Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cwyfan
Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro CwyfanVicar and Ministry Area Leader of Bro Cwyfan
Vicar and Ministry Area Leader of Bro CwyfanDyddiad cau / Deadline: 20/06/2025, noon

“Mae cael gwahoddiad i wasanaeth yn Eglwys Sant Maelog flwyddyn yn ôl wedi newid fy mywyd."
Rydym yn chwilio am offeiriad i wasanaethu ac arwain yn Ardal Weinidogaeth Bro Cwyfan, Esgobaeth Bangor. Mae Bro Cwyfan yn cynnwys y rhan helaeth o ardal orllewinol Ynys Môn (ac eithrio Caergybi ac Ynys Cybi). Mae tystiolaethau gan addolwyr newydd a rheolaidd yn adlewyrchu effaith yr eglwysi yn y gymuned leol, gyda phobl yn dweud eu bod yn "teimlo'n gartrefol" ac yn "teimlo croeso cynnes" yn ein cynulleidfaoedd.
Byddwch yn adeiladu ar sail gadarn: adeiladau eglwys sydd mewn cyflwr da, cyllid cadarn, a chynulleidfaoedd ffyddlon yn chwilio am arweinyddiaeth i ddatblygu eu cenhadaeth. Dangosodd Diwrnod Gweledigaeth diweddar barodrwydd i ehangu arddulliau addoli a gwneud penderfyniadau mwy arloesol.

Byddwch yn:
- Awyddus, gyda dychymyg a chreadigrwydd, i archwilio ffurfiau newydd o addoli ochr yn ochr â'r ffurfiau traddodiadol gwerthfawr o addoli.
- Ymrwymedig i weithio gyda'r Cyngor Ardal Weinidogaeth i gynllunio'n strategol ar gyfer y dyfodol.
- Ymroddedig i weithio cydweithredol, datblygu potensial eraill, ac annog galwedigaeth unigol a chyfunol.
- Barod i ymgysylltu'n ddwfn â'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Mae'r swydd yn addas ar gyfer siaradwr Cymraeg neu ddysgwr Cymraeg. Rydym yn cynnig pecyn cynhwysfawr o ddysgu a datblygiad ar gyfer dysgwyr Cymraeg.
- Wedi'ch arfogi'n strategol ac yn fugeiliol i arwain o fewn set amrywiol a chynyddol o gymunedau. Mae'r ardal ddeniadol hon yn cynnig cysylltiadau cyfathrebu da, cymunedau cefnogol, ac Ardal Weinidogaeth sydd wedi ymrwymo i gefnogaeth gilyddol a chenhadaeth allblyg.
Ymunwch â ni i ymateb i alwad Duw yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Pecyn Recriwtio

Am sgwrs anffurfiol
Yr Esgob David Morris, 07930 283833, davidmorris@churchinwales.org.uk
Yr Archddiacon John Harvey, 07534 549682 johnharvey@churchinwales.org.uk

“Being invited to a service at St. Maelog’s a year ago has changed my life.”
Bro Cwyfan Ministry Area in West Anglesey seeks a priest who is passionate about rural mission, ministry and church growth in an area of outstanding beauty and opportunity. Testimonials from new and regular worshippers reflect the impact churches have in the local community, with people reporting they "feel at home" and "so welcome" in our congregations.
You will be building upon a solid foundation: church buildings in good repair, sound finances, and faithful congregations seeking leadership to develop their mission. A recent Vision Day demonstrated a willingness to broaden worship styles and make more innovative decisions.

You will be:
- Willing, with imagination and creativity, to explore new forms of worship alongside the cherished forms of traditional worship.
- Committed to working with the Ministry Area Council to plan strategically for the future.
- Dedicated to collaborative working, building up the potential of others, and encouraging individual and collective vocation.
- Willing to engage deeply with the Welsh language and culture. The post is suitable for a Welsh speaker or a Welsh learner. We offer a comprehensive package of learning and development for Welsh learners.
- Strategically and pastorally equipped to lead within a diverse and growing set of communities.
This attractive area offers good communication links, supportive communities, and a Ministry Area committed to mutual support and outward-looking mission.
Join us in responding to God's call in Northwest Wales.
Recruitment Pack

For an informal chat
Bishop David Morris, 07930 283833,
davidmorris@churchinwales.org.uk
Archdeacon John Harvey, 07534 549682
johnharvey@churchinwales.org.uk