minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Nant Ffrancon | Ffrancon Valley
English

Cyflwyno Bro Ogwen


Ogwen Bank

Mae gennym ni chwe adeilad eglwysig sydd ar agor, pob un gyda’i chynulleidfa benodol ei hun. Rydym ni ar daith i ffurfio tîm Ardal Weinidogaeth ac o weithio gyda'n gilydd. Ers 2014, mae aelodau ac arweinwyr y tîm wedi ein helpu i dyfu ac yna wedi symud ymlaen neu ymddeol. Ar hyn o bryd, rydyn ni ar gyfnod lle y dylen ni ail adeiladu tîm lleol cryf ac effeithiol.

At ei gilydd, mae ein sefyllfa ariannol yn dda, er ein bod yn ymwybodol bod yn rhaid i ni godi arian, yn enwedig ar gyfer gwahanol brosiectau trwsio ac adeiladu y bydd yn rhaid i ni eu gwneud yn y dyfodol agos. Mae gan bob un o’r chwe eglwys ei chyfrifon ariannol ei hunan, er bod pob un yn cyfrannu at gronfa ganolog i dalu am unrhyw dreuliau ar y cyd ac rydyn ni hefyd yn cynnal rhai digwyddiadau ar cyd ledled yr Ardal Weinidogaeth yn ogystal â gweithgareddau yn yr eglwysi unigol.

Mae’n rhaid i bwy bynnag fydd yn cael ei benodi i Fro Ogwen siarad Cymraeg, er y byddai dysgwr sydd wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn cael croeso a chefnogaeth frwd .

Yn ddelfydol, mae'r plwyf angen rhywun sy'n gallu annog ac ysbrydoli pobl o bob oedran, ond yn enwedig pobl ifanc a theuluoedd gan fod ein cynulleidfaoedd yn heneiddio. Hefyd, byddai o fudd i’r gymuned gyfan datblygu cysylltiadau gydag enwadau eraill. Bydd yn rhaid cofio bod gan bob eglwys ei thraddodiadau a'i gwerthoedd ei hunan ac y bydd angen meithrin teimlad cynyddol o bartneriaeth ac o undod.

Fe hoffem ni gael offeiriad sy’n deall cyfrifiaduron ac a fydd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu ac i hysbysebu digwyddiadau. Rydyn ni’n gobeithio cael rhywun a fydd yn annog aelodau'r chwe eglwys i ddal ati i ddatblygu'r cyfleoedd i gyd-addoli ac i gynnal gweithgareddau ar y cyd. Fel Ardal Weinidogaeth fawr gyda llawer iawn o waith, mae angen i Fro Ogwen hyfforddi a datblygu tîm o arweinwyr addoli. Yn y gorffennol, mae'r Ardal Weinidogaeth wedi talu am weinyddwr i gefnogi'r Ficer.

Rydyn ni'n awyddus i groesawu offeiriad a fydd yn teithio gyda ni, yn dod i'n hadnabod ac yn ein hannog ni. Fe fyddwn ni wrth ein bodd yn dod i adnabod yr offeiriad, gweddïo a gweithio gydag ef/hi. Yn ystod y cyfnod heb ficer, rydyn ni wedi tynnu at ein gilydd a gweithio'n galed ac rydyn ni'n chwilio am arweinydd a fydd yn ein helpu i dyfu ac i ddefnyddio'n doniau'n dda. 


Eglwys St Cross, Tal y Bont | St Cross Church, Tal y Bont

Eglwysi Bro Ogwen


Eglwys St Cross, Tal-Y-Bont

Adeiladau Eglwys

Adeiladwyd Eglwys St Cross yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan deulu'r Penrhyn a chafodd ei chysegru ym 1892. Roedd yn disodli eglwys gynharach, gerllaw, Daniel Sant, sydd erbyn hyn yn Ysgoldy’r Eglwys.

