minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Tywydoedd Fairbourne | The sands at Fairbourne
English

Pedwaredd Wythnos yr Adfent

Twyni a Thraethau


Teg edrych tuag adref? 

Tua Fairbourne | Towards Fairbourne

Daeth llawer o breswylwyr pentref Fairbourne yng Ngwynedd i fyw yno ar ôl mwynhau gwyliau yn yr ardal pan oeddent yn blant. Cafodd y pentref ei gynllunio yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel pentref glan môr ar yr hyn a fu’n forfa heli a thir pori. Dros y blynyddoedd tyfodd i fod yn gymuned o ychydig gannoedd o dai, siopa, meysydd gwersylla a rheilffordd fach, gyda chyfuniad o gloddiau, system ddraenio a muriau’n ei warchod rhag y llanw. Efallai, yn ddadleuol, mai’r llecyn tawel hwn fydd y gymuned gyntaf yn y Deyrnas Unedig y bydd yr awdurdodau’n cefnu arni oherwydd cynnydd yn lefel y môr o ganlyniad i newid hinsawdd. Yn 2013, cyhoeddodd y Cyngor Sir y byddai cynnal a chadw’r amddiffynfeydd rhag y môr am gyfnod amhenodol yn anghynaliadwy. Cynigiwyd y byddid, o fewn degawdau, yn dileu pob arwydd i bobl fyw ar y safle fel y gall y tir ddychwelyd i fod yn forfa heli fel y bu.

Bu’r cyfryngau’n sôn am oblygiadau cynnydd yn lefel y môr ers blynyddoedd bellach. O chwilio ar-lein gellir canfod amryw o graffigau sy’n dangos beth fydd yn digwydd i arfordir Cymru wrth i lefel y môr gynyddu. Gyda chynnydd o 30 metr (ychydig dros 90 troedfedd) byddai afonydd yn ehangu’n enfawr, byddai Penrhyn Llŷn o fewn y dim i fod yn ynys a byddai ardal Porthmadog yn troi’n archipelago. Fel arfer, fodd bynnag, mae’r cyfryngau’n canolbwyntio ar wledydd â thirwedd isel yn y gwledydd datblygol felly, fel yn achos cymaint o fygythiadau i’n byd, mae’r bygythiad hwn fel petai’n peri rhyw bryder cyffredinol i ni yn hytrach nag yn effeithio arnom yn bersonol. Gall fod yn sioc i ni sylweddoli y bydd gan y DU hefyd ei ffoaduriaid oherwydd newid hinsawdd – ac nid senario o ryw ffilm trychineb mo hynny ond rhywbeth sy’n bygwth dod yn brofiad byw i gymunedau megis Fairbourne.

Ar un lefel (yn arbennig os nad effeithir arnom yn bersonol) gallwn ymgysuro rywfaint bod morfa heli’n gweithredu fel rhwystr naturiol rhwng tir a môr. Dyna sut y daeth ‘morfa’ yn elfen mewn enwau lleoedd ar hyd arfordir Cymru. Yn wahanol i forgloddiau neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, sy’n gostus i’w cynnal a’u cadw, i atal grym y tonnau, mae morfa heli’n ymateb i rythm y llanw, gan amsugno dŵr a chreu pridd wrth i lystyfiant bydru. Maent hefyd yn darparu cynefin i fywyd gwyllt ac yn gweithredu fel rhyw fath o sbwng ar gyfer carbon deuocsid. I bobl Fairbourne, mae llawer mwy yn y fantol na newid mewn tirwedd neu wella cynefin bywyd gwyllt. Byddent yn wynebu colli’r traeth trawiadol â’i dywod braf a’r olygfa odidog ar draws Aber Mawddach. Byddai’n rhaid iddynt adael y gymuned lle maent wedi ymsefydlu ac ymgartrefu. Ni fyddai cydnabod bod hynny’n anochel yn wyneb newid hinsawdd yn lleddfu’r loes.

