaeth ordeiniedig. Mae Nia yn enw cyfarwydd ar draws yr Eglwys yng Nghymru, wedi gwasanaethu’n flaenorol fel offeiriad yn Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Bangor. Ers 2016, mae wedi gwasanaethu fel Caplan yn y Lluoedd Arfog ac ar hyn o bryd mae’n Gaplan Wrth Gefn ar Ddyletswydd gyda’r Llu Awyr Brenhinol.
Bydd Nia yn gwasanaethu fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth yn Ardal Weinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai.
Cafodd Nia ei hordeinio’n offeiriad yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ym 1999, gan ddechrau ei gweinidogaeth fel Curad Cynorthwyol ym Mendithfa Reithoraidd Llanrhos. Yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu ym Mrynymaen a Bae Colwyn tra’n gweithio’n llawn amser fel Swyddog Dan 25 oed ar gyfer Esgobaeth Llanelwy, cyn dod yn Ficerd Towyn a San Siôr.
Ymunodd Nia ag Esgobaeth Bangor yn 2008 fel Ficer Glanogwen a Llanllechid, ac yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu fel Deon Ardal Ogwen. O 2012 i 2015 bu’n Ganon Cenhadaeth Eglwys Gadeiriol Bangor, a hefyd yn Gaplan Anglicanaidd i Brifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Diocesanaidd Ymgeiswyr i’r Offeiriadaeth. Bu hefyd yn gwirfoddoli gyda Bugeiliad Stryd, Bangor.
Mae ei gwaith ehangach ar draws yr Eglwys yng Nghymru wedi cynnwys ymgymryd a swyddi ym maes gweinidogaeth plant a phobl ifanc, diogelu, galwedigaethau, a Phwyllgor Iaith Gymraeg y Dalaith.
Mae treftadaeth ysbrydol Geltaidd hynafol a harddwch rhyfeddol yr Ardal Weinidogaeth yn apelio’n fawr ataf.
Dywed y Parchedig Nia, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i’r Esgobaeth ar ôl gweinidogaethu mewn gwahanol wledydd ledled y byd dros y deng mlynedd diwethaf.
“Mae treftadaeth ysbrydol Geltaidd hynafol a harddwch rhyfeddol yr Ardal Weinidogaeth yn apelio’n fawr ataf. Fy ngobaith a’m gweddi yw y bydd fy mhrofiad a’m sgiliau fel offeiriad yn cefnogi ac yn galluogi pobl ac eglwysi’r Ardal Weinidogaeth i wireddu eu gweledigaeth o fod yn gymunedau sy’n cefnogi ei gilydd ac yn tyfu mewn ffydd, gobaith a chariad, er mwyn adeiladu cymunedau lleol ffyniannus a chyfrannu at yr amgylchedd naturiol a’r byd ehangach.”
Wrth groesawu’r Parchedig Nia i’r esgobaeth, dywed Archddiacon Bangor, David Parry, “Rwy’n falch iawn bod offeiriad o brofiad a gallu Nia yn teimlo ei bod wedi’i galw i ‘ddod adref’ ac arwain yr Ardal Weinidogaeth hon.
“Mae Beuno Sant Uwch Gwyrfai yn gymuned gariadus, greadigol, unedig ac ymrwymedig yn eu gwasanaeth i un o rannau mwyaf Cymraeg eu hiaith yng Gymru wledig. Mae cysylltiad dwfn Nia â’r cymunedau hyn, ynghyd â’i doniau niferus, yn golygu bod hwn yn bartneriaeth berffaith. Bydd yn hynod gyffrous gweld sut y bydd tymor nesaf y weinidogaeth yn datblygu i’r cynulleidfaoedd hyn.”
Bydd gwasanaeth trwyddedu Nia yn cael ei gynnal yn y Gwanwyn.
New priest announced for Nantlle Valley
The Diocese of Bangor has announced the appointment of the Revd Nia Catrin Williams as a new priest serving churches in the Nantlle Valley in Gwynedd.
A first-language Welsh speaker, Nia returns to both the Diocese of Bangor and her home area of North Wales, bringing over 25 years of ordained ministry experience. Nia is well known across the Church in Wales, having previously served as a priest in the Diocese of St Asaph and the Diocese of Bangor. Since 2016, she has served as a Chaplain in the Armed Forces and is currently a Reservist Chaplain on Detachment with the Royal Air Force.
Nia will serve as Ministry Area Leader in the Beuno Sant Uwch Gwyrfai Ministry Area.
Ordained as a priest at St Asaph Cathedral in 1999, Nia began her ministry as Assistant Curate in the Rectorial Benefice of Llanrhos. She later served in Brynymaen and Colwyn Bay while working full-time as Under 25s Officer for the Diocese of St Asaph, before becoming Vicar of Towyn and St George.
Nia joined the Diocese of Bangor in 2008 as Vicar of Glanogwen and Llanllechid and later served as Area Dean of Ogwen. From 2012 to 2015 she was Canon Missioner at Bangor Cathedral, where she also worked as Anglican Chaplain to Bangor University and Diocesan Director of Ordinands. She also volunteered with Bangor Street Pastors.
I am delighted that a priest of Nia’s experience and ability feels called to ‘come back home’ and lead this Ministry Area.
Her wider work across the Church in Wales has included roles in children’s and youth ministry, safeguarding, vocations, and the Provincial Welsh Language Committee.
Revd Nia says, “I’m looking forward to returning to the Diocese after ministering in various countries around the world for the last ten years.
“The ancient Celtic spiritual heritage and wondrous beauty of the Ministry Area appeals to me greatly. My hope and prayer is that my experience and skills as a priest will support and enable the people and churches of the Ministry Area to live out their vision to be mutually supportive communities growing in faith, hope and love so as to build flourishing local communities and contribute to the natural environment and wider world.”
Welcoming Revd Nia to the diocese, Archdeacon of Bangor David Parry says, “I am delighted that a priest of Nia’s experience and ability feels called to ‘come back home’ and lead this Ministry Area.
“Beuno Sant Uwch Gwyrfai are loving, creative, united and committed in their service of one of the most Welsh-speaking parts of rural Wales. Nia’s profound connection with these communities and her many gifts make this a perfect match. It will be really exciting to see how the next season of ministry unfolds for these congregations.”
Nia’s licensing service will take place in the Spring.