Eglwys eithaf plaen a syml yw Eglwys St Cross ond mae'n cael ei dyrchafu gan ffenestr wydr lliw yn y pen dwyreiniol gan Edward Burne Jones. Fe’i gosodwyd yno gan denantiaid Ystâd y Penrhyn er cof am yr Arglwydd Penrhyn.

Y Fynwent

Mae mynwent yn amgylchynu’r eglwys, mynwent sydd wedi derbyn canmoliaeth am fod yn daclus ac sy'n cael ei chadw’n dda. Yn nechrau’r 2000au, sylweddolwyd fod lle yn y fynwent yn mynd yn brin. Er mwyn datrys y broblem, daeth yr eglwys i gytundeb cyfreithiol gydag Ystâd y Penrhyn a chael hanner acer o dir, darn o gae cyfagos. Fe'i cysegrwyd yn 2009. Hyd yma, mae yna bedwar bedd yn yr estyniad.

Cynulleidfa

Mae oed y gynulleidfa, ar gyfartaledd, dros hanner cant. Mae ychydig o blant yn dod gyda rhiant neu nain neu daid weithiau. Mae cryn dipyn o aelodau’n byw y tu allan i Dal y Bont a’r gymuned gyfagos, ond yn mynychu oherwydd cysylltiadau teuluol gyda’r eglwys a’r ardalMae aelodau’r eglwys yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig a, dros y blynyddoedd, mae Eglwys St Cross wedi croesawu Cristnogion o draddodiadau eraill heblaw Anglicaniaeth. Mae’r gwasanaethau’n ddwyieithog. Mae presenoldeb ar y Sul yn amrywio. Y cyfartaledd yn 2019 oedd ychydig llai na 14, gan gyfrif pob Sul (er bod y cyfartaledd ar gyfer yr ewcharist yn 15, a naw ar gyfer Boreol Weddi. Fodd bynnag, y rhif yw ychydig dros 12 wrth ei gyfrifo at ddibenion datganiadau blynyddol i’r Esgobaeth.

Cerddoriaeth

Rydyn ni’n rhannu organydd gyda Thegai Sant ac weithiau’n canu’n ddigyfeiliant neu gyda recordiad. Rydyn ni'n eithaf hyblyg ac yn mwynhau cerddoriaeth dda pan yn bosibl.

Gweinidogaeth ac Ymestyn allan

Mae’r Ysgoldy, Neuadd yr Eglwys, yn adnodd gwerthfawr ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys Boreau Coffi Misol, Tê Mefus yr Haf, Sgyrsiau a Bingo. Trefnir Ciniawau’r plwyf, ganol dydd a gyda’r nos, weithiau mewn mannau eraill. Rydyn ni’n ceisio meithrin perthynas dda gyda’r gymuned ac yn cefnogi digwyddiadau eglwysi eraill yr Ardal Weinidogaeth, gan gynnwys y capel lleol, Bethlehem.

At ei gilydd, nid yw’r cyrsiau astudio'r Beibl y mae Tîm y Plwyf yn eu trefnu yn ystod yr Adfent a'r Grawys yn cael cefnogaeth dda.

Mae gennym ni Bwyllgor Eglwysig penodol sy'n gyfrifol am Eglwys St Cross, yr ysgoldy a'u cyllid.


Eglwys Crist, Glanogwen, Bethesda

  • Aelodaeth tua 98% Cymry Cymraeg, ond pawb yn deall ac yn dymuno gwasanaethau Cymraeg
  • Yr eglwys fwyaf o ran maint yn yr ardal
  • Cynulleidfa: mwyafrif dros 60 oed
  • Nifer yn mynychu – 18/20 ar fore Sul, a 8/10 ar fore Mercher
  • Traddodiad cerddorol cryf ar hyd y blynyddoedd; organydd presennol yn flaenllaw yn trefnu’r gerddoriaeth ar gyfer y gwasanaethau
  • Gweithgareddau rheolaidd i godi arian – heb fethu talu’r cyfran ariannol o gwbl
  • Aelodau a’r ardal yn gyffredinol yn gefnogol iawn o bob ymdrech i godi arian
  • Traddodiad o ymestyn allan i’r ysgolion lleol 

