minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofleidio undod a'n pwrpas cyffredin, meddai'r Archesgob

Yn ei araith arlywyddol yn y Corff Llywodraethol, siaradodd Archesgob Cymru am bwysigrwydd undod a gweithredu ar y cyd o fewn yr Eglwys. Tynnodd sylw at bŵer cydweithio, yn enwedig yn wyneb heriau modern, gan annog yr Eglwys i fabwysiadu ysbryd "gwell, gyda'i gilydd." Gan dynnu ar esiampl gweinidogaethau arloesol, galwodd yr Archesgob ar yr Eglwys i wrando, dysgu a gweithredu'n feiddgar wrth gyflawni ei chenhadaeth.

Arloesol

"Yn y gorffennol, nid oedd angen i ni ymddwyn fel eglwys yn yr un modd ag y mae’n rhaid inni ei wneud yn awr.. Rydym wedi dod i weld faint yr ydym angen y gweinidogaethau amrywiol sy'n adlewyrchu'r carismau y mae Duw yn eu rhoi inni. Rydym wedi gweld penodiadau newydd sy’n gwella ac yn ychwanegu at arweinyddiaeth werthfawr clerigion yr Ardaloedd Gweinidogaeth. 

Mae Duw yn adeiladu eglwys a fydd yn dra gwahanol i'r un y bedyddiwyd ni ynddi. Ond mae’n eglwys sydd mewn sefyllfa well ac sydd wedi’i siapio’n fwy creadigol er mwyn estyn allan mewn gwasanaeth cariadus ac yng Nghrist Iesu. 

Rwyf am roi un enghraifft o hyn ichi - a, maddeuwch i mi, mae’n dod o fy esgobaeth fy hun er y gallwn ychwanegu at hyn gan esgobaethau eraill hefyd. Jill Ireland yw ein Caplan Awyr Agored cyntaf ym Mro Eryri, yn union wrth droed Yr Wyddfa. 

Swydd Jill yw cysylltu â’r miloedd sy’n heidio yma ond nad oes gan nawd deg pump y cant (95%) ohonynt unrhyw gysylltiad â’r eglwys o gwbl. Mae Jill yn gweinidogaethu, yn ei geiriau ei hun, i: 'garu, perthnasu, creu'. Mae ei thasg yn ymwneud â 'gwrando, dysgu, cysylltu ac ymgysylltu ar gyfer perthnasoedd newydd fel y gallwn adnabod calonnau pobl a darganfod sut y gallai Duw fod ar waith eisoes a sut y gallwn ymuno.'

"Mae gweinidogaeth fel hyn yn ein dysgu i ddeall iaith ein cymunedau ac yn gofyn a allwn 'aros yn y lle hwnnw o ymddiriedaeth ac o ildio. Mae gan Dduw waith i ni ei wneud a bydd ef yn ei ddatgelu. Mae’r cyfuniad hwn, o waith nodedig o arloesol, ochr yn ochr â’n hymrwymiad i Ardaloedd Gweinidogaeth, yn darparu ffordd newydd a chyffrous o weld ein tasgau fel eglwys.

Gwell, gyda'n gilydd."

Cydweithio

"Yn ddiweddarach eleni byddwn yn ymgynnull o bob rhan o’r esgobaethau i weddïo, gwrando a dysgu. Nid yw'r Gymuned Ddysgu yn rhyw fath o gimig i wneud i ni deimlo'n dda am fod yn egnïol nac i ymdrybaeddu yn yr heriau sy'n ein hwynebu. Ei ddiben yw ein galluogi i fyfyrio ac yna ymwreiddio. 

"Fel Elias, byddwn yn gweddïo am y doethineb i ateb yr un cwestiwn: 'Beth ydych chi'n ei wneud?' Y cyd-destun ar gyfer ein cynulliad yw’r symudiad sylweddol a wnaed yn yr holl esgobaethau i gyflunio ein bywyd o fewn Ardaloedd Gweinidogaeth. Nid yw'r newid hwn wedi bod ar lefel llywodraethu yn unig ond mae wedi gofyn cynnig gweinidogaeth a chenhadaeth mewn ffordd wahanol. 