Mae llawer o ffactorau’n peri i ni deimlo bod rhywle’n ‘adra’ i ni. Efallai fod gennym drysorfa o atgofion braf o’r amser a dreuliasom yno. Efallai i ni ganfod bod gennym wreiddiau teuluol yno neu efallai mai’r cwbl sy’n cyfrif yw bod y lle gymaint gwell na’r lleoedd y buom yn byw ynddynt o’r blaen. Gall ein perthynas â’n ‘milltir sgwâr’ bersonol fod yn seiliedig ar ganrifoedd o hanes, ond mae ffaith newid hinsawdd yn ddigon i’n sobri. Mae’n ein hatgoffa y gellir dweud amdanom fel rhywogaeth nad y tir sy’n perthyn i ni ond mai ni sy’n perthyn i’r tir. Y blaned hon yw ein hunig gynefin; annhebygol iawn yw y gallwn ganfod ‘adra’ unrhyw le arall. Hyd yma, fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i osgoi talu gwir gost gwarchod yr amgylchedd unigryw hwn gan adael y ddyled yn waddol i genedlaethau i ddod. 


Trwsio’r toredig

Twyni Niwbwrch | The sands at Newborough

Yn Ne-orllewin Ynys Môn, wrth yrru car byddwn yn gadael pentref Niwbwrch y tu ôl i ni ac yn dilyn ffordd droellog sy’n arwain drwy giât talu i mewn i goedwig o binwydd Corsica a ffynidwydd, lle mae wiwerod coch yn crwydro. Byddwn yn cyrraedd yn y pen draw at faes parcio trefnus, gyda thoiledau ac arwyddion, lle mae nifer o lwybrau sydd wedi’u harwyddo yn arwain i ffwrdd rhwng y coed. Ar ddiwrnod gwyntog byddwn yn clywed y môr cyn gweld y tonnau’n torri tu draw i’r twyni, gydag Ynys Llanddwyn yn denu cerddwyr i groesi’r traeth hir tuag ati.

Gelwir yr ardal yn ei chyfanrwydd yn Dywyn Niwbwrch a dyma’r ardal ehangaf o dwyni tywod yng Nghymru. Ynghyd ag Ynys Llanddwyn, fe’i dynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ym 1955, er nad yw hynny’n cynnwys y goedwig. Plannwyd y goedwig gan y Comisiwn Coedwigaeth (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) rhwng 1947 a 1965 i ddarparu cyflenwad o bren ond hefyd i rwystro’r twyni rhag cael eu chwythu ymaith. Er i’r coed sefydlogi’r tir, cawsant hefyd yr effaith o sychu’r lefel trwythiad, gan o bosibl fygwth y rhwydwaith bregus o gynefinoedd a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae gwaith rheoli gofalus yn parhau gyda’r nod o leihau’r effaith hwnnw a sicrhau bod digon o arwynebedd tywod yn aros heb orchudd llystyfiant.

Gall fod yn syndod sylweddoli bod y dirwedd hardd hon y tynnwyd ei llun gymaint yn ganlyniad i gadwyn hir o ddigwyddiadau, trychinebau ac ymyriadau dynol. Yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gollyngodd stormydd ffyrnig lwythi mawr o dywod ar yr hyn a fu’n dir amaethyddol ffrwythlon o gwmpas Niwbwrch. Cafodd y moresg a dyfodd ar y twyni a ffurfiodd ei gasglu’n lleol ar gyfer gwehyddu – ac yna daeth y cwningod i ymgartrefu, gan ffynnu am ganrifoedd fel adnodd lleol gwerthfawr arall, hyd ymron cael eu difa’n llwyr gan fycsomatosis yn y 1950au.

Tyfodd poblogrwydd Niwbwrch yn rhyfeddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chymorth cynyddu proffil Ynys Llanddwyn gan gyfres deledu yn 2019 a oedd yn dilyn pedwar teulu’n byw yno fel y byddent yn nechrau’r ugeinfed ganrif. Caiff nifer fawr o ymwelwyr eu denu yma gan y cyfuniad hudol o goedwig, traeth, ynys y gellir cerdded iddi a’r olygfa eang tuag at Eryri ac arfordir Llŷn yn ymestyn tua’r gorwel. Mewn pôl piniwn a gynhaliwyd ar-lein yn ystod y cyfnod clo, pleidleisiwyd mai ras parc Coedwig Niwbwrch oedd yr ‘orau yn y byd’, yn curo safleoedd eraill mor bell i ffwrdd ag Awstralia.

