minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Rhobell Fawr
English

Trydedd Wythnos yr Adfent

Aros mae’r Mynyddau Mawr?


Hen, hen danau a chewri cerrig 

Tua Rhobell Fawr | Towards Rhobell Fawr

Mewn cornel anghysbell o Barc Cenedlaethol Eryri saif Rhobell Fawr, llosgfynydd diffoddedig a ffrwydrodd ddiwethaf rhwng 485.4 miliwn a 443.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae llawer o lifoedd lafa i’w gweld yno hyd heddiw a hefyd llawer o’r ‘allwthiadau’ sy’n dangos lle llwyddodd y lafa i wrthio’i ffordd i’r wyneb. Yn ystod ei hanes hir cafodd y dirwedd ei cherfio gan y rhewlifiannau a ffurfiodd yn ystod sawl oes iâ. Yn ardal y Migneint, ger mynyddoedd yr Arenig, roedd dyfnder y rhew yn 1,400m gyda rhewlifau’n llifo allan o’r capan iâ yno, gan ddyfnhau cymoedd a ffurfio bylchau rhwng y mynyddoedd. Er mai cymedrol yw o ran uchder (734 metr), mae Rhobell Fawr yn un o’r mynyddoedd mwyaf diddorol a hynafol yng Nghymru.

O’r copa, mae’r olygfa’n ymddangos bron yn annaearol. Gorchuddir y copa gan wellt garw, ond mae creigiau’n torri drwy’r wyneb gan ymddangos fel cerfluniau sydd wedi colli pob llun a ffurf. Wedi eu gweithio gan yr elfennau dros filiynau o flynyddoedd mae’r creigiau enfawr hyn yn cofnodi olion yr ennyd pan dasgodd ffrydiau o greigiau toddedig dros wyneb y ddaear ifanc. Ffurfiwyd metelau gwerthfawr hefyd yn ddwfn yng nghrawen y ddaear o ganlyniad i bwysedd gwres ac amser. Mae aur ardal Dolgellau, a ffurfiwyd gan ffrwydradau Rhobell Fawr, yn enwog ledled y byd ac mae gemwaith Clogau’n gyfarwydd i lawer.

Amgylchedd digroeso a geir yma. I fwynhau hudoliaeth harddwch gwyllt y mynydd, mae’n rhaid i gerddwyr wynebu dringfa serth a gwyntoedd gwyllt y copa noeth. Mae’r golygfeydd rhyfeddol oddi yno’n cynnwys mynyddoedd uwch a ieuengach, megis y Rhinogydd a’r ddwy Aran.

Mae bodau dynol wedi myfyrio llawer ynghylch y bryniau hynafol hyn, er mai ond yn gymharol ddiweddar y sylweddolwyd pa mor rhyfeddol o hen ydynt. Wrth sefyll ar gopa mynydd megis Rhobell Fawr deuwn yn ymwybodol pa mor gwbl feidrol ydym. Tra byddwn ninnau fyw am ein ‘dengmlwydd a thrigain’ bu mynyddoedd fel y rhain yma am lawer, lawer iawn hirach. Gall sylweddoli hynny fod yn ysbrydoliaeth ond gall hefyd fod yn ddarostyngol – pa ôl allwn ninnau ei adael ar y ddaear hon o gymharu â nodwedd naturiol a fu yma gyhyd?

Mae ystyried cyfnodau daearegol yn ein hysgogi i feddwl am amser mewn ffordd wahanol. Hawdd yw llywio’n bywydau o gwmpas cyflymder, cynnydd a datblygiad diddiwedd. Mae’r ffasiynau diweddaraf parthed ffordd o fyw’n mynd a dod mewn amrantiad ac mae newidiadau technegol yn digwydd yn ddryslyd o gyflym. Mae’r pandemig COVID-19 wedi hoelio’n sylw unwaith eto ar ystyried a ydym yn byw yng nghysgod cyfalafiaeth sy’n annog cyflymder a chynnydd ond lle nad ydym efallai’n parchu digon ar y cread yn ei wendid, ei harddwch a’i hirhoedledd. Mae’r chwant am dwf parhaus a defnyddio diddiwedd yn seiliedig ar y dybiaeth anghynaliadwy bod digon o bopeth i ganiatáu i bawb geisio hynny a fynnant yn ddilyffethair.

