minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ymweliad Esgobol ag Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol

Ym mis Hydref 2024, mewn ymateb i bryderon a gafodd eu dwyn i'w sylw, comisiynodd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John, ymweliad ag Eglwys Gadeiriol Bangor ac adolygiad gan Thirtyone:eight, corff allanol sy’n arbenigo mewn cyngor ar ddiogelu mewn cyd-destunau eglwysig.

Mae’r broses adrodd bellach wedi dod i ben ac mae’r crynodebau o’r adroddiadau canlynol wedi’u rhyddhau’n gyhoeddus, ac ar gael isod.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses ofalus a weddïgar hon. Mae’r adroddiadau’n nodi’r camau nesaf a fydd yn cael eu cymryd.


Datganiad gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John

Yn ystod yr hydref y llynedd, comisiynais ddau ddarn o waith mewn cysylltiad ag Eglwys Gadeiriol Bangor. Ymweliad oedd y darn cyntaf, a'r ail ddarn oedd archwiliad diogelu gan y sefydliad annibynnol thirtyone:eight

Gofynnais i'r rhai a gynhaliodd yr ymarferion hyn ar fy rhan gynnal adolygiad trylwyr o ansawdd bywyd, ffydd, disgyblaeth, ymddygiad a diwylliant yr Eglwys Gadeiriol.

Gwnaeth y rhai a ymgymerodd â'r gwaith hwn weithredu ar yr amod na fyddai unrhyw wybodaeth sensitif a phersonol a allai gael ei datgelu gan gyfranogwyr (gan gynnwys datgeliadau diogelu) yn cael ei rhyddhau i'r parth cyhoeddus. Pwrpas hyn oedd i roi hyder i unrhyw un a gymerodd ran. Yn unol â’u dymuniad am gyfrinachedd, yr wyf felly yn rhyddhau heddiw adroddiadau cryno a baratowyd gan yr adolygwyr, ynghyd â'u hargymhellion yn llawn.

Mae'n amlwg bod cynnydd mawr wedi'i wneud yn ein heglwys gadeiriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi gweld ffrwyth gwaith caled: mwy o bobl yn mynychu addoliad, mwy o addoli dwyieithog, proffil cyhoeddus uwch a bywyd cerddorol mwy safonol. Mae'r rhain yn arwyddion o fywiogrwydd ac o dwf y mae’n iawn inni ei ddathlu. Ond rydym hefyd yn gwybod nad yw twf yn ymwneud â'r hyn sy'n weladwy yn unig - mae'n ymwneud â'r hyn sy'n wir, yn gyfiawn, ac yn ddiogel wrth wraidd ein bywyd cyffredin.

Nododd yr adolygwyr rai pryderon yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Gyda'i gilydd, mae’r adroddiadau yn tynnu sylw at fannau lle mae angen inni wneud yn well er mwyn sicrhau bod yr eglwys gadeiriol yn wirioneddol ddiogel, yn gynhwysol, yn cael ei llywodraethu'n dda ac yn ffynnu.

Fel yr adroddwyd i'r adolygwyr, y pryderon hyn oedd:

  • Arferion diogelu nad oedd yn bodloni'r safonau a ddisgwylir ar draws yr Eglwys yng Nghymru.
  • Arferion rheoli oedd yn ddiffygiol o ran tryloywder a chywirdeb, gyda rhai penodiadau wedi'u gwneud heb waith papur priodol, gyda threfniadau goruchwylio annigonol a phryderon y gall rhywrai gael eu cau allan oherwydd ffafriaeth.
  • Rheolaethau ariannol gwan, llinellau adrodd aneglur, a phenderfyniadau gwariant nad oeddent yn cael eu craffu'n ddigonol.
  • Ymddygiad mewn rhai meysydd— yn ymwneud â’r defnydd o alcohol ac ymddygiad rhywiol — nad oedd yn adlewyrchu'r safonau proffesiynol a ddisgwylir mewn eglwys Gristnogol.
  • Sylwadau personol, mewn person ac ar-lein, a achosodd boen a rhaniadau.

Rwy'n cydnabod bod y canfyddiadau hyn yn anodd eu clywed—ond mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am symud ymlaen gyda didwylledd.

Cyn i mi amlinellu fy ymateb, gadewch imi dalu teyrnged i'r rhai a gymerodd ran yn y ddwy broses. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y rhai a ddaeth ymlaen ac rwyf am anrhydeddu eu gonestrwydd a'u dewrder. Diolch hefyd i'r rhai a gynhaliodd yr ymweliad a'r archwiliad am eu gwaith cydwybodol a sensitif.

