minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ordeiniad a Churadiaethau 2018

Mae Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o gyhoeddi bydd y gwasanaeth ordeinio eleni yn cael ei gynnal ar Fehefin 30ain, 2018, am 3yp yng Nghadeirlan Bangor.

Mae 'na groeso i bawb ddod i fod yn rhan o’r dathliad arbennig hwn o weinidogaethau ordeiniedig a thrwyddedig lleyg newydd.

Bydd gwybodaeth am yr ymgeiswyr ar gyfer gweinidogaethau lleyg trwyddedig yn dilyn maes o law.

Gan dybio iddyn nhw lwyddo yn eu hadroddiadau terfynol o Athrofa Padarn Sant, mae Esgob Andy y falch i gyhoeddi bod disgwyl i’r canlynol gael eu hordeinio'n Ddiacon:

  • Mr. Simon Freeman (trosiannol*,cyflogedig) i wasanaethu ei guradiaeth ym Mro Gwydyr
  • Mr. Nick Golding (neilltuol*, digyflog) i wasanaethu ei guradiaeth ym Mro Eifionydd
  • Mr. Vince Morris (trosiannol*,cyflogedig) i wasanaethu ei guradiaeth ym Mro Tysilio

Gan dybio iddyn nhw gwblhau eu blwyddyn fel Diacon yn llwyddiannus, mae Esgob Andy y falch i gyhoeddi i gyhoeddi bod disgwyl i’r canlynol gael eu hordeinio'n Offeiriad:

  • Parch Llewellyn Moules-Jones (cyflogedig) i barhau i wasanaethu ei guradiaeth ym Mro Deiniol
  • Parch Lesley Rendle (digyflog) i barhau i wasanaethu ei churadiaeth ym Mro Tysilio
  • Parch Sara Roberts (cyflogedig) i symud o Fro Enlli i barhau ei churadiaeth ym Mro Madryn
  • Parch Allan Wilcox (digyflog) i barhau i wasanaethu ei guradiaeth ym Mro Eryri

Gweddïwch dros Simon, Nick, Vince, Llew, Lesley, Sara ac Allan wrth iddyn nhw barhau i ddatblygu a thyfu yn eu gweinidogaethau ordeiniedig yn y dyfodol.

Gweddïwch hefyd dros eu teuluoedd, eu ffrindiau a’r Ardaloedd Gweinidogaeth fydd yn eu croesawu ac yn ffarwelio â nhw.

* Rhywun sydd wedi profi galwad i fod yn Ddiacon yn unig yw diacon neilltuol. Mae diacon trosiannol yn rhywun sydd wedi profi galwad i'r offeiriadaeth, ac mae ordeinio fel diacon yn rhan o'u taith.

Cymraeg

Ordination and Curacies 2018

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce that this year’s ordination service will take place on June 30th 2018, at 3pm in Bangor Cathedral.

All are welcome to come and to be part this very special celebration of new ordained and licensed lay ministries.

Information about the candidates for licensed lay ministries will follow in due course.

Assuming satisfactory final reports from St Padarn's Institute, Bishop Andy is pleased to announce that the following are due to be ordained as Deacons:

  • Mr. Simon Freeman (transitional*, stipendiary) will serve his curacy in Bro Gwydyr
  • Mr. Nick Golding (distinctive*, non-stipendiary) will serve his curacy in Bro Eifionydd
  • Mr. Vince Morris (transitional*, stipendiary) will serve his curacy in Bro Tysilio

Assuming satisfactory conclusion of their year as a deacon, the following are due to be ordained as Priests :

  • Rev Llewellyn Moules-Jones (stipendiary) will continue to serve his curacy in Bro Deiniol
  • Rev Lesley Rendle (non-stipendiary) will continue to serve her curacy in Bro Tysilio
  • Rev Sara Roberts (stipendiary) will move from Bro Enlli to continue her curacy in Bro Madryn
  • Rev Allan Wilcox (non-stipendiary) will continue to serve his curacy in Bro Eryri


Please do pray for Simon, Nick, Vince, Llew, Lesley, Sara, and Allan as they continue their formation and grow into their future ordained ministries.

Please also pray for their families, friends and the Ministry Areas which they are joining and leaving.

* A distinctive deacon is someone whose calling is to the diaconate alone. A transitional deacon is someone whose calling is to the priesthood, and ordination as a deacon is part of their journey.