minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Myfi, Iesu


Yr Wythnos Fawr


Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd


‘Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.”’

Ioan 11:25-26 


Y geiriau hyn yw coron dywediadau ‘Myfi yw’ Efengyl Ioan, y datguddiad eithaf o’r Crist Ymgnawdoledig fel y Tragwyddol Dduw. Mae pob un o’r dywediadau hyn, a lefarwyd cyn marw Iesu a’i atgyfodiad, yn yr amser presennol – ‘Myfi yw’ - ac yn ein gwahodd i berthynas â Duw sydd bob amser yn caru ac yn gofalu. Maent yn ein hatgoffa o eiriau Eseia 41:13: ‘Canys myfi, yr Arglwydd dy Dduw, sy’n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, “Paid ag ofni, yr wyf fi’n dy gynorthwyo.”’

Ni lefarwyd y dywediad ‘Myfi yw’ hwn ar goedd ond mewn sgwrs bersonol â Martha, y gwyddom ei bod yn gweld gwerth mawr mewn gwneud pethau, yn wahanol i Fair ei chwaer yr oedd yn well ganddi eistedd yn gwrando wrth draed Iesu (gweler Luc 10). Yn ing ei galar am ei hannwyl frawd y dewisodd Crist ddatgelu pwy ydoedd mewn gwirionedd wrth Fartha.

YDWYF – Y fi ydyw.

Cyfarchodd Martha Iesu â’r geiriau ‘Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw’. Cynigiodd Iesu iddi eiriau a oedd yn cyfleu gobaith mwy nag y gallai ei ffydd gyfyngedig ei ddychmygu. Ni wyddom pam y dewisodd wneud hynny yr union adeg honno ac wrth yr unigolyn arbennig yna, er fe ddywedir wrthym bod Iesu hefyd mewn galar dwys (adnodau 33, 38). Fel Martha, efallai i ninnau ar adegau deimlo’n ddig â Duw; ac fel yn achos Martha, mae Iesu’n cynnig yr un geiriau gobeithlon i ninnau.

I bawb ohonom sy’n gweinidogaethu, y geiriau llawn gobaith hyn, neges graidd yr Efengyl, y mae angen i ni eu cynnig i’r bobl rydym yn eu cyfarfod: ‘Mae Duw am fod mewn perthynas â thi, am ddod i mewn i brysurdeb a brys dy fywyd fel y mae o.’ Maent yn eiriau sy’n berthnasol i’r holl brofiadau sy’n arwain pobl fel Martha ym mhob oes i ofyn ‘Pam mae Duw wedi caniatáu i hyn ddigwydd?’ neu hyd yn oed ‘…wedi gwneud i hyn ddigwydd?’

Wrth feddwl bod Duw wedi ‘caniatáu’ neu ‘wneud’ i rywbeth ddigwydd rydym yn colli golwg ar yr ‘YDWYF’ yn Iesu, yr atgyfodiad a’r bywyd. Yng nghorwynt trychineb, mae hi mor hawdd dweud nad oedd Duw yno; ond gwyddom iddo fod yn y rhai a fu’n rhawio eira drwy’r nos neu’r diffoddwyr tân a aberthodd eu bywydau eu hunain wrth geisio achub eraill. Wrth i ni baratoi ein hunain ar gyfer y Pasg yn ystod yr wythnos sydd i ddod, y peth pwysicaf i’w gofio yw bod Crist wedi rhoi ei hun fel y gallwn ninnau brofi bywyd tragwyddol, gan ddechrau’r eiliad hon.

Os derbyniwn Iesu fel YDWYF, yna daw’r atgyfodiad yn rhywbeth llawer mwy nag athrawiaeth neu gysyniad diwinyddol. Mae’n gymaint mwy nag addewid ynghylch rhywbeth a fydd yn digwydd ar ôl i ni farw. Yn hytrach, mae’n addewid ar gyfer heddiw, ar gyfer y bywyd hwn rydym yn ei fyw yn awr. Mae Iesu’n sôn mewn man arall am ddod i gynnig ‘bywyd… yn ei holl gyflawnder’ (Ioan 10:10) – ac nid yw’r bywyd cyflawn hwnnw’n dod i ben pan fyddwn farw. Mae’n parhau y tu hwnt i’r bedd achos, drwy ei groes a’i atgyfodiad, drwy fod ynddo’i hun yr atgyfodiad a’r bywyd, fe drechodd Iesu farwolaeth.


