minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Proffil Bro Tudno | Bro Tudno Profile

English

Amdanom ni

Rydym yn cael ein cynnal gan weinidogaeth dros dro offeiriad cysylltiol ac mae hi wedi ein hannog i gyfrannu mwy fel lleygwyr. Mae tîm ymroddedig a chefnogol o wardeiniaid ac aelodau Cyngor yr Ardal Weinidogaeth. Rydym yn elwa ar y rhoddion niferus y maent hwy, ein Gweinidog lleyg trwyddedig ar gyfer Plant a Theuluoedd a'r offeiriaid sydd wedi ymddeol yn eu cyflwyno. Mae pwyllgor sefydlog a thri is-bwyllgor (Cenhadaeth, Cyllid, Adeiladau a Thiroedd) wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb. Mae grwpiau newydd ac arweinwyr addoli lleyg. Rydym wedi cwblhau prosiect adeiladu ac wedi lansio ein gwefan newydd. Er gwaethaf heriau ariannol, mae gan Fro Tudno adnoddau o hyd i gynnal ein bywyd presennol a mentro gyda phethau newydd.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi, ochr yn ochr â chi, ac i archwilio a rhannu yn y weinidogaeth yr ydych yn ei dwyn i’r ardal. Er bod llawer ohonom yn fwy cyfarwydd ag Anglicaniaeth draddodiadol, rydym yn ceisio tyfu mewn ffydd a disgyblaeth trwy fwy o greadigrwydd mewn addoli, addysgu, pregethu a cherddoriaeth sy'n meithrin ac yn croesawu pawb, ble bynnag y bônt o ran ffydd.

Credwn fod Llandudno â llawer o botensial fel lle ar gyfer Cenhadaeth mewn partneriaeth â Christnogion a sefydliadau eraill megis Ieuenctid Dros Grist. Hoffem gryfhau ein cysylltiadau ag ysgol yr eglwys, datblygu ein Heglwys Iau a Llanllanast a gweinidogaeth teuluoedd, gyda'r Gweinidog lleyg trwyddedig ar gyfer Teuluoedd a Phlant. Hoffem gael Ficer y bydd ei weinidogaeth ar gyfer plant yn helpu ein haelodau iau i gymryd mwy o ran ym mywyd yr eglwys ac wrth adeiladu eu ffydd. Rydym wedi ymrwymo i Sero Net ac yn ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd. 

Llandudno

Ardal y Weinidogaeth

Mae Llandudno wedi'i hamgylchynu ar dair ochr gan y môr ac mae ganddi amwynderau ar gyfer pob oedran. Mae yma siopau, bwytai, theatr, canolfan gynadledda ac ysbytai. Mae twristiaeth sydd yma drwy gydol y flwyddyn, cysylltiadau trafnidiaeth da a phoblogrwydd parhaus y dref fel cyrchfan glasurol yn cael eu hadlewyrchu mewn ystod eang o westai a busnesau lletygarwch. Mae'r Pasiant Fictoraidd, Gorymdaith y Cofio a Ffair Stryd y Nadolig yn rhan o fywyd Dinesig prysur.

Weithiau caiff Llandudno ei stereoteipio fel cymuned ymddeol, ond mae wyth Ysgol Gynradd a thair Ysgol Uwchradd yn adlewyrchu nifer y teuluoedd ifanc sy'n byw yma. Mae cyflogau isel a digartrefedd hefyd yn eistedd ochr yn ochr â chyfoeth.

Roedd chwilfrydedd geifr Cashmiraidd Llandudno yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud y pandemig wedi eu gwneud yn sêr rhyngwladol. Y Gogarth yw eu cartref arferol. Mae diffeithwch rhyfeddol y pentir creigiog sy’n edrych dros y dref yn cynnwys mwynglawdd copr cynhanesyddol.

Yn ogystal â bod yn amrywiol yn gymdeithasol, felly hefyd ei thirwedd. Dyna fywyd prysur y dref, y traethau a'r môr, ac agwedd wledig a hanesyddol y Gogarth; tref, gwlad a môr gyda'i gilydd mewn un lle! Mae Llandudno hefyd yn y sefyllfa anarferol o fod wedi ei hamgylchynu nid yn unig gan y môr ond gan esgobaeth arall, Llanelwy, ac mae'r Eglwysi Rhydd lleol yn darparu partneriaethau posibl.