Eglwys y Santes Fair, Tregarth | St Mary's Church, Tregarth

Eglwys y Santes Fair, Gelli, Tregarth 

Rydym ni'n eglwys deuluol, hapus, groesawgar gyda chyfartaledd o tua 12 yn y gynulleidfa o wahanol oedran. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym ni wedi croesawu nifer o bobl o’r newydd i’r gynulleidfa ac rydym ni, bob amser, yn chwilio am ffyrdd newydd o dyfu.

Fis Mehefin 2019, dathlodd yr Eglwys ei phen-blwydd yn 150 mlwydd oed. Cawsom wythnos o ddathliadau, gyda’r penllanw’n wasanaeth lle derbyniodd tri o'r gynulleidfa yn eu harddegau Fedydd Esgob.

Rydym ni’n cynnal gwasanaeth yn Nhregarth bob wythnos ac eithrio’r pumed Sul neu ar adegau arbennig o’r flwyddyn. Ar hyn o bryd mae gennym ni ddau wasanaeth Cymun Bendigaid, un Boreol Weddi ac un gwasanaeth Pob Oedran. Mae pob gwasanaeth yn ddwyieithog ac eithrio un gwasanaeth Cymraeg sy'n cael ei gynnal adeg y Diolchgarwch.

Does gennym ni ddim organydd, ond mae gennym ni system sain ar gyfer chwarae ein holl gerddoriaeth. Mae hyn yn cael ei drefnu gan aelod o’n cynulleidfa.

Mae yna gyfleusterau ardderchog yn yr eglwys, sy’n cynnwys mynedfa i’r anablcegin a thoiledau.

Mae gennym ni berthynas sefydlog hir gydag ysgol eglwys y pentref ac weithiau byddwn yn cynnal gwasanaethau ar ei rhan. Mae Eglwys y Santes Fair yn awyddus i gynnal perthnasau da gyda'r staff a'r disgyblion.

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian yn cael eu cynnal trwy’r flwyddyn, yncael eu trefnu gan warden yr eglwys gyda chefnogaeth warden y bobl. Gyda’i gilydd, mae ymdrech fawr yn mynd i gynnal pob digwyddiad. Mae digwyddiadau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig. Maen nhw’n cyfrannu at gynnal yr eglwys ac yn ein galluogi i ymestyn allan i’r gymuned.

Y tu allan, mae gan yr eglwys ychydig o fannau parcio. Mae pob rhan o’r tiroedd a’r fynwent yn cael eu cynnal yn dda.


Eglwys y Santes Fair a'r Santes Ann, Mynydd Llandegai | St Mary and St Ann's Church, Mynydd Llandegai

Eglwys Tegai Sant, Llandegai

Ni yw’r eglwys blwyf hynaf ym Mro Ogwen, mae wedi bod yn bresenoldeb Cristnogol yn y dyffryn ers y 12 ganrif. Ni yw’r fam eglwys ym mhlwyf Llandygai, sy’n ymestyn o ochr ddeheuol afon Ogwen, o Aberogwen at Borth Penrhyn, drwy Nant Ffrancon hyd at Lyn Ogwen.

