minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Alison Sayes

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.

Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.

Yma, cawn sgwrs â Alison am ei galwedigaeth fel Gweinidogaeth Teulu.


Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun.

Ges i ’ngeni a’m magu yn Todmorden sydd yn swyddogol yng Ngorllewin Swydd Efrog, ond rhan o Swydd Gaerhirfryn ydy o go iawn. Gwraig, mam, mam wen, nain, wedi bod yn fydwraig, rhedwr, canwr, rhannwr, gofalwr, rhoddwr... wn i ddim be. Ia, bywyd bendithiol. Rôn i wrth fy modd bod yn fydwraig. Wyddwn i ddim mai bydwraig fyddwn i, er ’mod i am fod yn nyrs erioed, ond dyna oedd yn ymddangos y peth iawn, yn enwedig yn y gymuned. Meddylies i ‘Dyma dwi fod!’ Rhywbeth fyddai pobol eraill yn ei ddweud amdana i ydy nad ydw i’n hoff o newid. ’Mod i’n siarad pymtheg i’r dwsin ac yn mynd ymlaen yn rhy hir!

Beth sydd wedi’ch arwain i’r fan yma felly?

Doedd hi ddim yn hir ers i ’nhad farw ac roeddwn i'n gofalu am fy mam ac yn gweithio fel bydwraig pan ges i wahoddiad i fynd ar gwrs. Cefais fy ngosod i eistedd ar draws y ffordd i Rhys a dyma ni jest yn clicio ’lly. Mi wnaethon ni gyfarfod ychydig wythnosau’n ddiweddarach yn Ffrainc, heb gyfarfod ers y pryd bwyd. Y noson honno yn Ffrainc wnaethon ni jest dweud, "Lle dan ni’n mynd i fyw ’ta?" Roedd hynny 26 mlynedd yn ôl a dyma ni. Dwi’n credu i Dduw ei anfon. Mi brynon ni dŷ yn Aberdyfi a byddai Mam a fi’n mynd i Eglwys Sant Pedr ac yn teimlo bod croeso cynnes i ni yno. Byddai pobol yn gofyn fyddwn i’n ymuno â’r côr bob tro roeddwn i draw a, pan oedd ein mab yn naw oed, symudon ni i fyw yma’n barhaol ac fe wnes i ymroi i fywyd yr Eglwys a dysgu Cymraeg.

Mae mynd o fod yn aelod o’r côr i fod yn drwyddedig yn dipyn o naid. Sut ddigwyddodd hynny?

Pan oedd yr Ardaloedd Gweinidogaeth yn cael eu creu, fe wnes i’r cwrs Arweinydd Addoliad fel y gallwn i gynnig help gydag arwain gwasanaethau. Fe wnes i’r cwrs Gofal Bugeiliol hefyd a gwneud mwy a mwy o bethau. Des i’n ddirprwy warden ac yna soniodd rhywun sy’n dod yma ar wyliau’n rheolaidd am Lanllanast. Roedden ni i gyd yn meddwl tybed pwy fyddai’r un i arwain hynny ac oherwydd fy mod innau yn y pantomeim bob blwyddyn, yn canu ac yn dawnsio ar y llwyfan, mi ofynnwyd i mi! Awgrymodd llawer o bobol fy mod yn fy nghynnig fy hun i fynd ymhellach ond roeddwn bob amser yn dweud "Na, na, na. Dim diolch." Ond yna roeddwn i wedi bod yn meddwl yn ystod y cyfnod clo am yr hyn mae Duw am i mi ei wneud ac yna daeth e-bost gan Dominic ac roeddwn i’n meddwl, "’Rhoswch funud!" ac mi es am dro efo’r ci. Des i’n ôl a’i ffonio a dweud, "Sut alla i ddweud na pan dwi wedi bod yn gofyn?" Roeddwn i’n teimlo gymaint bod Duw yn fy nerbyn ac yn fy nhywys i’r lle iawn y foment honno.

Beth dach chi’n ei hoffi am arwain Llanllanast?

Roeddwn i mor nerfus, wyddoch chi, mae’n beth mawr tydi, y cyfrifoldeb? Dydw i ddim yn un am waith crefft ond daeth pobol eraill ymlaen â’r union sgiliau oedd eu hangen ac roedd yn wych. Fe wnes i’r croesawu a dwi wrth fy modd yn gwneud hynny. Dyma beth rydw i eisiau ei wneud, o fod yn fydwraig. Pwy bynnag sy’n dod drwy’r drws mae’n rhaid i chi wneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw a’u gwneud yn gartrefol yn syth. A dwi wrth fy modd yn dweud y stori a chael y plant i wisgo amdanynt a chymryd rhan.

Pa un ydi’ch hoff fisgeden?

Sinsir candi bob tro. Does dim ots o ble mae’n dod. Ond dydw i ddim yn eu dowcio yn fy mhaned. Er bod Peter Kaye yn dod o’r un parthau â fi, dwi’m yn ei ddilyn yn hynny!

Beth yw’r peth gorau am fod â ffydd?