Nid dim ond oed cerrig a meini’r mynyddoedd hyn sy’n peri rhyfeddod; ond hefyd eu maint a’u mawredd. Mae’r darnau enfawr hyn o’r dirwedd yn pwyso miliynau o dunelli. Os yw eu hoedran yn ddychryn i ni, gall eu maint ein hysbrydoli i fyfyrio ar ryfeddod yr hyn oll a wnaeth Duw. Mae llawer o’r Salmau’n cyfeirio at fawredd y mynyddoedd er mwyn dangos pa faint mwy grymus yw Duw ac i ddarlunio ei bresenoldeb tragwyddol â’i bobl.

Gyda newid yn digwydd yn gyflymach, mae mynyddoedd megis Rhobell Fawr yn ein gwahodd i ddatblygu agwedd wahanol, gan edrych ar bethau mewn ffordd fwy gofalus ac ystyriol a chadw golwg ar y tymor hir. Mae hyn yn mynd yn groes i’r diwylliant sydd ohoni ac mae’n newid sy’n hynod arwyddocaol ar gyfer oes pan ydym yn fwy ymwybodol nag erioed pa mor fregus yw ein byd.


Tomenni gwastraff ac egin gwyrddion

Tomenni Blaenau | The heaps at Blaenau

Am ran helaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai Gogledd‑orllewin Cymru oedd yn darparu toeau’r byd. Byddid yn ‘cynaeafu’ llechi a ffurfiwyd dros filiynau o flynyddoedd o gywasgu llaid a mwynau gwaddodol ac yn eu hanfon ledled y byd fel defnyddiau adeiladu. Un o’r ardaloedd mwyaf cynhyrchiol oedd cyffiniau Blaenau Ffestiniog, lle sefydlwyd nifer o chwareli. Tyfodd y rhain yn rhwydwaith enfawr o fusnesau preifat a oedd yn cloddio ar gyfer yr ‘aur porffor’ a oedd o ansawdd digonol ar gyfer ei weithio a’i allforio. Adeiladwyd rheilffyrdd i gludo’r llechi i borthladdoedd cyfagos ar gyfer eu hallforio i America ac Ewrop. Fe wnaeth ‘brand’ Blaenau ddyrchafu’r ardal, a fu gynt ond yn gasgliad anghysbell o fân bentrefi, i fod yn un o ganolfannau diwydiant ac arloesi enwocaf y byd.

Ar ei hanterth Blaenau Ffestiniog oedd tref ail fwyaf y Gogledd, gyda mwy a mwy o bobl yn dod o rannau eraill o Gymru ac o fannau eraill ledled y Deyrnas Unedig gan fod yn fodlon gweithio’r oriau hirion dan amodau peryglus a fynnai perchnogion y chwareli. Ychydig iawn o’r gofynion iechyd a diogelwch modern a fodolai bryd hynny. Os na allech weithio am ba bynnag reswm, ni fyddai tâl na budd-dâl salwch o fath yn y byd. Byddai rhai o’r chwareli’n darparu barics ar gyfer eu gweithwyr ac weithiau eu teuluoedd hefyd ond byddai’n rhaid talu rhent a byddai hyd yn oed y tanwydd ar gyfer yr aelwyd yn y gaeaf yn cael ei ‘ddarparu’ am bris chwyddedig. Unwaith y byddai cyflogaeth gweithiwr wedi dod i ben, fe gollai ei lety hefyd, gan olygu y byddai teulu’n ddigartref a heb unrhyw incwm.

Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd dylanwad y chwareli’n gwanhau a’u cynnyrch yn lleihau. Rhoes llechi rhatach o Sbaen a dulliau cynhyrchu newydd lawer o bobl allan o waith. Yn raddol fe gaeodd y chwareli a gostyngodd poblogaeth Blaenau yn ddifrifol fel erbyn heddiw dim ond un chwarel sy’n parhau i weithio a bellach dim ond tua 4,900 o bobl sy’n byw yn y dref. Ystyrir Blaenau yn ardal a ddioddefodd amddifadedd economaidd, gyda’r trigolion yn gorfod ceisio dygymod ag amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol. Byddai rhai’n edrych i lawr eu trwynau at y gymuned hon, gan golli golwg ar y ffordd mae hanes cyffredin yr ardal wedi caniatáu datblygu nifer o fentrau a syniadau newydd.