Mewn rhai ffyrdd, mae’r ardal gyfan yn tystio i’r budd a all ddod pan fydd bodau dynol yn ymyrryd mewn tirwedd. Gallai gadael i’r safle ‘ddad-ddofi’ ohoni ei hun fod o fudd i rai rhywogaethau a chynefinoedd ond, am y tro, cynhelir cydbwysedd rhesymol rhwng gwahanol flaenoriaethau: cynefin pwysig yn wyddonol, rhywle i deuluoedd gael hwyl, adnodd cynhyrchu pren a safle ar gyfer mentrau fel y Triathlon Llanc y Tywod blynyddol. Nid yw gweithgarwch dynol yn arwain o reidrwydd at ddirywiad amgylcheddol; nid oes raid i newid olygu newid er gwaeth. 


Testunau o’r Beibl

Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, 17ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”

Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd. Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt.Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.”

Genesis 2:15-17,3:17-19

Yna dangosodd yr angel imi afon dŵr y bywyd, yn ddisglair fel grisial, yn llifo allan o orsedd Duw a'r Oen, ar hyd canol heol y ddinas. Ar ddwy lan yr afon yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg cnwd, gan roi pob cnwd yn ei fis; ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd. Ni bydd dim mwyach dan felltith. Yn y ddinas bydd gorsedd Duw a'r Oen, a'i weision yn ei wasanaethu; cânt weld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau. Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd.

Datguddiad 22:1-5

Mae’r Beibl yn agor gyda hanes Duw yn creu cartref ar gyfer y ddynoliaeth – paradwys mewn gardd – ac yn cloi gyda gweledigaeth o ardd mewn dinas, paradwys wedi’i hail-greu. Er mai cynnig egwyddorion, yn hytrach na chanllawiau manwl, ar gyfer y ffordd rydym i fyw y mae’r disgrifiadau trawiadol, maent yn dangos y modd, yn y dechreuad, yr oedd y Creawdwr yn dymuno y byddai yna berthynas gydnaws rhwng y creaduriaid a’r cread. Cafodd y berthynas honno ei niweidio, ond nid ei dinistrio, gan anufudd-dod y ddynoliaeth, a thrwy ddyfodiad Iesu cafodd ei hiacháu tu hwnt i bob disgwyl. Yn y diwedd, mae’r iachâd hwnnw yn amlwg yn cael ei gynnig i bawb, nid yn unig i’r rhai sy’n sicr eu bod wedi’u ‘hachub’, wrth i’r ‘cenhedloedd’ gael eu croesawu i ddinas Duw (Datguddiad 21: 24 – 26).

Yn yr ardd, yn y dechreuad, mae’r ddynoliaeth yn gartrefol ond mae gwaith i’w wneud hefyd. Nid yw’r gwaith yn arbennig o drwm, gan mai coed ffrwythau sy’n tyfu yn yr ardd hon, ond mae Duw hefyd yn gosod ffiniau: nid oes gan y dyn a’r ddynes (a gyflawnir i ni yn 2:22) hawl i bopeth yn yr ardd hon. Mae croesi’r ffiniau hynny o fwriad yn profi’n weithred gwbl ddinistriol: yn ogystal â dod ag ymrafael a thrallod rhwng creaduriaid byw (3:14 – 16), golyga y bydd y tir ei hun bellach yn gofyn ymdrech i’w drin yn hytrach na chynnig ffrwythlondeb rhwydd. Mae’r sôn am lafurio caled a ‘drain ac ysgall’ yn darlunio bywyd blinderus ffermwyr ymgynhaliol sydd ag ond un cynhaeaf rhyngddynt a newyn drwy’r adeg. Mae bywyd toreithiog y greadigaeth, y datganodd Duw ei fod yn ‘dda iawn’, bellach dan gysgod angau anochel, ac adleisir y geiriau ‘llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli’ ar lan llawer bedd hyd heddiw.

