minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Teyrngedau i'w Mawrhydi Y Frenhines Elisabeth II

Y foment fwyaf sanctaidd wrth goroni brenin neu frenhines yw wrth eneinio.

Mae'n foment mor sanctaidd fel mai dim ond yr ychydig dethol sy'n cael bod yn dyst iddi. Mewn Abaty, nid mewn adeilad y llywodraeth, ar ôl cael gwared â phob symbol sy'n dathlu statws, mae'r brenin neu'r frenhines yn gwisgo 'gwisg amdo' i sefyll yn noeth gerbron Duw. Yna, mae'r Archesgob, nid gweinidog na gwas sifil, yn adrodd y geiriau hyn,

Bydded i'th ben gael ei eneinio gydag olew sanctaidd; fel yr oedd brenhinoedd, offeiriadon a proffwydi'n cael eu heneinio. A fel y cafodd Solomon ei eneinio gan Sadoc, yr offeiriad a Nathan y proffwyd, felly byddet i ti gael dy eneinio, dy fendithio a'th gysegru'n Frenhines dros y Pobloedd, y mae yr Arglwydd dy Dduw wedi eu rhoi i ti i'w rheoli a'u llywodraethu.

Yn ogystal â'r teitl 'Amddiffynnydd y Ffydd a Goruchaf Lywodraethwr Eglwys Loegr', a ddaeth gyda'r frenhiniaeth, mae'r Frenhines Elisabeth II wedi arddangos a byw ei ffydd bersonol ei hunan yn Nuw.

Yn ei darllediad cyntaf Nadolig 1952, gofynnodd y Frenhines i'r genedl weddïo drosti.

Gweddïwch drosof i... y bydd Duw'n rhoi i mi ddoethineb a chryfder i weithredu'r addewidion dwys y byddaf yn eu cymryd fel y bydded i mi ei wasanaethu ef a chithau'n ffyddlon, holl ddyddiau fy mywyd.

Gydol ei hoes, mae'r Frenhines wedi sôn am faddeuant a chymod Crist, am heddwch, gwasanaeth a chariad. Roedd dameg y samariad trugarog yn cael ei chrybwyll mewn pedair o'i darllediadau Nadolig gyda'r neges glir y dylen ninnau wneud yr un fath. Siaradodd y Frenhines am ganfod cysur yn esiampl Iesu a gwahodd eraill i ymateb yn ymarferol i neges Crist o gariad trwy ddyfynnu pennill olaf o 'Ganol Gaeaf Noethlwm'. Beth a roddaf iddo? Fy mywyd oll.

Mae eneinio brenin neu frenhines yn foment pan mae'r Dwyfol yn eu cyffwrdd ac yn eu gosod o'r neilltu i wasanaethu Duw. Cafodd y Frenhines Elisabeth II ei heneinio fel hyn ar 2 Mehefin 1953 pan dyngodd lw ddwys i roi ei bywyd i'r genedl. Mae'n llw y cadwodd ati'n ffyddlon gyda gras, gobaith a chariad.

Meddai'r Esgob Mary, Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor,

Mae pawb sy'n cael eu bedyddio yn cael cipolwg bychan ar beth yw cael eich eneinio'n was i Dduw. Mae cymaint yn cael eu hysbrydoli a'u hannog gan dystiolaeth Gristnogol bywyd y Frenhines Elisabeth, ei hymroddiad i eraill a'i bod mor agored ynghylch ei ffydd. Rydym yn diolch i Dduw amdani heddiw, rydym yn gweddïo dros ei theulu ac yn gofyn i Dduw ein helpu ni i gyd i dyfu mewn ffyddlondeb, sancteiddrwydd a gwasanaeth ar batrwm Crist.

O Fythol Dduw, Creawdwr a Cheidwad yr holl gredinwyr: caniatâ i’w Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elisabeth II a'r holl ffyddloniaid ymadawedig ddoniau anchwiliadwy Dioddefaint dy Fab; fel, yn nydd ei ymddangosiad ef, yr amlygir hwynt yn blant i ti; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

Tributes to Her Majesty Queen Elizabeth II

The most holy moment of any monarch’s coronation is their anointing.

It is a moment so sacred that only a select few are permitted to witness it. In an Abbey, not a government building, stripped of all celebrated symbols of status, the monarch is dressed in a ‘shroud tunic’ to stand bare before God. The Archbishop, not a minister or civil servant, then uses these words,

Be thy head anointed with holy oil: as kings, priests, and prophets were anointed. And as Solomon was anointed king by Zadok the priest and Nathan the prophet, so be you anointed, blessed and consecrated Queen over the Peoples, whom the Lord thy God hath given thee to rule and govern.

In addition to the title of ‘Defender of the Faith and Supreme Governor of the Church of England’ which came with monarchy, Queen Elizabeth II displayed and lived out her own personal faith in God.

In her first Christmas broadcast in 1952, the Queen requested that the nation pray for her.

Pray for me… that God may give me wisdom and strength to carry out the solemn promises I shall be making, and that I may faithfully serve Him and you, all the days of my life.

Throughout her life, the Queen spoke of Christ’s forgiveness and reconciliation, of peace, servanthood and love. The parable of the good samaritan was referred to in four of her Christmas broadcasts with the clear message that we should go and do likewise. The Queen spoke of finding comfort in the example of Jesus and invited others to a practical response to Christ’s message of love by quoting the final verse of ‘In the bleak midwinter’. What can I give him? Give my heart.

The anointing of a monarch is a moment when they are set apart for God’s service. Queen Elizabeth II was anointed in this way on 2 June 1953 when she made a solemn promise to give her life to the nation. It is an oath she kept faithfully with grace, hope and love.

Bishop Mary, Assistant Bishop of the Diocese of Bangor says,

All who are baptised have a tiny glimpse of what it is to be anointed as God’s servants. So many feel inspired and encouraged by the Christian witness of Queen Elizabeth’s life, her dedication to others and her openness about her faith. We thank God for her today, we pray for her family and ask God to help us all grow in faithfulness, holiness and in Christ-like service.

O God, the Maker and Redeemer of all believers: grant to Her Late Majesty Queen Elizabeth II and all the faithful departed the unsearchable benefits of your Son’s Passion; that in the day of his appearing they may be manifested as your children; through Jesus Christ our Saviour. Amen.

Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II yn ymweld â Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor tua 1970 | Her Majesty the Queen visiting Saint Deiniol's Cathedral circa 1970