Sant Ffransis 800
Penwythnos o ddigwyddiadauSt Francis 800
Weekend of events03/10/2026, midnight - 04/10/2026, midnight
Bydd penwythnos o ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru yn nodi 800 mlynedd ers marwolaeth Sant Ffransis o Assisi ar 3–4 Hydref 2026.
Bydd y rhaglen yn dechrau ddydd Sadwrn 3 Hydref gyda Diwrnod Tawel dan arweiniad y Brawd John SSF, gan orffen gyda gwasanaeth Transitus arbennig yng Nghadeirlan Bangor am 5pm. Mae’r Transitus yn wasanaeth Ffransisaidd traddodiadol sy’n dwyn i gof oriau olaf Sant Ffransis ac yn nodi ei ymadawiad i fywyd tragwyddol drwy’r Ysgrythur, gweddi ac adrodd straeon.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys perfformiadau cyntaf dau waith corawl newydd gan y cyfansoddwyr o Ynys Môn, Gareth Glyn (Mab a’n Rhodded) ac Ellen Davies (Nunc Dimittis), wedi’u perfformio gan Gôr Kana gyda’r sielydd Dr Anastasia Zaponidou.
Mae croeso i bawb i’r gwasanaeth, a bydd yn gyfle i ddysgu rhagor am Sant Ffransis, profi’r traddodiad Ffransisaidd arbennig hwn a mwynhau cerddoriaeth newydd sydd wedi’i hysbrydoli gan ffydd a bro. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Cadeirlan Bangor.
Ddydd Sul 4 Hydref, bydd y digwyddiadau’n parhau ar Ynys Môn gyda phererindod ac addoliad ar thema Sant Ffransis. Bydd taith gerdded dywysedig o Lan-faes i Eglwys Biwmares rhwng 9.30am ac 11am, dan arweiniad y Parchg Huw Butler a Wendy Davies TSSF, yn archwilio cysylltiadau hanesyddol a chyfoes yr ardal â Sant Ffransis. Bydd hyn yn cynnwys safle’r cwfaint Ffransisaidd canoloesol yn Llan-faes a’r hanes y tu ôl i’r emyn Mab a’n Rhodded.
Bydd y penwythnos yn dod i ben gydag Ewcharist ar thema Sant Ffransis yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares, am 11am.
A weekend of events in North West Wales will mark the 800th anniversary of the death of St Francis of Assisi on 3–4 October 2026.
The programme begins on Saturday 3 October with a Quiet Day led by Br John SSF, culminating in a special Transitus service at Bangor Cathedral at 5pm. The Transitus is a traditional Franciscan service that recalls St Francis's final hours and marks his passing into eternal life through scripture, prayer and storytelling.
The service will include the première performances of two new choral works by Anglesey composers Gareth Glyn (Mab a'n Rhodded) and Ellen Davies (Nunc Dimittis), performed by Kana Choir with cellist Dr Anastasia Zaponidou.
The service is open to all and will provide an opportunity to learn more about St Francis, experience this distinctive Franciscan tradition and enjoy new music inspired by faith and place. The service will be livestreamed via the Bangor Cathedral YouTube channel.
On Sunday 4 October, events continue on Anglesey with a Franciscan-themed pilgrimage and worship. A guided walk from Llanfaes to Beaumaris Church (9.30–11am), led by Revd Huw Butler and Wendy Davies TSSF, will explore the area's historic and contemporary connections with St Francis, including the site of the medieval Franciscan friary at Llanfaes and the story behind the hymn Mab a'n Rhodded.
The weekend concludes with a Francis-themed Eucharist at St Mary's and St Nicholas Church, Beaumaris, at 11am.
Places can be booked through Eventbrite.