Roedd deddfau’r Hen Destament yn darparu ar gyfer hwsmonaeth ddoeth a dulliau ffermio trugarog (ar gyfer y tir yn ogystal â’r da byw, megis egwyddor y ‘flwyddyn Sabothol’, Lefiticus 25: 2 – 7). Ac fe gawn gipolwg weithiau hefyd ar y gobaith o adfer yn gyflawn y cydbwysedd, y gynghanedd a’r dedwyddwch a fwriadai’r Creawdwr yn y lle cyntaf. Mae yn Eseciel 47, er enghraifft, ddisgrifiad byw o afon yn llifo o’r Deml yn Jerwsalem ar ôl adfer y ddinas yn dilyn trychineb y gaethglud i Fabilon. Ar ddwy lan yr afon mae ‘nifer mawr o goed’ (adnod 7), sy’n ffrwytho’n fisol ac y mae eu ‘dail yn iechyd’ (adnod 12).

Adleisir gweledigaeth Eseciel yn eglur gan Ioan o Batmos yn Natguddiad 22: mae’r afon yma eto, ond y tro hwn cyfeirir ati’n benodol fel ‘dŵr y bywyd’ (adnod 1) ac mae’n llifo nid o’r Deml ond ‘allan o orsedd Duw a’r Oen’, yng nghanol y Jerwsalem newydd sydd wedi dod i lawr i’r ddaear o’r nefoedd. Yn y ddinas hon nid oes angen aros am y cynhaeaf achos mae pren y bywyd ei hun yn tyfu ar lan afon bywyd, gan ddwyn cnwd newydd o ffrwyth bob mis ynghyd â’r dail bendithiol hynny sydd ‘er iachâd y cenhedloedd’ (adnod 2). Mae’n werth nodi mai’r union yr un rhai yw’r ‘cenhedloedd’ sydd wedi eu cynnull ynghyd i’r cartref newydd disglair hwn â’r rhai a fu gynt mor anufudd i ofynion Duw ac mor gyndyn i ymateb i unrhyw alwadau i newid, fel y’u disgrifir mewn penodau blaenorol yn Llyfr y Datguddiad. 


Edrych ymlaen mewn gobaith

Wrth graidd gobaith yr Adfent i ni mae’r gobaith am ddychweliad Iesu. Ni ddylai meddwl am hynny ein dychryn gyda delweddau o ddedfrydau’r llys ac apeliadau na wrandewir; o gwmpas gorsedd yr un a ddaw yn farnwr mae’r enfys, sy’n arwydd o drugaredd tragwyddol Duw (Datguddiad 4: 3) ac sy’n ein hatgoffa o addewid Duw i warchod y greadigaeth ar ôl dinistr y Dilyw.

Mae gobaith yr Adfent yn ein gwahodd i edrych ymlaen tuag at adeg pryd, unwaith eto, y bydd cydbwysedd a chynghanedd yn nodweddu’r greadigaeth, pryd y perchir pob bywyd ac y bydd y ddynoliaeth yn troedio’n dyner ar y ddaear. Mae’r adeg honno wedi ei rhagddarlunio’n barod yn nyfodiad Eneiniog Duw, a anwyd yn faban fel ninnau, a fu fel gŵr ifanc yn pregethu ac yn iacháu ac, yn y diwedd, a fu farw i wneud iawn am bechodau’r byd, gan drwsio’r greadigaeth ddrylliedig. Drylliodd ei atgyfodiad rym angau ei hun a daeth Ysbryd Duw i rymuso ei ddilynwyr i gludo’r newyddion da i bob rhan o’r byd.

Pan weddïwn ‘Deled dy deyrnas, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd’, sôn yr ydym am y nefoedd yn dod yma yn hytrach na ninnau’n mynd yno. Mae rhannu’r newyddion da, gobaith yr Efengyl, yn ymwneud nid yn unig â’r hyn sydd i ddod y tu hwnt i’r bedd ond â dangos mai dyma newyddion da ar gyfer heddiw ac ar gyfer ein cyd-destunau presennol a phersonol. Mae’r newyddion da’n golygu y bydd y diffeithwch yn blodeuo a’r crastir yn troi’n llynnoedd (gweler Eseia 35:1 – 2, 7), y byd naturiol yn ymgorffori llawenydd y ddynoliaeth o gael ei hadfer i’w gwir gartref (adnod 10).