Bydd yr ymateb yn bennaf yn nwylo dau grŵp. Y cyntaf yw Grŵp Gweithredu, dan gadeiryddiaeth yr Archddiacon David Parry, a fydd yn gyfrifol am weithredu argymhellion y ddau adroddiad yn llawn. Rwyf wedi gofyn i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn 4 Awst, tri mis o heddiw.

Yr ail grŵp yw Bwrdd Goruchwylio dan gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes. Eu rôl fydd goruchwylio a chraffu ar waith y Grŵp Gweithredu a chefnogi’r Deon newydd. Bydd y broses o recriwtio Deon newydd yn dechrau yfory. Bydd copïau o gylch gorchwyl y ddau grŵp ar gael.

Ar yr un pryd, rydw i eisoes yn myfyrio ar yr hyn y mae'n rhaid i mi ei ddysgu o'r broses hon—nid yn unig fel arweinydd, ond fel cyd-bererin. Mae'r alwad i ffurfiant gydol oes yn un yr ydym i gyd yn ei rhannu, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gerdded y llwybr hwnnw gyda gostyngeiddrwydd. Byddwn yn ymrwymo i'r gwaith o atgyweirio, o ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach - gyda'n gilydd.

Er bod hwn wedi bod yn gyfnod sobreiddiol, mae hefyd yn cynnig cyfle i ni newid. Bydd yn golygu gwaith caled, ond gall hefyd ddod â iachâd, ac nid ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Fel Cristnogion, rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n bobl sydd angen edifeirwch a gobaith. Rydym yn ymwybodol o’n diffygion dynol - ond rydym hefyd yn ymwybodol o ras y Duw sy'n rhannu ein dynoliaeth, sy’n deall ein gwendidau ac sy’n ein nerthu i fod y math o Eglwys y mae Ef am inni fod.

+Andrew Cambrensis


Darllenwch yr adroddiadau

Datganiad ychwanegol ar Eglwys Gadeiriol Bangor

Cyfarfu'r Cabidwl, corff ymddiriedolwyr yr Eglwys Gadeiriol, ddydd Llun, wythnos ar ôl cyhoeddi dau adroddiad a gomisiynwyd gan Archesgob Cymru, Andrew John, ar ôl i bryderon gael eu dwyn i'w sylw.

Mewn ymateb i'r pryderon hyn, comisiynodd yr Archesgob Ymweliad a gynhaliwyd gan y cyn Archddiacon Mike Komor a'r cyn Ddeon ac Archddiacon Chris Potter, ynghyd ag adolygiad diogelu gan y sefydliad annibynnol thirtyone:eight, sy'n arbenigo mewn cyngor diogelu mewn lleoliadau eglwysig.

Cyhoeddwyd crynodeb o'r ddau adolygiad ar Fai 4ydd ac maent ar gael ar wefannau Eglwys Gadeiriol Bangor, Esgobaeth Bangor a'r Eglwys yng Nghymru.

Mae'r adroddiadau yn tynnu sylw at nifer o ddiffygion ac yn nodi nifer o welliannau angenrheidiol. Mewn ymateb, mae'r Archesgob wedi sefydlu Grŵp Gweithredu i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu'n brydlon ac yn benderfynol. Yn ogystal, mae wedi comisiynu Bwrdd Goruchwylio wedi'i gadeirio'n allanol er mwyn arfer goruchwyliaeth gyffredinol o'r broses gyflawni yn unol ag amserlen benodol.

Cyfarfu Cabidwl y Gadeirlan ddydd Llun i gytuno ar gylch gorchwyl y Grŵp Gweithredu. Mae'r rhain ynghyd â thelerau gorchwyl y Bwrdd Goruchwylio bellach ar gael ar wefannau Eglwys Gadeiriol Bangor, Esgobaeth Bangor, a'r Eglwys yng Nghymru. Mae pob dogfen cylch gorchwyl yn cynnwys enwau'r rhai a fydd yn aelodau o'r grwpiau hyn. Mae hyn yn dilyn pum Adroddiad Digwyddiadau Difrifol a anfonwyd at y Comisiwn Elusennau mewn perthynas ag Eglwys Gadeiriol Bangor yn 2024. Mae pedwar o'r rhain yn ymwneud â diogelu: mae tri bellach wedi'u cau. Mae'r adroddiad sy'n weddill yn parhau i fod ar agor gan mai comisiynu a chynnal y broses Ymweld/ Diogelu oedd un o'r ymatebion angenrheidiol. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi ei hanfon at y Comisiwn ar ôl cyhoeddi Crynodebau yr Adroddiad a byddwn yn hysbysu’r Comisiwn ymhellach ar y modd y mae’r argymhellion yn cael eu gweithredu. Roedd y pumed adroddiad yn ymwneud â mater ariannol ac fe gafodd ei gau gan y Comisiwn ym mis Mawrth eleni.

