minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Y Parchg David Morris yn ymuno ag Esgobaeth Bangor


Mae’n bleser gan Archesgob Cymru ac Esgob Bangor gyhoeddi y bydd y Parchg David Morris yn ymuno â’n hesgobaeth adeg y Pasg. 

Bydd David yn gwasanaethu fel ein Cyfarwyddwr Gweinidogaeth esgobaethol, tra hefyd yn meddu sedd y Canon Secundus fel Canon Preswyl yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.

Bydd David yn arwain y gwaith o gydlynu ein prosesau gweinidogaethol esgobaethol i gefnogi pawb sy’n rhannu yng ngweinidogaeth yr Archesgob ledled yr esgobaeth, a bydd yn adeiladu ar waith caled y blynyddoedd diwethaf i dyfu gweinidogaethau newydd.


Mae David yn ymuno â ni yn barod i feithrin yr egin werdd a welsom dros y blynyddoedd diwethaf, yn nodedig felly wrth inni drwyddedu cymaint o Weinidogion Trwyddedig Lleyg newydd dros Ŵyl Bedr y llynedd, ac yn ein gweinidogaethau arloesi llewyrchus. Ond mae hefyd yn adnabod, fel minnau, yr heriau sy’n ein hwynebu i godi cenhedlaeth newydd o alwedigaethau i wasanaethu Crist a'r Eglwys. Edrychaf ymlaen at ei groesawu yn ôl i Fangor a’r Gadeirlan, lle magwyd galwedigaeth David ei hun.

Andrew John, Archesgob Cymru


Bydd rôl newydd David yn ei weld yn gweithio ochr yn ochr â’n Harweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a’n harloeswyr i alluogi datblygiad gweinidogaethau newydd, yn ogystal â chefnogi’r mentrau galwedigaethol sy’n deillio o brosiect Llan a gweinidogaeth myfyrwyr y Gadeirlan.

Bydd David hefyd yn goruchwylio ein myfyrwyr gweinidogol a’n curadiaid, ein hymwneud ag Athrofa Padarn Sant, ein rhaglen datblygu gweinidogaethol parhaus, a’n cyfarfodydd Grŵp Cadfan.

Yn hyn oll, bydd David yn gweithio’n agos gyda’r archddiaconiaid a chyda chydweithwyr mewn esgobaethau eraill, yn enwedig i’r dwyrain yn Llanelwy wrth i ni geisio cydweithio’n agosach ar draws Gogledd Cymru.

Bydd David wedi’i leoli ym Mangor, ochr yn ochr ag aelodau eraill Tîm Deiniol, a gyda chartref ysbrydol a chanolfan ar gyfer ei weinidogaeth offeiriadol ei hun yn y Gadeirlan.


Mae’r Parchg David Morris yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid gwerthfawr iawn ac yn gydweithiwr yn Esgobaeth Llandaf, lle mae hefyd wedi bod yn offeiriad plwyf rhagorol mewn lleoliadau trefol a gwledig. Mae’n ddrwg iawn gennym golli David ond gwyddom y bydd ein cyfeillion yn Esgobaeth Bangor yn mwynhau’n aruthrol ei agwedd gyson a doeth at faterion y weinidogaeth a’i synnwyr digrifwch direidus. Anfonwn ef i’r Gogledd gyda’n bendithion a’n diolch yn fawr iawn am bopeth y mae wedi’i gyflawni a’i gyfeillgarwch i gynifer.

June Osborne, Esgob Llandaf


Bydd yn bleser croesawu David yn ôl i ddinas Bangor. Mae’r Canon Tracy Jones yn adnabod David yn dda o’i gwasanaeth fel Detholwr Taleithiol, ac mae’n ymuno â mi i groesawu penodiad David i ymuno â thîm gweinidogaethu’r Gadeirlan. Rydym ni, ynghyd â’m cydweithwyr o fewn Tîm Deiniol, yn edrych ymlaen at ei gefnogi yn ei weinidogaeth ledled ein hesgobaeth.

Siôn Rhys Evans, Is-Ddeon ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth


Mae David yn cyflwyno ei hun


Mae’n bleser mawr gennyf ymgymryd â’r rôl newydd hon a dychwelyd i Esgobaeth Bangor, i rannu yn eich ymdrechion cenhadol cyffrous a chefnogi gweinidogaethau lleyg ac ordeiniedig. 

Mwynheais dair blynedd hapus yn y ddinas yn 2004-2007 fel myfyriwr yn astudio diwinyddiaeth ac yn cynorthwyo yn y Gadeirlan bron bob Sul yn ystod y tymor. Ni allaf gredu bod hynny 15 mlynedd yn ôl!

Ers gadael Bangor hyfforddais ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig a chael gradd Meistr mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, cyn gwasanaethu fy nghwradiaeth ym Merthyr Tudful. Yn 2012 des yn offeiriad plwyf Grangetown, maestref amlddiwylliannol fywiog yng Nghaerdydd, ac yn ystod fy amser yno cefais fy mhenodi’n gynghorydd galwedigaethau esgobaethol. 

Yn ddiweddarach, ers 2019 rwyf wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaeth Llandaf ac yn Ficer yng Ngweinidogaeth Dwyrain y Fro ym Mro Morgannwg. O ganlyniad, mae gennyf angerdd mawr dros feithrin galwedigaeth ac annog pobl i wireddu eu potensial a roddwyd gan Dduw, gan eu galluogi i ddod yn bobl y maent yn cael eu galw yn wirioneddol i fod yng ngwasanaeth Duw.