"Gofynnir inni ganolbwyntio ar rannu adnoddau ac ar ein hymrwymiad cyffredin i ardal neilltuol, ar adeiladu timau sy'n cynnwys doniau holl bobl Dduw, ar edrych tuag allan oherwydd bod Duw yn caru'r BYD gymaint ac ar fod yn negeswyr llawen y newyddion da i'n gilydd mewn addoliad a chymdeithas.

"Bydd yn hanfodol bod yr hyn a ddysgir o'r cynulliad hwn yn cael ei rannu ar draws yr eglwys. Mae Timothy Radcliffe, yr offeiriad Dominicaidd a wahoddwyd i arwain enciliad yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn ystod eu Synod ar Synodiaeth y llynedd, wedi ysgrifennu: 'Os gwrandawn ar yr Arglwydd ac ar ein gilydd, gan geisio deall ei ewyllys ar gyfer yr eglwys a'r byd , byddwn yn unedig mewn gobaith sy'n mynd y tu hwnt i'n hanghytundebau ac yn cael ein cyffwrdd gan y 'Harddwch mor hynafol ac mor newydd.'

Undod

Wrth groesawu ei Ysgrifennydd Cyffredinol, yr Esgob Anthony Poggo, i’r Corff Llywodraethol, dywedodd yr Archesgob Andrew y dylai bywyd y Cymundeb gael ei nodweddu gan ymrwymiad yr aelod-eglwysi i’w gilydd.

Apeliodd hefyd ar y Cymun i gydweithio i helpu i adfer “bywyd, heddwch a gobaith” i Gaza unwaith y daw’r brwydro i ben, gan annog yr Eglwys yng Nghymru i “sefyll yn barod”.

Dywedodd, “Pan weddïodd Iesu i’r eglwys fod yn un, ni chynigiodd hyn fel rhyw fath o ddyhead, neu uchelgais y gallem symud tuag ato. Fe’i gweddïodd oherwydd dyna yw hanfod yr eglwys…. Felly ni allwn gerdded i ffwrdd oddi wrth ein gilydd, gan haeru nad ydym mewn cymundeb â'n holl frodyr a’n chwiorydd yng Nghrist. Mae wedi penderfynu ein bod ni! Yr hyn sy’n gorfod nodweddu ein bywyd yw ymrwymiad dwfn i’n gilydd, mewn gweddi, ymgysylltiad a chenhadaeth.”

Ymgyrchu

Anogodd yr Archesgob hefyd y Corff Llywodraethol i ymateb yn ddewr i newid hinsawdd, "Bydd eglwys sy’n wirioneddol radical yn ei hymwneud â’r byd yn mynd i’r afael â materion hollbwysig boed yn newid yn yr hinsawdd, AI neu dlodi a rhyfel."

"Rwyf am ddweud mwy yn awr am yr uwchgynhadledd amgylcheddol y mae'r Eglwys yng Nghymru yn ei noddi ym mis Tachwedd sy'n dod â dros 70 o gynrychiolwyr ynghyd o bob rhan o'r DU i drafod ffyrdd y gallem 'Adfer Afonydd Cymru'. Rydym wedi casglu un o’r cynulliadau mwyaf o’i fath ym mis Tachwedd eleni ar ôl 18 mis o baratoi. Mae’r uwchgynhadledd yn cynnwys academyddion, amgylcheddwyr, cynrychiolwyr o’r gymuned amaethyddol, yr Eglwys yng Nghymru, y diwydiant dŵr a grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y maes er mwyn ymgynghori ar y ffyrdd y gellir gwella ansawdd dŵr yng Nghymru.

"Diddorol i mi oedd pan gawsom ein herio ynghylch pam roedd yr eglwys yn ymwneud â rhywbeth fel hyn. Weithiau mae’n ganlyniad anwybodaeth, weithiau mae’n digwydd oherwydd nad yw’r meddwl seciwlar yn hoffi inni ‘ymyrryd’ mewn materion nad ydynt yn ymwneud â ni ac weithiau oherwydd nad ydym wedi mynegi tuag at yr amgylchedd yr agwedd genhadol radical sydd wrth wraidd yr efengyl. Nid canu emynau dydd Sul yn unig ydyn ni!"


Gallwch ddarllen Anerchiad Llywyddol llawn yr Archesgob yn y ddolen isod.

