minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Pererindod: Ydio i chi?

Mae cychwyn ar bererindod yn brofiad hynod bersonol a thrawsnewidiol. Bob blwyddyn, mae degau o unigolion yn cychwyn ar y daith ysbrydol hon, gyda llawer yn dewis teithio ar eu pennau eu hunain i fanteisio ar y  cyfle i hunan werhuso a hunan ddarganfod. Os ydych chi'n chwilfrydig ond yn ansicr ai pererindod yw'r llwybr iawn i chi, ystyriwch ymuno ag un o'n pererindodau diwrnod o dan arweiniad Llwybr Cadfan. Mae'r profiad hwn yn cynnig blas ar y daith, gan eich helpu i benderfynu a yw pererindod yn rhywbeth yr hoffech ei brofi.

Buom yn siarad â Sue Millar-Jones o Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron am ei phrofiad o ymuno â thaith gerdded ddwysedig ac  am ei phrofiad cyntaf o bererindod.

"Fy enw i ydy Sue Millar-Jones a dwi’n byw yn Llangwnadl, a dwi’n mynychu Eglwys Sant Hywyn yn Aberdaron. Fel miloedd o bobl eraill fe wnes i wylio’r rhaglen Pilgrimage, BBC ym mis Mawrth a cefais fy ysbrydoli i gymryd rhan mewn rhywbeth tebyg fy hun, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i fynd o’i chwmpas hi. Yn fuan wedyn, fe ges i wahoddiad i ymuno â grŵp o bererinion oedd yn cerdded o Dreffynnon hyd at Aberdaron ac wedyn Ynys Enlli. 

Sue Millar-Jones

"Ges i wahoddiad i ymuno â’r grŵp am un diwrnod pan oedden nhw’n cerdded o Abergwyngregyn i’r Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Pan o’n i’n dreifio i gyfarfod y grŵp yn fy nghar, ro’n i’n teimlo bach yn nerfus os o’n i’n mynd i ffitio i mewn, pa fath o bobl oedden nhw, o’n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

"Ond ar ôl cyrraedd a chyfarfod pawb, doedd gennai ddim byd i boeni am. Roedd pawb yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn ofalgar ac ro’n i’n teimlo’n gyfforddus yn syth. Ac roedden ni i gyd efo’r ‘run meddylfryd rhywsut.

"Wnes i wir fwynhau y profiad. Ar ben y daith yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor, roeddwn innau hefyd yn adlewyrchu a ges i’r teimlad fy mod i wedi cyflawni rhywbeth arbennig ar fy nhaith ffydd personol fi fy hun. Ac yn sicr, hoffwn wneud mwy o’r math yma o beth yn y dyfodol."

Gwyliwch ein cyfweliad gyda Sue ar Instagram.


Profiad Llwybr Cadfan

Yr haf hwn, rydym yn gwahodd cymuned ein hesgobaeth i ymuno â ni ar gyfer taith gerdded ragarweiniol wedi ei harwain ar Lwybr Cadfan, llwybr pererindod. Yn ymestyn 128 milltir o Dywyn i Ynys Enlli, mae ein llwybr pererindod newydd yn ymdroelli trwy draethau eang, coedwigoedd glaw derw hynafol, ac eglwysi anghysbell, gan olrhain camau Cadfan Sant.

Cynhelir ein pererindodau undydd, wedi eu tywys, bob pythefnos. Mae'r diwrnodau pererindod hyn yn agored i bawb.

Mae'r dyddiadau ar gyfer Awst, Medi a Hydref bellach ar gael.

Cymraeg

Pilgrimage. Is it for you?

Embarking on a pilgrimage is a deeply personal and transformative experience. Each year, countless individuals set out on this spiritual journey, with many opting to travel alone to embrace the opportunity for introspection and self-discovery. If you're curious but unsure whether a pilgrimage is the right path for you, consider joining one of our guided Llwybr Cadfan day-long pilgrimages. This experience offers a taste of the journey, helping you decide if pilgrimage is something you’d like to pursue.

We spoke with Sue Millar-Jones from St Hywyn’s Church in Aberdaron about her experience of joining a guided walk for her first experience of pilgrimage.

“My name is Sue Millar-Jones and I live in Llangwnadl and attend St Hywyn's Church in Aberdaron. Like thousands of others, I watched the BBC programme, Pilgrimage, in March and was inspired to take part in something similar myself but didn't know how to go about it. Shortly afterwards, I was invited to join a group of pilgrims walking from Holywell to Aberdaron and then on to Bardsey Island.

Sue Millar-Jones

They invited me to join them for one day when they walked from Abergwyngregyn to the Cathedral in Bangor. When I was driving to meet the group in my car, I felt a little nervous about whether I would fit in, and what kind of people they were. I didn't know what to expect. But after arriving and meeting everyone, I had nothing to worry about. Everyone was welcoming, friendly and caring and I immediately felt comfortable. And we all had the same mindset somehow.

I really enjoyed the experience. At the end of the walk at the Cathedral in Bangor, I also reflected and had the feeling that I had achieved something special on my own personal faith journey. And I'd certainly like to do more of this kind of thing in the future.”

Watch out interview with Sue on Instagram.


Experience Llwybr Cadfan 

Why not join us for an introductory guided walk along Llwybr Cadfan? Spanning 128 miles from Tywyn to Ynys Enlli, our new pilgrimage path winds through vast beaches, ancient oak rainforests, and remote churches, retracing the steps of Saint Cadfan.

Our day-long guided pilgrimages take place every two weeks and are open to everyone.

Dates are available for August, September and October.