Mae gennym ni dri deg chwech o aelodau ar y rhestr etholiadol, gyda thua phymtheg i ugain yn mynychu’n rheolaidd. Mae 55% o'r rhai sydd ar y rhestr etholiadaol yn eu saithdegau, a naw o'r rhain yn ddynion. Mae dau deulu ifanc yn addoli’n achlysurol. O’r rhai sy'n mynychu'n rheolaidd, mae 90% dros chwe deg (dim ond tri yn ddynion) ac mae 50% dros saith deg. Mae tua 27% o’r gynulleidfa’n byw o fewn hanner milltir i’r eglwys. Daw'r gweddill o Fangor a Bethesda am resymau hanesyddol. Ymunodd saith aelod â chynulleidfa Tegai Sant ar ôl cau Eglwysi Dewi Sant a'r Santes Fair ym Mangor. Maen nhw’n cymryd rhan lawn ym mywyd yr eglwys. Mae bron i 51% o'r rhai sydd ar y rhestr etholiadol yn siarad Cymraeg. Mae’r Pasg a’r Nadolig yn denu cynulleidfaoedd o ugain i dri deg pump a’r Naw Darlleniad a Charolau’n denu tua wyth deg. Mae’r pentref yn gymuned gaeedig yn cynnwys pobl wedi ymddeol yn bennaf. Mae ysgol yr eglwys yn denu ei disgyblion o ddalgylch eang iawn, ond daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o Dalybont. Mae yna safle sipsiwn ar gyrion y pentref ac mae’r trigolion yn defnyddio’r eglwys o dro i dro ar gyfer bedyddio / priodi ac angladdau.

Mae’r eglwys yn dilyn ffurfiau traddodiadol o addoli ac mae, fel arfer, yn ffodus o gael organydd rheolaidd (sydd hefyd yn aelod gyda’r Annibynwyr), ac yn rhannu gydag Eglwys St Cross, Talybont. Mae pob gwasanaeth, gan gynnwys y gwasanaeth ganol yr wythnos, yn ddwyieithog. Mae un aelod yn gymhorthydd Ewcharistaidd trwyddedig lleyg ac yn eiriolydd dwyieithog. Mae pum aelod arall o’r gynulleidfa’n darllen y llithiau ar rota sefydlog.

Beth ydym ni’n ei wneud:

Addoli 

  • Patrwm sefydlog o addoli dros bedwar Sul a rota tair eglwys ar gyfer y pumed Sul.
  • Yr eglwys nawdd ar gyfer Ewcharist tair eglwys ganol yr wythnos.
  • Yr eglwys nawdd ar gyfer gwasanaethau misol Taizé yr Ardal Weinidogaeth.
  • Un cymhorthydd Ewcharistaidd trwyddedig, lleyg / eiriolydd
  • Mae’r sacristan a chymorthyddion yn helpu i baratoi’r eglwys ar gyfer addoli
  • Pymtheg i ugain yn y gynulleidfa'n gyson.
  • Cefnogaeth dda ar gyfer gwasanaethau'r ardal weinidogaeth e.e. pererindodau
  • Rhannu addoli rhwng tair eglwys ar ddyddiau gŵyl e.e.Mercher Lludw, Dyrchafael, Dydd Iau Crablyd, Taith Tystiolaeth Gwener y Groglith a Diolchgarwch.
  • Gwasanaeth Sul y Cofio ar y cyd ag Eglwys y Santes Fair, Tregarth.
  • Cerddoriaeth yn cael ei ystyried yn rhan bwysig o addoli - organ newydd ardderchog ac organydd gydag ugain mlynedd o wasanaeth. Gwasanaeth Naw Darlleniad a Charolau poblogaidd adeg y Nadolig.
  • Gwasanaeth ac addoliad ysgol yr eglwys y Pasg, Diolchgarwch a’r Nadolig.
  • Roedd y cyn offeiriad yn arwain gwasanaethau addoli wythnosol yn ysgol yr eglwys.
  • Mae tri aelod yn llywodraethwyr ar gorff rheoli ysgol yr eglwys.

