Cynlluniau Datblygu Eiddo
Rhaid i’n hadeiladau ein helpu i wireddu’n gweledigaeth esgobaethol. Mae Cynllun Datblygu Eiddo’r Ardal Weinidogaeth yn edrych tuag at 2030. Mae’n rhoi braslun cadarnhaol a chymhellol o’r eiddo a’r adeliadau o fewn yr Ardal a fydd yn ein galluogi i wireddu’r weledigaeth. Dyma gyfle i ystyried adeiladau, a’r holl asedau o ran eiddo a thir, a ddefnyddir ar hyn o bryd; a chyfle i fraslunio gweledigaeth o adeiladau cysegredig, adeiladau hyblyg, adeiladau cymunedol a thai staff a fyddai’n hybu cenhadaeth yr Ardal Weinidogaeth. Ceisiwn fod yn obeithiol ac yn realistig, gan anelu at ragoriaeth.
Property Development Plans
Our buildings need to help us deliver our diocesan vision. A Ministry Area’s Property Development Plan looks ahead to 2030. It sketches out a positive and compelling property set-up for the Ministry Area – one that will help us deliver our shared vision. Here is an opportunity to map all of the buildings, premises, properties and land assets currently owned and used by the Church; and then to sketch a vision of sacred space, flexible space, community space and accommodation that would help to fulfil the mission of the Ministry Area. We aim to be hopeful; to be realistic; and to achieve excellence.