minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ficer newydd i Gaergybi

Mae pennod newydd a chyffrous yn dechrau i eglwysi Caergybi, wrth i Esgobaeth Bangor benodi’r Parchedig Kathryn Evans fel Arweinydd newydd yr Ardal Weinidogaeth.

Mae penodi Kathryn i Ardal Weinidogaeth Bro Cybi yn gam sylweddol yn natblygiad yr ardal weinidogaeth, lle y bydd hi’n ymuno â’r Tîm Gweinidogaeth presennol, sef y Parchedig Neil Ridings a’r Parchedig George Bearwood, yr offeiriad â thatŵs, a gafodd ei apwyntio’n ddiweddar, sy’n dod â "roc a Duw i Gaergybi."

Wrth siarad am ei phenodiad newydd, mynegodd Kathryn frwdfrydedd am y cyfleoedd unigryw sydd o’i blaen, "Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â Bro Cybi ar adeg mor gyffrous. Mae Caergybi yn denu miloedd o dwristiaid bob blwyddyn. Rwy’n methu aros i archwilio gyda’n gilydd sut yr ydyn ni’n manteisio ar yr hanes a’r dreftadaeth wych gan ddod â chariad Duw at ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.

Fel Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth, bydd Kathryn yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Eglwys Cybi Sant ac Eglwys-y-Bedd, y ddwy yn cael eu hailddatblygu’n helaeth ar hyn o bryd. Ym mis Ionawr 2023, sicrhaodd Cyngor Sir Ynys Môn grant gwerth £22.5 miliwn y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Bydd y buddsoddiad hwn yn adfywio safleoedd diwylliannol a threftadaeth allweddol yng nghanol tref Caergybi, gan gynnwys Eglwys Cybi Sant ac Eglwys-y-Bedd. Mae Esgobaeth Bangor yn un o’r partneriaid cyflawni.

Y Parchg Kathryn Evans

Ychwanegodd Kathryn, "Rwy’n llawn cyffro i weld sut y gallwn ni archwilio ffyrdd newydd o gyrraedd pobl drwy’r eglwysi hyn wrth iddyn nhw gael eu haildrefnu i ddiwallu anghenion y gymuned leol. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod addoli’n parhau a bod ein heglwysi’n dod yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau cymunedol am flynyddoedd i ddod."

Wrth groesawu Kathryn i Gaergybi, dywedodd Archddiacon Môn, John Harvey, "Rwy’n falch iawn o gyhoeddi mai Kathryn yw aelod diweddaraf ein hesgobaeth. Bydd ei harweinyddiaeth yn amhrisiadwy wrth i’n heglwysi ni yng Nghaergybi ddechrau pennod newydd gyffrous o dwf ac ymgysylltu â’r gymuned. Rydyn ni’n gofyn am eich gweddïau i gefnogi Kathryn a’i gŵr Bob yn ystod y cyfnod pontio hwn."

Bydd Kathryn yn adleoli i’r ardal gyda’i gŵr Bob yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y dyddiad trwyddedu swyddogol yn cael ei gyhoeddi maes o law.


Ynglŷn â Kathryn

Cafodd Kathryn ei magu mewn teulu Cristnogol, yr hynaf o dair merch, gan dderbyn rolau arwain yn naturiol o oedran ifanc. Ar ôl gyrfa hir fel nyrs, cafodd ei galw yn annisgwyl i gael ei hordeinio, er iddi ddweud wrth ei Ficer yn flaenorol na fyddai hi "fyth bythoedd" yn ei ystyried, gan ei bod yn fodlon fel warden eglwys a gweinidog Gofal Bugeiliol wedi’i chomisiynu. Cafodd ei hordeinio’n ddiacon yn Esgobaeth Birmingham yn 2014, a gwasanaethodd ei churadiaeth yn Eglwys Sant Paul, Blackheath.