Eglwysi Ardal y Weinidogaeth

Mae ein dau adeilad eglwysig yn wahanol iawn o ran eu lleoliadau, ac felly'n cynnig cyfleoedd cyflenwol ar gyfer Cenhadaeth.

Eglwys y Drindod Sanctaidd

Eglwys y Drindod Sanctaidd

Mae Eglwys y Drindod Sanctaidd yn dirnod Fictoraidd hardd yng nghanol y dref. Yn ddiweddar, cwblhawyd atgyweiriadau helaeth i doeau’r talcen crwn a’r tŵr. Ynghyd â'r gwasanaethau rheolaidd ar ddydd Sul a chanol yr wythnos, mae Eglwys y Drindod Sanctaidd yn cynnal gwasanaethau dinesig a digwyddiadau eraill. Rydym yn y broses o gynyddu'r defnydd o gyfleusterau’r eglwys a’i neuadd fel ffordd o genhadu a chodi arian. Diolch i wirfoddolwyr sydd â bysedd gwyrdd, mae ein mynwent eglwys a'r maes parcio wedi ennill llawer o wobrau Llandudno yn ei Blodau.

Mae gweinidogaeth weithgar i blant a theuluoedd. Fe'u hanogir i gymryd rhan yn y Cymundeb anffurfiol yr Holl Eglwys [pob oed] wythnosol. Mae aelodau'r gynulleidfa yn Llywodraethwyr Sylfaen yn Ysgol San Siôr, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru wirfoddol a gynorthwyir. Mae'r ysgol ragorol hon wedi cael ei chydnabod am ei haddysg amgylcheddol ac ecolegol arloesol.

Mae gweinidogaeth leyg a chyfranogiad wedi dechrau ffynnu, yn enwedig mewn addoliad. Mae gan yr eglwys dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sy'n cynnig croeso i ymwelwyr ac sy’n paratoi'r eglwys ar gyfer addoliad. Mae yna hefyd rai sy'n cynnig lletygarwch gan baratoi'r neuadd ar gyfer lluniaeth ar ddydd Sul ac yng nghanol yr wythnos.

Mae neuadd yr eglwys yn cael ei defnyddio gan lawer o sefydliadau drwy'r wythnos, ac unwaith bob pythefnos mae’n cael ei hagor fel caffi gan Ieuenctid Llandudno Dros Grist. Serch hynny, mae potensial sylweddol yn yr adeilad mawr, deniadol hwn gyda lleoliad mor ganolog.

Saint Tudno

Eglwys Sant Tudno

Mae Eglwys Sant Tudno yn adeilad hynafol ac yn safle mwy hynafol fyth, yn uchel ar lethrau gwyntog Y Gogarth. Mae'n gyrchfan pererindod, yn lle o heddwch a gweddi sy’n cael ei agor yn rheolaidd gan dîm o wirfoddolwyr i groesawu miloedd o ymwelwyr. Mae'r gynulleidfa a Chyfeillion Tudno hefyd yn cynnal y fynwent i annog ei bioamrywiaeth bwysig. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at nifer o wobrau ‘Man Gwyrdd’.

Cynhelir gwasanaethau bob wythnos, yn yr awyr agored drwy'r haf ac yn aml cânt eu harwain gan ein harweinwyr addoli lleyg sydd newydd eu comisiynu. Unwaith y mis mae Cymundeb. Ar wahanol adegau o'r flwyddyn gall yr addoliad fod yn wasanaeth hwyrol weddi, gwasanaethau golau cannwyll, caneuon mawl neu wasanaethau carolau. Mae'r rhain yn denu cynulleidfa dda ac mae llawer o bobl sy'n pasio heibio yn ymuno â ni. Dechreuwn bob bore Pasg yma ar doriad gwawr gyda thân wedi ei gynnau. Rydym yn parhau i edrych ar ffyrdd newydd o rannu ffydd yn y lle hynod sanctaidd hwn a'i leoliad heb ei ail yn edrych allan i'r môr.

https://www.brotudno.org.uk/

Yn ôl i'r broses ymgeisio.