Yn y cyfarfod ddydd Llun, trafododd Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol weithdrefnau a’r broses o gadw cofnodion ariannol. O ganlyniad i'r drafodaeth hon, penderfynodd y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau.

Dywedodd llefarydd ar ran Eglwys Gadeiriol Bangor: "Mae Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cymryd eu cyfrifoldebau am lywodraethu da o ddifrif iawn ac wedi penderfynu, o ystyried gwybodaeth sydd wedi dod i'w sylw, y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau. Er na allwn ddarparu sylwebaeth barhaus ar yr achos unigol, byddwn yn gweithio gyda'r Comisiwn Elusennau i sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl a bod unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud yn ein gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith heb oedi."

Meddai Archesgob Cymru:

"Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae'r Cabidwl yn ei wneud i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â newid parhaol. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio, ac i fynegi gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth yr ydym wedi'i dderbyn gan Gorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru.

"Mae'n amlwg eisoes o'r camau sydd wedi'u cymryd hyd yma y bydd hyn yn broses gadarn a fydd yn cynnwys newidiadau manwl ac a fydd yn atebol i graffu allanol. Mae pawb sy'n cymryd rhan wedi ymrwymo i gyfathrebu a diweddariadau rheolaidd fel y gellir bwrw ymlaen â'r newidiadau mewn ffordd glir a chadarnhaol."


Bwrdd Goruchwylio Eglwys Gadeiriol Bangor

Cwmpas

Pwrpas Bwrdd Goruchwylio Eglwys Gadeiriol Bangor yw bod yn gyfrifol am atebolrwydd, goruchwyliaeth a chefnogaeth ar gyfer Cabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor ac, pan gaiff ei b/phenodi, i Ddeon Bangor, wrth i ddiwylliant ysbrydol a gweithredol iach gael ei ailadeiladu. Mae gan y Bwrdd y pŵer i ofyn cwestiynau ymchwiliadol, ac i holi am fanylion heb oddef ymddygiad gwael, diffyg eglurder na diffyg gonestrwydd. Bydd ganddo fynediad i'r dogfennau a'r cofnodion electronig a chorfforol sy'n angenrheidiol i'w waith.

Mae Cadeirydd y Bwrdd wedi cael copïau heb eu golygu o'r fersiynau llawn o’r adroddiadau gan thirtyone:eight a Potter/Komor. Ni fydd fersiwn lawn yr adroddiad thirtyone:eight yn cael ei rhannu gyda'r grŵp (nid yw trefniadau cytundebol gyda thirtyone:eight yn caniatáu hyn) ond gellir rhannu'r fersiwn lawn o adroddiad Potter-Komor gyda'r grŵp cyfan yn ôl penderfyniad Cadeirydd y Bwrdd.

Bydd yr Archesgob yn ysgrifennu llythyr at y Bwrdd yn nodi'r mannau yn y fersiynau llawn o'r ddau adroddiad sy'n dangos lle mae angen newid diwylliannol a sefydliadol. Mae gan y Bwrdd y pŵer i wneud argymhellion i'r Archesgob a'r Deon (pan gaiff ei b/phenodi) ynglŷn â threfniant, hyfforddiant a datblygiad staff.

Bydd gwaith y Bwrdd yn cael ei gwblhau pan:

(a) mae'r Cyfarwyddwr Diogelu yn fodlon bod yr holl wiriadau DBS angenrheidiol a'r holl hyfforddiant diogelu yn gyfredol ar gyfer holl staff perthnasol yr Eglwys Gadeiriol ac aelodau'r gynulleidfa a bod y prosesau, y gweithdrefnau a'r diwylliant y byddai'r Tîm Diogelu Taleithiol yn disgwyl i’w gweld mewn Eglwys Gadeiriol effeithiol i gyd mewn lle.

(b) mae Deon newydd wedi bod mewn lle ers o leiaf ddeuddeg mis ac mae Cadeirydd y grŵp yn hyderus nad oes angen goruchwyliaeth y Bwrdd mwyach.

