Hwb ariannol gwerth chwarter miliwn o gyllid ffyniant bro i Neuadd Eglwys Conwy
Mae conglfaen cymuned Conwy wedi derbyn grant sylweddol o chwarter miliwn i greu canolfan gelfyddydol, diwylliant ac allgymorth amlbwrpas ar gyfer y gymuned leol.
Mae'r prosiect Neuadd Ni wedi derbyn £249,999 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae cyllid wedi'i roi i'r prosiect Neuadd Ni i weddnewid Neuadd yr Eglwys ar Rose Hill Street yn ganolbwynt bywiog ar gyfer y celfyddydau, diwylliant, ymgysylltu â'r gymuned a mentrau allgymorth.
Nod prosiect Neuadd Ni, menter yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin yn Esgobaeth Bangor, yw adfywio Neuadd yr Eglwys, gan wella ei chyfleusterau i ddarparu ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau amrywiol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys adnewyddu strwythurol, adleoli’r gegin, gwelliannau i gyfleusterau toiled a gwresogi, a chreu mannau hyblyg er mwyn cynnal mwy o amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Ar ôl ei gwblhau, gall trigolion Conwy ac ymwelwyr ddisgwyl gweld rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol, ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer grwpiau cymunedol, dosbarthiadau, cyngherddau, arddangosfeydd ac ymdrechion allgymorth fel y rhaglen banc bwyd 'Bagiau cariad' sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr. Ar hyn o bryd, mae’n cynorthwyo bron i 100 o deuluoedd ac unigolion bregus bob mis, a bydd 'Bagiau Cariad' yn ehangu ei gyrhaeddiad gyda chyfleusterau storio a chegin gwell, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i hyd yn oed mwy o deuluoedd lleol mewn angen.
Dywedodd y Parchedig Eryl Parry, Offeiriad Arloesi ym Mro Celynnin, "Roedd yr ymateb i'n hymgynghoriad cymunedol y llynedd yn anhygoel, sy’n dangos yr hoffter dwfn sydd gan bobl leol i neuadd yr eglwys. Mae wedi gwasanaethu anghenion y gymuned yn y gorffennol ers tro, ac mae bellach yn cynnig cyfleoedd i wasanaethu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yng nghanol Conwy.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i dderbyn uchafswm y grant, ac edrychwn ymlaen at gynnwys y gymuned ymhellach wrth i'r prosiect ddatblygu. Wedi'r cyfan, mae hwn yn ymdrech ar y cyd. Ein Neuadd Ni yw hi."
Diolchodd Mike Young, Trysorydd Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, am dderbyn uchafswm y grant sydd ar gael, gan ddweud, "Rydym yn teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi derbyn y grant hwn i adnewyddu Neuadd yr Eglwys, adeilad poblogaidd sy’n cael llawer o ddefnydd yng nghanol Conwy. Gyda'r dyddiad cwblhau wedi'i bennu ar gyfer mis Tachwedd, rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod y canlyniad terfynol yn gyfleuster llawer gwell i'r gymuned gyfan."
Pwysleisiodd Chris Roberts, Warden Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, arwyddocâd y prosiect o foderneiddio Neuadd yr Eglwys ac ehangu ei hygyrchedd i gynulleidfa ehangach, gan ddweud "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y grant hwn. Bydd y prosiect hwn yn dod â'r neuadd i'r unfed ganrif ar hugain ac yn ei gwneud yn lleoliad llawer mwy deniadol ar gyfer ystod ehangach o weithgareddau cymunedol."
Ychwanegodd Chris, "Mae gweddnewid Neuadd Eglwys Conwy yn ganolfan canolog i'r gymuned yn gyflawniad nodedig i'r gymuned leol a bydd yn meithrin cynwysoldeb, creadigrwydd, ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth gymunedol yn rhanbarth Conwy."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gonglfaen i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn mannau a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, gan gefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Rydym yn recriwtio
Rydym yn chwilio am ficer ac arweinydd â gweledigaeth i wasanaethu Ardal Gweinidogaeth Bro Celynnin yn Nyffryn Conwy.
O Safle Treftadaeth y Byd Tref Conwy i fan sanctaidd hynafol Eglwys Llangelynnin, un o eglwysi hynaf Cymru, mae Bro Celynnin yn gyfle cenhadol cyffrous.
Quarter of a million levelling up funding boost for Conwy Church Hall
A beloved cornerstone of the Conwy community has been awarded a significant grant of a quarter of a million to create a multi-purpose arts, culture and outreach hub for the local community.
The Hall for All project has received £249, 999 from the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund. Funding has been granted to the Hall for All project to transform the Church Hall on Rose Hill Street into a vibrant hub for arts, culture, community engagement, and outreach initiatives.
The Hall For All project, an initiative of the Bro Celynnin Ministry Area in the Diocese of Bangor, aims to revitalise the Church Hall, enhancing its facilities to accommodate diverse activities and events. Plans include structural renovations, kitchen relocation, improvements to toilet and heating facilities, and the creation of flexible spaces in order to host a greater variety of events.
Upon completion, Conwy residents and visitors can anticipate a rich programme of arts and cultural events, alongside opportunities for community groups, classes, concerts, exhibitions, and outreach efforts such as the much valued Bags of Love food bank programme. Currently aiding almost 100 families and vulnerable individuals monthly, ‘Bags of Love’ will expand its reach with improved storage and kitchen facilities, providing crucial support to even more local families in need.
Revd Eryl Parry, Pioneer Priest in Bro Celynnin, says, “The response to our community consultation last year was overwhelming, highlighting the deep affection local people hold for the church hall. It has long served the needs of the community in the past, and now presents opportunities to serve both locals and visitors alike in the heart of Conwy.
“We are hugely grateful to receive the maximum grant, and we look forward to further community involvement as the project develops. After all, this is a shared endeavour. It’s our Hall for All.”
Mike Young, Bro Celynnin Ministry Area Treasurer, expressed gratitude for receiving the maximum grant available, stating, "We feel immensely privileged to have been awarded this grant to renovate the Church Hall, a much-loved and well-used building in the heart of Conwy. With the completion date set for November, we are doing everything possible to ensure that the end result is a much-improved facility for the whole community."
Chris Roberts, Bro Celynnin Ministry Area Warden, emphasised the significance of the project in modernising the Church Hall and expanding its accessibility to a broader audience, saying "We are thrilled to have been awarded this grant. This project will bring the hall into the 21st Century and make it a much more attractive venue for a wider range of community activities."
Chris added, “The Conwy Church Hall's transformation into a central hub for the community represents a landmark achievement for the local community and will foster inclusivity, creativity, and a strong sense of community identity within the Conwy region.”
The UK Shared Prosperity Fund is a central pillar of the UK government’s Levelling Up agenda and provides £2.6 billion of funding for local investment by March 2025. The Fund aims to improve pride in place and increase life chances across the UK investing in communities and place, supporting local business, and people and skills. For more information, visit https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
We're recruiting to Conwy
We are seeking a visionary leader and vicar to serve Bro Celynnin Ministry Area in the Conwy Valley.
From the World Heritage Site of Conwy Town to the ancient sacred space of Llangelynnin Church, one of Wales oldest churches, Bro Celynnin is an exciting mission opportunity.