minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Myfi, Iesu


Pedwaredd Wythnos y Grawys


Myfi yw’r ffordd, y gwirionedd a’r bywyd


‘Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi.”’

Ioan 14:6 


Rydym yn arfer clywed y geiriau hyn mewn angladdau ac nid yw’n anodd deall pam. Bu pobl yn ansicr iawn ynghylch y ffordd ymlaen yn ystod y cyfnod hwn o dan gysgod COVID. Yn drasig, bu farw llawer ac ni fu’n bosibl i ni fod gyda hwy ar yr awr olaf. Yn aml, ni fu’n bosibl i ni ychwaith ddod ynghyd fel teulu a chyfeillion i alaru dros ein colled. Pan fu angladd, yn aml bu’r niferoedd yn gyfyngedig, a theimlai’r achlysur yn swta ac yn anfoddhaol. Mewn cyferbyniad, mae’r geiriau hyn o eiddo Iesu, o bennod sy’n dechrau â’r geiriau ‘Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon’, yn addo cysur.

Mae Iesu wedi bod yn siarad am fynd i ffwrdd (adnodau 2 – 4). Mae’r disgyblion yn naturiol yn pryderu ynghylch lle mae’n mynd ac ynghylch a allant hwythau ei ddilyn ymhen amser. Mae bob amser yn anodd i’r rhai a adewir ar ôl pan fydd rhywun yn gadael, yn arbennig pan fydd rhywun yn gadael y bywyd hwn.

Mae Iesu’n sôn am ‘Dŷ fy Nhad’, lle mae nefoedd a daear yn cyfarfod. Mae’n awgrymu y daw dinas newydd, byd newydd, ‘tŷ’ newydd. Mae yna lawer o drigfannau, a digon o le i bobun: ‘gwelyau ar gyfer pawb a ddaw’, fel y dywed Christina Rossetti (‘Up-Hill’, 1862). Mae’n ddiddorol meddwl beth allai bod â digon o le i bawb (‘gwelyau ar gyfer pawb a ddaw’) olygu o fewn ein Hardaloedd Gweinidogaeth.

Mae Iesu’n addo i’w ddisgyblion, er ei fod yn mynd i ffwrdd, mai er eu budd hwy y mae hynny; ni fydd yn eu hanghofio ac ni fydd yn eu gadael yn amddifad. Ni allwn ninnau ychwaith weld y ffordd ymlaen ac mae arnom angen gwybod nid yn unig fod yna yn wir ffordd i’r dyfodol dirgel ond hefyd y byddwn yn gallu canfod y ffordd. Mae Thomas yn cwyno (adnod 5) nad yw’r disgyblion hyd yn oed yn gwybod lle mae Iesu’n mynd, felly sut gallant wybod pa ffordd, pa lwybr i’w ddilyn? Ateb Iesu yw mai ef ei hun yw’r dramwyfa, y llwybr, y ffordd honno.

Dychmygai Eseia ffordd ar draws yr anialwch a elwid y Ffordd Sanctaidd, priffordd tuag at Dduw i bobl Dduw (Eseia 35:8). Dyma’r briffordd y daeth Ioan Fedyddiwr i’w chyhoeddi, yn ôl Mathew (3:3, gweler Eseia 40:3) a’r ffordd tuag at Dduw y mae’r Salmydd yn gweddïo y bydd Duw yn ei ddysgu amdani: ‘Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd’ (Salm 27:11). Iesu yw’r ffordd honno tuag at Dduw, y ffordd y’n gelwir ninnau, ein cynulleidfaoedd, ein Hardaloedd Gweinidogaeth a’r Eglwys yn ei chyfanrwydd i’w theithio.

Ond nid dyna ble mae Iesu’n gadael y mater. Ef yw’r ffordd, ond ef hefyd yw’r gwirionedd: ‘O Arglwydd, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd’ (Salm 86:11). Ef yw’r ffordd, y gwirionedd, ond ef hefyd yw’r bywyd: ‘Dangosi i mi lwybr bywyd’ (Salm 16:11). Os ydym am wybod sut i gyrraedd tŷ’r Tad, rhaid i ni ddilyn Iesu, gan mai ef yw’r ffordd, y gwirionedd a bywyd ei hun. Gweddïwn, yn wahanol i ddarlun Robert Frost, y daw hon yn ffordd y bydd llawer o deithio arni (‘The Road Not Taken’, 1916).

Mae’n debyg nad ydym yn troedio’r llwybr y disgwyliem deithio arno eleni er mwyn cyrraedd pen draw’rpandemig a’n goddiweddodd. Dylem ofyn i’n hunain beth mae hynny’n ei ddweud wrthym am natur Duw – ac am y ffordd mae Duw am ein harwain drwy’r Ysbryd Glân.


