Esgob Dros Dro Bangor: Neges gan Archesgob Cymru
Annwyl gyfeillion,
Heddiw rydym wedi cynnal cyfweliadau ar gyfer Esgob Dros Dro Bangor. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb, o’r esgobaeth a’r dalaith, sydd wedi bod yn rhan o’r broses ddirnad hon.
Mae’n rhaid i unrhyw broses o ddirnad fod yn agored i’r posibilrwydd nad yw’n briodol bwrw ymlaen yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio. Dyna sydd wedi digwydd ar yr achlysur hwn, ac felly ni fyddwn yn bwrw ymlaen â phenodi esgob dros dro. Yn hytrach, rwy’n mynd i ofyn i Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethu ailgychwyn proses y coleg etholiadol.
Mae’r esgobaeth yn parhau yn fy ngweddïau.
Archesgob Cherry
Interim Bishop of Bangor: Message from the Archbishop of Wales
Dear friends,
Today, we have held interviews of an Interim Bishop of Bangor. I am very grateful for all those, from the diocese and the province, who have been involved in this discernment process.
Any process of discernment has to be open to an outcome that it is not right to proceed in the way we hoped. This is what has happened on this occasion and so we will not be proceeding with the appointment of an interim bishop.
Instead, I am going to ask the Governing Body's Standing Committee to recommence the electoral college process.
The diocese remains in my prayers.
Archbishop Cherry