minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Penodi Rheolwr Gweithrediadau i Gadeirlan Bangor

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Tomos Dobson yn Rheolwr Gweithrediadau yng Nghadeirlan Bangor.

Bydd Tomos yn gweithio’n agos gyda’r Deon a’r Cabidwll i oruchwylio holl swyddogaethau gweithredol, ariannol a llywodraethu. Bydd Tomos yn gyfrifol am redeg gweithgareddau dyddiol yn esmwyth, cefnogi staff a gwirfoddolwyr, a chynnal cenhadaeth, croeso ac ymgysylltiad cymunedol yr Gadeirlan.

Cadeirlan Deiniol Sant, Bangor

Mae Tomos yn dod ag arbenigedd gwerthfawr i gryfhau llywodraethu a sefydlogrwydd ariannol y Gadeirlan. Yn raddedig o Brifysgol Bangor mewn Rheolaeth Busnes ac yn Gadeirydd presennol gorsaf radio Mon FM, mae ganddo brofiad helaeth ym maes cyfathrebu, darlledu, arweinyddiaeth a rheolaeth. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, bydd Tomos yn ychwanegiad cryf at dîm staff yr Eglwys Gadeiriol.

Y tu allan i’w waith, mae Tomos yn angerddol am gerddoriaeth ac yn canu gyda Hogia’r Ddwylan, côr o Ynys Môn. Mae hefyd yn mwynhau cyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun wrth gerdded ar hyd arfordiroedd hardd Gogledd Cymru.

Gwnaed y rôl newydd hon yn bosibl drwy gyllid gan yr Eglwys yng Nghymru fel rhan o’u hymrwymiad i gefnogi’r chwe Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd ledled Cymru.

Dywedodd Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, Manon Ceridwen James: “Rydw i a gweddill tîm yr Eglwys Gadeiriol yn edrych ymlaen at weithio gyda Tomos, ac i elwa o'i arbenigedd mewn cyfathrebu, rheoli a rheolaeth ariannol. Fel dyn o Wynedd sydd wedi astudio ym Mangor, mae yn adnabod ein 'n cyd-destun yn dda ac yn deall ein heriau.”

Dywedodd Tomos Dobson: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod yn rhan o dîm yr Gadeirlan ac at fod yn rhan o gymuned mor ystyrlon ym Mangor. O brofiad, rwy’n ffynnu wrth adeiladu timau a chreu cymunedau, ac felly rwy’n gyffrous i gwrdd â phobl newydd a chynorthwyo i wneud effaith gadarnhaol i gryfhau strwythur a llywodraethu’r Gadeirlan ar gyfer y dyfodol.”

Rydym yn croesawu Tomos yn gynnes i Gadeirlan Bangor ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y bennod newydd gyffrous hon.

Cymraeg

Bangor Cathedral appoints Operations Manager

We are delighted to announce the appointment of Tomos Dobson as Operations Manager at Bangor Cathedral.

Tomos will work closely with the Dean and Chapter to oversee all operational, financial, and governance functions. Tomos will be responsible for the smooth running of daily activities, supporting staff and volunteers and sustaining the cathedral’s mission, hospitality, and community engagement.

Tomos Dobson

Tomos brings valuable expertise to strengthen the governance and financial stability of the Cathedral. A Bangor University graduate in Business Management and current Chair of Môn FM Radio station, he has extensive experience in communications, broadcasting, leadership, and management. As a fluent Welsh speaker, Tomos will be a strong addition to our Cathedral staff team.

Outside of work, Tomos is passionate about music and singing with Hogia'r Ddwylan, a choir from Anglesey. He also enjoys composing his own music while walking the beautiful coastlines of North Wales.

This new role has been made possible through funding from the Church in Wales as part of their commitment to supporting the six Anglican Cathedrals across Wales.

Dean of Bangor Cathedral Manon Ceridwen James, says: “ I and the rest of the Cathedral team are very much looking forward to working with Tomos, and to benefit from his communications, management and financial expertise. As a man from Gwynedd who has studied in Bangor, he is well used to our context and has an excellent understanding of the challenges we are facing.”

Tomos Dobson says: " I am looking forward to becoming a part of the Cathedral team and to being a part of such a meaningful community in Bangor. From experience, I thrive in building teams and creating communities and so I am excited to be meeting new people and assisting in making a positive impact to strengthen the structure and governance of the Cathedral for the future.

We warmly welcome Tomos to Bangor Cathedral and look forward to working with him in this exciting new chapter.