minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Wythnos Cymorth Cristnogol 2026

‘Pan fydda i’n deffro, rwy’n meddwl am fy holl bryderon. Weithiau does gen i ddim bwyd,’ meddai Fridah Moraa sy'n wynebu brwydr ddyddiol i fwydo ei theulu oherwydd tlodi trefol. Hanes mamau fel Fridah sydd dan sylw yn ymgyrch Wythnos Cymorth Cristnogol eleni.

Fridah â’i hŵyr, Quillan, y tu allan i'w cartref yn Dagoretti

Mae Fridah Moraa yn byw yn anheddle anffurfiol Dagoretti yn Nairobi, Kenya, sydd yn gartref i mwy na 280,000 o bobl. Mae hi'n rhentu caban metel i gartrefu ei hefeilliaid 13 mlwydd oed, Eliud ac Abiud, ei merch, a'i hŵyr pedair oed, Quillan. Does ganddyn nhw ddim dŵr tap yn eu cartref ac maen nhw’n rhannu toiled sylfaenol gyda llawer o deuluoedd eraill. Yn ddiweddar, collodd Fridah ei gŵr mewn damwain drasig ac mae’n ei golli’n fawr. 'Mae wedi gadael bwlch mawr,' meddai.


A wnaiff eich eglwys chi gefnogi rhywun fel Fridah i dyfu bwyd ac amddiffyn eu plant rhag newyn?


Mae Dagoretti yn lle prysur a swnllyd a’i rythm yn cael ei reoli gan gyflymder y preswylwyr sy'n cael eu gorfodi i fyw'n ansicr o ddydd i ddydd. Mae’n anodd cael swydd sicr, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn ennill llai na doler y dydd, felly brwydr gyson yw prynu bwyd ar gyfer eich plant. Gyda rhent, dŵr, ysgol a meddyginiaeth i dalu amdanynt hefyd, does dim digon o arian ar gael weithiau ar gyfer pryd o fwyd. Yno, mae chwant bwyd yn dwysáu’r straen ddi-baid.

Gall bywyd o ddydd i ddydd Fridah fod yn ansicr. Mae hi'n deffro bob bore yn poeni am fwydo ei theulu. 'Ond alla i ddim rhoi'r ffidil yn y to,' meddai Fridah, 'mae angen i fy mhlant fynd i'r ysgol. Mae angen iddyn nhw fwyta.’

Mae Fridah wedi bod yn ceisio datblygu incwm sefydlog drwy werthu llysiau, gan wneud taith ddwy awr i brynu cynnyrch cyfanwerthu chwe diwrnod yr wythnos. Rai dyddiau, nid yw’n gwerthu digon o'r cynnyrch cyfanwerthu ar ei stondin yn y farchnad. Ar y diwrnodau hyn, mae hi'n mynd heb fwyd, er mwyn i'r plant allu bwyta.

Imarisha Kilimo

Yn ddiweddar, mae Fridah wedi manteisio ar gyfle gan brosiect o'r enw 'Imarisha Kilimo' – sef 'cryfhau amaethyddiaeth’ mewn Swahili. Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei redeg gan Beacon of Hope, sef partner Cymorth Cristnogol, yn hyfforddi menywod fel Fridah mewn ffermio trefol.

Mae teuluoedd yn dysgu tyfu llysiau mewn mannau bach, gan ddefnyddio gerddi siâp côn, dull plannu fertigol. Maen nhw’n dysgu casglu dŵr glaw, yn gwneud compost organig, ac yn defnyddio dadhydradwyr er mwyn cadw bwyd yn hirach.

Erbyn hyn, ym mhen pellaf y llwybr concrit, mae Fridah yn trin ei fferm drefol ffrwythlon, sy’n llawn cêl, tomatos a llysiau eraill. Mae ei phlant a'i hŵyr yn bwyta llysiau ffres, ac mae hi'n gwerthu ei chynnyrch yn y farchnad. I Fridah, mae hyn wedi bod yn drawsnewidiol. ‘Rydw i nawr yn gallu cynllunio... Rydw i'n gallu helpu fy nheulu. Mae ffermio trefol wedi newid fy mywyd.’ Dywed Fridah wrthym: 'Mae'n anodd, ond yn Nuw rydw i'n ymddiried – i gael y nerth i ddal ati bob dydd.'

Mae Beacon of Hope yn cynnig cyfle i drigolion Dagoretti hyfforddi fel ffermwyr trefol. Gyda sesiynau sgiliau, hadau, offer a lleiniau sy’n arbed lle i dyfu cynnyrch ger eu cartrefi, mae rhieni fel Fridah yn troi'r llanw ar dlodi trefol. Mae cyfranogwyr yn dysgu sut i reoli plâu, cynhyrchu compost, tyfu hadau, a mynd â'u cynnyrch eu hunain i'r farchnad.

Gweithredu’n ffyddlon

Wythnos Cymorth Cristnogol yw un o'r enghreifftiau mwyaf o dystiolaethu Cristnogol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae'r weithred bwerus hon o dystiolaeth yn ariannu nifer fawr o brosiectau sydd yn cefnogi cymunedau ledled y byd i drawsnewid eu bywydau a'u dyfodol eu hunain.