Rwy’n hanu o Gwm Rhondda lle mae mam yn byw, ynghyd â fy chwaer, brawd a’u teuluoedd. Fy mhartner, Marc, yw Cyfarwyddwr Gwella ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; a rhaid i mi beidio ag anghofio aelod allweddol o'r teulu, Gordon y gath! 

Rwy'n mwynhau mynd i'r gym, a bwriadaf achub ar y cyfle hwn i ddatblygu fel dysgwr iaith – rwy’n edrych ymlaen yn barod at rai wythnosau dwys yn Nant Gwrtheyrn! Yn wirfoddol rwy’n gwasanaethu fel ymddiriedolwr Ambiwlans Sant Ioan Cymru a chefais fy mhenodi hefyd yn Ddeon Priordy Cymru Urdd Sant Ioan yn 2019, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu cysylltiadau cryfach â’n gwirfoddolwyr a staff yng Ngogledd Cymru.

Yn gyffredinol dwi’n gymeriad cynnes a gregar sy’n mwynhau meithrin perthnasoedd, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i adnabod teulu Esgobaeth Bangor.


Bydd David yn cael ei osod a’i drwyddedu mewn gwasanaeth Gosber ar Gân yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar nos Sul 8 Mai am 6.30pm.

Cymraeg

The Revd David Morris joins the Diocese of Bangor


The Archbishop of Wales & Bishop of Bangor is pleased to announce that the Revd David Morris will be joining our diocese at Eastertide. 

David will serve as our diocesan Director of Ministry, while also occupying the stall of Canon Secundus as a Residentiary Canon of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.

David will take the lead in coordinating our diocesan ministerial processes to support all who share in the Archbishop’s ministry across the diocese, and will build on the hard work of recent years to grow new ministries.


David joins us ready to nurture the green shoots we have seen over recent years, not least in the licensing of so many new Lay Licensed Ministers last Petertide and in our flourishing pioneer ministries. But he also knows, as I do, the challenges we face to raise up a new generation of vocations to serve Christ and the Church. I look forward to welcoming him back to Bangor and the Cathedral, where David’s own vocation was nourished.

Andrew John, Archbishop of Wales


David’s new role will see him working alongside our Ministry Area Leaders and pioneers to enable the development of new ministries, as well as supporting the vocational initiatives flowing from the Llan project and the Cathedral’s student ministry.

David will also oversee our ministerial students and curates, our engagement with St Padarn’s Institute, our continuing ministerial development programme, and our Grŵp Cadfan meetings.

In all of this, David will be working closely both with the archdeacons and with colleagues in other dioceses, especially to the east in St Asaph as we seek to work more closely together across North Wales.

David will be based in Bangor, alongside other members of Tîm Deiniol, and with a spiritual home and base for his own priestly ministry at the Cathedral.


The Revd David Morris is a much-valued Director of Ordinands and colleague in the Diocese of Llandaff, where he has also been an outstanding parish priest in both urban and rural settings. We are deeply sorry to lose David but know that our friends in the Diocese of Bangor will enjoy enormously his steady and wise approach to matters of ministry and his mischievous sense of humour. We send him North with our blessings and very great gratitude for all that he has achieved and his friendship to so many.

June Osborne, Bishop of Llandaff


It will be a joy to welcome David back to the city of Bangor. Canon Tracy Jones knows David well from her service as a Provincial Selector, and she joins me in welcoming David’s appointment to join the ministry team at the Cathedral, and we, alongside my colleagues within Tîm Deiniol, look forward to supporting him in his ministry across the diocese.

Siôn Rhys Evans, Sub-Dean & Diocesan Secretary


David introduces himself


I’m absolutely delighted to take up this new role and return to the Diocese of Bangor, to share in your exciting missional endeavours and support the ministries of lay and ordained. 

I enjoyed three happy years in the city in 2004-2007 as a student studying theology and assisting at the Cathedral most Sundays during term-time. I can’t quite believe that was 15 years ago!

Since leaving Bangor I trained for ordained ministry and obtained a Masters degree in Theology at St Michael’s College, Llandaff, before serving my curacy in Merthyr Tydfil. In 2012 I became parish priest of Grangetown, a vibrant multicultural suburb of Cardiff, and during my time there I was appointed a diocesan vocations advisor. 

Latterly, since 2019 I’ve served as Diocesan Director of Ordinands for the Diocese of Llandaff and Vicar in the East Vale Ministry in the Vale of Glamorgan. Consequently, I have a great passion for fostering vocation and encouraging people to realise their God-given potential, enabling them to become the people they are truly called to be in God's service.

I hail from the Rhondda Valley where my mother lives, along with my sister, brother and their families. My partner, Marc, is Director of Improvement and Innovation for Cwm Taf Morgannwg UHB; and I mustn't forget a key member of the family, Gordon the cat! 

I enjoy going to the gym, and I fully intend to seize this opportunity to develop my learner's Welsh – looking forward already to some intensive weeks at Nant Gwrtheyrn! In a voluntary capacity I serve as a trustee of St John Ambulance Cymru and I was also appointed Dean of the Priory for Wales of the Order of St John in 2019, so I’m very much looking forward to developing stronger ties with our St John volunteers and staff in North Wales.

I’m generally a warm and gregarious character who enjoys cultivating relationships, so I’m very much looking forward to getting to know the Bangor diocesan family.


David will be installed and licensed at a service of Choral Evensong at Saint Deiniol’s Cathedral on Sunday 8 May at 6.30pm.