Myanmar: Apêl Daeargryn
Mae asiantaeth datblygu rhyngwladol Cymorth Cristnogol wedi lansio apêl codi arian brys yn sgil y daeargryn maint 7.7 a drawodd ganol Myanmar ar ddydd Gwener, Mawrth 28.
Mae partneriaid yr elusen yn adrodd bod pobl wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan y trychineb, gan gynnwys llawer a welodd eu cartrefi wedi’u difetha neu eu difrodi’n wael. Amharwyd yn sylweddol ar fynediad at wasanaethau hanfodol fel dŵr, pŵer a bwydydd sylfaenol.
Mae angen cymorth ar frys, gan gynnwys parseli bwyd, citiau dŵr, llochesi, ac arian parod ar gyfer cyflenwadau hanfodol.
Rhowch i'r apêl

Gweddïwch dros Myanmar
Hollalluog a Thragwyddol Dduw,
Yn y cyfnod hwn o alar a dioddefaint, codwn ger dy fron bawb a effeithiwyd gan y daeargryn dinistriol ym Myanmar, a thu hwnt. Rydym yn galaru colli cynifer o fywydau ac yn dal yn ein calonnau bawb sydd wedi’u hanafu, eu dadleoli a’u trawmateiddio.
Ymddiriedwn i’th ofal cariadus bawb sy’n galaru colli anwyliaid. Boed iddynt deimlo dy gysur a dy nerth, a phrofi sicrwydd dy bresenoldeb yn eu tywyllwch.
Gweddïwn dros y gwasanaethau brys, dros yr achubwyr dewr sy’n gweithio i ryddhau’r rhai sy’n gaeth yn yr adfeilion, sy’n iacháu’r clwyfedig, ac sy’n dod â gobaith i’r rhai mewn anobaith. Dyro iddynt ddiogelwch a nerth.
Arglwydd, gofynnwn am dy law iachaol ar y rhanbarth briwedig hwn. Dwg dangnefedd i’r calonnau cystuddiedig, adfer trefn i’r mannau a ddinistriwyd, a llenwi’r tir â goleuni dy obaith.
Clyw ein gweddi, O Arglwydd, a boed i’th drugaredd a’th gariad gael eu gwneud yn hysbys i bawb sydd mewn angen. Ymddiriedwn ynot, oherwydd Ti yw ein noddfa a’n nerth, cymorth parod mewn trallod.
Trwy Grist ein Harglwydd yr ydym yn gweddïo.
Amen.
Gan Archesgob Cymru
Myanmar: Eachquake Appeal
International development agency Christian Aid has launched an urgent fundraising appeal in the wake of the 7.7 magnitude earthquake which struck central Myanmar on Friday, March 28.
The charity’s partners are reporting people have been severely impacted by the disaster, including many who saw their homes destroyed or badly damaged. Access to vital services such as water, power and basic foods have been critically disrupted.
Immediate emergency support is now urgently needed, including food parcels, water kits, shelters, and cash for essential supplies.
Donate to the Myanmar Earthquake Appeal

Pray for Myanmar
Almighty and Everlasting God,
In this time of sorrow and suffering, we lift up before you all those affected by the devastating earthquake in Myanmar, and beyond. We grieve the loss of so many lives, and we hold in our hearts all who have been injured, displaced, and traumatised.
We commend into Your loving care those who mourn the loss of loved ones. May they feel Your comfort, Your strength, and the assurance of Your presence in their darkness.
We pray for the emergency services, for the courageous working to rescue the trapped, to heal the wounded, and to bring hope to those in despair. Grant them safety and strength.
Lord, we ask that Your healing hand be upon this broken region. Bring peace to troubled hearts, restore order to places of devastation, and fill the land with Your light of hope.
Hear our prayer, Lord, and may Your mercy and love be made known to all in need. We place our trust in You, for You are our refuge and strength, a very present help in times of trouble.
Through Christ our Lord, we pray.
Amen.
Written by the Archbishop of Wales