Diweddariad Grŵp Gweithredu'r Gadeirlan
Ar 3ydd Mai 2025, cyfarfu Cabidwl y Gadeirlan i adolygu adroddiadau o'r Adolygiad Diogelu Annibynnol thirtyone:eight a'r Ymweliad Esgobol. Pleidleisiodd aelodau'r Cabidwl yn unfrydol i dderbyn yr holl argymhellion.
Ers hynny, mae'r Cabidwl wedi cynnal dau gyfarfod ychwanegol, gan gynnwys sesiwn diwrnod llawn i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argymhellion. Mae Grŵp Gweithredu wedi'i sefydlu ac wedi cyfarfod bedair gwaith, gan weithio gyda chynghorwyr yr Eglwys yng Nghymru mewn diogelu ac AD i sicrhau bod ein holl bolisïau a'n prosesau yn gadarn ac yn cydymffurfio â'r arfer cyfredol. Mae'r Cabidwl hefyd yn adolygu cyllid y Gadeirlan ac wedi derbyn cyngor ariannol annibynnol i sicrhau tryloywder cyflawn ac atebolrwydd ym mhob mater ariannol.
Mae adroddiadau cynnydd wedi'u cyflwyno i Bwyllgor Archwilio a Risg y Corff Cynrychioliadol, Panel Diogelu Taleithiol, a'r Grŵp Brysbennu. Mae Bwrdd Goruchwylio Cadeirlan Bangor wedi cynnal eu cyfarfod cyntaf a bydd yn parhau i gyfarfod am o leiaf 12 mis ar ôl penodi Deon newydd.
Un o'r argymhellion allweddol oedd y dylem recriwtio Deon i’r Gadeirlan cyn gynted â phosibl. Mae cyfweliadau'n cael eu cynnal ar ddydd Gwener 4ydd Gorffennaf.
Mae gwaith arall sydd wedi datblygu yn cael eu rhestru isod:
Llywodraethu
- Mae'r Cabidwl wedi penodi Archdiacon Môn, John Harvey, fel Ymddiriedolwr Diogelu Dynodedig.
- Mae diogelu yn eitem sefydlog ar bob cyfarfod llywodraethu.
- Mae gwybodaeth diogelu ar gael ar wefan y Gadeirlan.
- Mae rheolwyr llinell y Gadeirlan a'r Cabidwl yn monitro cydymffurfiaeth ar gyfer hyfforddiant diogelu ac yn adrodd i'r Grŵp Gweithredu.
Diwylliant
- Mae cyfarfodydd Gweithredol wythnosol yn cael eu cynnal.
- Mae gofynion hyfforddiant ar gyfer rheolwyr llinell yn cael eu nodi.
- Mae rheolwyr gweithrediadau yn mynychu hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
- Mae'r gofrestr risg yn cael ei diweddaru.
- Mae asesiadau risg, rheolaeth data a pholisi cyfryngau cymdeithasol bellach ar waith.
- Bydd yr Esgob David Morris yn parhau fel arweinydd dros dro'r Gadeirlan nes penodi Deon.
Mae bywyd a defosiwn y Gadeirlan yn parhau i fod yn ffynhonnell llawenydd a chryfder i lawer. Mae gennym gynulleidfaoedd bywiog, aml-ddiwylliannol sy'n hyrwyddo'r Gymraeg mewn ffyrdd creadigol. Mae ein timau gwych o wirfoddolwyr yn croesawu ac yn gwasanaethu cannoedd o bobl bob wythnos gyda Gofod Cynnes a Banc Bwyd. Rydym yn parhau i gynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, megis Digwyddiad Cenedlaethol Windrush a'r Gwasanaeth Urddiad. Dewch i fynychu gwasanaeth neu ddigwyddiad yn ein Blwyddyn Dathliad 1500fed.
Rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n cynnal Cadeirlan Bangor a'r rhai sy'n ymuno â ni i addoli a moliannu Duw.
Archddiacon David Parry
Cathedral Implementation Group update
On 3rd May 2025, Cathedral Chapter met to review reports from the thirtyone:eight Independent Safeguarding Review and Episcopal Visitation. Members of Chapter voted unanimously to accept all recommendations.
Since then, the Chapter has held two additional meetings, including a full-day session to focus on addressing the recommendations. An Implementation Group has been established and has met four times, working with Church in Wales advisors in safeguarding and HR to ensure all our policies and processes are robust and compliant with current practice. Chapter is also reviewing Cathedral finances and have sought independent financial advice to ensure complete transparency and accountability in all financial matters.
Progress reports have been submitted to the RB's Audit and Risk Committee, the Provincial Safeguarding Panel, and the Triage Group. The Bangor Cathedral Oversight Board has held its first meeting and continue to meet for at least 12 months after a new Dean is appointed.
One of the key recommendations was that we recruit a Cathedral Dean as soon as possible. Interviews are being held on Friday 4th July.
Other work that has progressed is listed below:
Governance
- Chapter has appointed the Archdeacon of Anglesey John Harvey as Designated Safeguarding Trustee.
- Safeguarding is a standing item on all governance meetings.
- Safeguarding information is available on the Cathedral website.
- Cathedral line managers and Chapter are monitoring compliance for safeguarding training and are reporting to the Implementation Group.
Culture
- Weekly Operational meetings are taking.
- Training requirements for line managers is being identified.
- Operations managers are attending Health and Safety training.
- Risk register is being updated.
- Risk assessments, data control and a social media policy are now in place.
- Bishop David Morris will continue as interim Cathedral leader until a Dean is appointed.
Cathedral life and worship continues to be a source of joy and strength to many. We have vibrant, multi-cultural congregations which promote the Welsh language in creative ways. Our wonderful teams of volunteers welcome and serve hundreds of people every week with a Warm Space and Food Bank. We continue to host a varied programme of events, such as the National Windrush Event and the Ordination Service. Please do come along to a service or event in this our 1500th Anniversary Year.
We are grateful to all who sustain Bangor Cathedral and those who join us to worship and praise God.
Archdeacon David Parry