(c) mae aelod o staff sydd â chyfrifoldebau Prif Swyddog Gweithredu wedi'i benodi.

(d) mae aelod o staff sydd â chyfrifoldebau Prif Swyddog Ariannol (a rennir o bosibl gyda'r DBF) wedi'i benodi.

(d) Mae'r Bwrdd yn fodlon bod y Cabidwl wedi dod yn gorff ymddiriedolwyr cymwys, wedi'i hyfforddi'n briodol, sy'n gweithredu gyda ffiniau priodol ynghylch cyfrinachedd, yn cofleidio ei ddyletswyddau ymddiriedolwyr, ac yn gallu dangos llywodraethiant da.

Bydd y grŵp yn adrodd ar gynnydd yn fisol i Gyngor Esgobion Bangor ac yn anfon adroddiad manwl i gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg y Corff Cynrychioladol ar 3 Mehefin 2025 a phob un o'i gyfarfodydd dilynol nes bod ei waith wedi'i gwblhau.

Aelodau'r Bwrdd fydd

  • Yr Athro Medwin Hughes (Cadeirydd)
  • Yr Athro Canon Tim Wheeler
  • Parchedig Ganon Athro Peter Neil
  • Henry Gilbert
  • Matthew Corbett Jones
  • Y Gwir Barchedig David Morris
  • Judith Hayward
  • Jane Heard

Ymgynghorwyr i'r grŵp

  • Y Canon Simon Lloyd
  • Anthony Griffiths

Bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn fisol i ddechrau ond gall newid amlder ei cyfarfodydd yn ôl penderfyniad y Cadeirydd.

Grŵp Gweithredu Adroddiadau Ymweliad Eglwys Gadeiriol Bangor

Cwmpas:

Mae hwn yn grŵp tasg a gorffen sy'n gyfrifol am sicrhau gweithredu, yn llawn, argymhellion adroddiadau thirtyone:eight ac ymweliad Potter/Komor ag Eglwys Gadeiriol Bangor.

Bydd yn bwrw ymlaen â'i waith yn gyflym ac yn adrodd ar gynnydd yn fisol, yn ysgrifenedig, i Gabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor, Cyngor Esgobion Bangor a Bwrdd Goruchwylio Eglwys Gadeiriol Bangor. Bydd yn anfon adroddiad diweddaru ysgrifenedig manwl i gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Risg yr RB i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 3 Mehefin 2025 ac adroddiadau pellach iddo hyd nes bydd ei waith wedi'i gwblhau. 

Yr aelodaufydd

  • Yr Archddiacon David Parry (Cadeirydd Dros Dro)
  • Canon Tracey Jones (Canon Preswyl)
  • Canon Gareth Iwan Jones (Canon Lleyg)
  • Canon Lesley Horrocks (Canon Lleyg)
  • Brendon Burmester (Swyddog Gweithredol)
  • Joe Cooper (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth)

Ymgynghorwyr i'r grŵp

  • Wendy Lemon (Rheolwr Diogelu)
  • Emma Leighton Jones (Prif Hyfforddwr Diogelu a Swyddog Ymgysylltu)
  • Emma Chappell (Swyddog Adnoddau Dynol Rhanbarthol)
  • Matt Batten (Cyfarwyddwr Cyfathrebu Esgobaeth Bangor) 
Cymraeg

Episcopal Visitation to St Deiniol’s Cathedral

In October 2024, in response to concerns which had been brought to his attention, the Archbishop of Wales, The Most Revd Andrew John, commissioned a visitation of Bangor Cathedral and a review by Thirtyone:eight, an external body that specialises in safeguarding advice in church settings.

The reporting process is now complete and the following summary reports have now been released publicly, and can be accessed below.

We are grateful to all who contributed to this careful and prayerful process. The reports give details of the next steps which will now be taken.


Statement by the Archbishop of Wales, The Most Revd. Andrew John

In the autumn of last year, I commissioned two exercises in connection with Bangor Cathedral. The first of these was a visitation and the second a safeguarding audit by the independent organisation thirtyone:eight.

I asked that those who conducted these exercises on my behalf undertake a thorough review of the quality of life, faith, discipline, behaviour and culture of the Cathedral.

Those who undertook these exercises did so on the condition that any sensitive and personal information which might be disclosed by participants (including safeguarding disclosures) would not be released into the public domain. This was to give confidence to anyone who participated. I am upholding their request for confidentiality and therefore releasing today summary reports prepared by the reviewers and their unabridged recommendations.

