minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ffenestr goffa HMS Conway i’w dadorchuddio mewn eglwys ar Ynys Môn

Bydd ffenestr wydr liw yn coffáu’r llong hyfforddi HMS Conway yn cael ei dadorchuddio yn Eglwys Llanedwen, Llanfairpwllgwyngyll ar 18 Ebrill.

Bydd y seremoni yn cynnwys cysegru’r ffenestr a gosod baner Conway i orffwys. Caiff ei harwain gan y Parchg Simon Douglas Lane, caplan anrhydeddus HMS Conway.

Mae’r gofeb yn adlewyrchu cysylltiad hir y llong â’r ardal. Am flynyddoedd lawer, byddai cadetiaid yn mynychu gwasanaethau yn Eglwys Llanedwen, gan gerdded o Blas Newydd i addoli ochr yn ochr ag Ardalydd Môn a’i aelwyd.

Roedd HMS Conway wedi’i hangori oddi ar Blas Newydd ar Afon Menai, ac yn flaenorol ger Glyn Garth oddi ar Fangor. Aeth y llong ar y lan yn 1953 wrth gael ei thynnu i’w thrwsio.

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu fel cyfarfod preifat i gyn-gadetiaid HMS Conway, ynghyd â chynrychiolwyr Cyfeillion HMS Conway a Chlwb Conway. Oherwydd cyfyngiadau lle, mae mynediad wedi’i gyfyngu i westeion gwahoddedig a phlwyfolion.

Cafodd y ffenestr ei dylunio a’i chreu gan yr artist gwydr Jayne Ford. Mae’n cynnwys tri phanel, gyda delwedd ganolog o HMS Conway fel llong hwylio bren o’r llinell. Mae’r paneli ochr yn dangos gwylanod o amgylch mastiau’r llong, gan adlewyrchu traddodiad hirhoedlog mai’r adar hyn yw ysbrydion cadetiaid a fu farw.

Cafodd y syniad hwn ei ddal mewn cerdd ym 1933, The Conway Gulls, gan y Bardd Llawryfog John Masefield, a oedd ei hun yn gyn-gadet. Er gwaethaf y llanast a achoswyd gan yr adar, ni chawsant erioed eu gyrru ymaith gan y rhai oedd ar fwrdd y llong. Bu HMS Conway yn llong hyfforddi o 1859 tan 1974, gan baratoi dros 11,000 o fechgyn rhwng 13 a 18 oed ar gyfer gyrfaoedd fel swyddogion yn y Llynges Frenhinol a’r Llynges Fasnachol.

Mae’r ffenestr newydd wedi’i hariannu gan Gyfeillion HMS Conway a chyn-gadetiaid. Mae ffenestri coffa tebyg eisoes wedi’u gosod ym Mhrïordy Birkenhead, ar Bier Bangor ac ym Mhlas Newydd, pob un yn lleoliadau sy’n gysylltiedig â hanes y llong. Bydd baner las wedi’i haddasu, sy’n gysylltiedig â’r Llynges Wrth Gefn Frenhinol lle’r oedd cadetiaid Conway wedi’u cofrestru, hefyd yn cael ei gosod i orffwys yn ystod y gwasanaeth. Bydd model o’r llong, wedi’i roi gan Mr Matt Burrow DL, yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r achlysur.

Dywedodd Alfie Windsor, Ymddiriedolwr Cyfeillion HMS Conway, “Roedd hyfforddiant Conway yn cael ei gydnabod fel un o’r goreuon yn y byd ac fe gynhyrchodd swyddogion ifanc o’r safon uchaf. Aeth ei chadetiaid ymlaen i fod yn forwyr blaenllaw ledled y byd, yn capteniaid ar longau a fflydoedd. Buont yn byw bywyd o deyrngarwch a gwasanaeth i’w gwlad.

