minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Interim Director of Finance & Operations

Cadeirlan Bangor

Cyfarwyddwr Dros Dro Cyllid a Gweithrediadau

Bangor Cathedral

Dyddiad cau / Deadline: 30/07/2026, 5 p.m.

ManonCJames@cinw.org.uk -

Penodiad Dros Dro Eglwys Gadeiriol Bangor (6 Mis)

Helpwch i adeiladu'r sylfeini ar gyfer dyfodol Eglwys Gadeiriol Bangor

Mae Eglwys Gadeiriol Bangor yn chwilio am Gyfarwyddwr Dros Dro Cyllid a Gweithrediadau profiadol i helpu i ymgorffori neu roi'r systemau, y prosesau a'r adroddiadau cywir i gefnogi dyfodol yr Eglwys Gadeiriol.

Nid rôl ymgynghori yw hon. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu torchi eu llewys ac ymgorffori a / neu ddatblygu prosesau a systemau ariannol da yn ogystal â chynorthwyo'r Deon a'r Chapter i gwblhau ac ymgorffori gwaith sydd eisoes ar y broses i ddatblygu strwythurau llywodraethu da.

Beth fydd llwyddiant yn ei olygu?

Erbyn diwedd y chwe mis, bydd gan yr Eglwys Gadeiriol:

  • Sustemau Adrodd ariannol clir ac amserol.
  • Rheolaeth ar gyllideb a llif arian effeithiol.
  • Rheolaethau a gweithdrefnau ariannol cryfach.
  • Gwell systemau gweithredol a ffyrdd o weithio.
  • Gwell llywodraethu ac atebolrwydd.

Amdanoch chi

Byddwch yn dod â:

  • Profiad uwch mewn arweinyddiaeth ariannol.
  • Sgiliau rheoli ariannol cryf.
  • Gallu profedig i weithredu systemau, prosesau a rheolaethau.
  • Dull ymarferol, sy'n canolbwyntio ar gyflawni.
  • Y gallu i adeiladu ymddiriedaeth a gweithio'n effeithiol gydag ystod eang o bobl.

Ymunwch â ni

Mae hwn yn gyfle unigryw i wneud cyfraniad parhaol i un o eglwysi cadeiriol hanesyddol Cymru, gan helpu i sicrhau bod ei chyllid, ei gweithrediadau a'i llywodraethu yn addas ar gyfer y dyfodol.

I wneud cais, cyflwynwch CV a ffurflen gais.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Deon Manon Ceridwen James ar manoncjames@cinw.org.uk


Pwrpas y Rôl

Darparu arweinyddiaeth ymarferol o swyddogaethau cyllid a gweithredol Eglwys Gadeiriol Bangor dros gyfnod o chwe mis, gan ymgorffori neu sefydlu prosesau ariannol a gweinyddol effeithiol, gwella gwybodaeth rheoli ariannol o ddydd i ddydd, a chreu'r systemau, rheolaethau a threfniadau sydd eu hangen ar gyfer yr Eglwys Gadeiriol i weithredu'n effeithlon ac yn gynaliadwy.

Disgwylir i'r rôl gyflawni gwelliannau ymarferol, gan adael yr Eglwys Gadeiriol gyda phrosesau clir, gwybodaeth ariannol ddibynadwy a sylfaen weithredol a llywodraethu gryfach ar gyfer y dyfodol.

Cyfrifoldebau Allweddol

Rheoli Ariannol

Bydd deiliad y swydd yn:

  • Goruchwylio'r gwaith o gynnal cofnodion ariannol cywir a thryloyw yn unol â rheoliadau elusennau ac arferion gorau'r Eglwys yng Nghymru.
  • Sicrhau rheolaethau ariannol cadarn a rheoli llif arian yn effeithiol, gan gynnwys goruchwylio cyflogres, anfonebu a phrosesau ariannol eraill.
  • Sefydlu cylch adrodd ariannol rheolaidd ar gyfer y Deon a'r Cabidwl (Y corff Ymddiriedolwyr) a Chyngor Ardal Gweinidogaeth Bro Deiniol.
  • Cynhyrchu cyfrifon rheoli misol cywir ac amserol.
  • Datblygu cyllideb flynyddol realistig, proses monitro cyllideb, rhagolygon llif arian ac adrodd yn ôl..
  • Adeiladu hyder mewn rheolaeth ariannol ar draws y sefydliad.

Gweithrediadau, Arweinyddiaeth a Llywodraethu

Bydd deiliad y swydd yn:

  • Cefnogi'r Deon a'r Cabidwl i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol ac elusennol a sicrhau cydymffurfiaeth â'r Eglwys yng Nghymru, deddfwriaeth elusennol ac ariannol.
  • Cadw cofrestrau risg cyfredol a sicrhau bod gweithdrefnau diogelu, iechyd a diogelwch ac yswiriant effeithiol yn cael eu cadw.
  • Gweithredu fel clerc y cabidwl a chefnogi cyfarfodydd y cabidwl gydag ymarfer gorau o ran llywodraethu, gweinyddu a phrosesau.
  • Sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chofnodion pwysig yn eu lle ac yn hygyrch.

