minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Mae Prosiect Pererin wedi dechrau cyfres o ymweliadau gydag ysgolion sydd wedi eu lleoli ar hyd Llwybr Cadfan.

Mae Nia Elain Roberts, Swyddog Pererindodau Ysgolion, Elin Owen, Hwylusydd y Gymraeg ac Anna Riley, ein Swyddog Llwybrau Pererindod wedi bod yn cydweithio ar brosiect gyda’r nod o greu 25 stamp ar gyfer lleoliadau pererindod penodol ar hyd y llwybr.

Gweithdy Stampiau Llwybr Cadfan gyda phlant Blwyddyn 6 yr ardal yn Ysgol Eifionydd.

Bwriad y prosiect yw galluogi pererinion i gasglu’r stampiau hyn o fewn pasbort ar hyd Llwybr Cadfan. Bydd modd casglu 2 stamp ar gyfer pob dydd o gerdded ar y llwybr ac un stamp ychwanegol i gofnodi ymweliad gydag Ynys Enlli. 

Yn ôl Nia "Bydd y prosiect yma yn ymgysylltu ysgolion gyda bodolaeth Llwybr Cadfan sydd o fewn eu cymuned ac yn gychwyn cyffrous tuag at ddatblygu’r testun ‘Pererindod’ ymhellach o fewn gwaith ysgolion yr Esgobaeth. Mae hi’n thema sy’n ateb gofynion addysgu’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau. 

Mae Prosiect Pererin yn datblygu cyfleodd sy’n arwain yn naturiol at ddysgu am ffydd yn y gymuned leol a gweithio yn yr awyr agored sy’n rhan bwysig bellach o waith cynllunio ysgolion.” 

Mae ymweliadau gyda ysgolion uwchradd ar fynd a bydd yr ysgolion cynradd yn derbyn gweithdai o dymor yr Hydref ymlaen.


Profiad Llwybr Cadfan

Byddwch ymhlith y pererinion cyntaf i brofi llwybr pererindod syfrdanol Llwybr Cadfan.

Yr haf hwn, rydym yn gwahodd cymuned ein hesgobaeth i ymuno â ni ar gyfer taith gerdded ragarweiniol wedi ei harwain ar Lwybr Cadfan, llwybr pererindod a gynllunwyd gan dîm prosiect Llan. Yn ymestyn 128 milltir o Dywyn i Ynys Enlli, mae ein llwybr pererindod newydd yn ymdroelli trwy draethau eang, coedwigoedd glaw derw hynafol, ac eglwysi anghysbell, gan olrhain camau Cadfan Sant.

Cymraeg

The Pererin Project has started a series of visits with schools located along Llwybr Cadfan.

Nia Elain Roberts, School Pilgrimage Officer, Elin Owen, Welsh Language Facilitator and Anna Riley, our Pilgrim Way Officer have been working together on a project with the aim of creating 25 stamps for specific pilgrim places along the route.

Stamps workshop, Year 6, Ysgol Eifionydd

The aim of the project is to enable pilgrims to collect these stamps within a passport along Llwybr Cadfan. It will be possible to collect 2 stamps for each day of walking on the path and one additional stamp to record a visit to Ynys Enlli. 

According to Nia, "This project will engage schools with the existence of Llwybr Cadfan which is within their community and is an exciting start towards developing the subject of 'Pilgrimage' further within the Diocese's schools’ work. It is a theme that answers the teaching requirements of the New Curriculum for Wales within the Humanities Area of Learning, offering opportunities that lead naturally towards learning about faith in the local community and working outdoors which is now an important part of school planning.” 

Visits to secondary schools are underway and the primary schools will receive workshops from the Autumn term onwards.


Experience Llwybr Cadfan

Be among the first pilgrims to experience the breathtaking Llwybr Cadfan pilgrimage route.

This summer, we are inviting you to join us for an introductory guided walk to Llwybr Cadfan, a pilgrimage route devised by the Llan project team. Spanning 128 miles from Tywyn to Ynys Enlli, our new pilgrimage path winds through vast beaches, ancient oak rainforests, and remote churches, retracing the steps of Saint Cadfan.