Encil Enlli
Encli ar EnlliEncil Enlli
A Welsh language retreat on Bardsey Island26/08/2023, noon - 29/08/2023, noon
Ynys Enlli
Penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan fydd encil 3 diwrnod ar ynys Enlli. Clo perffaith i’r gyfres hon o ddigwyddiadau sydd wedi dilyn(ish!) llwybr pererindod gyntaf Cadfan Sant deithiodd o Dywyn ym Meirionnydd i Ynys Enlli yn y chweched ganrif, lle y daeth yn Abad cyntaf yr ynys.
Bydd yr encil lenyddol hwyliog hon yn cwmpasu holl egwyddorion y daith hyd yn hyn, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a mwy! Mae amrywiol opsiynau o ran aros gyda ni ar yr ynys, lletu unigol ac wedi ei rannu. Mae’r gost sy’n cynnwys pris y cwch, llety, lluniaeth am y tridiau a gweithgareddau amrywiol yn cychwyn o oddeutu £300 y person.
Dyma flas o beth fydd yn digwydd
- Sgwrs gyda seryddwr yn trafod ‘Statws Awyr Dywyll Enlli a’r Sêr’
- Amser i grwydro ac ymlacio
- Prynhawn hwyliog gyda’r beirdd preswyl a cherddorion( a mwy!)
- Gweithdy creu llyfr o ddeunydd naturiol
- Gweithdy ysgrifennu creadigol
- Pererindod lythrennol o dan arweiniad o amgylch yr ynys
- Barbeciw
- Cinio a Swper dyddiol
Ni fydd unrhyw bwysau i gymryd rhan yn y gweithgareddau i gyd, cewch wneud fel y mynnwch!)
Cysylltwch â Elin Owen am brisiau ac opsiynau aros penodol ac i archebu eich lle.
elinowen@cinw.org.uk
07884313700
The culmination of the Llwybr Cadfan Welsh literary project will be a 3-day retreat on the island of Enlli. A perfect conclusion to this series of events that have followed(ish!) the first pilgrimage route of Cadfan Sant who traveled from Dywyn in Meirionnydd to Ynys Enlli in the sixth century, where he became the island's first Abbot.
This Welsh language literary retreat will cover all the principles of the journey so far - history, poetry, literature, music and more! There are various options for staying with us on the island, individual and shared accommodation. The cost which includes the price of the boat, accommodation, refreshments for the three days and various activities starts from around £300p per person.
Here is a taste of what will happen
- A conversation with an astronomer discussing 'Enlli's Dark Sky Status and the Stars'
- Time to wander and relax
- A fun afternoon with resident poets and musicians (and more!)
- Workshop to create a book from natural material
- Creative writing workshop
- A literal guided pilgrimage around the island
- Barbecue
- Lunch and Supper daily
There will be no pressure to take part in all the activities, you can do as you like!)
Contact Elin Owen for prices and specific staying options and to book your place.
elinowen@cinw.org.uk
07884313700