minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Myfi, Iesu


Pumed Wythnos y Grawys


Myfi yw'r bugail da


‘Myfi yw’r bugail da. Y mae’r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid.’

Ioan 10:11


Yn ei phregeth ‘Llais y Bugail’, mae Barbara Brown Taylor yn dwyn i gof rhywun a adwaenai a fagwyd ar ransh ddefaid ac a chwalodd y chwedl bod defaid yn dwp. Mae’n debyg bod ffermwyr gwartheg wedi lledaenu’r si honno oherwydd bod defaid yn ymddwyn yn wahanol i wartheg, sy’n cael eu gyrru o’r cefn drwy waeddi a phrocio. Os sefwch y tu ôl i ddefaid yn gwneud sŵn byddant ond yn rhedeg y tu ôl i chi. Mae’n well gan ddefaid gael eu harwain tra mae angen gwthio gwartheg. Ni aiff defaid ond i rywle y mae rhywun arall – y bugail maent yn ymddiried ynddo – wedi mynd yno gyntaf i ddangos iddynt bod popeth yn iawn.

Drwy gydol yr Hen Destament, ceir cyfeiriadau at arweinwyr, megis Abraham, Isaac, Jacob, Moses a Dafydd, yn bugeilio’r bobl. Yn Eseciel 34, datblygir y darlun gam ymhellach, gyda Duw yn dod yn fugail ac yn addo gofalu am ei bobl Israel: ‘Chwi fy mhraidd, praidd fy mhorfa, yw fy mhobl, a myfi yw eich Duw’ (adnod 31). Mae defnydd Iesu o’r ymadrodd ‘Myfi yw….’ yn atgoffa’r gwrandawyr o ateb Duw i Foses pan mae Moses yn gofyn am enw Duw fel y gall ddweud wrth yr Israeliaid yn yr Aifft pwy a’i hanfonodd. Ateb Duw yw ‘Ydwyf yr hyn ydwyf’ (Exodus 3:14) ac mae hynny, i’r gwrandawyr, yn golygu uniaethu Iesu â Duw.

Mae’r bugail da, sef Iesu, mor ffyddlon i’r rhai mae’n eu harwain fel ei fod yn fodlon ildio ei fywyd dros y defaid. Mae’n bwysig nodi nad dros ‘ei’ ddefaid y mae’n rhoi ei einioes ond dros ‘y’ defaid, dros yr holl ddefaid. Mae’n ildio ei fywyd dros yr holl bobl, nid dim ond dros y rhai sy’n ei ddilyn ond dros bawb sy’n clywed, ac adlewyrchir hynny yng nghenhadaeth gynhwysol a byd-eang yr Eglwys, a fydd yn goresgyn rhwystrau hiliol a diwylliannol.

Fodd bynnag, fe ddywed Iesu (adnod 14) ‘yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i’. Os gwyliwn ddefaid mewn cae, fe welwn, pan fydd rhywun yn mynd drwy’r cae, fod y defaid yn rhedeg y ffordd arall. Ond pan aiff y bugail i’r cae, mae’r defaid yn mynd ato yntau. Maent yn ei adnabod fel mae yntau’n eu hadnabod hwythau ac mae’r bugail yn siarad â hwy a hwythau’n gwrando. Mae Iesu’n dweud wrthym, os byddwn yn gwrando arno yntau ac yn ei ddilyn, yna byddwn yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Mae’n ein harwain lle mae’n dymuno i ni fynd, gan ddangos bod y llwybr yn ddiogel, ac fe ddilynwn, gan wybod y bydd popeth yn dda.

Mae Iesu’n mynd rhagddo i ddweud (adnod 16) bod defaid eraill, nad ydynt yn perthyn i’w braidd, ac nad ydynt yn clywed y llais nac yn adnabod y llais, ac mai dyletswydd y bugail da hwn yw eu cynnull hwythau’n ogystal, fel y gallant hwy hefyd ddilyn, gan greu, yn y pen draw, un praidd i fod gyda’r un bugail.

Rydym hefyd yn gweld y cyferbyniad rhwng y bugail da a’r gwas cyflog nad yw’n poeni gymaint am y defaid ac nad yw eu lles yn ofal pennaf iddo. Efallai fod hynny’n adlewyrchu cyd-destun ehangach lle mae Iesu’n cymharu agweddau ar ei arweinyddiaeth yntau ag arweinyddiaeth yr awdurdodau crefyddol. Yn wahanol iddynt hwythau, bydd Iesu’n rhoi ei fywyd dros y defaid oherwydd bod eu lles hwythau wedi ei blethu’n dynn â’i les yntau.

Efallai nad yw’r ddelwedd o Iesu fel bugail mor uniongyrchol berthnasol i ni heddiw ond mae meddwl am Iesu’n cynnig diogelwch, gofal ac ymdeimlad o berthyn yr un mor bwerus ag erioed. Efallai mai’r her i ni yw canfod ym mha fodd, yng nghanol sŵn a phrysurdeb bywyd bob dydd, yr ydym i ddirnad llais y bugail da a chaniatáu iddo ein harwain.