Cymraeg

About us

We are being sustained by the interim ministry of an associate priest and she has encouraged us into greater lay involvement. There is a committed and supportive team of wardens and Ministry Area Council members. We benefit from the many gifts they, our Licensed lay Minister for Children & families and the retired priests bring. More responsibility has been taken on by a standing committee and three sub-committees (Mission, Finance, Buildings and Grounds).There are new groups and lay worship leaders.We have completed a building project and launched our new website. Despite financial challenges, Bro Tudno still has resources to sustain our current life and venture new things.

We are looking forward to working with you, alongside you, and to explore and share in the ministry you bring to this area. Although many of us are most familiar with traditional Anglicanism, we are seeking to grow in faith and discipleship through more creativity in worship, teaching, preaching and music that nourishes and welcomes all, no matter where they are in faith.

We believe that Llandudno has a lot of potential as a place of Mission in partnership with other Christians and organisations like Youth for Christ. We would like to strengthen our links with the church school, build up our Junior Church and Messy Church and families ministry, with the Lay Licensed Minister for Families and Children. We would like a Vicar who children’s ministry and will help our younger members participate more in the life of the church and in the building up of their faith. We are committed to Net Zero and responding to the Climate Crisis.

Llandudno

Ministry Area

Surrounded on three sides by sea, Llandudno has amenities for all ages.There are shops, restaurants, a theatre, conference centre and hospitals.Year-round tourism, good transport links and enduring popularity as a classic resort are reflected in a wide range of hotels and hospitality businesses.The Victorian Extravaganza, Remembrance Parade and Christmas Street Fair are part of an active Civic life.

Llandudno is sometimes stereotyped as a retirement community, but eight Primary and three Secondary Schools reflect the number of young families who live here.Low-pay and homelessness also sit alongside relative affluence.

The inquisitiveness of Llandudno’s Kashmiri goats during the pandemic lockdown made them international celebrities.Y Gogarth (the Great Orme) is their usual home.Its surprising wilderness of rocky headland overlooks the town and contains a Prehistoric copper mine.

As well as being socially diverse, so is its landscape. There is the busy life of the town, the beaches and the sea, and the rural and historic aspect of the Great Orme; town, country and sea together in one place. landudno is also in the unusual position of being surrounded not only the sea but by another diocese, St Asaph, and the local Free Churches provides potential partnerships.


Ministry Area Churches

Our two church buildings are markedly different in their setting, therefore offering complementary opportunities for Mission.

Holy Trinity Church

Holy Trinity

Holy Trinity is a fine Victorian landmark in the heart of the town. Extensive repairs were recently completed to the apse and tower roofs.Along with the regular Sunday and mid-week services, Holy Trinity hosts civic services and other events. We are in the process of increasing use of the church and its hall facilities as a way of mission and fundraising. Thanks to volunteers with green fingers, our churchyard and car park have won many Llandudno in Bloom awards.

There is an active ministry to children and families. They are encouraged to take part in the monthly All Church [all-age] informal Eucharist. Members of the congregation are Foundation Governors at Ysgol San Siôr, a Voluntary-Aided Church Primary. This outstanding school has been recognised for its pioneering environmental and ecological education.

Lay ministry and involvement have begun to flourish, particularly in worship. The church has a dedicated team of volunteers offering a welcome to visitors and in preparing the church for worship. There are also those who offer hospitality preparing the hall for refreshments on a Sunday and midweek.

The church hall is used by many organisations through the week, and once a fortnight is open as a café by Llandudno Youth for Christ.Nevertheless, there is considerable untapped potential in this large, attractive building with such a central location.

Saint Tudno

Saint Tudno

St Tudno is an ancient church building and an even more ancient site, high on the windswept slopes of Y Gogarth. It is a place of pilgrimage, peace and prayer opened regularly by a team of volunteers to welcome thousands of visitors. The congregation and Friends of Tudno’s also maintain the churchyard to encourage its important biodiversity. This work has resulted in a number of ‘Green Space’ awards.

Services take place each week, in the open air through the summer and are often led by our newly commissioned lay worship leaders. Once a month there is a Eucharist. At different times of the year the worship may be Compline, candlelit services, songs of praise or carol services. These attract a good congregation and many people just passing by come and join us. We begin each Easter morning here at dawn with a lit fire. We are continuing to look at new ways to share faith in this very holy place and its unparalleled location, looking out to sea.

https://www.brotudno.org.uk/

Read more about the application process.