Gallwn deimlo’n ddiymgeledd ar gefnfor hanes, gyda’n bywydau bach a’n dewisiadau pitw’n effeithio dim ar gerhyntau byd-eang ymelwa didrugaredd ac awchu am enillion tymor byr ar draul colledion hirdymor. Fe’n gelwir fel dilynwyr Crist, fodd bynnag, i gysegru’n dyddiau i unioni camweddau, i herio anghyfiawnder ac anghyfartaledd ac i amddiffyn achos y bregus a’r rhai di-lais, ac mae hynny’n cynnwys y blaned ei hun.


Llanddwyn

Colect

Arglwydd Dduw, creawdwr y mynyddoedd a’r môr, fel y mae’r llanw a’r trai yn rhoi ac yn cymryd ymaith, rho i ni’r ewyllys a’r doethineb i weithio gyda rhythmau dy greadigaeth, i ddod â chydbwysedd a chynghanedd i’n byd ac i’n bywydau; drwy Iesu Grist ein Harglwydd, gyda’r hwn yr wyt ti a’r Ysbryd Glân yn teyrnasu mewn undod perffaith. Amen.

Cwestiynau

  1. Rhannwch atgof llawen o adeg gwyliau.
  2. Sut ydym i ganfod y cydbwysedd iawn rhwng defnyddio a diogelu adnoddau’r ddaear?
  3. Sut ydym i gyfrannu tuag at ‘iachâd y cenhedloedd’?
  4. Pa newidiadau allwn ni eu gwneud yn ystod yr Adfent eleni i ‘droedio’n dynerach ar y ddaear’?

Cymraeg

The Fourth Week of Advent

Strands and Sands


What price home? 

Tua Fairbourne | Towards Fairbourne

A good many residents of the Gwynedd community of Fairbourne came to live there after enjoying childhood holidays in the area. In the late 19th century the village had been planned as a seaside resort on what had been salt marsh and grazing land. Over the years it grew to a few hundred houses, shops, campsites and a miniature railway, the tides held back by a system of banks, drainage channels and walls. Controversially, this tranquil spot may become the first UK settlement to be abandoned because of rising sea levels linked to climate change. In 2013 the county council announced that maintaining sea defences indefinitely would be unsustainable. They proposed that in a matter of decades, every sign of human habitation should be removed so that the land can revert to the original salt marsh.

The media have aired the implications of rising sea levels for a number of years now. An online search produces various graphics showing what happens to the Welsh coastline as sea levels go up. A 30 metre rise (just over 90 feet) would massively expand rivers, take the Llŷn Peninsula to within a hairs-breadth of island status and transform the Porthmadog area into an archipelago. Usually, however, the focus is low-lying countries in the developing world so, as with many global threats, it seems to concern us in a general way rather than affecting us personally. It may be shocking to realise that the UK will have climate change refugees too – and that’s not a scenario from a disaster movie but potentially a fact of life for communities like Fairbourne.

At one level (especially if we are not personally affected) we may find some comfort in the thought that salt marshes are the natural buffer between land and sea. This was how ‘morfa’, ‘coastal marsh’, became incorporated into community names up and down Wales. Instead of a maintenance-heavy sea-wall or rigid flood defences against the force of the waves, salt marshes respond to the ebb and flow of tide, absorbing water and creating soil from decaying vegetation. They also provide a wildlife habitat and operate as a kind of sponge for carbon dioxide. For the people of Fairbourne, there is far more at stake than a change of landscape or improved wildlife habitat. They would face losing the sweeping sandy beach and majestic panorama of the Mawddach estuary. They would have to leave the community where they have put down roots and made a home. The pain of such would not be diminished by a sense of its inevitability in the face of climate change.

Many factors play a part in triggering a sense of ‘home’ for us. Perhaps we have a store of happy memories from time spent there. Perhaps we have discovered family roots there or perhaps a location simply offers a wonderful contrast to where we have previously lived. Our relationship to our particular ‘milltir sgwar’ (or ‘home patch’) may go back centuries, but the fact of climate change is sobering. It reminds us that, as a species, we could be said to belong to the land, rather than the land belong to us. This planet is our only habitat; we are extremely unlikely to find ‘home’ anywhere else. Until now, though, we have managed to defer the true cost of preserving this unique environment to the purses of future generations. 