Cenhadaeth, Cymuned a'r Byd

  • Eglwys ar agor (y Pasg tan Holl Eneidiau)
  • Cysylltiad agos gydag Ysgol yr Eglwys. Roedd yr offeiriad blaenorol yn cymryd diddordeb byw ym mywyd yr ysgol. Fe’i haseswyd fel Ardderchog yn Adran 50, Adroddiad Mehefin 2019 (Y Canon Robert Townsend ar ran Esgobaeth Bangor).
  • Roedd un aelod yn rhan o'r tîm Agor y Llyfr yn ysgolion Llandygai, Caetop, Penybryn a Hirael.Mae dau aelod yn dal yn rhan o’r tîm Agor y Llyfr ym Maesgeirchen.
  • Elusen Ymddiriedolaeth Ysgolion Cenedlaethol ar gyfer cynnal a chadw dau dy’r ysgol. Gwersi cerddoriaeth ysgol yr eglwys a rhoddion elusennol yn y plwyf yn cael eu cefnogi'n flynyddol.
  • Cyfrannu'n flynyddol adeg Diolchgarwch i Fanc Bwyd y Gadeirlan.
  • Casgliad Diolchgarwch blynyddol i elusen Affricanaidd.
  • Cyfraniad blynyddol i Gymorth Cristnogol.
  • Eglwys Masnach Deg
  • Adroddiad blynyddol i'r papur bro lleol “Llais Ogwan” yn dangos gwasanaethau, amserau gwasanaethau, digwyddiadau, adroddiadau ar ddigwyddiadau ayb.

Beth allwn ni ei gynnig?

Fel cynulleidfa, rydym ni’n hynod gymdeithasol, cynnes a chroesawgar gyda synnwyr o ddigrifwch!Rydyn ni’n falch o'n teulu ac o'n cymuned ac yn gweithio'n dda gyda'n gilydd fel tîm. Rydym ni oll wedi ymrwymo i gynnal presenoldeb Cristnogol cryf yn y pentref ac yn y gymuned ehangach. Bydd gwaith adfer sylweddol yn cael ei wneud ar adeilad yr eglwys ac mae’r arian eisoes ar gael ar gyfer y cyfnod cyntaf. Mae aelod penodol o’r Cyfarfod Cynulleidfaol yn cysylltu gyda’r pensaer a benodwyd i reoli prosiect ar gyfer y gwaith adfer. Maer gwaith codi arian ar gyfer yr ail ran yn mynd yn ei flaen yn frwdfrydig. Mae’r eglwys yn ffodus o fod wedi cael cyfraniadau hael gan unigolion i gefnogi ymdrechion y gynulleidfa.

Rhoddion, Talentau ac Adnoddau

  • Wardeiniaid profiadol gyda swyddogaethau wedi'u diffinio'n glir.
  • Ysgrifennydd eglwys effeithiol a dibynadwy a sacristan gyda sgiliau trefnu ardderchog.
  • Trysorydd dibynadwy ar gyfer yr Eglwys ac Ymddiriedolaeth Ysgolion Cenedlaethol
  • Sefyllfa ariannol sefydlog – talwyd y cyfraniad i Gronfa Weinidogaethol yr Esgob yn llawn, y cyfrifon yn y du!
  • Mae Cyfarfod Cynulleidfaol penodol yn cymryd penderfyniadau cadarn, yn cael eu cofnodi gan aelod dynodedig o Gyngor Ymgynghorol y Plwyf.
  • Aelod arweiniol o’r Cyfarfod Cynulleidfaol ar gyfer adfer / gwaith adeiladu ar yr eglwys.
  • Organydd ardderchog, ers blynyddoedd, ac yn gyfarwyddwr brwdfrydig ar y côr, gyda llais tenor ar gyfer partïon lleol.
  • Grŵp craidd bychan ond brwdfrydig o wirfoddolwyr
  • Gwaith Tîm cynulleidfaol – unigolion yn addasu i swyddi sy'n addas ar eu cyfer
  • Rota fisol ar gyfer trefnu blodau a glanhau.
  • Tîm o drefnwyr blodau a glanhawyr sy'n cydweithredu ar gyfer prif wyliau'r eglwys.
  • Cynulleidfa gefnogol sy’n dangos gofal, cariad, goddefgarwch ac sy’n hwyliog gyda’i gilydd!
  • Rhaglen sefydledig o ddigwyddiadau codi arian sy'n codi proffil yn y gymuned, e.e. stondin Ysbyty Gwynedd, stondin Neuadd Ogwen, Gŵyl y Tair Eglwys, Bingo / Beetle Drive Neuadd Talgai, Noson Farddoniaeth, Garddwest, Darlith yr Archesgob John Williams, Bore Coffi Cefnfaes (Bethesda), Raffl Santes Dwynwen.
  • Rheolwyr Neuadd Talgai sy’n helpu gyda gweithgareddau codi arian
  • Yr unig glochdy sy’n gweithio yn yr ardal gyda thîm o glochyddion yr ardal ac o’r brifysgol, gyda Chapten y Clochdy a thîm o golchyddion.
  • Perthynas bositif gyda’r pum eglwys arall yn yr Ardal Weinidogaeth – cyfathrebu da a chefnogaeth i’w digwyddiadau codi arian. 

