Digwyddiad yng Nghadeirlan Bangor i helpu pobl wynebu heriau bywyd
Bydd bore tawel yng Ngadeirlan Bangor yn gwahodd pobl i oedi a myfyrio ar yr heriau, y siomedigaethau a’r trobwyntiau sy’n siapio ein bywydau i gyd.
Cynhelir y bore tawel ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror am 10.00 ac mae’n nodi dechrau’r Grawys. Fe’i harweinir gan y Parchedig Ganon Dr Trystan Owain Hughes, ac mae’r bore wedi’i ysbrydoli gan ei lyfr diweddaraf, To Hell’s Mouth and Back, sy’n archwilio sut y gall gobaith fodoli hyd yn oed mewn cyfnodau o boen, ansicrwydd ac bregruswydd.
Mae’r digwyddiad yn agored i bawb, o unrhyw ffydd neu ddim o gwbl, sy’n chwilio am amser i fyfyrio.
Mae To Hell’s Mouth and Back wedi’i ddewis gan Archesgob Cymru, Cherry Vann, fel ei Llyfr Grawys swyddogol ar gyfer 2026. Yn y llyfr, mae Trystan Hughes, sy’n wreiddiol o Benmaenmawr, yn myfyrio ar ddwy daith bersonol heriol: taith gerdded hir a blinderus 140 milltir ar draws Gogledd Cymru, ac ail daith annisgwyl drwy wella ar ôl anaf difrifol i’r cefn. Trwy’r profiadau hyn, mae’n ymchwilio i sut y gall adegau anoddaf bywyd hefyd ddod yn lefydd o dwf, ystyr a gobaith.
I Trystan, nid mater o gerdded yn gorfforol yn unig yw pererindod, ond cydnabod y patrymau cyffredin yn ein bywydau — boed hynny drwy alar, salwch, gwaith, ffydd neu newidiadau mawr mewn bywyd — a darganfod dealltwriaeth ddyfnach a phwrpas ar hyd y daith.
“Yn To Hell’s Mouth and Back rwyf am ysbrydoli darllenwyr i ddod o hyd i obaith a llawenydd ym mhob rhan o’u bywydau – mewn eiliadau o dawelwch, mewn teithiau cerdded yng nghefn gwlad neu mewn parc lleol, mewn amser gyda theulu neu ffrindiau, neu yn y gwaith neu mewn hobïau,” meddai Trystan.
“Yn y llyfr, rwy’n archwilio’r ddioddefaint a’r llawenydd annisgwyl a ddaeth yn sgil fy nheithiau trawsnewidiol fy hun. Drwy hyn, fy ngobaith yw y bydd rhywbeth o’m stori yn taro tant gyda phrofiadau pobl eraill ac yn eu hannog i gerdded eu taith gyda ffydd, dewrder ac, yn anad dim, gobaith.”
“Yn ystod y diwrnod tawel byddwn yn symud y Grawys o fod yn amser i ‘roi’r gorau’ i bethau i fod yn amser i ‘agor’ teithiau ein bywydau i heddwch, gobaith, llawenydd a thosturi Duw.”
Mae’r llyfr, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cynnwys canllaw astudio cryno wedi’i gynllunio i gefnogi myfyrdod unigol neu drafodaeth grŵp drwy’r cyfnod o’r Grawys, y chwe wythnos sy’n arwain at y Pasg.
Cofrestrwch ar gyfer y diwrnod tawel yma.
Ynglŷn â’r awdur
Mae Dr Trystan Owain Hughes yn Gyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, gan gynghori esgobion Cymru ar faterion gweinidogaeth a ffydd, ac yn Ganon Anrhydeddus yng Nghadeirlan Llandaf. Dyma ei seithfed llyfr cyhoeddedig; mae dau o’i deitlau blaenorol hefyd wedi’u dewis fel llyfrau Grawys swyddogol.
To Hell’s Mouth and Back: Pilgrimage, Suffering and Hope wedi’i gyhoeddi gan y Bible Reading Fellowship ac mae’n costio £9.99. Mae’r fersiwn Gymraeg, Trwy’r Anialwch: Pererindod, Dioddefaint a Gobaith, hefyd ar gael am £9.99.
Bangor Cathedral event to help people tackle life’s challenges
A quiet morning at Bangor Cathedral will invite people to pause and reflect on the challenges, setbacks and turning points that shape all our lives
The quiet morning takes place on Saturday 21 February, at 10 am and marks the start of Lent. Led by the Revd Canon Dr Trystan Owain Hughes, the morning is inspired by his latest book, To Hell’s Mouth and Back, which explores how hope can emerge even in times of pain, uncertainty and vulnerability.
The event is open to anyone of faith or none who is seeking time for reflection.
To Hell’s Mouth and Back has been chosen by the Archbishop of Wales, Cherry Vann, as her official Lent Book for 2026. In it, Trystan Hughes, who is originally from Penmaenmawr, reflects on two demanding personal journeys: a long, exhausting 140-mile walk across North Wales, and a second, unexpected journey through recovery from a serious back injury. Through these experiences, he explores how life’s hardest moments can also become places of growth, meaning and hope.
For Trystan, pilgrimage is not just about physical walking, but about recognising the shared patterns in all our lives — whether through grief, illness, work, faith or major life changes — and discovering deeper understanding and purpose along the way.
“In To Hell’s Mouth and Back I want to inspire readers to find hope and joy in every part of their lives – in moments of quiet, in walks in the countryside or in a local park, in time spent with family or friends, or in work or hobbies,” says Trystan.
“In the book, I explore both the suffering and the unexpected joys of my own transformative journeys. Through this, my hope is that something of my story might resonate with other people’s and will encourage them to keep walking their paths with faith, courage and, above all, hope.”
“During the quiet day we will move Lent away from being a time to ‘give up’ things to being a time to ‘open up’ the journeys in our lives to God’s peace, hope, joy, and compassion.”
The book, published in both English and Welsh, includes a concise study guide designed to support individual reflection or group discussion through Lent, the six weeks leading up to Easter.
Sign up for the quiet day
About the author
Dr Trystan Owain Hughes is Director of Ministry Development in the Church in Wales, advising Welsh bishops on matters of ministry and faith, and Canon Emeritus at Llandaff Cathedral. This is his seventh published book; two of his previous titles have also been chosen as official Lent books.
To Hell’s Mouth and Back: Pilgrimage, Suffering and Hope is published by the Bible Reading Fellowship and costs £9.99. The Welsh-language edition, Trwy’r Anialwch: Pererindod, Dioddefaint a Gobaith, is also available at £9.99.