Mending the marred

Twyni Niwbwrch | The sands at Newborough

At the south west corner of Anglesey, the car driver leaves behind the village of Newborough and heads along a winding road that leads through a ticket barrier and into a forest of Corsican and Scots pine, roamed by red squirrels. You emerge eventually at a carefully laid-out carpark, with toilets and signage, where various waymarked trails branch off into the trees. On a windy day, you hear the sea before you catch sight of the waves breaking beyond the dunes, with Llanddwyn Island tempting walkers across the long curve of the shore.

The area as a whole is known as Newborough Warren, comprising the largest area of sand dunes in Wales. Together with the island of Llanddwyn, it was declared a National Nature Reserve in 1955, although the forest is excluded from the ‘reserve’ designation. That was planted by the Forestry Commission (now Natural Resources Wales) between 1947 and 1965 to provide timbers supplies but also to stop the sand dunes blowing away. While the trees stabilised the land, they also had a drying effect on the water table, potentially threatening the fragile network of habitats which are designated a Site of Special Scientific Interest. Ongoing careful management aims to minimise this effect and ensure that sufficient areas of sand remain free of vegetation.

It may be surprising to realise that the beautiful and much-photographed landscape is the consequence of a long chain of events, catastrophes and human interventions. Back in the fourteenth century, violent storms deposited huge quantities of sand on what had been fertile farmland around Newborough. The marram grass that grew in the resulting dunes was locally harvested for weaving – and then the rabbits moved in as well, flourishing for centuries and providing another valuable local resource, until virtually wiped out by myxomatosis in the 1950s.

Newborough’s popularity has grown exponentially in recent years, boosted by the profile given to Llanddwyn Island by a 2019 TV series featuring four families living there 1900s-style. Huge numbers of visitors are drawn by a magnetic combination of forest, beach, accessible island, and the panorama of Snowdonia and the Llŷn coast stretching beyond. An online poll conducted during the pandemic lockdown voted Newborough Forest parkrun ‘best in the world’, beating competition from as far away as Australia.

In some ways, the whole area is testament to the benefits of human intervention in a landscape. Leaving the area to ‘rewild’ itself would benefit some species and habitats but, for now, a reasonable balance is struck between different priorities: scientifically important habitat, place for family fun, timber resource, and also setting for such endeavours as the annual Sandman Triathlon. Human activity does not automatically lead to environmental degradation; change does not have to mean change for the worse. 


Bible passages

The Lord God took the man and put him in the garden of Eden to till it and keep it. And the Lord God commanded the man, ‘You may freely eat of every tree of the garden; but of the tree of the knowledge of good and evil you shall not eat, for in the day that you eat of it you shall die.’

And to the man he said,
‘Because you have listened to the voice of your wife,and have eaten of the tree about which I commanded you, “You shall not eat of it”,cursed is the ground because of you; in toil you shall eat of it all the days of your life; thorns and thistles it shall bring forth for you; and you shall eat the plants of the field. By the sweat of your face you shall eat bread until you return to the ground, for out of it you were taken; you are dust, and to dust you shall return.’

Genesis 2:15-17, 3:17-19

Then the angel showed me the river of the water of life, bright as crystal, flowing from the throne of God and of the Lamb through the middle of the street of the city. On either side of the river is the tree of life with its twelve kinds of fruit, producing its fruit each month; and the leaves of the tree are for the healing of the nations. Nothing accursed will be found there any more. But the throne of God and of the Lamb will be in it, and his servants will worship him; they will see his face, and his name will be on their foreheads. And there will be no more night; they need no light of lamp or sun, for the Lord God will be their light, and they will reign for ever and ever.

Revelation 22:1-5

The Bible begins with the story of God creating a home for humanity – a garden paradise – and ends with the vision of a garden in a city, paradise re-made. While the vivid descriptions offer principles (rather than blueprints) for living, they show how, in the beginning, the Creator intended a harmonious relationship between creatures and creation. That relationship was damaged but not destroyed by human disobedience and, through the coming of Jesus, healed beyond expectation. In the end, that healing is clearly held out to all people, not just the self-identified ‘saved’, as ‘the nations’ are welcomed into the city of God (Revelation 21: 24 – 26).

