Datganiad Bugeiliol Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru
Yn y dyddiau hyn, ac yn ystod tymor sanctaidd y Grawys, deuwn yn agos at y Bugail Da, a roes ei fywyd dros ei ddefaid. Gweddïwn dros bawb sy'n bryderus, pawb sy'n sâl, a phawb sy'n galaru, yn hyderus y bydd presenoldeb y Crist atgyfodedig yn agos atom ni’n feunyddiol, lle bynnag y byddwn, trwy'r misoedd anodd sydd o'n blaenau.
Yn y dyddiau hyn, ac yn ystod tymor sanctaidd y Grawys, deuwn yn agos at y Bugail Da, a roes ei fywyd dros ei ddefaid. Gweddïwn dros bawb sy'n bryderus, pawb sy'n sâl, a phawb sy'n galaru, yn hyderus y bydd presenoldeb y Crist atgyfodedig yn agos atom ni’n feunyddiol, lle bynnag y byddwn, trwy'r misoedd anodd sydd o'n blaenau.
Rydym yn cyhoeddi'r datganiad bugeiliol hwn yng ngoleuni cyngor newydd y llywodraeth ar Coronafeirws (COVID-19). Nos Lun 16 Mawrth 2020, dywedodd y Prif Weinidog y dylai pob cyswllt cymdeithasol nad yw'n hanfodol a theithio diangen ddod i ben. Yn ystod cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y canllawiau sy'n ymwneud â chyswllt cymdeithasol nad yw'n hanfodol yn cynnwys grwpiau ffydd a chynulliadau crefyddol.
Addoliad Cyhoeddus a Chynulliadau
Ni ddylai unrhyw wasanaethau eglwysig na chynulliadau addoli cyhoeddus ddigwydd mwyach. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau dydd Sul rheolaidd a gwasanaethau yn ystod yr wythnos, yn ogystal â gwasanaethau achlysurol (ac eithrio fel y nodir isod). Ni ddylid cynnal grwpiau astudio na digwyddiadau plwyfol eraill sy'n dod â phobl ynghyd mwyach. Rydym yn disgwyl gwybodaeth bellach gan y llywodraeth, a fydd yn ein helpu ni oll i fesur a myfyrio ar ddifrifoldeb ac ystod tebygol yr ymatal hwn. Fodd bynnag, o ystyried y wybodaeth sydd ar gael inni ar hyn o bryd, ymatal rhag addoli ar y cyd a chynulliadau eraill yw'r ffordd ddoeth o weithredu.
Bydd arweiniad pellach ar Gyfarfodydd Festri yn dilyn cyn gynted â phosibl, ond ni ddylent cael eu cynnal am y tro.
Bedydd
Bedydd yw arwydd gobeithiol yr Eglwys o sêl genedigaeth newydd yng Nghrist. Mae'n hanfodol bod bedydd yn parhau i gael ei gynnig i bawb. O ystyried y canllawiau ar ymatal rhag addoli ar y cyd, ni fydd bedyddiadau bellach yn cael eu cynnal yng nghyd-destun addoli rheolaidd. Dylai bedyddiadau cael eu cynnal ym mhresenoldeb dim mwy na deg o bobl (y gweinidog, yr ymgeisydd a hyd at wyth arall gan gynnwys rhieni / gwarcheidwaid a rhieni bedydd).
Ar gyfer bedydd babanod mae'n well bod yr ymgeisydd yn cael ei ddal gan ei riant / gwarcheidwad yn hytrach na'r gweinidog. Os oes un ar gael, dylid defnyddio cragen fedydd i arllwys dŵr. Ni ddylid defnyddio bedydd trochiad.