Manyleb y Person

Hanfodol

  • Profiad mewn rheoli ariannol yn y sector cyhoeddus.
  • Llythrennedd ariannol cryf gyda'r gallu i gynhyrchu a dehongli cyfrifon rheoli a chyfathrebu hyn yn effeithiol i wahanol gynulleidfaoedd.
  • Y gallu i weithio'n strategol ac yn weithredol.
  • Sgiliau trefnu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i'r arfer da o ran cydymffurfio a diogelu o fewn y sector elusennol.
  • Dealltwriaeth o gyd-destun diwylliannol dinas Bangor ac ymrwymiad iddo.
  • Ymrwymiad i werthoedd yr Eglwys yng Nghymru.

Dymunol

  • Cyfrifydd cymwysedig (CCAB neu gyfwerth).
  • Profiad o fewn eglwysi, eglwysi cadeiriol, elusennau neu sefydliadau nid-er-elw.
  • Profiad o weithio gydag ymddiriedolwyr, llywodraethwyr neu fyrddau.
  • Rhuglder yn y Gymraeg ysgrifenedig a llafar.

Cyflog: Cystadleuol

Dyddiad cychwyn: Cychwyn ar unwaith.


Ffurflen Gais

Cymraeg

Interim Appointment (6 Months)

Help Build the Foundations for Bangor Cathedral's Future

Bangor Cathedral is looking for an experienced, hands-on Interim Director of Finance and Operations to help embed or put in the right systems, processes and reporting to support the Cathedral's future.

This is not a consultancy role. We need someone who can roll up their sleeves and embed and / or develop good financial processes and systems as well as assist the Dean and Chapter in finalising and embedding work already in process to develop good governance structures.

What Success Looks Like

By the end of the six months, the Cathedral will have:

  • Clear and timely financial reporting.
  • Effective budget and cash-flow management.
  • Stronger financial controls and procedures.
  • Better operational systems and ways of working.
  • Improved governance and accountability.

About You

You will bring:

  • Senior experience in financial leadership.
  • Strong financial management skills.
  • A proven ability to implement systems, processes and controls.
  • A practical, delivery-focused approach.
  • The ability to build trust and work effectively with a wide range of people.

Join Us

This is a unique opportunity to make a lasting contribution to one of Wales' historic cathedrals, helping to ensure that its finances, operations and governance are fit for the future.

To apply, please submit a CV and application form.

For more information contact the Dean Manon Ceridwen James on manoncjames@cinw.org.uk


Purpose of the Role

To provide hands-on leadership of Bangor Cathedral's finance and operational functions over a six-month period, embedding or establishing effective financial and administrative processes, improving day-to-day financial management information, and creating the systems, controls and routines required for the Cathedral to operate efficiently and sustainably.

The role is expected to deliver practical improvements, leaving the Cathedral with clear processes, reliable financial information and a stronger operational and governance foundation for the future.

Key Responsibilities

Financial Management

The postholder will:

  • Oversee the maintenance of accurate and transparent financial records in line with charity regulations and Church in Wales best practice.
  • Ensure robust financial controls and effective cash flow management, including overseeing payroll, invoicing and other financial processes.
  • Establish a regular financial reporting cycle for the Dean and Chapter Trustee Body, and the Bro Deiniol Ministry Area Council.
  • Produce accurate and timely monthly management accounts.
  • Develop a realistic annual budget, budget-monitoring process, cash-flow forecasting and reporting.
  • Build confidence in financial management across the organisation.

Operations, Leadership & Governance

The postholder will:

  • Support the Dean and Chapter in fulfilling their statutory and charity responsibilities and ensuring compliance with Church in Wales, charity and financial legislation.
  • Maintain up to date risk registers and ensure that effective safeguarding, health and safety and insurance procedures are adhered to.
  • Act as chapter clerk and support chapter meetings with best practice in terms of governance, administration and processes.
  • Ensure important policies, procedures and records are in place and accessible.

Person Specification

Essential

  • Proven experience in financial management within the public sector.
  • Strong financial literacy with the ability to produce and interpret management accounts and communicate this effectively to different audiences.
  • Ability to work both strategically and operationally.
  • Excellent organisational and interpersonal skills.
  • Understanding of, and commitment to, good practice in terms of compliance and safeguarding within the charity sector.
  • Understanding of, and commitment to the cultural context of the city of Bangor.
  • Commitment to the values of the Church in Wales.

Desirable

  • Qualified accountant (CCAB or equivalent).
  • Experience within churches, cathedrals, charities or not-for-profit organisations.
  • Experience working with trustees, governors or non-executive boards.
  • Fluency in written and spoken Welsh.

Salary: Competitive
Start date: Immediate start.


Application Form