It is evident that in recent years great progress has been made at our cathedral. We have seen the fruit of hard work: improved attendance, increased bilingual worship, a raised public profile and an enhanced musical life. These are signs of vitality and growth that we rightly celebrate. But we also know that growth is not just about what is visible—it’s about what is true, just, and safe at the heart of our shared life.

The reviewers identified some concerns which needed to be addressed. Taken together, the reports described areas where we needed to do better to ensure that the cathedral is truly safe, inclusive, well-governed and thriving.

As reported to the reviewers, these concerns were:

  • A safeguarding approach that did not meet the standards expected across the Church in Wales.
  • Management practices that lacked transparency and rigour, with some appointments made without proper paperwork, inadequate oversight arrangements and concerns raised about exclusion due to favouritism.
  • Weak financial controls, unclear reporting lines, and spending decisions that were insufficiently scrutinised.
  • Conduct in some areas—relating to alcohol use and sexual behaviour—that did not reflect the professional standards expected in a Christian church.
  • The presence of hurtful gossip, both in person and online, which caused pain and division.

I acknowledge that these findings are hard to hear—but they must be faced if we are to move forward with integrity.

Before I outline my response, let me firstly pay tribute to those who participated in the two processes. I have listened carefully to those who came forward and I want to honour their honesty and courage. I also thank those who carried out the visitation and the audit for their conscientious and sensitive work.

The response will be primarily in the hands of two groups. The first is an Implementation Group, chaired by Archdeacon David Parry, which will be responsible for implementing, in full, the recommendations from both reports. I have asked that this work be completed by 4th August, three months from today.

The second group is an Oversight Board chaired by Prof Medwin Hughes. Their role will be to oversee and scrutinise the work of the Implementation Group and to support a new Dean. The recruitment of a new Dean will commence tomorrow. Copies of the terms of reference of the two groups will be made available.

In parallel, I have begun reflecting on what I must learn from this process—not only as a leader, but as a fellow pilgrim. The call to lifelong formation is one we all share, and I remain committed to walking that path with humility. We shall commit ourselves to the work of repair, of rebuilding trust and of creating a healthier culture—together.

While this has been a sobering time, it also offers us opportunity for change. It will mean hard work, but it can also bring healing, and we do not do this alone. As Christians, we know that we are people who need repentance and hope. We know our human flaws—but we also know the grace of a God who shares our humanity, understands our weaknesses and strengthens us to become the Church, he calls us to be.

+Andrew Cambrensis


Read the reports

Supplementary statement on Bangor Cathedral

The Chapter, the Cathedral’s trustee body, met on Monday, a week after two reports were published which had been commissioned by the Archbishop of Wales, Andrew John, after several concerns had been brought to his attention.

In response to these concerns, the Archbishop commissioned a Visitation which was conducted by former Archdeacon Mike Komor and former Dean and Archdeacon Chris Potter, together with a safeguarding audit by the independent organisation thirtyone:eight, which specialises in safeguarding advice in church settings.

Summary reports of both reviews were published on May 4th and are available on the Bangor Cathedral, Diocese of Bangor and Church in Wales websites.

The reports set out a range of shortcomings and identified a number of necessary improvements. In response, the Archbishop has set up an Implementation Group to ensure that the recommendations are acted upon promptly and decisively. In addition, he has commissioned an externally-chaired Oversight Board to exercise overall supervision of the delivery process against a set timetable.

The Cathedral Chapter met on Monday to agree the terms of reference of the Implementation Group. These together with the terms of reference for the Oversight Board are now available on the Bangor Cathedral, Diocese of Bangor and Church in Wales websites. Each terms of reference document contains the names of those who will be members of these groups.

At its meeting on Monday, the Cathedral Chapter discussed financial record keeping and procedures. As a result of this discussion, it decided that a Serious Incident Report should be sent to the Charity Commission. This follows five Serious Incident Reports which were sent to the Charity Commission relating to Bangor Cathedral in 2024. Four of these related to safeguarding: three have been closed. The remaining report remains open as the commissioning and undertaking of the Visitation/safeguarding audit was one of the necessary responses. The Commission has been updated following the publication of the Report Summaries and we will update the Commission further on the implementation of the recommendations. The fifth report related to a financial matter and was closed in March this year.