Steve Rollins a George Williams


Hollalluog Dduw,
yn Iesu mae’r ffordd tuag at dy wirionedd
ac at fywyd yn ei gyflawnder.
Bydd gyda’th bobl â’u ffydd yn dyfnhau
wrth fyw fel disgyblion i ti yn dy fyd.
Trwy dy Ysbryd Glân, cynorthwya fi i glywed Iesu’n dweud,
‘Myfi yw’r ffordd, y gwirionedd a’r bywyd’;
yr hwn a fu, y sydd
ac a fydd hyd byth.
Amen.
Deuaf at Iesu, y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd:
bydd gyda mi wrth i mi geisio dy wirionedd
yn yr hyn sy’n gyfarwydd a’r hyn sydd yn ddieithr
wrth droedio’r llwybr hwn drwy’r Grawys eleni.
Amen.

Cwestiynau

  1. Sut fyddech chi’n disgrifio’r ffordd rydych chi’n bersonol (neu eich eglwys neu eich Ardal Gweinidogaeth) yn teithio arni ar hyn o bryd?
  2. Sut fyddai angen diwygio addoliad eich eglwys i gynnig croeso mor eang â phosib (‘gwelyau ar gyfer pawb a ddaw’)?
  3. Ym mha ffyrdd mae geiriau Iesu’n ein cynorthwyo i gynnig cysur i’r rhai sydd dan gysgod profedigaeth?
  4. Pa un gair sy’n crynhoi eich teimladau am Iesu fel ‘y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd’?

Cymraeg

I, Jesus


The Fourth Week of Lent


I am the way, the truth and the life


‘Jesus said to him: “I am the way, the truth and the life. No one comes to the Father except through me.”’

John 14:6


We are used to hearing these words at funerals and it’s not hard to see why. People have been very unsure about the way ahead in this time of Covid. Tragically many have died and we have not been able to be with them in their dying. Moreover, we’ve often been unable to gather as family and friends to mourn our bereavement. Funerals, when they’ve taken place, have been limited and often seemed rather perfunctory and unsatisfactory. By contrast, these words of Jesus, from a chapter that begins ‘Do not let your hearts be troubled’, promise comfort.

Jesus has been speaking about going away (vv. 2 – 4). The disciples are naturally anxious about where he’s going and whether they will be able to follow him in time. It’s always difficult for those left behind when someone leaves, above all when they leave this life.

Jesus speaks of his ‘Father’s house’, where heaven and earth meet. He hints at a new city, a new world, a new ‘house’. There are many dwelling places, room for everyone: ‘beds for all who come’, as Christina Rossetti says (‘Up-Hill’, 1862). It is interesting to wonder what it might mean to have room for everyone (‘beds for all who come’) in our Ministry Areas.

Jesus is promising the disciples that, although he’s going away, it will be for their benefit; he won’t forget them and he won’t abandon them. We too cannot see the way ahead, and we need to know not only that there is indeed a way into the unknown future, but that we’ll be able to find it. Thomas complains (v.5) that they don’t even know where he’s going, so how can they know the way, the path, the road? In reply, Jesus affirms that he himself is that way, that path, that road.

Isaiah imagined a road across the desert called the Holy Way, a highway to God for God’s people (Isaiah 35:8). It is the highway that John the Baptizer came to herald, according to Matthew (3:3, see Isaiah 40:3); the way to God about which the psalmist prays that God will teach him: ‘Teach me your way, O Lord’ (Psalm 27:11). Jesus is that way to God, the way that we, our congregations, our Ministry Areas and the Church as a whole are called to travel.

But Jesus doesn’t leave it there. He is the way, but he’s also the truth: ‘Teach me your way, O Lord, that I may walk in your truth’ (Ps 86:11). He’s the way, the truth, but he’s also the life: ‘You show me the path of life’ (Psalm 16:11). If we want to know how to get to the Father’s house, we must follow Jesus who is the way, truth and life itself. We pray, in contrast to Robert Frost’s conception, that this becomes the road much travelled (‘The Road Not Taken’, 1916).

We’re probably not travelling the route we thought we would be travelling this year to get to the end of this pandemic. We should ask ourselves what that tells us about the nature of God – and how God seeks to guide us by the Holy Spirit.


Steve Rollins and George Williams


Almighty God,
in Jesus is the way to your truth
and to life in wholeness.
Be with your people in the deepening of faith
and the living as a disciple in the world.
Through your Holy Spirit help me hear Jesus say,
‘I am the way, the truth and the life’;
who was and is
and evermore shall be.
Amen.
I come to Jesus, the way, the truth and the life:
be with me as I seek your truth
in the known and unknown
of this Lenten journey.
Amen.

Questions

  1. How would you describe the road on which you personally (or your church or your Ministry Area) are travelling at the moment?
  2. How might you need to shape your church’s worship to provide as wide a welcome as possible (‘beds for all who come’)?
  3. In what ways do Jesus’ words help in offering comfort to those going through bereavement?
  4. What one word sums up your feelings about Jesus being ‘the way, the truth and the life’?