Tyfu gweinidogaethau newydd
Ar draws yr esgobaeth, rydym eisoes yn profi galwedigaethau newydd sy’n dod i’r amlwg wrth i ni feithrin disgyblion a chanolbwyntio ar alwad Duw i wasanaethu. Byddwn yn canolbwyntio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod ar feithrin gweinidogaethau trwyddedig a chomisiynedig lleyg – gweinidogion bugeiliol, darllenwyr, arloeswyr, efengylwyr a gweinidogion teulu. Wrth i ni ffurfio Ardaloedd Gweinidogaeth rydym hefyd yn datblygu a chefnogi gweinidogaethau Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth, tra hefyd yn ffurfio a meithrin Timau Ardaloedd Gweinidogaeth i arfer gweinidogaeth egnïol ar y cyd.
Growing new ministries
Across the diocese, we already see new vocations emerging from our emphasis on discipleship and call. We will focus over coming years on nurturing licensed and commissioned lay ministries – pastoral ministers, readers, pioneers, evangelists and family ministers. As we reshape our diocese into Ministry Areas we are also developing and resourcing the new ministry of Ministry Area Leadership, and forming and nurturing collaborative ministries in Ministry Area Teams.