Mae’n gyfle i wneud daioni drwy wenu a bod yn neis wrth bobol ar y stryd a chael eich adnabod fel rhywun fydd bob amser yn helpu. Mae’n swnio’n ystrydebol ofnadwy ond dim ond bod yn neis efo’n gilydd. Gair arall sy’ newydd ddod i’r meddwl ydi cynhaliaeth. Mae gen i bobol yn fy mywyd y galla i siarad â nhw ond mae ffydd bob amser yno tydi.

Beth sy’n eich cyffroi fwya’ am gael eich trwyddedu?

Dwi am fod yn gwbwl onest wrth ddweud nad ydw i gant y cant yn siŵr ar hyn o bryd. Roeddwn i’n gwybod mai dyma’r peth iawn i’w wneud nesaf ond dydw i ddim yn gwybod yr ateb. Mae gen i deimlad o dderbyn, mai dyma beth rydw i i fod i’w wneud. Mae ’na rywbeth maen nhw’n ei alw’n syndrom ymhonnwr dwi wir yn medru uniaethu ag o. Byddwn wrthi’n paratoi rhywbeth a byddwn yn teimlo yn y lle cyntaf ddylwn i ddim bod yn gwneud hynny. Mae teimladau’n bwysig i mi a byddwn yn meddwl, "Bydd rhywun yn gofyn rhywbeth i ti" a byddwn i’n teimlo na ddylwn i fod yma mewn gwirionedd. Ond mae’r ffaith bod pobol eraill wedi ei deimlo ac wedi ’nghynnig a bod o’n dod o Dduw yn gadael i mi ddweud, "O, iawn, oce ’ta".

Pa gyngor allech chi ei roi i rywun sy’n meddwl tybed beth arall y gall ei gynnig i Eglwys Dduw?

Gweddïwch am arweiniad a byddwch yn agored i’r arweiniad hwnnw a gall fod yno’n curo ar eich drws ac mae’n rhaid i chi fod yn agored iddo.


Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Licensing and Ordinations 2021: Alison Sayes

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.

They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.

Here, we talk to Alison about her vocation as an Family Minister.


Tell me a bit about yourself.

‘I were’ born and brought up in Todmorden which is classed as West Yorkshire but is defnitely Lancashire. A wife, mother, step-mother, granny, was a midwife, runner, walker, singer, sharer, carer, giving...I don’t know. Yes, blessed. I loved being a midwife. I didn’t know it was going to be midwifery, always a nurse, but it just came as the right thing, especially when I did community. I thought, “This is me!” Something others would say about me is that I don’t like change. I’m chatty and I go on too much!

What brought you to where you are now?

My father hadn’t long died and I was caring for my mum and was working as a mid-wife when I was invited to go on a course. I got sat across from Rhys and it was just a click. We met a couple weeks later in France having not met since the meal. That evening in France we just said, “Where are we going to live then?” That was 26 years ago and here we are now. I think God sent him. We bought a house in Aberdovey and Mum and I would go to St Peter’s and we felt really welcomed. People would ask if I’d be part of the choir whenever I was down and then, when our son was 9, we moved here full time and I really got involved in St Peter’s and learnt Cymraeg.

From being in the choir to being licensed is quite a jump. How did that happen?

When Ministry Areas were being created I did the Worship Leader course so that I could offer to help with leading services. I also did the Pastoral Care course and got more and more involved. I became deputy warden and then someone who comes here on holiday regularly mentioned Messy Church. We all wondered who would be the one to lead that and because I was in the pantomime every year, singing and dancing up on stage, I was approached! Lots of people suggested that I put myself forward for more but I was always like, “No, no, no. No thank you.” But then I’d been thinking during the lockdown about what it is God wants me to do and then an email came from Dominic and I was like, “Woah!” and went for a walk with the dog. I came back, rang him and said, “How can I say no when I’ve been asking?” I felt so accepted and brought in by God in that moment.

What is it that you love about leading Messy Church?

I was so nervous, you know, it’s a big thing isn’t it, the reponsibility? I’m not a craftsperson but other people came along with just the right skills and it was brilliant. I did the welcome and I love that. It’s what I want to do, from being a midwife. Whoever comes through the door you’ve got to make them feel welcome and at ease straight away. And I love doing the story, getting the kids dressing up and involved.

What’s your favourite biscuit?

Stem Ginger everytime. Doesn’t matter where it comes from. But, I’m not a dunker. Even though Peter Kaye is from my neck of the woods I’m not a dunker!

What’s the best thing about having faith?

It’s a chance to do good from smiling and being nice to people on the street to being recognised as someone who will always help. It sounds really crass but just to be nice to one another. Another word that just came to mind is sustenance. I’ve got people in my life that I can talk to but it’s just always there isn’t it.

What is it that excites you most about being licensed?

I’ll be totally honest that I’m not 100% sure right now. I knew it was the right next thing to do but I don’t know. There’s a feeling for me of acceptance, that this is what I’m meant to do. There’s this thing called imposter syndrome which I can really relate to. I would be preparing something and I would feel initially that I shouldn’t be doing that. I’m a feelings person and I would think, “Someone’s going to ask you something” and I’d feel I shouldn’t really be here. But that other people have felt it and put me forward and that it’s coming from God let me go, “Oh, okay then”.

What advice might you give to someone who’s wondering what more they can offer to God’s Church?

Pray for guidance and be open to it and it can be there knocking on you and you’ve got to be open to it.


Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.