Gwasanaeth Cymun Duw a Dysgwyr
Gwasanaeth Cymun Duw a Dysgwyr I’w ddilyn gan ginio ysgafn a sgwrsio ...Eucharist Service ‘Duw a Dysgwyr’
Eucharist Service ‘Duw a Dysgwyr’ followed by a light lunch and a ...17/06/2024, 12:30 p.m.
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

Datblygiad cyffrous sydd ganddom ar y gweill yn Esgobaeth Bangor yw gwasanaethu cymun misol o’r enw ‘Duw a Dysgwyr’. Bydd y gwasanaethau yma yn cael eu cynnal yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn fisol gan gychwyn ar ddydd Llun, 17 Mehefin am 12.30pm.
Bydd y gwasanaeth cymun arferol yn cael ei addasu ac yn fwy na dim ei arafu ar gyfer dysgwyr y Gymraeg. Bydd geiriau allweddol a chyngor ar sut i ynganu rhai geiriau ar gael . Bydd pregeth fer a syml ei Chymraeg gyda geiriau allweddol a chyfieithiad ar gael i’r gynulleidfa, a byddwn yn canu dau emyn ysgafn ac adnabyddus. Mae’r gwasanaeth yn cael ei anelu at bob safon o ddysgwyr yn y gobaith y bydd o gymorth iddynt gymryd rhan ymhob addoliad ar draws yr Esgobaeth.
Yn dilyn y gwasanaeth ac mewn cydweithrediad â Menter Iaith Bangor bydd cyfle i bawb gael ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch saff a chefnogol a chael tamaid o ginio ysgafn ar yr un pryd. Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y gwasanaeth hwn boed yn siaradwr rhugl neu’n ddysgwr.
Byddai o gymorth pe byddech yn cofrestru eich awydd i ymuno â ni fel bod ganddom syniad ym mlaen llaw o’r niferoedd. .

Join us for our a monthly communion service called Duw a Dysgwyr -'God and Learners'.
These services will be held at St Deiniol's Cathedral in Bangor starting on Monday, June 17 at 12.30pm. The communion service will be adapted and slowed down for Welsh learners. Keywords and advice on how to pronounce certain words will be available. There will be short and simple Welsh sermon with keywords and translation and we will sing two well-known Welsh hymns.
The service is aimed at all standards of learners and will help you participate in all worship across the diocese.
Following the service and in collaboration with Menter Iaith Bangor everyone will have the opportunity to practice their Welsh in a safe and supportive atmosphere and have a light lunch at the same time. Everyone is welcome to join us at this service whether it is a fluent speaker or learner.
Please register below.