Er na chynhwyswyd Blaenau Ffestiniog ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn y 1950au, mae egni newydd yno wedi arwain at ymwneud creadigol â’r amgylchedd. Bellach mae’r ceudyllau llechi anferth yn gartrefi i gyfleusterau adloniant modern, mae’r coedwigoedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer beicio mynydd a cherdded yn yr ucheldir ac mae’r rheilffordd dreftadaeth sydd wedi bod ar waith gyhyd yn edrych yn fodern a chyfoes. Mae llethrau prudd y tomenni gwastraff llechi, sy’n taflu eu cysgod dros y dref lawiog hon, yn cyferbynnu â’r ysbryd gobeithiol sy’n ysgogi’r rhai sy’n hyrwyddo’r datblygiadau newydd. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw math arall o ddyfodol yn seiliedig nid ar arferion cyflogwyr gormesol y gorffennol ond ar gyfalaf a gwerth mentergarwch pobl.


Testunau o’r Beibl

Arglwydd, buost yn amddiffynfa i ni ymhob cenhedlaeth. Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw. Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch, ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.” Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos. Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd; y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore— yn tyfu ac yn adfywio yn y bore, ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino. Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig, ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd. Gosodaist ein camweddau o'th flaen, ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb. Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig, a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid. Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith. Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter, a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni? Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth. Dychwel, O Arglwydd. Am ba hyd? Trugarha wrth dy weision. Digona ni yn y bore â'th gariad, inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau. Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni, gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd. Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision, a'th ogoniant i'w plant. Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom; llwydda waith ein dwylo inni, llwydda waith ein dwylo.

Salm 90

Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, eich Gwaredydd, Sanct Israel: “Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi cân y Caldeaid yn wylofain. Myfi, yr Arglwydd, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin.” Dyma'r hyn a ddywed yr Arglwydd, a agorodd ffordd yn y môr a llwybr yn y dyfroedd enbyd; a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin: “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes. Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig, sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.

Eseia 43:14-21

Yn Salm 90, mae’r awdur yn myfyrio ar y Duw sydd yn hŷn hyd yn oed na chreigiau’r mynyddoedd: ‘Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw. Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch, ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.” Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.’ (adnodau 2-4).

Gallai cymhariaeth o’r fath wneud i ni deimlo’n fychan a dibwys. Pwy ydym ni mewn cymhariaeth â’n Duw, sy’n gwylio dros bopeth yn dragwyddol, yr un nad oes iddo ddechrau na diwedd? Ar gynfas y realiti hwnnw, gall bywyd dynol ganfod diben a gwerth oherwydd ein bod yn atebol am yr hyn a wnawn â’r ychydig amser sydd gennym. Mae’r atebolrwydd hwnnw, ynghyd â’r wybodaeth ein bod wedi’n creu ar lun a delw’r tragwyddol Dduw (Genesis 1:26) yn rhoi i ni urddas. Golyga hefyd nad ydym byth yn rhydd ond i wneud fel y mynnwn. Mae gennym gyfrifoldeb tuag at Dduw a thuag at bopeth a wnaed, y greadigaeth a roddwyd i ni i’w stiwardio a’i gwarchod (Genesis 2:15).

Er bod Duw’n dragwyddol a thu hwnt i ddeall bodau dynol, nid yw hynny’n golygu bod popeth yn sefyll yn yr unfan. Gwelai’r proffwyd Eseia allu Duw i weithio adnewyddiad: ‘Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.’ (43:19). Gellir disgrifio hyn fel ‘ffydd mewn atgyfodiad’ sy’n gweld y tu hwnt i amgylchiadau’r presennol ac yn gallu dychmygu sut allai bywyd fod.

