minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Llan


Pererindod, Iaith a Menter yw ffrydiau allweddol prosiect newydd “Llan” yn Esgobaeth Bangor, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru. 


Mae “Llan” yn brosiect saith mlynedd, gwerth £3m, a fydd yn gweld gweinidogaethau newydd yn datblygu ledled yr esgobaeth, wrth i ni ganolbwyntio ar estyn allan mewn ffyrdd newydd i’n cymunedau gyda chariad Duw yng Nghrist. Bydd Llan yn ein galluogi i ddatblygu ein gweinidogaeth bererindod ym mhob cwr o’r esgobaeth, i dyfu cymuned eglwysig Gymraeg newydd a datblygu adnoddau efengylaidd yn Gymraeg, ac i lansio pedair menter gymdeithasol a fydd yn arloesi math newydd o bresenoldeb a thsytiolaethu Anglicanaidd mewn pedair o'n trefi a'n pentrefi.

Eglwys Cwyfan Sant yn ne Ynys Môn | St Cwyfan's Church on the south of Anglesey

Hyder

Syr Paul Silk sy’n cadeirio pwyllgor Cronfa Efengylu'r Eglwys yng Nghymru. Wrth gyhoeddi cais llwyddiannus Esgobaeth Bangor, dywedodd:

“Mae Llan yn brosiect cyffrous ac amrywiol sydd wedi’i gynllunio i ysgogi ffurfiau newydd o weinidogaethu, i gwrdd â phobl mewn gwahanol gyd-destunau ac i feithrin ffydd ar draws ffiniau diwylliannol a chymdeithasol ac yn ein dwy iaith genedlaethol. Mae’r cais wedi ei ffurfio a’i ystyried yn ofalus, ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect yn ddefnydd cadarn o'r Gronfa Efengylu.”
Yr Esgob yn un o'n ddyddiau yn y Gadeirlan ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6

Gwreiddiau dwfn y llan

Mae gan y “llan” wreiddiau dwfn yn hanes Cymru, gan dyddio nôl i ddyddiau cynharaf bywyd yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor. Roedd y llannau cyntaf yn gorlannau cysegredig a sefydlwyd gan y seintiau Cristnogol cynnar fel mannau i fyw, i gwrdd, ac i wahodd trawsnewid. Bydd Llan yn sefydlu llannau newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain - lleoedd lle gall cyfarfyddiadau â Duw yng Nghrist a thrawsnewid bywydau ddigwydd yn y byd sydd ohoni.

Wrth son am Llan, dywedodd Esgob Bangor, Andy John:

"Rwy’n falch iawn bod Pwyllgor Cronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru wedi cymeradwyo ein cais am gyllid. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng Llan a’r Blaenoriaethau esgobaethol hynny a sefydlwyd gennym rai blynyddoedd i’n galluogi i ganolbwyntio ar feithrin disgyblion, tyfu gweinidogaethau newydd, a chroesawu plant, teuluoedd a phobl ifanc. Credwn fod y Blaenoriaethau hyn yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer datblygu ffrydiau newydd o bererindod, efengylu Cymraeg a mentrau cymdeithasol arloesol Llan. Trwy dorri tir newydd a thrwy adeiladu ar sylfaen ein cryfderau, bydd Llan yn magu hyder wrth gyhoeddi’r Efengyl ledled yr esgobaeth gyfan. Rwyf am ddiolch i aelodau’r pwyllgor am eu hyder yn ein cynlluniau, yn ogystal a’r cydweithwyr hynny y mae eu gweledigaeth a’u dewrder yn ein harwain mewn ffyrdd newydd.”
Cymraeg

Llan


Pilgrimage, Welsh-language and Enterprise are the key streams of a new Diocese of Bangor project that has received support from the Church in Wales’ Evangelism Fund.


“Llan” is a £3m, seven-year project that will see the development of new ministries across the diocese focused on reaching out in new ways to our communities with the love of God in Christ. Llan will enable us to develop our pilgrimage ministry across the diocese, to grow a new Welsh-language church community and to develop Welsh-language evangelistic resources, and to launch four social enterprises pioneering a new sort of Anglican presence and witness in four of our towns and villages.

Sir Paul Silk, Chair of the Church in Wales's Evangelism Fund Committee

Confidence

The Church in Wales’s Evangelism Fund committee is chaired by Sir Paul Silk. Announcing the Diocese of Bangor's successful bid, he said:

“Llan is an exciting and diverse project designed to stimulate new forms of ministry, to encounter people in different contexts and to nurture faith through cultural and social boundaries and in our two national languages. The bid was well thought-out and constructed, and we are confident that the project will be a sound use of the Evangelism Fund.”
St Patrick's Church on the coastal path on the north side of Anglesey

The idea of the “llan”

The idea of the “llan” goes back to the beginning of the life of the Church in the Diocese of Bangor. The first llans were sacred enclosures established by the early Christian saints as places of encounter and transformation. Our new Llan initiatives will establish twenty-first century llans – places where encounters with God in Christ and the transformation of lives can take places in today’s world.

Speaking about Llan, the Bishop of Bangor, the Right Revd Andy John said:

"I’m delighted the Church in Wales’s Evangelism Fund Committee has approved our bid for funding. Llan arises directly from those diocesan Priorities we established some years ago to focus on nurturing disciples, growing new ministries, and welcoming children, families and young people. We believe these Priorities provide an excellent basis for developing Llan’s new streams of pilgrimage, Welsh-language evangelism and pioneer social enterprise projects. Through new work and through building on our strengths, Llan will enable us to become more confident in the gospel across the whole diocese. I want to thank the committee members for their confidence in our plans, as well as those colleagues whose vision and courage is leading us forward in new ways."