Pam Odam a Nick Golding


Hollalluog Dduw,
yn Iesu amlygaist rym yr atgyfodiad
a’r bywyd newydd ynot ti.
Tyn ni bob dydd yn agosach at dy Deyrnas,
ar y ddaear megis y mae yn y nefoedd,
a nertha ni i’th wasanaethu mewn cariad a ffyddlondeb.
Agor fy nghalon i glywed Iesu’n dweud,
‘Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd’;
yr hwn a fu, y sydd
ac a fydd hyd byth.
Amen.
Deuaf at Iesu, yr atgyfodiad a’r bywyd:
bydd gyda mi wrth i mi geisio dy wirionedd
yn yr hyn sy’n gyfarwydd a’r hyn sydd yn ddieithr
wrth droedio’r llwybr hwn drwy’r Grawys eleni.
Amen.

Cwestiynau

  1. Pa sefyllfaoedd allwch chi feddwl amdanynt, mewn bywyd beunyddiol neu yn y newyddion, y teimlwch fod yna elfen o atgyfodiad ynddynt? Sut maent yn effeithio arnoch chi?
  2. Meddyliwch am amser pan oeddech yn teimlo’n ddig â Duw. Beth (os unrhyw beth) fu o gymorth i chi?
  3. Beth mae’n ei olygu i rannu newyddion da Iesu, yr atgyfodiad a’r bywyd, yng nghyd-destun y pandemig hwn?
  4. Pa un gair sy’n crynhoi eich teimladau am Iesu fel ‘yr atgyfodiad a’r bywyd’?

Cymraeg

I, Jesus


Holy Week


I am the resurrection and the life


‘Jesus said to her: “I am the resurrection and the life. Those who believe in me, even though they die, will live, and everyone who lives and believes in me will never die.”’

John 11:25-26 


These words are the crown of the ‘I ams’ of John’s Gospel, the ultimate revelation of Christ incarnate as God eternal. Each one of these sayings, spoken before Jesus’ death and resurrection, are in the present tense – ‘I am’ - and invite us into relationship with a God who always loves and cares. They remind us of Isaiah 41:13: ‘For I, the Lord your God, hold your right hand; it is I who say to you, “Do not fear, I will help you.”’

This ‘I am’ statement was not made in a public arena but spoken in an intimate exchange with Martha, whom we know put great value on doing, unlike her sister Mary who chose to sit listening at the feet of Jesus (see Luke 10). It was into the pain of the death of her dearly beloved brother that Christ chose to reveal the truth of who he was to Martha.

I AM – It is I.

Martha met Jesus with the words ‘if you had been here, my brother would not have died’. Jesus offered her words of greater hope than her limited faith could have imagined. We don’t know why he chose to do so in that moment and to that person in particular, although we are told that he too was grieving deeply (vv. 33, 38). Like Martha, we may have had times of feeling angry with God; like Martha, Jesus offers us the same words of hope.

For all in ministry, it is these words of hope, the core message of the gospel, that we need to offer to the people we encounter: ‘God wants to be in relationship with you, to come into the business and hurry of your life in the here and now.’ They are words relevant to all experiences that lead ‘Marthas’ to ask ‘Why has God allowed this to happen?’ or even ‘…made this happen?’

It is in thinking that God has ‘allowed’ or ‘made’ something to happen that we lose sight of the ‘I AM’ of Jesus who is the resurrection and the life. In the chaos of a catastrophe, it is so easy to say that God wasn’t there; but we know he was in those who dug away snow all night or the firefighters who sacrificed their lives trying to save others. As we prepare ourselves for Easter this coming week, the most important thing to remember is that Christ gave himself so that we can have everlasting life, beginning right now.

If we accept Jesus as I AM, then the resurrection becomes much more than a doctrine or a theological concept. It is so much more than the promise of something that happens after we die. Rather, it is promised now, in this life that we are living. Jesus speaks elsewhere of coming to bring ‘life… abundantly’ (John 10:10) – and such abundant life does not end with our death. It continues beyond the grave, because by his cross and rising again, by being in his own self the resurrection and the life, Jesus conquered death. 


Pam Odam and Nick Golding


Almighty God,
in Jesus you revealed the power of the resurrection
and new life in you.
Draw us ever closer to your kingdom,
on earth as it is in heaven,
and to serve you in love and faithfulness.
Open my heart to hear Jesus say,
‘I am the resurrection and the life’;
who was and is
and evermore shall be.
Amen.
I come to Jesus, the resurrection and the life:
be with me as I seek your truth
in the known and unknown
of this Lenten journey.
Amen.

Questions 

  1. What kind of daily life (or in the news) ‘resurrection situations’ can you think of? How do they affect you?
  2. Think of a time when you felt angry with God. What (if anything) helped you?
  3. What does it mean to share the good news of Jesus, the resurrection and the life, in the present context of a pandemic?
  4. What one word sums up your feelings about Jesus being ‘the resurrection and the life’?