Lesley Rendle a Simon Freeman

Hollalluog Dduw,
yn Iesu ti yw’r bugail
sydd yn rhoi ei fywyd dros bawb,
sydd yn chwilio amdanom
ac yn ein galw wrth ein henwau.
Agor fy nghlustiau i glywed Iesu’n dweud,
‘Myfi yw’r bugail da’;
yr hwn a fu, y sydd
ac a fydd hyd byth.
Amen.
Deuaf at Iesu, y bugail da,
bydd gyda mi wrth i mi geisio dy wirionedd
yn yr hyn sy’n gyfarwydd a’r hyn sydd yn ddieithr
wrth droedio’r llwybr hwn drwy’r Grawys eleni.
Amen.

Cwestiynau

  1. Pe byddech am gadw anifeiliaid, beth fyddech chi’n eu dewis – gwartheg ynteu ddefaid? Os ydych chi’n cadw anifeiliaid yn barod, pa rai sydd orau gennych?
  2. Pa ddulliau sydd o gymorth i chi ‘glywed’ llais Iesu, y bugail da, yn eich tywys?
  3. Sut allwch chithau fod yn ‘fugail da’ mewn unrhyw swyddogaethau arweiniol sydd gennych (yn y cartref, y gymuned neu’r eglwys)?
  4. Pa un gair sy’n crynhoi eich teimladau am Iesu fel ‘y bugail da’?

Cymraeg

I, Jesus


The Fifth Week of Lent


I am the good shepherd


‘Jesus said to them: “I am the good shepherd. The good shepherd lays down his life for the sheep.”’

John 10:11


Barbara Brown Taylor in her sermon ‘The Voice of the Shepherd’ recalls a person she knew who grew up on a sheep ranch and dispelled the myth that sheep are stupid. Apparently cattle ranchers spread that rumour because sheep act differently from cows, which are herded from the rear with shouts and prods. If you stand behind sheep making noises, they will just run behind you. Sheep prefer to be led while cows need to be pushed. Sheep will only go somewhere that somebody else – their trusted shepherd – goes first to show them that everything is all right.

Throughout the Old Testament there are references to leaders, such as Abraham, Isaac, Jacob, Moses and David, shepherding the people. In Ezekiel 34, it is taken one step further with God becoming the shepherd and proclaiming that he will look after his people Israel: ‘You are my sheep, the sheep of my pasture and I am your God’ (v.31). Jesus’ use of the phrase ‘I am….’ reminds the hearers of God’s answer to Moses when Moses asks God’s name to take to the Israelites in Egypt. God replies, ‘I Am Who I Am.’ (Exodus 3:14) and this equates Jesus, to the hearers, with God.

The good shepherd, who is Jesus, is so faithful to those he leads that he is willing to lay down his life for the sheep. It is important to point out that the good shepherd doesn’t lay down his life for ‘his’ sheep but for ‘the’sheep, for all the sheep. He lays down his life for all the people, not just those who follow but all who hear, pointing to the inclusive and worldwide mission of the church, which will break through racial and cultural barriers.

However, Jesus does mention (v.14) that he ‘knows his own and his own know him’. Watching the sheep in a field, we see that when anybody goes through the field, the sheep run the other way. But when the shepherd enters the field, the sheep go towards him. They know him as he knows them and he talks to them and they listen to him. Jesus is telling us that if we listen to him, and we follow him, then we will go in the right direction. He leads us where he wants us to go, to show us it is safe and we follow, knowing all will be well.

Jesus goes on to say (v.16) that there are other sheep, who do not belong to the flock, those who don’t hear the voice or know the voice and it is the duty of this good shepherd to bring them along also, so that they too can follow and, in the end, create one flock to be with the one shepherd.

We also find a contrast between the good shepherd and the hired worker who doesn’t care so much for his sheep and is not fully committed to their welfare. Perhaps this is part of a wider context whereby Jesus is comparing aspects of his leadership with that of the religious authorities. Unlike them, he will lay down his life for the sheep because their wellbeing is so closely tied in with his own.

The image of Jesus as a shepherd may have less immediate relevance to us today but the idea that Jesus offers safety, care and belonging is as compelling as ever. Perhaps the challenge for us is how, amid the noise and busyness of daily life, we set about discerning the voice of the good shepherd and allowing ourselves to be led by him.

Lesley Rendle and Simon Freeman

Almighty God,
in Jesus you are the shepherd
who lays down his life for all people,
who searches us out
and calls us by name.
Open my ears to hear Jesus say,
‘I am the good shepherd’;
who was and is
and evermore shall be.
Amen.
I come to Jesus, the good shepherd,
be with me as I seek your truth
in the known and unknown
of this Lenten journey.
Amen.

Questions

  1. If you were keeping animals, which would you choose - cows or sheep? If you do keep animals, which do you prefer?
  2. What ways help you ‘hear’ the guiding voice of Jesus the good shepherd?
  3. What does being a ‘good shepherd’ look like for you in terms of any leadership roles you have (in the home, community or church)?
  4. What one word sums up your feelings about Jesus being ‘the good shepherd’?