minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

David Morris

Magwyd David yng Nghwm Rhondda ac astudiodd Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Hyfforddodd ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, a chwblhaodd radd Meistr mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ordeiniwyd David yn ddiacon (2009) ac yn offeiriad (2010) yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a gwasanaethodd ei guradiaeth ym Merthyr Tudful. Wedi hynny fe’i penodwyd yn beriglor yn Ne Caerdydd ac yn Gynghorydd Galwedigaethau Esgobaethol, ac yn ddiweddarach gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaethol a Ficer Tîm yn Ardal Weinidogaeth Dwyrain y Fro. Penodwyd David yn Gyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth ac yn Ganon Preswyl Cadeirlan Bangor yn 2022.

Gwnaethpwyd David yn Gadlywydd Urdd Sant Ioan yn 2020 ac mae wedi bod yn ymwneud yn weithredol ag Ambiwlans Sant Ioan Cymru fel caplan ers 2010; fe'i penodwyd yn Ddeon Priordy Cymru yn 2019 ac yn Ymddiriedolwr yr elusen yn 2020. Mae David yn mwynhau mynd i'r gampfa, teithio ac mae'n caru ei gath, Gordon!

Cymraeg

David Morris

David was raised in the Rhondda Valley and studied Theology at the University of Wales, Bangor. He trained for the priesthood at St Michael’s College, Llandaff, and completed a Masters degree in Theology at Cardiff University. David was ordained deacon (2009) and priest (2010) at Llandaff Cathedral and served his curacy in Merthyr Tydfil. He was subsequently appointed an incumbent in South Cardiff and as a Diocesan Vocations Advisor, and latterly he served as Diocesan Director of Ordinands and Team Vicar in the East Vale Ministry Area. David was appointed Diocesan Director of Ministry and a Residentiary Canon of Bangor Cathedral in 2022.

David was made a Commander of the Order of St John in 2020 and has been actively involved with St John Ambulance Cymru as a chaplain since 2010; he was appointed Dean of the Priory for Wales in 2019 and a Trustee of the charity in 2020. David enjoys going to the gym, travelling and adores his cat, Gordon!