Mae gweledigaeth Eseia’n arbennig o bwerus oherwydd bod argyfwng y gaethglud ar y pryd yn ei gwneud yn anodd dychmygu’r fath adfywiad, ond nid dim ond Eseia a brofodd weledigaeth o’r fath. Dengys hanes y patriarchiaid y modd y mae’r thema Ysgrythurol o ennill yn cydbwyso â cholled yn ymestyn yn ôl at ddechreuadau ffydd gyfamodol. Byddai’r ‘tad dyrchafedig’ (Abram) yn colli’r statws hwnnw er mwyn i’r genedl gael ei bendithio drwy ‘dad lliaws’ (Abraham), ac amlygir y newid drwy roi enw newydd iddo. Weithiau, o’r colledion a brofwn y daw enillion mawr yn bosibl. O’i sofraniaeth mae’r Arglwydd Dduw yn gallu gwneud ‘peth newydd’ sy’n gwneud brethyn bywyd yn ffocws ei ddibenion daionus. Nid yw’r ffaith i ni ysbeilio’r greadigaeth yn golygu bod pob gobaith am adnewyddiad ar ben.


Dyfod mae’r amser

Yn ystod tymor yr Adfent rydym yn arbennig o ymwybodol o amser. Mae mynyddoedd Gogledd Cymru megis cynfas o filoedd ar filoedd o flynyddoedd a gall hynny ein cynorthwyo i grisialu’n meddyliau ynghylch cwrs ein bywydau ninnau. Pan ysgrifennodd yr Apostol Paul at y Cristnogion yn Rhufain, treigl amser a ysbrydolodd ei feddyliau ynghylch dychweliad Iesu: ‘Dyma'r awr ichwi i ddeffro o gwsg. Erbyn hyn, y mae ein hiachawdwriaeth yn nes atom nag oedd pan ddaethom i gredu. Y mae'r nos ar ddod i ben, a'r dydd ar wawrio.’ (Rhufeiniaid 13:11-12).

Roedd y Cristnogion cyntaf yn credu’n bendant y byddai’r Arglwydd yn dychwelyd ac edrychent ar eu cenhadaeth yng ngoleuni’r digwyddiad hwnnw oedd ar ddod. Mae ystyriaeth aeddfed drwy’r canrifoedd wedi galluogi’r Eglwys i fyw gyda’r un gobaith, ond dros gyfnod hirach. Nid yw ein dealltwriaeth ninnau o amser o reidrwydd yr un ag yw dealltwriaeth Duw ac mae hynny’n gofyn am ddyfalbarhau mewn amynedd – gwirionedd y mae angen, efallai, i lawer o eglwysi ei gofleidio’n ddyfnach.

Rydym hefyd yn ymwybodol yn ystod yr Adfent, sy’n dymor edifeiriol, mai pechaduriaid ydym. Mae hanes cynnar y chwareli’n amlygu’r duedd ormesol yn y natur ddynol, pan fu i arferion gwaith israddol a gorfod gweithio oriau hirion am gyflog gwael gadw cymunedau yng ngharchar tlodi. Er tristwch, nid yw’r duedd honno mewn pobl wedi newid ac mae angen i ni wneud mwy nag ond cydnabod arferion gwael y gorffennol. Dylem ymroi i gefnogi tegwch a chyfiawnder drwy fentrau megis Masnach Deg oherwydd bod amodau gormesol yn parhau’n gyffredin mewn llawer o rannau o’r byd. Nid yw’r Efengyl yn caniatáu i ni arddel neges ysbrydol nad yw’n cael effaith ar lawr gwlad ac sy’n wan ei dylanwad ar y ffordd rydym yn byw a’r dewisiadau a wnawn.

Yn olaf, yr Adfent yw dechrau’r Flwyddyn Eglwysig ac o’r herwydd mae’n amser i ymgysegru o’r newydd. Yn union fel yr aur sydd wedi’i gladdu’n ddwfn o dan y creigiau o gwmpas Rhobell Fawr, mae trysor i’w ganfod. Craidd y trysor yw Iesu, y Gair a oedd yno ar wawrddydd y greadigaeth (Colosiaid 1:15), yr oedd ei ddyfodiad yn golygu nid yn unig trawsnewid cymunedau dynol ond hefyd adnewyddu’r ddaear. Os yw i wir gofleidio’r gwirionedd hwn, fe elwir yr Eglwys i gydweithio â Duw i ddangos bod byw’r bywyd cyflawn a gynigir yng Nghrist yn golygu mabwysiadu set wahanol o werthoedd a blaenoriaethau newydd. Mae’n golygu caru Duw ond mae hefyd yn golygu caru ein cymydog fel ni ein hunain. 


