minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Deon Cadeirlan Bangor ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol

Mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Dean of Bangor Cathedral and Ministry Area Leader of Bro Deiniol

Welsh is essential for this role

Dyddiad cau / Deadline: 21/09/2026, noon

Cyfweliadau / Interviews: 05/10/2026

A ydych yn cael eich galw i arwain Cadeirlan Bangor ar gyfnod arwyddocaol yn ei hanes?

Fel Deon ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth, mae hwn yn gyfle i lunio'r bennod nesaf ym mywyd y Gadeirlan a'r Ardal Weinidogaeth, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn arweinyddiaeth yr esgobaeth.

Rydym yn chwilio am:

  • Unigolyn o ysbrydolrwydd dwfn, penderfynoldeb ac hygrededd, ag agwedd dosturiol a chynhwysol tuag at eraill, a chanddo / chanddi roddion cryf ym maes gofal bugeiliol a rheolaeth.
  • Arweinydd cydweithredol sydd â phrofiad perthnasol o eglwys neu ardal weinidogaeth sylweddol, cadeirlan neu swydd arall eglwysig arwyddocaol.
  • Pregethwr(aig), athro / athrawes a chyfathrebwr(aig) dawnus ac ysbrydoledig, sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn addoliad.
  • Cyfathrebwr(aig) rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda chefndir cryf yn yr iaith Gymraeg, diwylliant a hanes Cymru – mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
  • Offeiriad profiadol (sydd wedi bod mewn urddau offeiriadol am o leiaf chwe blynedd, ond yn ddelfrydol yn llawer hirach), ac sy'n barod i fodelu'r safonau uchel y maent yn eu disgwyl gan eraill.

Bydd y Deon newydd yn:

  • Arwain addoliad, tystiolaeth, cenhadaeth a gweinidogaeth y Gadeirlan a'r Ardal Weinidogaeth, gan ddatblygu tîm amrywiol o weinidogion lleyg ac ordeiniedig, staff cyflogedig a di-dâl, a gwirfoddolwyr.
  • Ymgorffori a datblygu ymhellach ddiwylliant cadarnhaol, tryloyw a chroesawgar lle mae pawb yn cael eu derbyn, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed yn dilyn adolygiadau diweddar.
  • Meithrin twf ysbrydol, a datblygu'r Gadeirlan fel canolfan fywiog i'r celfyddydau gyda hymrwymiad dwfn i gyfiawnder cymdeithasol
  • Datblygu addoliad corawl a dwyieithog y Gadeirlan.
  • Dyfnhau'r weinidogaeth i bererinion ac ymwelwyr ar Lwybr Pererinion Gogledd Cymru.
  • Ynghyd ag aelodau'r Cabidwl a staff uwch y Gadeirlan, hyrwyddo cynlluniau i wella sefydlogrwydd a phrosesau ariannol, yn ogystal â mynd i'r afael â gwelliannau sydd eu hangen i adeiladwaith y Gadeirlan.
  • Meithrin partneriaethau cryf â sefydliadau a mudiadau eraill yn y ddinas.
  • Gwasanaethu fel aelod allweddol o Dîm Staff yr Esgob ac fel uwch offeiriad yr Esgobaeth.

Mae'r Deondy yn dŷ braf gyda pump ystafell wely a thair ystafell ymolchi, wedi'i adnewyddu'n ddiweddar, wrth ymyl y Gadeirlan ac efo gardd a thir sylweddol.


Sut i Wneud Cais

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:

Manon Ceridwen James (y Deon presennol a'r Esgob-Etholedig). I drefnu sgwrs, anfonwch e-bost ati ar manoncjames@cinw.org.uk Pecyn cais a sut i ymgeisio: [dolen / manylion]

  • Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, Dydd Llun 21 Medi 2026
  • Cyfweliadau: Dydd Llun 5 Hydref 2026

Mae'r penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach a gweithdrefnau diogelu'r Eglwys yng Nghymru. 


Proffil y Gadeirlan a’r Ardal Weinidogaeth


Ffurflen Gais

Cymraeg

Are you being called to lead Bangor Cathedral at a significant time in its history?

As Dean, and ministry area leader this is this is an opportunity to shape the next chapter in the life of the cathedral and ministry area as well as play an important part in the leadership of the diocese.

We are looking for:

  • A person of deep spirituality, determination and integrity, with a compassionate and inclusive attitude to others with strong pastoral and managerial gifts.
  • A collaborative leader with appropriate experience of a large parish, church, cathedral or significant ecclesiastical role.
  • A gifted and inspiring preacher, teacher and communicator with a commitment to excellence in worship.
  • A fluent communicator in Welsh and English, with a strong background in Welsh language, culture and history - Welsh is essential for this role.
  • An experienced priest (who has been in priest's orders for a minimum of six years, but ideally much longer), and is willing to model the high standards they expect in others.

The new Dean will:

  • Lead the worship, witness, mission and ministry of the Cathedral and Ministry Area, developing a diverse team of lay and ordained, paid and unpaid, staff and volunteers.
  • Further embed and develop a positive, transparent and welcoming culture in which all are accepted, building on the work undertaken following recent reviews.
  • Nurture spiritual growth, and develop the Cathedral as a lively centre for the arts with a deep commitment to social justice.
  • Develop the Cathedral's choral and bilingual worship.
  • Deepen ministry to pilgrims and seekers on the North Wales Pilgrim's Way.
  • Along with members of Chapter and senior cathedral staff, drive forward plans to improve financial stability and processes as well as address much needed improvements to the Cathedral's fabric.
  • Build strong partnerships with other institutions and organisations in the city
  • Serve as a key member of the Bishop's Staff Team and as senior priest of the Diocese

The Deanery is a recently refurbished five-bedroomed, three bathroomed house beside the Cathedral and in its own grounds.


Application process

For an informal conversation, please contact: Manon Ceridwen James (currently Dean and Bishop-Elect) to arrange a conversation please email her on manoncjames@cinw.org.uk

  • Closing date: 12 Noon, Monday 21 September 2026
  • Interviews: Monday 5 October 2026

Email your application form to emmachappell@churchinwales.org.uk

The appointment is subject to an enhanced DBS check and the safeguarding procedures of the Church in Wales.


Cathedral and Ministry Area profile


Application form