Beth fyddem ni’n hoffi ei weld yn cael ei wella yn Tegai Sant

  • Fel y nodwyd, mae’r eglwys yng nghanol cymuned fechan iawn o bobl wedi ymddeol yn bennaf o’r tu allan i’r ardal. Mae adnoddau Neuadd Talgai, y drws nesaf, ar gael wrth archebu ymlaen llaw. Ychydig o’r pentrefwyr sy’n mynychu gwasanaethau’r eglwys er eu bod yn cefnogi rhai digwyddiadau codi arian weithiau. Byddai mwy o gysylltiad rhwng y eglwys a’r pentref (y rhai nad ydyn nhw’n dod i’r eglwysl) yn rhagorol.
  • Chwilio am ffyrdd o annog pobl ifanc a theuluoedd i fynychu’r gwasanaethau.
  • Mwy o ymrwymiad gan gynulleidfa sy’n dibynnu ar bedwar aelod craidd i drefnu a rhedeg digwyddiadau ac ysgogi / perswadio gwirfoddolwyr.
  • Annog pawb i gefnogi gwasanaethau /digwyddiadau’r Ardal Weinidogaeth.

Fe fyddem ni’n hoffi pe byddai'r Ficer newydd yn..

  • Ystyried yr ysgol eglwys gyfagos fel estyniad naturiol o gymuned yr eglwys a chynnal y cydweithio a’r cyd-dynnu rhagorol sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd gyda’r Pennaeth, y staff a'r disgyblion. Mae hon yn ysgol Gymreig hapus gyda chyfran uchel iawn o ddysgwyr Cymraeg ail iaith llwyddiannus iawn.
  • Bod â sgiliau trefnu, yn gweld manylion ac, yn benodol, yn gallu dirwyn i ben y rhaglen adfer helaeth ar gyfer adeilad rhestredig Gradd II* Tegai Sant.
  • Bod yn barod i wrando a gwerthfawrogi gwahanol farnau.
  • Gwerthfawrogi traddodiad cerddorol cryf.
  • Annog mwy o ddefnydd o adeilad yr eglwys fel adnodd i’r ysgol ac i’r gymuned leol.

