Bydd eglwys hanesyddol yng Nghaergybi yn cynnal diwrnod treftadaeth ar ôl adferiad mawr
Bydd eglwys hanesyddol yng Nghaergybi ar Ynys Môn yn cynnal diwrnod treftadaeth y mis nesaf yn dilyn prosiect adfer mawr gwerth £2.3m.
Bydd Eglwys Sant Cybi yng Nghaergybi yn croesawu ymwelwyr ddydd Sadwrn 11 Ebrill ar gyfer cyfres o sgyrsiau sy’n archwilio hanes crefyddol cyfoethog Ynys Gybi.
Saif yr eglwys ganoloesol Gradd I o fewn muriau caer arfordirol Rufeinig o’r bedwaredd ganrif sydd wedi ei chadw’n eithriadol o dda. Ynghyd â’r capel cyfagos o’r 14eg ganrif, Eglwys y Bedd, mae’r safle wedi ailagor yn ddiweddar ar ôl gwaith ailddatblygu a ariannwyd drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Yn ogystal â pharhau fel man addoli, mae’r adeilad wedi’i ddatblygu hefyd yn ganolfan gymunedol aml-ddefnydd fwy hygyrch.
Dywedodd Christopher Medley, trefnydd y digwyddiad, “Efallai fod Ynys Gybi yn fach, ond mae ganddi hanes crefyddol hynod sy’n ymestyn dros fil o flynyddoedd. Gyda Eglwys Sant Cybi bellach wedi ailagor yn llawn ar ôl ei hadferiad, mae’r diwrnod treftadaeth hwn yn gyfle gwych i bobl glywed gan arbenigwyr blaenllaw ac ailddarganfod y straeon, y seintiau a’r traddodiadau sy’n gysylltiedig â’r lle rhyfeddol hwn.”
Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o siaradwyr arbenigol. Bydd yr uwch-archaeolegydd Rob Evans o Heneb, Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, yn rhoi sgwrs ar archaeoleg grefyddol ar Ynys Gybi. Bydd Dr Martin Crampin, awdurdod blaenllaw ar wydr lliw yng Nghymru ac awdur sawl llyfr, gan gynnwys Welsh Saints from Welsh Churches, yn trafod gwydr lliw ar yr ynys.
Bydd yr Athro Barry Lewis o Dublin Institute for Advanced Studies hefyd yn siarad am seintiau Ynys Gybi a chwlt Sant Cybi.
Mae mynediad i’r sgyrsiau yn rhad ac am ddim, er y croesewir rhoddion tuag at gynnal a chadw’r eglwys. Daw’r diwrnod i ben gyda lluniaeth a thaith dywys o amgylch yr eglwys.
Rhaglen Diwrnod Treftadaeth
Historic Holyhead church to host heritage day after major restoration
A historic Anglesey church will host a heritage day next month following a major £2.3m refurbishment project.
St Cybi’s Church in Holyhead will welcome visitors on Saturday 11 April for a series of talks exploring the rich religious history of Holy Island.
The Grade I listed medieval church stands within the walls of a remarkably well-preserved fourth-century Roman coastal fort. Alongside the nearby 14th-century chapel, Eglwys y Bedd, the site has recently reopened after redevelopment funded through the UK Government’s Levelling Up programme.
As well as continuing as a place of worship, the restored building has been developed as a more accessible multi-use community hub.
Christopher Medley, event organiser, says, “Holy Island may be small, but it has an extraordinary religious history stretching back over a thousand years. With St Cybi’s Church now fully reopened after its refurbishment, this heritage day is a great opportunity for people to hear from leading experts and rediscover the stories, saints and traditions connected with this remarkable place.”
The event will feature a number of specialist speakers. Senior archaeologist Rob Evans from Heneb, the Trust for Welsh Archaeology, will give a talk on religious archaeology on Holy Island. Dr Martin Crampin, a leading authority on stained glass in Wales and author of several books, including Welsh Saints from Welsh Churches, will discuss stained glass on the island.
Professor Barry Lewis of the Dublin Institute for Advanced Studies will also speak about the saints of Holy Island and the cult of St Cybi.
Admission to the talks is free, and donations toward the church's upkeep will be welcome. The day will conclude with refreshments and a guided tour of the church.