Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin
Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro CelynninBro Celynnin Ministry Area Leader
Bro Celynnin Ministry Area LeaderRydym yn chwilio am ficer ac arweinydd â gweledigaeth i wasanaethu Ardal Gweinidogaeth Bro Celynnin yn Nyffryn Conwy.
Ein cenhadaeth yw newid bywydau wrth i ni rannu cariad Duw â'r gymuned. Mae adeiladau ein heglwysi yn cynnwys pum trysor canoloesol arbennig iawn, pob un ohonynt â bywyd o weddi, addoli a gwasanaeth i'r gymuned. O Safle Treftadaeth y Byd Tref Conwy i fan sanctaidd hynafol Eglwys Llangelynnin, un o eglwysi hynaf Cymru, mae Bro Celynnin yn gyfle cenhadol cyffrous.
Amdanoch chi
- Rydym yn chwilio am offeiriad gweledigaethol, ysbrydol a chariadus a fydd yn:
- Canolbwyntio ar efengylu a thwf ymhlith pobl ifanc a theuluoedd.
- Dyfnhau disgyblaeth a gweddi a meithrin galwedigaethau newydd.
- Cyflawni a rheoli prosiectau cymhleth, gan gynnwys adnewyddu adeiladau Canoloesol.
- Gweithio ar y cyd â chydweithwyr a gwirfoddolwyr i adeiladu timau iach.
- Partneru gyda'n hysgol uwchradd a’n dwy ysgol gynradd eglwysig.
- Annog bywyd amrywiol o gynulleidfaoedd sy’n ymgasglu, gan gynnwys gweinidogaeth ar-lein, addoli creadigol a'n traddodiad o gerddoriaeth litwrgaidd.
- Parhau â'n hymrwymiad i gyfranogiad llawn pobl fyddar ac anabl.
Proffil Ardal Weinidogaeth
![](https://dioceseofbangor.contentfiles.net/media/thumbs/d1/0d/d10d55e08e6454000b90430089e6d1ad.png)
Y broses ymgeisio
- Anfonwch eich CV ynghyd â llythyr cais at Archddiacon David Parry, davidparry@churchinwales.org.uk
- Dylai eich CV amlinellu eich cymwysterau addysgol a hyfforddiant, a'ch hanes cyflogaeth.
- Yn eich llythyr cais dylech, mewn dim mwy na dwy ochr A4, ddisgrifio yr hyn yr sy’n eich denu at y swydd, a pherthnasu eich sgiliau a phrofiad i fanyleb y person.
- Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
Cysylltwch â'r Archddiacon David am sgwrs anffurfiol 07403 635510.
We are seeking a visionary leader and vicar to serve Bro Celynnin Ministry Area in the Conwy Valley.
Our mission is to change lives as we share God’s love with the community. Our church buildings comprise of five very special, medieval treasures, all of which have a life of prayer, worship and service to the community. From the World Heritage Site of Conwy Town to the ancient sacred space of Llangelynnin Church, one of Wales oldest churches, Bro Celynnin is an exciting mission opportunity.
About you
We seek a visionary, spiritually gifted and loving priest who will:
- Focus on evangelism and growth among young people and families.
- Deepen discipleship and prayer and foster new vocations.
- Deliver and manage complex projects, including the renewal of Medieval buildings.
- Work collaboratively with colleagues and volunteers to build healthy teams.
- Partner with our two church primary schools and secondary school.
- Encourage a diverse life of gathered congregations, including online ministry, creative worship and our tradition of liturgical music.
- Continue our commitment to the full participation of deaf and disabled people.
Ministry Area profile
![](https://dioceseofbangor.contentfiles.net/media/thumbs/a6/8d/a68d1bdbb1edea8c2fa47760371feba0.png)
Application Process
- Please send your CV together with a letter of application by email to Archdeacon David Parry davidparry@churchinwales.org.uk
- Your CV should outline your educational and training qualifications and your employment history.
- Your letter of application, taking up no more than two sides of A4, should describe what attracts you to the role and relate your skills and experience to the person specification.
- Shortlisted applicants will be invited for interview.
Contact Archdeacon David for an informal chat 07403 635510.