Tomenni Blaenau | The heaps at Blaenau

Colect

Dad nefol, ar y blaned fechan a phrydferth hon a alwn yn gartref i ni, lle gall pob cam a gymerwn beri llefain mewn loes neu ddryllio breuddwyd; cynorthwya ni, yn hytrach na chanolbwyntio’n ddiffrwyth ar bechodau’r gorffennol, i wynebu heriau heddiw â llawenydd, gyda chariad yn ein calonnau a chyda pharodrwydd i gofleidio’r hunanaberth sy’n ofynnol er mwyn gadael i’n plant a’n hwyrion waddol byd sydd o leiaf gystal â’r un y cawsom ninnau ei fwynhau. Amen.

Cwestiynau

  1. Pa dri pheth sydd wedi newid fwyaf yn ystod eich bywyd chi?
  2. Beth allai orfod dod i ben yn eich Ardal Gweinidogaeth er mwyn i rywbeth newydd ddatblygu?
  3. Pa fath o ‘drysor cudd’ allai Duw fod yn ein gwahodd i’w ddarganfod?
  4. Pam allai fod angen ‘dyfalbarhau mewn amynedd’ arnom ar yr adeg hon?

Cymraeg

The Third Week of Advent

Mountains and Moels


Ancient fires and stone giants

Tua Rhobell Fawr | Towards Rhobell Fawr

In a little-known corner of the Snowdonia National Park stands Rhobell Fawr, an extinct volcano which erupted between 485.4 million and 443.8 million years ago. Not only does it still preserve many lava flows, but it also exposes many of the ‘extrusions’, showing where lava was able to force its way to the surface. In its long history, the landscape has been shaped by glaciation throughout the various ice ages. At the Migneint area, near the Arenig mountains, the depth of ice was 1,400m and glaciers radiated from this ice cap, deepening valleys and forming mountain passes. Although modest in height (734 metres), Rhobell Fawr is one of the most distinctive and ancient mountains in Wales.

Standing at the summit is to be greeted by a vista that seems almost unearthly. The apex is covered with coarse grass, but rocky outcrops break onto the surface, rising up like statues that have lost all shape and form. Worn away over millions of years these giant rocks retain the impression of the moment when streams of molten rock spurted out onto a young earth. Precious metals have also been formed deep within the earth’s crusts as a result of the pressures of heat and time. The gold of the Dolgellau area, formed by the Rhobell eruptions, is famous worldwide and Clogau jewellery is a household name.

This is an inhospitable environment, as captivating in its wild beauty as it is risky for any hill walker unprepared for the arduous ascent and blustery conditions at the top. The extraordinary views from the summit encompass larger, younger mountains, such as the Rhinogs and Arans.

Human beings have often pondered these ancient peaks, although their extraordinary age is a relatively recent discovery. Standing at the top of a mountain like Rhobell is to become conscious of our deep finitude. Whereas we live our ‘threescore years and ten’, such mountains have been incomprehensibly longer in the making. This can be a humbling experience as well as inspiring – what mark can we make on this earth against the timescale of a natural feature that has existed so long?

The span of geological eras prompts us to have a different perspective on time. We easily forge a life of speed, progress and constant development. The latest lifestyle trends pass quickly and technological shifts occur with a rapidity that is breath-taking, even bewildering. The COVID-19 epidemic has once more focused our attention on whether our lives are being lived out in the shadow of a capitalism which encourages speed and progress but whether sufficient respect for creation in its fragility, beauty and longevity is being similarly marked. The drive towards constant growth and consumption is founded on a premise which might be unsustainable: that there is enough of everything for everyone to have all they want without restraint.

It is not only the age of the rock and stone in these mountains that is humbling; it is their sheer size and magnitude. These gigantic bits of landscape weigh millions of tons. If their age daunts us, their size can inspire us to reflect on the wonder of all that God has made. Many of the Psalms invoke the majesty of the mountains to speak of God’s greater strength and everlasting presence with his people.

When the rapidity of change is accelerating, mountains such as Rhobell invite us to develop a different attitude, calling forth a more deliberate, reflective and longer term perspective. This is deeply counter cultural and significant in an age where consciousness about our fragile world is more developed than at any time previously.