Priodasau
Oni bai bod y llywodraeth yn newid y gyfraith, erys hawl cyfraith gwlad plwyfolion a'r rhai sydd â chysylltiad cymwys i briodi mewn eglwys blwyf. Fodd bynnag, mae rhyddid, yn gyfreithiol, i’r gweinidog benderfynu ar y dyddiad, yr amser a threfniadau eraill. Dylid gohirio priodasau a drefnwyd tan 31 Gorffennaf 2020 ac ad-dalu unrhyw ffioedd a dalwyd eisoes. Dylai cyplau sydd â dyddiad priodas diweddarach fod yn rhydd i ganslo / aildrefnu heb gosb ariannol.
Os oes rhaid cynnal priodas am resymau bugeiliol dybryd, dylid ei gweinyddu gydag uchafswm o ddeg person yn bresennol (y cwpl, y gweinidog, dau dyst a hyd at bump arall).
Yn absenoldeb prif wasanaeth ar y Sul, ni ellir galw gostegion priodas. Byddai angen i unrhyw briodasau y mae'n rhaid iddynt cael eu cynnal (ac nad yw gostegion wedi'u cwblhau eisoes) ddigwydd trwy Drwydded Gyffredin.
Efallai y bydd rhai cyplau angen llythyr gan y plwyf (er enghraifft y rhai ag yswiriant priodas) yn eu hysbysu na all eu priodas ‘fel y’i threfnwyd’ ddigwydd ar yr adeg hon.
Angladdau
Mae ein canllawiau sy'n ymwneud ag ymatal rhag addoli ar y cyd yn berthnasol i angladdau yn yr eglwys.
Gall clerigion barhau i gymryd gwasanaeth angladd ar lan y bedd (yn unol â'u dyletswydd cyfraith gwlad i gladdu meirw eu plwyf) a mewn amlosgfeydd (gan gadw at ganllawiau awdurdod yr amlosgfa).
Unwaith y bydd y sefyllfa ehangach yn ei gwneud hi'n ddiogel i wneud hynny, dylid cynnig cyfleoedd i'r rhai sy’n galaru gofio eu hanwyliaid yn yr eglwys yn y dyfodol.
Conffyrmasiwn
Rydym yn gohirio'r holl wasanaethau conffyrmasiwn sydd wedi'u hamserlennu rhwng nawr a 1 Mehefin 2020 ledled y dalaith. Bydd dyddiadau ar ôl hynny yn parhau i gael eu hadolygu a darperir diweddariadau maes o law.
Ordeinio
O ystyried nad oes unrhyw wasanaethau Ordeinio cyhoeddus yn y Dalaith wedi'u trefnu tan fis Mehefin, byddwn yn ystyried y sefyllfa ar wasanaethau o'r fath maes o law. Cadwch bob ymgeisydd am weinidogaeth ordeiniedig yn eich gweddïau ar yr adeg hon.
Gweddi
Rydym yn glir bod dyletswydd yr Eglwys i lefaru yn enw Duw, a dehongli efengyl iachawdwriaeth yn parhau bob amser ac ym mhob man. Mae’n rheidrwydd i weddïo’n di-baid yn hollbwysig ar yr adeg hon, ac rydym wedi cael ein calonogi dros yr wythnosau diweddar gan y ffyrdd y mae cymunedau eglwysig wedi bod yn galluogi eu haelodau i gynnal bywyd o weddi a defosiwn pan fo ymgynnull i addoli wedi bod yn anodd neu'n amhosibl. Dylai'r ymdrechion hyn barhau a dwysáu. Gellir cadw adeiladau ein heglwysi ar agor fel lleoedd gweddi a myfyrio – ond dylai hysbysiadau fod yno ynglŷn â golchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol.
