minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ordeiniadau 2026

Bydd dau ymgeisydd yn cael eu hordeinio yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ddydd Sadwrn 27 Mehefin am 11am.

Bydd cyn-Archesgob Cymru, Barry Morgan, yn ordeinio Naomi Wood yn ddiacon i wasanaethu ym Mro Tysilio, tra bydd Karen Morris yn cael ei hordeinio’n offeiriad wrth iddi barhau â’i gweinidogaeth ym Mro Dwylan.

Naomi Wood

Mae ordeinio yn foment arwyddocaol ym mywyd yr Eglwys, gan nodi ymrwymiad cyhoeddus i weinidogaeth ordeiniedig a gwasanaeth.

Bydd teulu, ffrindiau, clerigwyr ac aelodau o’r ardaloedd gweinidogaeth lleol yn ymgynnull yn y Gadeirlan ar gyfer y gwasanaeth, ac mae croeso i bawb ddod i’r achlysur llawen hwn ym mywyd yr Esgobaeth.

Cyn cael eu hordeinio, bydd Naomi a Karen yn cymryd rhan mewn encil cyn-ordeinio dan arweiniad y Parchg Nia Williams yng Nghanolfan Loreto, Llandudno. Bydd yr encil yn cynnig amser ar gyfer gweddi, myfyrio a pharatoad ysbrydol cyn y gwasanaeth.

Dywedodd y Parchg Alex Mayes, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Bangor: “Rydym wrth ein bodd dros Naomi a Karen wrth iddynt baratoi ar gyfer y cam pwysig nesaf hwn yn eu gweinidogaeth. Mae wedi bod yn fraint gweld eu galwedigaeth yn datblygu drwy’r broses ddirnadaeth a ffurfio, ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi wrth iddynt ddechrau’r bennod newydd hon.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r Parchg Nia Williams am arwain yr encil cyn-ordeinio, sy’n cynnig amser gwerthfawr ar gyfer gweddi, myfyrio a pharatoi cyn ordeinio.

“Cadwch Naomi, Karen a phawb sy’n ymwneud â’r achlysur arbennig hwn yn eich gweddïau.” 

Cymraeg

Ordinations 2026

Two candidates will be ordained at St Deiniol's Cathedral in Bangor on Saturday 27 June at 11am.

Former Archbishop of Wales Barry Morgan will ordain Naomi Wood to the diaconate to serve in Bro Tysilio, while Karen Morris will be ordained to the priesthood as she continues her ministry in Bro Dwylan.

Karen Morris

Ordinations are a significant moment in the life of the Church, marking a public commitment to ordained ministry and service.

Family, friends, clergy and members of local ministry areas will gather at the Cathedral for the service, and all are welcome to attend this joyful occasion in the life of the Diocese.

Ahead of the ordinations, Naomi and Karen will take part in a pre-ordination retreat led by Revd Nia Williams at the Loreto Centre. Llandudno. The retreat will offer time for prayer, reflection and spiritual preparation before the service.

RevdAlex Mayes, Director of Ministry for the Diocese of Bangor, says, “We are delighted for Naomi and Karen as they prepare for this important next step in their ministry. It has been a joy to see their vocation develop through the discernment and formation process, and we look forward to supporting them as they begin this new chapter.

“We are also grateful to Revd Nia Williams for leading the pre-ordination retreat, which offers valuable time for prayer, reflection and preparation ahead of ordination.

“Please keep Naomi, Karen and all involved in your prayers as we prepare for this special occasion.”