Waste heaps and green shoots

Tomenni Blaenau | The heaps at Blaenau

For a large part of the nineteenth century North West Wales is said to have ‘roofed the world’. Slate formed over millions of years by the pressure of weight on sedimentary muds and minerals, was ‘harvested’ and sent across the globe to provide building materials. One of the most productive areas was the array of quarries which sprung up near Blaenau Ffestiniog. These became a vast network of privately owned businesses that extracted the ‘purple gold’ of sufficient quality to shape and export. Railways were built to take the slates to nearby ports for export to America and Europe. The Blaenau ‘brand’ elevated the town from an obscure collection of small settlements to one of the most famous places of industry and innovation in the world.

At its height, Blaenau Ffestiniog was the second largest town in North Wales, with increasing numbers coming from other parts of Wales and across the United Kingdom in search of employment, willing to work the long hours in dangerous conditions required by the quarry owners. Few of the modern health and safety regulations existed. If you could not work for any reason, there was no pay and no sickness benefit. Some quarries provided barracks for the workmen and sometimes their families but rent was payable and even fuel for a winter fire was ‘provided’ at an inflated cost. Once a labourer finished their employment, their residency ended too and that meant a family would be homeless, as well as lacking any source of income.

By the middle of the twentieth century the quarries were waning in their influence and output. Cheaper Spanish slates and new production methods put many out of work. Gradually the quarries closed and the population of Blaenau plummeted, until today there is just one working quarry and the population stands at around 4,900. Blaenau is regarded as an area that has suffered economic deprivation, with residents seeking to manage a range of social issues. Some would stigmatize this community and miss the way that a shared history has allowed a range of new initiatives and ventures to emerge.

Although Blaenau was omitted from the Snowdonia National Park in the 1950s, new energy has resulted in creative engagement with the environment. The vast slate caverns now house modern entertainment facilities, the forests provide mountain biking and hill walking opportunities and the long established heritage railway has a modern and contemporary appearance. The looming mountains of slate waste, which cast shadows across the town (plus a higher than average rainfall) contrast with the spirit of hope in those who are forging new development. What is becoming apparent is a different kind of future based not on the exploitative labour practices of former years but the capital and currency of human initiative.


Bible passages

Lord, you have been our dwelling-place in all generations. Before the mountains were brought forth, or ever you had formed the earth and the world, from everlasting to everlasting you are God. You turn us back to dust, and say, ‘Turn back, you mortals.’ For a thousand years in your sight are like yesterday when it is past, or like a watch in the night. You sweep them away; they are like a dream,  like grass that is renewed in the morning; in the morning it flourishes and is renewed; in the evening it fades and withers. For we are consumed by your anger; by your wrath we are overwhelmed. You have set our iniquities before you, our secret sins in the light of your countenance. For all our days pass away under your wrath; our years come to an end like a sigh. The days of our life are seventy years, or perhaps eighty, if we are strong; even then their span is only toil and trouble; they are soon gone, and we fly away. Who considers the power of your anger? Your wrath is as great as the fear that is due to you. So teach us to count our days that we may gain a wise heart. Turn, O Lord! How long? Have compassion on your servants! Satisfy us in the morning with your steadfast love, so that we may rejoice and be glad all our days. Make us glad for as many days as you have afflicted us, and for as many years as we have seen evil. Let your work be manifest to your servants, and your glorious power to their children. Let the favour of the Lord our God be upon us, and prosper for us the work of our hands— O prosper the work of our hands!

Psalm 90

Thus says the Lord, your Redeemer, the Holy One of Israel: For your sake I will send to Babylon and break down all the bars, and the shouting of the Chaldeans will be turned to lamentation. I am the Lord, your Holy One, the Creator of Israel, your King. Thus says the Lord, who makes a way in the sea, a path in the mighty waters, who brings out chariot and horse, army and warrior; they lie down, they cannot rise, they are extinguished, quenched like a wick: Do not remember the former things, or consider the things of old. I am about to do a new thing; now it springs forth, do you not perceive it? I will make a way in the wilderness and rivers in the desert. The wild animals will honour me, the jackals and the ostriches; for I give water in the wilderness, rivers in the desert, to give drink to my chosen people, the people whom I formed for myself so that they might declare my praise. 

