Pererindodau Llawer Llwybr
Rhai blynyddoedd yn ôl, arhosais yng Nghadeirlan Bangor hanner ffordd trwy bererindod ar hyd Ffordd Pererinion Gogledd Cymru. Erbyn hynny, roeddwn eisoes wedi cerdded tua 70 milltir ac yn gorffwys yn harddwch a llonyddwch yr adeilad godidog hwn – yn gweddïo, wedi blino’n lân, ac yn casglu nerth ar gyfer y daith o’m blaen, a fyddai yn y pen draw yn fy arwain i Ynys Enlli, ynys sanctaidd ac anghysbell.
Ychydig a wyddwn bryd hynny, fodd bynnag, y byddwn, ar ôl rhai blynyddoedd llawn prysurdeb, yn dychwelyd i’r un Gadeirlan i arwain Bore Tawel y Grawys i gynulleidfa niferus, gan fyfyrio ar y bererindod heriol honno.
Yn ddiweddar iawn, enwyd Ffordd y Pererinion yn un o “Brofiadau Lles Gorau’r Byd” gan National Geographic. Nid oedd hynny’n syndod i mi. Dyma bererindod a lunir gan dirweddau ysblennydd, safleoedd hynafol, bywyd gwyllt cyfoethog, ac ysbrydolrwydd dwfn wedi’i wreiddio yn y traddodiad Celtaidd.
Yn fy anerchiad yng Nghadeirlan Bangor, myfyriais ar sut y mae pob pererindod yn cynnwys gwahanol elfennau. Ochr yn ochr â’r her gorfforol, ceir rhyfeddod natur a lle, cwmni’r rhai y croesir eu llwybrau, yr arwyddion bychain sy’n teimlo fel bendithion ar hyd y ffordd, ymwybyddiaeth o’n dibyniaeth ar eraill, ac, wedi’i wau trwy bopeth, y gobaith sy’n cadw person i symud, hyd yn oed pan fo’r ffordd yn hir.
Fodd bynnag, ni ddaeth fy nhaith i ben pan gyrhaeddais Ynys Enlli. Yn fuan wedyn, wynebais her gorfforol a meddyliol ailwaelu anaf difrifol i’m cefn. Ond deuthum yn fuan i sylweddoli fod fy adferiad yn adlewyrchu’r bererindod ei hun. Roedd yn cynnwys yr un chwe elfen – brwydr, rhyfeddod, cwmnïaeth, arwyddion, dibyniaeth, a gobaith. Roedd adferiad hefyd yn bererindod.
Gellir dehongli llawer o’r teithiau a deithiwn mewn bywyd fel hyn. Rydym yn teithio trwy waith, trwy fywyd teuluol, trwy ffydd, trwy salwch, trwy alwedigaeth, trwy weinidogaeth, a thrwy addysg. Gellir gweld pob un o’r teithiau hyn yn bererindodau ynddynt eu hunain, gyda’u cyfran o ddioddefaint a llawenydd.
Yn ystod y Bore Tawel, gwahoddais y rhai a oedd wedi ymgynnull i fyfyrio ar y teithiau y maent hwy’n eu teithio ar hyn o bryd.
- Ble, yng nghanol her neu frwydr, yr oeddent wedi sylwi ar eiliadau o harddwch neu ras?
- Ble yr oeddent wedi synhwyro sicrwydd neu arweiniad ar hyd y ffordd?
- Pwy oedd wedi cerdded ochr yn ochr â hwy – cyfeillion, teulu, cydweithwyr, hyd yn oed dieithriaid?
- A, thrwy heulwen a thywyllwch, ble yr oedd gobaith wedi eu cynnal yn dawel?
Nid oedd angen i chi fod yng Nghadeirlan Bangor y bore hwnnw i fyfyrio ar y cwestiynau hyn. Mae pob un ohonom yn cerdded ein llwybrau ein hunain, ac mae’r Grawys yn cynnig gwahoddiad tyner: i gymryd amser o’n bywydau prysur i fyfyrio’n astud, yn agored ac yn ymddiriedus ar y teithiau yr ydym yn eu teithio, boed trwy waith, teulu, ffydd, salwch neu alwedigaeth.
Wrth inni wneud hynny, ochr yn ochr â heriau’r ffyrdd a gerddwn, dechreuwn sylwi ar y rhyfeddod o’n cwmpas, y cymdeithion sy’n cerdded gyda ni, yr arwyddion sy’n ein harwain a’n hannog, ein dibyniaeth gyffredin ar ein gilydd, a’r gobaith sy’n ein hebrwng yn dawel ac yn ffyddlon, gam wrth gam.
Mae llyfr Trystan ar gael nawr: Trwy’r Anialwch: Pererindod, Dioddefaint a Gobaith
Pilgrimages of Many Paths
Some years ago, I stopped at Bangor Cathedral halfway through a pilgrimage along the North Wales Pilgrim’s Way. By that point, I had already walked around 70 miles and was resting in the beauty and stillness of this magnificent building – praying, exhausted, and gathering strength for the journey ahead, which would eventually take me to the remote and holy Ynys Enlli (Bardsey Island).
Little did I know then, though, that, after an eventful few years, I would be returning to that same Cathedral to lead a packed Lent Quiet Morning, reflecting on that demanding pilgrimage.
Only recently, the National Geographic named the Pilgrim’s Way as one of its “Best of the World Wellness Experiences”. That came as no surprise to me. This is a pilgrimage shaped by spectacular landscapes, ancient sites, rich wildlife, and a deep spirituality rooted in the Celtic tradition.
In my talk at Bangor Cathedral, I reflected on how every pilgrimage is made up of different elements. Alongside the physical challenge, there is the wonder of nature and place, the company of those whose paths you cross, the small signs that feel like blessings along the way, an awareness of our dependence on others, and, threaded through everything, a hope that keeps you moving, even when the road is long.
Yet my journey did not end when I reached Ynys Enlli. I soon faced the physical and mental challenge of relapse of a serious back injury. Yet I soon came to realise that my recovery mirrored the pilgrimage itself. It involved those same six elements – struggle, wonder, companionship, signs, dependence, and hope. Recovery, too, was a pilgrimage.
Many of the journeys we travel in life can be understood this way. We journey through work, through family life, through faith, through illness, through vocation, through ministry, and through education. Each of these journeys can be seen as pilgrimages in their own rights, with their shares of suffering and joy.
At the Quiet Morning, I invited those gathered to reflect on the journeys they are currently travelling.
- Where, amid challenge or struggle, had they noticed moments of beauty or grace?
- Where had they sensed reassurance or guidance along the way?
- Who had walked alongside them – friends, family, colleagues, even strangers?
- And, through both sunshine and shadow, where had hope quietly sustained them?
And we do not need to have been at Bangor Cathedral that morning to reflect on these questions. All of us are walking our own paths and
Lent offers us a gentle invitation: to take time out of our busy lives to reflect with attention, openness, and trust on the journeys we are travelling, whether through work, family, faith, illness, or vocation.
When we do, alongside the challenges of the roads we travel, we begin to notice the wonder all around us, the companions who walk alongside us, the signs that guide and prompt us, our shared dependence on one another, and the hope that quietly and faithfully carries us forward, one step at a time.
Order Trystan's book To Hell's Mouth and Back: Pilgrimage, Suffering and Hope now.