minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Myfi, Iesu


Dydd y Pasg


Cyn geni Abraham, yr wyf fi


‘Yna meddai’r Iddewon wrtho, “Nid wyt ti’n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?’ Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.”’

Ioan 8:57-58


Os ydym wir wedi gwneud y Grawys yn rhyw fath o daith y galon, yna yn y dyfnder hwnnw y byddwn yn cyfarfod y Crist atgyfodedig. Gall y cyfarfod hwnnw drawsnewid ein siwrnai mewn ffydd i’r dyfodol, felly mae yna mewn ffordd gychwyn newydd – bid a fo i ni fod wedi cyfarfod Crist am y tro cyntaf amser maith yn ôl neu ond yn ddiweddar iawn.

Mae gan bob Eglwys ei thraddodiadau ar gyfer yr Wythnos Fawr sy’n arwain ar hyd llwybr tuag at ymgyfarfod â’r Crist atgyfodedig. Pa bynnag fersiynau o’r Efengylau rydym yn eu darllen, pa bynnag eiriau a gweddïau a ddefnyddiwn, ym mha bynnag ddull a phryd bynnag y byddwn yn derbyn y Cymun, pa bynnag ddulliau creadigol y gallwn eu canfod i gyfathrebu, yr un yw’r ffynhonnell: grym yr Ysbryd Glân a fu’n ymsymud ar wyneb y dyfroedd (Genesis 1:2).

Gallwn weld yr un grym ar waith yn y saint a adroddodd hanes eu hymgyfarfod â Christ mewn bywydau sanctaidd drwy’r canrifoedd. Deilliai eu sancteiddrwydd o bresenoldeb Ysbryd Duw yn eu calonnau, lle canfyddent y Crist atgyfodedig yn Waredwr iddynt, y Crist a wnaed yn ‘Air bywiol’ drwy’r Ysgrythurau a’i gyfieithu’n emynau a gweddïau dirifedi. A gallwn ninnau heddiw, sy’n ceisio dealltwriaeth ddyfnach, gamu i mewn i’r un stori honno sydd yn hŷn nag amser ei hun. Gallwn ddechrau sylweddoli, ar ffin eithaf dealltwriaeth ddynol, beth allai fod ystyr marwolaeth fuddugoliaethus Crist.

Meddai’r athronydd cyfoes, Eckhart Tolle, ‘Nid marwolaeth yw gwrthwyneb bywyd. Nid oes gwrthwyneb i fywyd. Gwrthwyneb marwolaeth yw genedigaeth. Mae bywyd yn dragwyddol.’ Mae hynny’n sicr o gymorth i ni werthfawrogi cylch blynyddol natur, a gwelwn wawrio gobaith y Pasg o fewn cyd-destun cyfarwydd blaguro’r gwanwyn. Ond dim ond yn sgil tocio’r gaeaf y gallwn ddechrau gwerthfawrogi egino’r tyfiant newydd. Dim ond wrth wynebu ein methiannau, a’n hangen am Dduw – ein marw i bechod – y gallwn hyd yn oed ddechrau deall Dydd Gwener y Groglith, a chofleidio bywyd atgyfodedig y Pasg. Ond beth am y disgrifiad yna o fywyd fel rhywbeth ‘tragwyddol’ a beth yw ei gyswllt â ‘genedigaeth’?

Dywed Crist wrthym ei fod yno cyn Abraham, sef tad a sylfaenydd y ffydd ar gyfer yr Iddewon a’r Cenhedloedd. Yn Genesis 15:5 dywed Duw wrth Abraham i edrych ar sêr y nefoedd, gan felly ddarlunio ehangder rhyfeddol ei ddisgynyddion. Felly hefyd, darlunia Iesu ei natur dragwyddol mewn ffordd y gallwn ninnau, efallai, ei deall pan ddywed ‘Myfi a’r Tad, un ydym’ (Ioan 10:30). Yn ei ddwyfoldeb, mae Crist yno cyn sylfaenu’r ffydd y’n ganed iddi fel un o ddisgynyddion Abraham.

Ar Sul y Pasg, gallwn felly ddathlu aberth a wnaed yn gyflawn wrth i Grist farw i’n hachub ni. Wedi ein huno ag ef fel ei gorff atgyfodedig, byw – yn rhannu ei natur yntau – rydym hefyd yn dathlu bod ein calonnau a’n bywydau’n anfeidrol. Nid yw angau’n bodoli bellach, ac mae’r bywyd y cawn ei eni iddo’n fywyd tragwyddol.