Chwarel y Penrhyn | Penrhyn Quarry

Eglwys Cedol Sant, Pentir

Y Gynulleidfa

Eglwys o'r 19 ganrif yw Cedol Sant a adeiladwyd i gymryd lle'r capel cyfagos o'r ddeunawfed ganrif. Mae ar ddarn o dir eglwysig hirsgwar i’r gogledd o bentref bychan Pentir. Fe’i hadeiladwyd ym 1848 ar ôl ei dylunio gan y pensaer Henry Kennedy ac mae’n enghraifft gynnar o’i waith sydd prin wedi'i newid. Mae wedi’i hadeiladu o gerrig ithfaen sgwâr gydag addurniadau o garreg galch ac mae o dan un to llechi. Mae bwa mowldiog y gangell yn arwain i fyny tair gris i gangell o dri bae. Mae tair gris arall yn arwain at y seintwar. Mae’r ffitiadau’n cynnwys pwlpud o garreg galch gaboledig, ar fraich o wal ddwyreiniol corff yr eglwys ar gorbelion cerfiedig gyda mynediad i’r festri, a bedyddfaen o bowlen gaboledig, wedi gosod mewn powlen o lechen, gyda cherfiadau o feillion ar ei hochrau.

Pwy ydym ni:

  • Mae Cedol Sant yn ymdrechu i fod yn eglwys ofalgar, yn ymestyn allan ac yn gwasanaethu’r gymuned ac yn annog eraill i ymuno â ni.
  • Rydyn ni’n ceisio bod yn gynulleidfa ddwyieithog gyda diwylliant cryf o ddysgeidiaeth Feiblaidd, gweddi a chonsyrn am y gymuned.
  • Mae gan yr Eglwys sawl teulu y mae eu ffydd a’u hymrwymiad yn cefnogi gwaith Cedol Sant. Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau dros eu trigain, gydag ymrwymiad i edrych y tu hwnt i adeilad yr Eglwys.
  • Yn fwy na dim arall, rydyn ni eisiau bod yn Blant Duw yn y lle hwn. Nid yw Cedol Sant yn berffaith a dydyn ni ddim yn disgwyl perffeithrwydd. Rydyn ni, fodd bynnag, yn ceisio bod yn gefnogol ac yn anogol.
  • Rydyn ni’n gynulleidfa sy’n edrych allan. Mae ein heglwys yn agored, yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Mae’n lle ble mae pobl o bob oedran yn gallu cymryd rhan yn llawen mewn addoliad, gweddi a chyfeillgarwch gyda’n gilydd mewn ffydd.

Beth ydym ni eisiau:

  • Rydym ni eisiau gweinidog a fydd yn gallu ein harwain i’r rhan nesaf o’r daith Gristnogol, yn awyddus i symud ymlaen mewn ffydd.
  • Athro i ddysgu a chyfarwyddo, drwy ffydd a phrofiad Cristnogol ei hunan.
  • Rhywun i’n herio i’n helpu i ddal ati i weithio, yn y plwyf a thu hwnt, os bydd gofyn, i'n gwthio allan o'n parthau cyfforddus a'n hysbrydoli i wneud mwy nag oedden ni'n meddwl y gallen ni.
  • Arweinydd a fydd yn gallu ein cyfeirio’n gadarn i ganfod y ffordd iawn ymlaen gyda synnwyr o ddigrifwch, peth caredigrwydd a llawer iawn o amynedd.
  • Fel pobl awyddus, rydym ni’n barod iawn i symud ymlaen yn ein bywydau Cristnogol. Mae hyn yn gyfle cyffrous i ni ac i'n gweinidog newydd. Rydyn ni’n credu fod Duw wedi'n gosod ni yn y lle iawn ar gyfer y blynyddoedd i ddod i fod wrth galon gweinidogaeth ffrwythlon ac ardderchog. 

Eglwys y Santes Fair a'r Santes Ann, Mynydd Llandegai

Eglwys newydd yw hon a sefydlwyd mewn adeilad hen ysgol ar ôl canfod nad oedd adeiladwaith Eglwys y Santes Ann yn ddiogel. Mae wedi’i chysegru i Fair ac i'w mam, y Santes Ann.

Rydym ni’n eglwys gyda chalon draddodiadol, er nid yn anfodlon wynebu newid a thyfu. Rydym ni mewn lle hardd, gwledig. Rydym ni'n awyddus i gefnogi ficer newydd mewn unrhyw ffordd.