Cymraeg

Embrace unity and our shared purpose, says Archbishop

In his presidential speech at the Governing Body, the Archbishop of Wales spoke about the importance of unity and collective action within the Church. He highlighted the power of collaboration, especially in the face of modern challenges, urging the Church to adopt a spirit of "better, together." Drawing on the example of pioneering ministries, the Archbishop called on the Church to listen, learn, and act boldly in fulfilling its mission.

Pioneering

“We have not needed to do church differently in the way we must now. We have come to see how much we need the diverse ministries that reflect the charisms God gives us. We have seen new appointments that enhance and add to the cherished leadership of Ministry Area clergy.

"God is building a church which will be quite different from the one into which we were baptised. But it is a church which is better placed and shaped more creatively to reach out in loving service and in Christ Jesus.

"I want to give you one example of this and, forgive me, from my own diocese although I could add to this from other dioceses too. Jill Ireland is our first Outdoor Chaplain in Bro Eryri right beneath Yr Wyddfa. Jill’s role is to connect with the thousands who came here, but 95% of whom have no connection with the church. Jill ministers in her own words to ‘love, relate, create’. Her task is all about ‘listening, learning, connecting and engaging for new relationships so that we can know people’s hearts and discover how God might already be at work and how we can join in.’

"Ministry like this teaches us to learn the language of our communities and asks whether we can ‘stay in that place of trust and surrender. God has work for us to do and will reveal it. This blend of distinctive pioneering work alongside our commitment to Ministry Areas provides a new and exciting way of seeing our tasks as a church. Better, together.”

Collaboration

“Later this year we will gather from across the dioceses to pray, listen and learn. The Church in Wales Learning Community is not a gimmick to make us feel good about being active nor to wallow in the challenges we face. It is to enable us to reflect and then embed.

Like Elijah, we will pray for the wisdom to answer the same question: ‘What are you doing?’

"The context for our gathering is the significant move made in all the dioceses to configure our life within Ministry Areas. This shift has not been at the level of governance only but has asked ministry and mission to be offered differently. To focus on sharing resources and a common commitment to a distinct area, to build teams which include the gifts of all God’s people, to look outwards because God loved the WORLD so much and to be joyful bearers of good news for one another in worship and fellowship.

"It will be essential that the learning from this gathering is shared across the church. Timothy Radcliffe, the Dominican priest invited to lead the retreat for the Roman Catholic Church during their Synod on Synodality last year, has written: ‘If we listen to the Lord and to each other, seeking to understand his will for the church and the world, we shall be united in a hope that transcends our disagreements and be touched by that ‘Beauty so ancient and so new.’*

We have always been at our best when we are courageous and together. Better, together.

Unity

Welcoming its Secretary General, Bishop Anthony Poggo, to the Governing Body, Archbishop Andrew said its life should be characterised by a commitment of the member churches to each other.

He also appealed to the Communion to work together to help restore “life, peace and hope” to Gaza when some outcome was achieved, urging the Church in Wales to “stand ready”.

He said, “When Jesus prayed the church might be one, he did not offer this as a kind of aspiration, an ambition towards which we might move and journey. He prayed it because it is of the essence of the church….

“So, we cannot walk away from each other, assert we are not in communion with all our brothers and sisters in Christ. He has determined we are! What must characterize our life is a deep commitment to each other, in prayer, engagement and in mission.”

Campaigning

The Archbishop also urged Governing Body to respond courageously to climate change, 

“A church which is truly radical in its engagement with the world will address critical issues whether climate change, A.I, poverty or war.

"I want now to say more about the environmental Summit the Church in Wales is sponsoring in November which brings over 70 delegates together from across the UK to confer on ways in which we might ‘Restoring Welsh Rivers’. We have amassed one of the largest gatherings of its kind meeting in November this year after 18 months of preparation. The summit involves academics, environmentalists, representatives from the farming community, the Church in Wales, water industry and other interested groups to confer on the ways in which the quality of water in Wales might be improved.

"I found it intriguing when we found ourselves challenged about why the church was involving itself in something like this. Sometimes the result of ignorance, sometimes because secular thinking doesn’t like us ‘interfering’ in matters which don’t involve us and sometimes because we have not articulated a mission approach towards the environment which has been radical enough and lies at the heart of the gospel. We don’t just sing hymns on Sunday!"


Read the Archbishop's full Presidential Address.