A spokesperson for Bangor Cathedral said: “The Cathedral Chapter take their responsibilities for good governance very seriously and have decided that, given information which has come to their attention, the Charity Commission should be sent a Serious Incident Report. While we cannot provide ongoing commentary on the individual case, we will be working with the Charity Commission to ensure that the issue is resolved as quickly as possible and that any improvements which need to be made in our procedures are put into place without delay.”

The Archbishop of Wales said:

“I am grateful for the work the Chapter is carrying out to take the necessary steps to bring about lasting change. I want to thank those who have agreed to serve on the Implementation Group and the Oversight Board, and to express my appreciation of the support we have received from the Representative Body of the Church in Wales.

“It is already clear from the steps which have been taken so far that this will be a robust process which will involve detailed changes and which will be accountable to external scrutiny. All who are involved are committed to regular communication and updates so that the changes can be taken forward in a clear and positive way.”


Bangor Cathedral Oversight Board

Scope

The purpose of the Bangor Cathedral Oversight Board is to be a place of accountability, oversight and support for the Bangor Cathedral Chapter and, when appointed, the Dean of Bangor, as a healthy spiritual and operational culture is rebuilt. The Board is empowered to ask probing questions, to drill down into detail and to have zero tolerance of bad behaviour, obfuscation and lack of candour. It will be given access to the electronic and the physical documents and records necessary to its work.

The Chair of the Board has been provided with unredacted copies of the full versions of the thirtyone:eight and Potter/Komor reports. The full version of the thirtyone:eight report will not be shared with the group (contractual arrangements with thirtyone:eight do not permit this) but the full version of the Potter-Komor report may be shared with the whole group at the discretion of the Chair of the Board.

The Archbishop will write a letter to the Board setting out the matters from the full versions of both reports which show where cultural and organisational change is required. The Board is empowered to make recommendations, to the Archbishop and the Dean (when appointed) about staff configuration, training and development.

The work of the Board will be complete when:

(a) the Director of Safeguarding is content that all necessary DBS checks and all safeguarding training is up to date for all relevant Cathedral staff and congregation members and that the processes, procedures and culture which the Provincial Safeguarding Team would expect to observe in a well-run Cathedral are in place.

(b) a new Dean has been in place for at least twelve months and the Chair of the group is confident that the Board’s oversight is no longer required.

(c) a member of staff with the responsibilities of a Chief Operating Officer has been appointed.

(d) a member of staff with the responsibilities of a Chief Financial Officer (possibly shared with the DBF) has been appointed.

(e) The Board is content that the Chapter has become a functional, properly trained trustee body which operates with appropriate boundaries around confidentiality, embraces its fiduciary duties, and can demonstrate good governance.

The group will report on progress monthly to the Bangor Bishops' Council and send a detailed report to the RB's Audit and Risk Committee meeting on 3rd June 2025 and each of its subsequent meetings until its work is complete.

The members of the Board will be

  • Prof Medwin Hughes (Chair)
  • Canon Professor Tim Wheeler
  • Rev Canon Professor Peter Neil
  • Henry Gilbert
  • Matthew Corbett Jones
  • Rt Revd David Morris
  • Judith Hayward
  • Jane Heard

Consultants to the group

  • Canon Simon Lloyd
  • Anthony Griffiths

The Board will initially meet monthly but may change the frequency of its meeting at the discretion of the Chair.

Bangor Cathedral Visitation Reports Implementation Group

Scope

This is a task and finish group responsible for ensuring the implementation, in full, the recommendations of the thirtyone:eight and Potter/Komor Bangor Cathedral visitation reports.

It will proceed with its work expeditiously and report on progress monthly, in writing, to the Chapter of Bangor Cathedral, the Bangor Bishops' Council and the Bangor Cathedral Oversight Board. It will send a detailed written update report to the RB's Audit and Risk Committee for consideration at its meeting on 3rd June 2025 and send further reports to it until its work is complete. 

The members will be

  • Archdeacon David Parry (Acting Chair)
  • Canon Tracey Jones (Residentiary Canon)
  • Canon Gareth Iwan Jones (Lay Canon)
  • Canon Lesley Horrocks (Lay Canon)
  • Brendon Burmester (Operations Officer)
  • Joe Cooper (Director of Music)

Consultants to the group

  • Wendy Lemon (Safeguarding Manager)
  • Emma Leighton Jones (Lead Safeguarding Trainer and Engagement Officer)
  • Emma Chappell (Regional HR Officer)
  • Matt Batten (Director of Communications – Diocese of Bangor)