Meddai Mari Tutesigensi, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, ‘Eleni daw Wythnos Cymorth Cristnogol ond dyddiadau ar ôl Etholiad Senedd Cymru ac mae hefyd yn cyd-fynd ag wythnos o weithredu 'A Million Acts of Hope'. Mae’r Wythnos yn foment arbennig i ni yng Nghymru i rannu gyda’n cymunedau a’n gwleidyddion newydd am y gobaith sydd gennym a’r galwad arnom gyd-sefyll gyda’n cymdogion byd-eang mwyaf bregus, dros gyfiawnder a terfyn ar dlodi. Mae capeli ac ysgolion o gwmpas Cymru yn paratoi at bob math o weithgareddau - o foreau coffi ac arddangosfeydd celf, i'r her 70k ym mis Mai. Fel tîm Cymorth Cristnogol Cymru, rydym am rannu diolch o galon am bob weithgaredd, pob gweddi ffyddlon a phob weithred o obaith.’

Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, mae gan bob un ohonom saith diwrnod i wneud gwahaniaeth. Beth wnewch chi? Caweek.org

  • Gallai £50 brynu'r sychwr solar sy'n troi cynnyrch ffres yn gynnyrch hir oes gwerthfawr.
  • Gallai £120 helpu i ariannu'r ciosg symudol sy'n golygu y gall ffermwr trefol fynd â'i nwyddau i'r farchnad yn hawdd.
  • Gallai £750 dalu i 20 o ddarpar ffermwyr gael yr hyfforddiant a'r adnoddau i sefydlu lleiniau llysiau sy'n rhoi diwedd ar dlodi eu teuluoedd
Cymraeg

Christian Aid Week 2026

‘When I wake up, I have a lot of worries. Sometimes I don't have food, says Fridah Moraa who faces a gruelling daily struggle to feed her family in the face of urban poverty. This Christian Aid Week 2026, we are shining a light on the devastating reality of urban poverty in Kenya.

Fridah lives in a corrugated shelter in the sprawling, yet densely packed informal settlement of Dagoretti, Nairobi, with her 13-year-old twins, Eliud and Abiud, her daughter, and young grandson, Quillan. There’s no running water and only shared toilet facilities.Fridah lost her husband unexpectedly after an accident in February last year and her income now supports the rest of the family.

Dagoretti is a busy, noisy environment with a hectic rhythm that’s dictated by the pace of residents who are forced to precariously live day to day. With secure jobs hard to find, and most people earning less than a dollar a day, buying food to feed your children is a constant struggle. With rent, water, school and medicine to pay for too, some days there just isn’t enough money for a meal. Here, aching hunger compounds relentless stress.

Abiud, Fridah, Quillan and Eliud outside their home in Dagoretti, Nairobi

Day-to-day life for Fridah can be precarious. She wakes every morning worrying about how to feed her family. ‘But I can’t give up,’ Fridah says, ‘my children need to go to school. They need to eat.’

Fridah has been trying to develop a stable income by selling vegetables, making a two-hour round trip to buy wholesale produce six days a week. Some days she doesn't sell enough of the wholesale produce at her market stall. On these days she goes without food, so the children can eat.

Imarisha Kilimo

Recently Fridah has seized the opportunity offered by a project called 'Imarisha Kilimo' – Swahili for ‘Strengthen Agriculture’. Run by Christian Aid’s partner Beacon of Hope, this project trains women like Fridah in urban farming.

Families learn how to grow vegetables in small spaces, using cone gardens, a form of vertical planting. They learn to conserve rainwater, make organic compost, and use dehydrators to preserve food.

Now, tucked at the end of a concrete alley, Fridah tends her lush urban farm, full of kale, tomatoes and other vegetables. Her children and grandson eat fresh vegetables, and she sells her produce at market. For Fridah, this has been transformative. ‘Now I can plan... I can help my family. Urban farming has changed my life.'

Beacon of Hope offers Dagoretti’s residents the opportunity to train as urban farmers. With skills sessions, seeds, tools and space-efficient plots to grow produce near their homes, parents like Fridah are turning the tide on urban poverty. Participants are learning to manage pests, produce compost, cultivate seeds, and take her own produce to market.

Faithful Action

Christian Aid Week is one of the biggest acts of Christian witness across the UK and Ireland. It’s an incredibly powerful moment that brings faith and action together in a powerful moment to help families survive poverty and violence and to support communities to rebuild after crisis.


We want to say a huge thank you for every action, every prayer, and every act of hope

Mari Tutesigensi, Head of Christian Aid Cymru shares, ‘Christian Aid Week comes just days after the Senedd Elections and it also coincides with the A Million Acts of Hope Week of Action. It’s an important moment for us in Wales to share with our communities and new elected representatives about the hope we have and the call to stand together with our most marginalised global neighbours, of all faiths and none, for justice and end to poverty. Churches and schools around Wales are gearing up to fundraise in all kinds of ways – from coffee mornings and craft stalls to hiking and biking for the 70k in May challenge. As a Christian Aid Cymru team, we want to say a huge thank you for every action, every prayer, and every act of hope’.

This Christian Aid Week we have 7 days to make a difference. Let’s make it count. What will you do? Caweek.org

  • £50 could fund the solar dryer that turns fresh produce into valuable long-life products.
  • £120 could help fund the mobile kiosk that means an urban farmer can easily take their goods to market.
  • £750 could pay for 20 aspiring urban farmers to receive the training, tools and support to establish vegetable gardens that end their family’s poverty.