“Mae Cyfeillion HMS Conway yn bodoli i ddiogelu enw da a chof y llong a’i chadetiaid. Rydym eisoes wedi creu ffenestri coffa tebyg yn ei hen angorfeydd ar Afon Mersi, oddi ar Bier Bangor ac ym Mhlas Newydd. Mae ffenestr Eglwys Llanedwen yn uchafbwynt teilwng a theimladwy o’n hymdrechion.”

Ychwanegodd Alfie, “Mae cadetiaid Conway yn hynod falch o’u cysylltiad â Phlas Newydd ac Ynys Môn ac yn edrych yn ôl ar eu cyfnod ar y llong gyda hoffter a phleser mawr. Roedd yn fraint cael hyfforddi mewn amgylchedd mor brydferth. Eglwys Llanedwen oedd ein heglwys ni, felly, wrth i atgofion Conway ddirywio, mae’n galonogol gwybod y bydd cof y llong yn cael ei gadw’n barhaol drwy’r ffenestr wydr liw hon.”

Mae’r dadorchuddio yn nodi’r ychwanegiad diweddaraf at gyfres o gofebion sy’n cydnabod cysylltiadau hanesyddol y llong â’r Fenai a’r cymunedau cyfagos.

Cymraeg

HMS Conway memorial window to be unveiled at Anglesey church

A stained glass window commemorating the training ship HMS Conway will be unveiled at Llanedwen Church, Llanfairpwllgwyngyll on 18 April.

The ceremony will include the dedication of the window and the laying up of a Conway ensign. It will be led by Rev Simon Douglas Lane, honorary padre to HMS Conway.

The memorial reflects the ship’s long connection with the area. For many years, cadets attended services at Llanedwen Church, walking from Plas Newydd to worship alongside the Marquis of Anglesey and his household.

HMS Conway was moored off Plas Newydd on the Menai Strait and previously at Glyn Garth off Bangor. The ship ran aground in 1953 while being towed for repair work.

The event has been organised as a private gathering for former HMS Conway cadets, along with representatives of the Friends of HMS Conway and the Conway Club. Due to limited space, attendance is restricted to invited guests and parishioners.

The window has been designed and created by glass artist Jayne Ford. It features three panels, with a central image of HMS Conway as a wooden sailing ship of the line. The side panels show seagulls around the ship’s masts, reflecting a long-standing tradition that the birds represent the spirits of former cadets.

This idea was captured in a 1933 poem, The Conway Gulls, by Poet Laureate John Masefield, himself a former cadet. Despite the mess caused by the birds, they were never driven away by those on board. HMS Conway served as a training school ship from 1859 to 1974, preparing more than 11,000 boys aged between 13 and 18 for careers as officers in the Royal and Merchant navies.

The new window has been funded by the Friends of HMS Conway and former cadets. Similar memorial windows have previously been installed at Birkenhead Priory, Bangor Pier and Plas Newydd, all locations associated with the ship’s history. A defaced blue ensign, linked to the Royal Naval Reserve in which Conway cadets were enrolled, will also be laid up during the service. A model of the ship, donated by Mr Matt Burrow DL, will be presented as part of the occasion.

Alfie Windsor, Trustee of the Friends of HMS Conway, said: “Conway training was acknowledged as amongst the best worldwide and it produced young officers of the highest standards. Her cadets went on to become leading mariners around the world, captaining ships and fleets. They gave a life of loyalty and service to their country.

"The Friends of HMS Conway exist to safeguard the good name and memory of the ship and her cadets. We have already created similar memorial windows at her old moorings on the River Mersey, off Bangor Pier and at Plas Newydd. The Llanedwen church window is a fine and moving culmination of our efforts.”

Alfie adds, “Conway cadets are intensely proud of their association with Plas Newydd and Ynys Mon and look back on their time in the ship with fondness and huge pleasure. It was a privilege to have trained in such beautiful surroundings. Llanedwen church was our church so, as memories of Conway fade, it is reassuring to know that the ship’s memory will be permanently enshrined by this stained glass window.”

The unveiling marks the latest addition to a series of memorials recognising the ship’s historical links to the Menai Strait and surrounding communities.