Ein Cymunedau
Mae gennym, glerigion a phobl yr Eglwys yng Nghymru, ofal arbennig dros bawb yn ein cymunedau, ac yn enwedig y tlawd, yr alltud a'r anghenus. Ar yr adeg hon, rydym yn gwybod y bydd awydd ysol i lafurio yng ngwasanaeth Duw ac i ddod ochr yn ochr â'r rhai yn ein cymunedau a fydd yn bryderus, mewn poen ac mewn angen. Bydd i’r weinidogaeth hon sawl ffurf, gan gynnwys cadw mewn cysylltiad dros y ffôn, trwy'r post ac ar-lein gyda'r rhai sy'n gorfod aros gartref; helpu'r rhai sydd fwyaf bregus wrth ddanfon bwyd, meddyginiaethau a gwasanaethau a chyflenwadau hanfodol; a'n helpu ni i gyd i ofalu am ein hiechyd a'n lles corfforol a meddyliol.
Lle mae banciau bwyd yn cael eu cynnal gan ein heglwysi, dylid cymryd rhagofalon hylendid ychwanegol a dylid hefyd ystyried dulliau eraill o ddarparu cefnogaeth. Dylai eglwysi sy'n darparu llety i'r digartref gyfeirio at gyngor penodol y llywodraeth, a ddiweddarwyd yn ddiweddar.
Anogir plwyfi i adolygu holl gytundebau llogi allanol adeiladau eglwysig a chysylltu â'r holl hurwyr ynghylch pa weithgareddau, os o gwbl, a all barhau'n ddiogel.
Y Rhai sy'n Gweinidogaethu
Fel pen weinidogion, mae gennym gyfrifoldeb nid yn unig tuag at les clerigion a’r rhai sy’n gweinidogaethu yn enw’r Eglwys, ond hefyd tuag at eu teuluoedd. Am y rheswm hwn, ni ddylid cynnal cyfarfodydd plwyfol mewn persondai. Yn ychwanegol at y gweithdrefnau hysbysu arferol ar gyfer absenoldeb salwch, dylai clerigion hysbysu eu Harchddiacon os yw'n ofynnol iddynt aros gartref yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Cyngor Pellach
Bydd cyngor a chymorth pellach i glerigion, gweinidogion a wardeiniaid yn cael eu darparu ar wefan y dalaith ac yn cael eu diweddaru mor aml ag sy'n ofynnol, p'un ai oherwydd datblygiadau ehangach, gweithredu ffurfiol gan y llywodraeth, neu ymholiadau a dderbyniwyd.
O Dduw,
gwyddost i ni gael ein gosod
mewn cynifer o beryglon, fel na allwn,
oherwydd gwendid ein natur,
sefyll bob amser yn uniawn:
caniatâ i ni y fath nerth a nodded
ag a’n cynorthwya ym mhob rhyw berygl
a’n cynnal trwy bob profedigaeth;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Amen.
Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru
17 Mawrth 2020
Pastoral Declaration of the Bench of Bishops of the Church in Wales
At such a time as this, and during this holy season of Lent, we are mindful of the Good Shepherd, who laid down his life for his sheep. We are holding all who are anxious, all who are unwell, and all who are grieving in our prayers, asking that the presence of the risen Christ may be near to us, wherever we may be, throughout the difficult months ahead.
We are issuing this pastoral declaration in light of new governmental advice on Coronavirus (COVID-19). On the evening of Monday 16 March 2020 the Prime Minister advised that all non-essential social contact and all unnecessary travel should cease. During questions in the House of Commons the Secretary of State for Health and Social Care confirmed that the guidance relating to non-essential social contact includes faith groups and religious gatherings.
Public Worship and Gatherings
All church services and gatherings for public worship should no longer take place. This includes regular Sunday services and weekday services, as well as occasional offices (save as set out below). Study groups and other parochial events that gather people together should also no longer take place. We are awaiting further information from the government, which will help us all to measure and reflect upon the gravity and potential duration of this cessation. However, given the information we have available to us at present, the ceasing of public worship and gathering is the prudent course of action.
Detailed guidance on Vestry Meetings will follow as soon as possible, but they should not take place for the time being.
Baptism
Baptism is the Church’s hope-filled sign and seal of new birth in Christ. It is vital that baptism continues to be offered to all. Given the guidance on cancellation of public worship, baptisms will no longer take place in the context of regular worship. Baptisms should take place in the presence of no more than ten people (the minister, the candidate and up to eight others including parents/guardians and godparents).