Swydd gyntaf Kathryn oedd ficer tair eglwys yn yr Ardal Ddu (Black Country), gan weithio ar draws gwahanol draddodiadau. Yn 2020, symudodd i Gymru i wasanaethu pedair eglwys arfordirol a gwledig yn Ardal Genhadaeth Aber a Mynydd Esgobaeth Llanelwy. Mae hi’n mwynhau bod yn rhan o gymunedau addoli sy’n canolbwyntio ar gysylltu ag eraill gyda chariad Duw, gan gredu y gall gweithredoedd cyffredin arwain at ganlyniadau dwyfol anghyffredin.

Mae Kathryn yn briod â Bob ac mae ganddi ddau fab sy’n oedolion a hefyd dau ŵyr ifanc. Mae ei gŵr yn gyfarwydd ag Ynys Môn drwy ei waith gwirfoddol gyda Chwilio ac Achub Môn. Gyda’i gilydd maen nhw’n mwynhau cerdded, gwylio adar, a chael profiadau ym myd natur. Mae hobïau Kathryn yn cynnwys gwau, crosio, a gwneud cardiau.

Cymraeg

New vicar for Holyhead

An exciting chapter is beginning for Holyhead churches, as the Diocese of Bangor appoints Revd Kathryn Evans as the new Ministry Area Leader.

Kathryn’s appointment to Bro Cybi Ministry Area marks a significant step in the ministry area's development, where she will join the existing Ministry Team Revd Neil Ridings and the recently appointed Revd George Bearwood, the tattooed priest bringing “rock ‘n God to Holyhead.”

Speaking about her new appointment, Kathryn expressed enthusiasm for the unique opportunities that lie ahead, "I am looking forward to joining Bro Cybi at such an exciting time. Holyhead attracts thousands of tourists each year. I can’t wait to explore together how we build on the wonderful history and heritage and bring the love of God to visitors and residents alike.

As Ministry Area Leader, Kathryn will play a pivotal role in shaping the future of St Cybi's Church and Eglwys-y-Bedd, both currently undergoing extensive redevelopment. In January 2023, the Isle of Anglesey County Council secured a £22.5 million Levelling Up Fund grant from the UK government. This investment will revitalise key cultural and heritage sites in Holyhead’s town center, including St Cybi's Church and Eglwys-y-Bedd. The Diocese of Bangor is one of the delivery partners. 

Revd Kathryn Evans

Kathryn added, “I'm excited to see how we can explore new ways of reaching people through these churches as they are reordered to meet the needs of the local community. Our vision is to ensure that worship continues and our churches become a focal point for community events for years to come."

Welcoming Kathryn to Holyhead, Archdeacon of Anglesey John Harvey says, “I am delighted to announce Kathryn as the newest member of our diocese. Her leadership will be invaluable as our Holyhead churches enter an exciting new chapter of growth and community engagement. We ask for your prayers of support for Kathryn and her husband Bob during this transition.”

Kathryn will relocate to the area with her husband Bob in the New Year. The official licensing date will be announced in due course.


About Kathryn

Kathryn grew up in a Christian family as the eldest of three girls, naturally taking on leadership roles from an early age. After a long nursing career, she was unexpectedly called to ordination, despite having previously told her Vicar she would "never in a month of Sundays" consider it, being content as a churchwarden and commissioned Pastoral Care minister. She was ordained deacon in the Diocese of Birmingham in 2014, and she served her curacy at St Paul's Church, Blackheath.

Kathryn's first position was vicar to three churches in the Black Country, working across various traditions. In 2020, she moved to Wales to serve four coastal and rural churches in Estuary and Mountain Mission Area within the Diocese of St Asaph. She enjoys being part of worshipping communities focused on reaching out with God's love, believing that ordinary actions can lead to extraordinary divine results.

Kathryn is married to Bob and has two adult sons and two young grandchildren. Her husband is familiar with Ynys Môn through his volunteer work with Mon-Search and Rescue. Together they enjoy walking, bird watching, and experiencing nature. Kathryn’s hobbies include knitting, crocheting, and card-making.