In the garden, in the beginning, humanity is at home but has work to do as well. The work is not particularly demanding, because this garden consists of fruit-bearing trees, but God also provides boundaries: the man and the woman (whom we meet in 2:22) cannot have access to everything in the garden. The wilful crossing of those boundaries proves totally destructive: as well as strife and anguish between living creatures (3:14 – 16), the ground itself is doomed to become a place of struggle instead of easy fruitfulness. The ‘painful toil’ and ‘thorns and thistles’ speak of the arduous life of the subsistence farmer, always one harvest away from going hungry. The abundant life of creation, declared ‘very good’ by God, is now warped by the inevitability of death: ‘dust you are and to dust you will return’, words echoed at every grave-side.

The Old Testament law made provision for wise husbandry and compassionate farming methods (for the land as well as livestock, such as the principle of the ‘Sabbath year’, Leviticus 25: 2 – 7). What we also find are glimpses of a full restoration of the balance, harmony and blessedness that was the Creator’s original intentions. Ezekiel 47, for example, speaks in vivid terms of a river flowing from the temple in a Jerusalem restored after the ravages of exile to Babylon. This river is flanked by ‘a great number of trees’ (v.7), which bear fruit each month and whose leaves are healing (v.12).

Ezekiel’s vision is clearly echoed by John of Patmos in Revelation 22: here again is the river, but this time it is explicitly identified as ‘the water of life’ (v.1) and it flows not from the temple but from ‘the throne of God and of the Lamb’, at the heart of the new Jerusalem which has come down to earth from heaven. In this city, there is no need to wait for harvest because the tree of life itself grows on the banks of the river of life, and every month sees a fresh yield of fruit, and those medicinal leaves that are for the healing of ‘the nations’ (v.2). It is worth noting that the ‘nations’ gathered into this shining new home are the very same who had been so disobedient to God’s ways and resistant to any calls to change, as described in the earlier chapters of Revelation. 


Looking forward in hope 

At the heart of our Advent hope is the hope of Christ’s return. That prospect should not frighten us with overtones of courtroom verdicts and appeals unheard; the throne of the one who comes as judge is encircled by the rainbow that is the symbol of God’s eternal mercy (Revelation 4:3) and a reminder of God’s promise to safeguard creation after the devastation of the Flood.

Our Advent hope is about looking forward to a time when, once again, creation is characterised by balance and harmony, when all life is honoured and humanity walks lightly on the earth. That time has already been foreshadowed in the advent of God’s Anointed One, born as a helpless baby, preaching and healing as a young man and, in the end, dying to atone for the sins of the world, mending the brokenness of creation. His resurrection broke the power of death itself and the coming of God’s Spirit empowered his followers to take the good news to the ends of the earth.

When we pray ‘Thy kingdom come on earth as in heaven’, we are speaking in term of ‘heaven coming here’ rather than us ‘going up there’. Our sharing of the good news, the gospel hope, is not simply about what lies beyond the grave but showing that this is good news for today, for our present and personal contexts. The good news means the wilderness ‘bursting into bloom’ and the desert sands becoming pools (see Isaiah 35:1 – 2, 7), the natural world embodying the joy felt by humanity restored to their true home (v.10).

We may feel helpless in the tides of history, our small lives and petty choices making no impact on the global currents of relentless profiteering and short-term gains at the price of long-term losses. We have a calling as Christ’s followers, however, to give our days to the righting of wrongs, to facing down injustice and inequalities, and defending the cause of the vulnerable and voiceless, and that includes the planet itself.


Llanddwyn

Collect

Lord God, creator of the mountains and the sea, as the ebb and flow of the tide gives and takes away, grant us the willingness and wisdom to work with the rhythms of your creation, to bring balance and harmony in our world and in our lives; through Jesus Christ our Lord, with whom you and the Holy Spirit reign in perfect unity. Amen.

Questions

  1. Share a happy holiday memory.
  2. How do we find the balance between consuming and conserving earth’s resources?
  3. How do we participate in the ‘healing of the nations’?
  4. What changes can we make this Advent to ‘walk more lightly on the earth’?