Felly, fe ddechreuwn dreiddio’n ddyfnach i wirionedd sy’n ganolog i stori’r Pasg: sy’n ymwneud â dechrau dod i adnabod yr un y gweddïwn arno yn well. Os ydym wir yn cyfarfod y Crist atgyfodedig yng nghraidd ein bod pan weddïwn, rydym wedi’n huno â’r Triol Dduw, yr Un uwchlaw amser, sy’n ein caru (Ioan 3:16). Dyna’r dechrau newydd sydd ei angen arnom, yn enwedig yn y dyddiau tywyll ac ansicr hyn: yr ymdeimlad o fod wedi’n ‘geni drachefn’, yn ôl cyngor Crist i Nicodemus (Ioan 3:3). Os cofleidiwn y gwirionedd hwnnw, yna byddwn, heddiw, Sul y Pasg, yn dechrau dirnad o’r newydd ‘Deyrnas Dduw’ ar waith yn ein bywydau ninnau, a’r Ysbryd Glân yn fyw ac yn weithgar yn y byd.


Eryl Parry a Siôn Rhys Evans


Hollalluog Dduw,
yn Iesu fe’th ogoneddir gan y Mab,
yr ‘ydwyf’ cyn bod Abraham.
O ddechrau amser
llefaraist drwy’r proffwydi
ac yn y Gair a wnaed yn gnawd.
Daeth bywyd newydd drwy’r atgyfodiad,
ac yn awr fe’n gelwi i ymuno â dawns bywyd
yn enw’r Un
a fu, y sydd
ac a fydd hyd byth.
Amen.
Deuaf at Iesu heddiw, Sul y Pasg:
ymrwymaf i’th ddilyn
drwy’r hyn fydd yn gyfarwydd a’r hyn fydd yn ddieithr
wrth droedio’r llwybr tua’r dyfodol.
Amen.

Cymraeg

I, Jesus


Easter Day


Before Abraham was, I am


‘Then the Jews said to him, “You are not yet fifty years old, and have you seen Abraham?” Jesus said to them, “Very truly, I tell you, before Abraham was, I am.”’

John 8:57-58


If we have truly made Lent something of a journey of the heart, then it is in that deep place that we meet the resurrected Christ. That meeting has the capacity to transform our onward walk of faith, so there is something of a new start – whether we first met Christ a long time ago or very recently.

Every church has Holy Week traditions which chart a path towards an encounter with the resurrected Christ. Whatever versions of the gospels we read, the words and prayers we use, how and when we receive Communion, and the creative ways we might find to communicate, there is the same source: the power of the Holy Spirit that swept over the face of the deep (Genesis 1:2).

We can see that same power at work in the saints who told the story of their encounter with Christ in holy lives over the centuries. Their holiness flowed from the Spirit of God in their hearts, where they found the risen Christ to be their Saviour, made into the ‘living Word’ through scripture and translated into countless hymns and prayers. And we today, as seekers of greater insight, can enter the same story that is older than time itself. We can begin to grasp, at the very limits of human understanding, what Christ’s conquering death might mean.

Modern day philosopher, Eckhart Tolle, has said ‘Death is not the opposite of life. Life has no opposite. The opposite of death is birth. Life is eternal.’ That certainly helps us to recognise nature’s annual cycle, and the rising hope of Easter is set within our own context of the buds of spring. Yet it is only with the ‘stripping back’ of winter that we can begin to appreciate those first shoots of new growth. It is only as we face our failures, and our need of God – a death to sin - that we can ever begin to understand Good Friday, and embrace the resurrected life of Easter. But what of that description of life as ‘eternal’ and what is its connection with ‘birth’?

Christ tells us he predates Abraham who is the ‘founding father’, the very ‘progenitor’ of the faith for Jews and Gentiles. In Genesis 15:5 God told Abraham to look at the stars in the sky, thereby describing the unimaginable extent of his descendants. So too, Jesus describes his eternal nature in ways we might understand as ‘the Father and I are One’ (John 10:30). As Christ is divine, he is before the founding of the faith into which we have been born as one of Abraham’s offspring.

On Easter Day, we can therefore celebrate a sacrifice completed in Christ dying to save us. In our union with him as his risen, living body – partakers of his very nature – we also celebrate that our hearts and lives are eternal. Death is no more, and the life into which we are born is eternal.

So we begin to dig deeper into a truth that underpins the Easter story: it is about beginning to know better the one to whom we pray. If we truly meet the resurrected Christ in the very centre of our own being when we pray, we are joined to the timeless Trinitarian God who loves us (John 3:16). This is the fresh start we need, especially in dark and uncertain times: the sense of being ‘born again’ as Christ counselled Nicodemus (John 3:3). If we take hold of that, then on this Easter day we begin to grasp afresh the ‘kingdom of God’ in our own life, and the Spirit alive and at work in the world.


Eryl Parry and Siôn Rhys Evans


Almighty God,
in Jesus you are glorified by the Son
who was, before Abraham, I am.
From the beginning of time
you have spoken through the prophets
and in the Word made flesh.
New life has come through the resurrection;
and now you call us to join the dance of life
in the name of the One,
who was and is
and evermore shall be.
Amen.
I come to Jesus, this Easter day:
I commit to follow you
through the known and unknown
of all that lies ahead.
Amen.