Helpwch i achub bywyd y Defibruary hwn
Bob mis Chwefror mae Esgobaeth Bangor yn cefnogi Defibruary. Bwriad yr ymgyrch fisol flynyddol yw addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd dadebru cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibrilio gan wylwyr.
Yma, mae'r Canon David Morris, Cyfarwyddwr Gweinidogaeth, yn dweud wrthym sut y gall eich eglwys gymryd rhan.
Bob blwyddyn yng Nghymru mae chewech mil o bobl yn cael trawiad ar y galon a bydd tua 80% o'r rheiny'n digwydd yn y cartref.
Mae'r eiliadau ar ôl trawiad ar y galon yn hanfodol os ydym am gynyddu'r siawns o wella. Gall wybod sut i wneud CPR, a sut i leoli a defnyddio diffibriliwr helpu i achub bywydau.
Mae'r ymgyrch Defibruary yn ystod mis Chwefror yn ein hatgoffa o'r ystadegau a'r ffyrdd y gallem weithio gyda'n gilydd i leihau nifer y marwolaethau.
Hoffwn annog cymunedau eglwysig i gynnal hyfforddiant achub bywyd i'w haelodau ac o bosib i roi cartref i ddiffibrilwyr cyhoeddus ar gyfer eu cymunedau lleol.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi partneru gydag Achub Bywyd Cymru sydd â chydlynwyr cymunedol ar gael ledled Cymru i gynghori eglwysi ar y cyllid sydd ar gael i ddod o hyd i ddiffibrilwyr ac hyfforddiant. Ewch i wefan Achub Bywyd Cymru i ddysgu mwy.
Ein cyswllt esgobaethol yn Achub Bywyd Cymru yw Christopher West ac mae croeso i chi anfon e-bost ato i ddarganfod mwy.
Help save a life this Defibruary
Each February the Diocese of Bangor supports Defibruary. The annual month-long campaign is designed to educate the public about the importance of bystander cardiopulmonary resuscitation (CPR) and defibrillation.
Here, Canon David Morris, Director of Ministry, tells us how your church can get involved.
Every year in Wales 6,000 people experience cardiac arrest and around 80% of those will happen in the home.
The moments following a cardiac arrest are critical if we are to increase the chances of survival. Knowing how to do CPR, and how to locate and use a defibrillator can help save lives.
The Defibruary campaign during February serves to remind us of these concerning statistics and the ways in which we might work together to reduce the number of fatalities.
I’d like to encourage church communities to seek life-saving training for their members and to potentially source and house public access defibrillators for their local communities.
The Church in Wales has partnered with Save a Life Cymru who have community coordinators available across Wales to advise churches on funding available to source defibrillators and training possibilities. Visit the Save a Life Cymru to learn more.
Our diocesan contact at Save a Life Cymru is Christopher West and you are welcome to email him to find out more.