Arweinydd Ardal Weinidgoaeth newydd ym Mro Eleth
Mae'n bleser gan Archesgob Cymru ac Esgob Cynorthwyol Bangor cyhoeddi penodiad y Parchg Jenny Clarke yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eleth, sy'n gwasanaethu'r cymunedau o amgylch Amlwch a Llanerchymedd ar Ynys Môn.
Meddai Esgob Mary am yr apwyntiad,
Mae’n bleser mawr i groesawu Jenny i’n hesgobaeth. Daw Jenny â chyfoeth o brofiad i ni o’i chefndir ym myd addysg a’i gweinidogaeth ddiweddar yng Ngogledd Halifax. Edrychwn ymlaen at fynd gyda hi ar gamau cyffrous nesaf ei gweinidogaeth a chroesawn bopeth a ddaw i’n teulu esgobaethol.
Meddai Jenny, wrth edrych ymlaen at ddechrau,
Fe’m hordeiniwyd yn Esgobaeth Leeds yn Eglwys Loegr yn 2018. Yn ferch o Swydd Efrog sydd wedi parhau am oes, rwyf hefyd yn caru Gogledd Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at symud i Gymru gan ei fod yn lle sy’n agos iawn at fy nghalon. Rwy'n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored boed ar lan y môr, mynyddoedd neu lynnoedd.
Rwy’n gyffrous ynghylch dod i adnabod pobl Ardal Weinidogaeth Bro Eleth, a gweithio ochr yn ochr â nhw, yn ogystal â dod i adnabod cydweithwyr ar draws Esgobaeth Bangor. Dysgwr Cymraeg ydw i, ac edrychaf ymlaen at ddod yn fwy hyfedr.
Meddai Archddiacon Andy,
Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Jenny i Fro Eleth. Mae hi eisoes yn gwneud cynnydd wrth ddysgu Cymraeg, ac yn dod â brwdfrydedd a ffresni mawr wrth iddi symud o fod yn gurad i fod yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth heriol. Nid yn unig y bydd Jenny yn arweinydd gwych i Fro Eleth, ond bydd yn gaffaeliad mawr i dîm gweinidogaeth y Synod ar draws Ynys Môn.
Bydd Jenny yn dechrau ei gweinidogaeth newydd ym Mro Eleth ar ddiwedd mis Mai, a bydd yn cael ei thrwyddedu yn Eglwys Sant Eleth, Amlwch am 7pm 31 Mai 2022.. Gweddïwch dros Jenny a phobl Bro Eleth wrth iddynt ddechrau pennod newydd yn eu bywydau.
A new Ministry Area Leader for Bro Eleth
The Archbishop of Wales and the Assistant Bishop of Bangor are pleased to announce the appointment of the Revd Jenny Clarke as Vicar and Ministry Area Leader of the Bro Eleth Ministry Area, which serves the communities around Amlwch and Llanerchymedd on Anglesey.
Speaking of the appointment Bishop Mary says,
I am delighted to be welcoming Jenny to our diocese. Jenny brings a wealth of experience to us from her background in education and her recent ministry in North Halifax. We look forward to accompanying her on the next exciting stages of her ministry and welcome all that she will bring to our diocesan family.
Looking forward to her new role, Jenny says,
I was ordained in the Diocese of Leeds in the Church of England in 2018. A life-long Yorkshire lass, I also love North Wales. I am looking forward to moving to Wales as it is a place very close to my heart. I enjoy spending time out of doors whether by the sea, mountains or lakes.
I am excited about getting to know the people of Bro Eleth Ministry Area, and working alongside them, as well as getting to know colleagues across the Diocese of Bangor. I am a Welsh learner, and I look forward to becoming more proficient.
Archdeacon Andy says,
I’m really looking forward to welcoming Jenny to Bro Eleth. She is already making progress in learning Welsh, and comes with great enthusiasm and freshness as she moves from being a curate to the demanding role of Ministry Area Leader. Not only will Jenny be a great leader for Bro Eleth, but she will be a great asset to the Synod ministry team across Anglesey.
Jenny will start her new ministry among the people of Bro Eleth at the end of May, and will be licensed at St Eleth’s Church, Amlwch at 7pm 31 May 2022. Please pray for Jenny and the people of Bro Eleth as they enter a new chapter in their lives.