For infant baptism it is preferable that the candidate be held by their parent/guardian rather than the minister. Where available a baptismal shell should be used to pour water. Full immersion baptism should not be used.
Weddings
Unless the government changes the law, the common law right of parishioners and those with a qualifying connection to be married in a parish church remains. However, the date, time and other arrangements are, legally speaking, for the minister to determine. Weddings scheduled until 31 July 2020 should be postponed and any fees already paid refunded. Couples with a later wedding date should be free to cancel/rearrange without financial penalty.
If for pressing pastoral reasons a wedding must take place, it should be solemnized with a maximum of ten persons present (the couple, the minister, two witnesses and up to five others).
In the absence of a principal Sunday service, banns of marriage cannot be called. Any weddings which must go ahead (and for which Banns have not already been completed) would need to proceed by Common Licence.
Some couples (for example those with wedding insurance) may need a letter from the parish informing them that their wedding ‘as arranged’ cannot proceed at this time.
Funerals
Our guidance relating to the ceasing of public worship applies to funerals in church.
Clergy may continue to take a funeral service at the graveside (in accordance with their common law duty to bury the dead of their Parish) and at crematoria (adhering to such guidance as the crematorium authority may give).
Once the wider situation makes it safe so to do, the bereaved should be offered opportunities for remembering their loved ones in church at a future date.
Confirmation
We are postponing all confirmation services scheduled between now and 1 June 2020 across the province. Dates subsequent to that will remain under review and updates will be provided periodically.
Ordination
Given that there are no public services of Ordination in the Province scheduled until June, we will consider the position on such services in due course. Please keep all candidates for ordained ministry in your prayers at this time.
Prayer
We are clear that the duty of the Church to speak in the name of God, and to interpret the gospel of salvation continues at all times and in all places. Our obligation to pray without ceasing is paramount at this time, and we have been encouraged by the ways over recent weeks in which church communities have been enabling their members to sustain a life of prayer and devotion when gathering for worship has been difficult or impossible. These efforts should continue and intensify. Our church buildings can be kept open as places of prayer and contemplation – but notices should be in place about the washing of hands and the maintaining of social distance.
Our Communities
As the clergy and people of the Church in Wales, we have special care for all people in our communities, and especially the poor, the outcast and the needy. At this time, we know that there will be a burning desire to labour in God’s service and to be alongside those in our communities who will be anxious, in pain and in need. This ministry will take many forms, including staying in touch by phone, by post and online with those who are having to stay at home; helping the most vulnerable with the delivery of food, medicines and essential services and supplies; and helping us all to look after our physical and mental health and wellbeing.
Where foodbanks are hosted by our churches, extra hygiene precautions should be taken and consideration should be also be given to other means of providing support. Churches providing shelter for the homeless should refer to specific government advice, recently updated.
Parishes are encouraged to review all external hiring agreements of church premises and liaise with all hirers as to what, if any, activities can safely continue.
Those who Minister
As chief pastors, we have a responsibility not only towards the wellbeing of clergy and those who minister in the Church’s name, but also towards their families. For this reason, parochial meetings in parsonages should not take place. In addition to the usual notification procedures for sick leave, clergy should inform their Archdeacon if they are required to stay at home in accordance with the latest government guidance.
Further Advice
Further advice and assistance for clergy, ministers and wardens will be provided on the provincial website and will be updated as frequently as required, whether due to wider developments, formal government action, or queries received.
O God,
you know us to be set
in the midst of so many and great dangers,
that by reason of the frailty of our nature
we cannot always stand upright:
grant to us such strength and protection
as may support us in all dangers
and carry us through all temptations;
through Jesus Christ your Son our Lord,
who is alive and reigns with you
and the Holy Spirit,
one God, now and for ever.
Amen.
The Bench of Bishops of the Church in Wales
17 March 2020