minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cadfan ar y Cledrau

Er gwaethaf y gwynt a'r glaw ddydd Sadwrn diwethaf cafwyd prynhawn bendigedig yn y pumed lleoliad ar y bererindod lenyddol, Llwybr Cadfan. Digwyddiad gwahanol iawn ei naws oedd hwn, a hynny yn benaf ohewrwydd iddo gael ei leoli ar drên stem. Canolbwynt y gweithgarwch oedd Rheilffordd Eryri, gyda’r bererindod lythrennol yn mynd â ni o Borthmadog i Feddgelert ac yn ôl. Cwta awr a thri chwarter o daith yn llawn hanes, barddoniaeth a cherddoriaeth a hynny i gyd wrth deithio ar y cledrau.

Rhannwyd y gweithgarwch rhwng dau gerbyd, cerbydau crand y Pullman neu ddosbarth cyntaf. Roedd yr adloniant yn mynd ymlaen ar yr un pryd yn y ddau gerbyd gyda ‘newid drosodd’ sydyn ym Medddgelert ar gyfer y siwrne yn ôl. Yn y cerbyd cyntaf croesawyd pawb gan Yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionnydd. Ef hefyd gyflwynodd hanes Sant Cadfan, sydd yn rhoi ei enw i’r prosiect gan osod ei gyd-destun a’i gefndir . Yna trosglwyddwyd yr awenau i’r Prifardd Twm Morys a’r amryddawn Gwyneth Glyn a berfformiodd Anterliwt wreiddiol wedi ei selio ar y thema o bererindod oedd yn cynnwys ddatganiadau a chaneuon. Roedd y gweithgarwch yn braf a hwyliog gyda’r gynulleidfa hefyd yn ymuno yn y canu.

Yn yr ail gerbyd moethus croesawyd pawb gan y bardd preswyl Siôn Aled, nododd hefyd rhywfaint o hanes Rheilffordd Eryri gan roi sylw i ddathlu’r dreftadaeth leol, a nodi’n arbennig bwysigrwydd y rheilffordd i ddatblygiad diwydiant yn yr ardal . Yna cafwyd datganiadau y beirdd preswyl Siôn a Sian Northey o’u cerddi gwreiddiol, gyda’r thema o deithio a chledrau yn ganolbwynt amlwg i’r gwaith. Cawsom hefyd wibdith drwy leoliadau blaenorol y prosiect gyda datganiadau o’r cerddi oedd wedi cael eu creu ar gyfer Tywyn, Llangelynin, Abaty Cymer a Llandanwg. Roeddem yn ffodus iawn bod Annes Glyn yn bresennol ar y daith ac iddi ddarllen ei cherdd a baratodd ar gyfer Eglwys Celynin Sant, Llangelynin. Roedd awyrgych fendigedig ar y trên yn gwrando ar y cerddi a phawb wedi cael prynhawn difyr iawn gyda sŵn a symudiad y trên ar y cledrau yn ychwanegu at y naws a’r thema.

Erbyn hyn rydym wedi cyrraedd y pumed lleoliad ar ein pererindod lenyddol. Dewiswyd 10 o safleoedd i fod yn ganolfannau penodol ac yn ganolbwynt gweithgarwch ysbrdol a llenyddol y prosiect hwn a hynny ar ddyddiadau penodol dros gyfnod o ddeunaw mis. Lleoliadau y tybir i Cadfan ymweld â hwy ar ei bererindod gyntaf i Enlli, er efallai na fyddai Cadfan mewn difrif wedi teithio ar drên!! Mae’r lleoliadau oll yn amrywiol ac yn cynnig naws a themâu gwahanol ar hyd y daith. Bydd y prosiect yn parhau ei siwrne yn olrhain pererindod gyntaf Sant Cadfan i Ynys Enlli mewn lleoliad unigryw a diddorol arall a hynny ym Mis Chwefror 2023. Bwriedir cynnal y digwyddiad nesaf yn Eglwys Cynhaearn Sant, Ynys Cynhaearn ger Cricieth. Bydd Twm Morys a Gwyneth Glyn eto yn ymuno â ni eto yno ynghyd â’r beirdd preswyl Siôn Aled a Sian Northey am brynhawn o adloniant llenyddol.

Cymraeg

Cadfan ar y Cledrau

Despite the rain and wind last Saturday we had a wonderful afternoon at the fifth location on the literary pilgrimage, Llwybr Cadfan. It being placed on a steam train meant this was a very different event in tone. The focus of the activity was the Welsh Highland Railway, with the journey or pilgrimage taking us from Porthmadog to Beddgelert and back. Just under hour and three-quarters of a trip full of history, poetry, music, and all while touring the tracks.

The activity was split between two vehicles of the Pullman first-class carriages with the entertainment going on simultaneously in both, then a quick swap over for the journey home. In the first carriage, everyone was welcomed by The Venerable Andrew Jones, Archdeacon of Meirionnydd who also presented the history of Saint Cadfan, which gives the project its name, and set its context and background. The reins were then handed over to the multi-talented Twm Morys and Gwyneth Glyn who performed an original Anterliwt based on the theme of pilgrimage which included recitals and songs. The activity was refreshing and entertaining with the audience also joining in with the singing.

In the second luxury carriage, everyone was welcomed by resident poet Siôn Aled, he noted some of the history of the Welsh Highland Railway with attention to celebrating the local heritage and detailing the importance of the railway to the development of industry in the area. This was followed by a recital by the resident poets Siôn and Sian Northey of their original poems, with the theme of travel and railway tracks being the prominent focus of the work. We also had a brief recap through previous project venues with recitals of the poems that had been created for Tywyn, Llangelynin, Cymer Abbey and Llandanwg. We were very fortunate that Annes Glyn was present on the day, she read her poem which was prepared for St Celynin's Church, Llangelynin. The atmosphere was wonderful on the train listening to the poems, everyone had a very enjoyable afternoon with the noise and movement of the train on the tracks adding to the tone and theme.

We have now reached the fifth location on our literary pilgrimage. Ten sites were selected to be the specific centres and hubs of the spiritual and literary activity for this project on specific dates over a period of eighteen months. Cadfan is thought to have visited locations on his first pilgrimage to Bardsey, although Cadfan might not have travelled by train!! The locations are all varied and offer different inspiration and themes along the way. The project will continue its journey tracing Saint Cadfan's first pilgrimage to Bardsey Island in another unique and interesting location in February 2023. The next event is planned at Saint Cynhaearn's Church, Ynys Cynhaearn near Criccieth. Twm Morys and Gwyneth Glyn will again join us there along with the poets in residence Siôn Aled and Sian Northey for an afternoon of literary entertainment.