Isiah 43:14-27

In Psalm 90, the writer reflects on the God who is more ancient even than the rocks of the mountains: ‘Before the mountains were brought forth, or ever you had formed the earth and the world, from everlasting to everlasting you are God. You turn us back to dust and say, “Turn back, you mortals.” For a thousand years in your sight are like yesterday when it is past, or like a watch in the night.’ (vv. 2-4).

Such comparison might make us feel diminished, insubstantial. Who are we in relation to our God whose oversight is eternal, who has no beginning and no end? Within this reality, human life can find purpose and value because we are accountable for what we do with the small amount of time we have. This accountability, as well as the knowledge that we are made in the image of the eternal God (Genesis 1:26) gives us dignity. It also means that we are never at liberty to do just as we please. We have a responsibility to God and to all that has been made, which has been given to us to steward and protect (Genesis 2:15).

Even though God is eternal and beyond human understanding, that does not mean stasis and stagnation. The prophet Isaiah saw in God the capacity for works of renewal: ‘I am about to do a new thing; now it springs forth, do you not perceive it? I will make a way in the wilderness and rivers in the desert.’ (43:19). This could be described as a kind of ‘resurrection faith’, seeing beyond current circumstances and able to imagine what life might become.

Isaiah’s vision is particularly powerful because the contemporary crisis of exile made such renewal hard to conceive, but it is not unique to the prophet. The history of the patriarchs showshow the Biblical theme of loss balanced by gain stretches back to the beginnings of covenant faith. The ‘exalted father’ (Abram) would lose that status in order for the nation to be blessed through the ‘father of many’ (Abraham), the change reflected in a new name. Sometimes it is from the losses we experience that great gains are possible. The Sovereign Lord God is able to do a ‘new thing’ which makes the material of life the focus of God’s good purposes. Just because we have despoiled creation, that does not mean an utter end for every hope of renewal.


The time is soon

In the season of Advent we are deeply conscious of time. The mountains of North Wales offer a backdrop of millennia and this can focus our thoughts on the timeframe of our own lives. When St Paul wrote to the Christians at Rome, it was the passing of time that inspired his reflections on the return of Jesus: ‘The hour has already come for you to wake up from your slumber, because our salvation is nearer now than when we first believed. The night is nearly over; the day is almost here.’ (Romans 13:11-12).

The first Christians lived with a clear expectation that the Lord would return and they saw their mission in the light of this impending event. Mature reflection over the centuries has allowed the Church to live with this same hope but over a longer period of time. Our own understanding of time is not necessarily God’s and this invites patient endurance - perhaps a lesson that many churches need to learn more deeply.

We are also conscious in Advent, a penitential season, that we are sinful. The history of early quarrying reveals the exploitative trait in the human character when sub-standard work practices and long hours with poor pay kept communities locked into poverty. Sadly that human trait has not changed and we need to do more than acknowledge historic bad practice. We should commit to supporting fairness and justice through initiatives such as Fair Trade because exploitative conditions are still prevalent in many parts of the world. The gospel will not allow for a spiritual message that has no traction on the ground and weak implications for the way we live and the choices we make.

Finally, Advent is the start of the Church year and so a time to renew commitment. Like the gold buried deep within the rocks around Rhobell Fawr, there is treasure to be discovered. This treasure centres on Jesus, the Word present at the dawn of creation (Colossians 1:15) whose coming meant not just the transformation of human community but also the renewal of the earth. Holding this truth close means that the Church is called to work with God to show that the fullness of life offered in Christ invites a different set of values and new priorities. It means loving God but also loving our neighbours as ourselves. 


Tomenni Blaenau | The heaps at Blaenau

Collect

Heavenly Father, on this small and beautiful planet we call home, where every footstep risks a cry of anguish or a broken dream; help us not to dwell and self-indulge on the sins of the past, but to face our present day challenges with cheerfulness, with love in our hearts and the self-sacrifice needed to leave our children and grandchildren a world at least as good as the one we have enjoyed. Amen.

Questions

  1. What three things have changed most in your lifetime?
  2. What might have to end in your Ministry Area for something new to emerge?
  3. What kind of ‘hidden treasure’ might God be inviting us to discover?
  4. Why might we need ‘patient endurance’ at this time?