Mae ein cynulleidfa’n fychan ac yn amrywiol sydd wedi arfer bod braidd yn hunan ddigonol

Mae ein heglwys yn ceisio bod yn gynnes ac yn groesawgar ac mae ganddi gysylltiadau cymunedol cryf. Fe hoffem ni adeiladu ar y rhain ac ymestyn allan i deuluoedd ieuengach a gweithio fwy gyda phlant.

Rydym ni’n eglwys ac yn gymuned ddwyieithog, ac mae cynnwys y ddwy iaith yn ein haddoliad a’n gweithgareddau’n bwysig i ni.

Mae yna nifer o grwpiau a gweithgareddau sy'n defnyddio ein heglwys. Mae’r rhain yn cynnwys Capel Amana, sy’n addoli yn ein heglwys unwaith y mis am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, a chôr sy’n defnyddio ein hadnoddau i ymarfer. Mae’r cysylltiadau a’r gweithgareddau cymunedol hyn yn bwysig i ni.

Rydyn ni'n chwilio am ficer gyda chalon fugeiliol a fydd yn traddodi pregethau, yn ein dysgu a’n helpu ni i ddod i ddeall y ffydd yn well.

Fel y nodwyd, ymateb atgyfodi oedd adeiladu ein heglwys ar ôl colli'r eglwys ar y bryn ym 1996. Rydym ni’n gobeithio ein bod yn bresenoldeb eglwysig yma ar y mynydd ac yn edrych ymlaen at ei hugeinfed pen-blwydd yn yr eglwys andnewyddeidg. 


Cymraeg

Introducing Bro Ogwen


Mynydd Llandegai a Chwarel y Penrhyn | Mynydd Llandegai and Penrhyn Quarry

We have six open church buildings, each with distinctive congregations. We are on a journey in terms of forming a Ministry Area team and working together. Since 2014, team members and leaders have helped us to grow and then they have moved on or retired and we are at a point where we need to re-build a strong and effective local team.

Our finances are generally in a good state, although we are aware that we need to fundraise, especially for various repair and building projects that will need to be undertaken in the near future. All six churches maintain separate financial accounts, although each contributes to a central account to pay for any joint expenses, and we have some joint events across the Ministry Area in addition to individual church activities.

It is essential that anyone appointed to Bro Ogwen be Welsh-speaking, although a learner who is committed to developing their skills in Welsh would be enthusiastically supported and encouraged.

Ideally, the ministry area needs an incumbent who is able to encourage and inspire people of all ages, but especially young people and families since our congregations are ageing! In addition, it would be of benefit to the whole community to develop more links with other denominations. The prospective incumbent should be aware that each church has its own traditions and values, and that there is a need to foster a growing sense of partnership and unity.

We would like a priest who is computer literate and who will use social media to communicate and advertise events. We hope for someone who encourages members of the six churches to continue and build upon co-operative worship opportunities and activities. As a large Ministry Area with a heavy workload, Bro Ogwen needs to train and build up a team of worship leaders. Previously, the Ministry Area has paid for an administrator to support the Vicar.

We are enthusiastic to welcome a priest who will journey with us, get to know us and encourage us. We would love to get to know our priest and to pray for them and work with them. During the interregnum, we have pulled together and worked hard; we are looking for a leader who will help us to grow and to use our gifts well.


Bedd yn Eglwys Tegai Sant, Llandegai wedi ei ddyddio o 1475-90 | Tomb at St Tegai's, Llandegai dated 1475-90

The churches of Bro Ogwen


St Cross Church, Tal-y-Bont

Church buildings

St Cross was built in the late 19th century by the Penrhyn family and consecrated in 1892. It replaced an earlier, nearby church, St. Daniel’s, which now serves as the Church Hall (Ysgoldy).

St. Cross is fairly plain and simple, but is enhanced by stained glass in the east window by Edward Burne-Jones. This was installed by tenants of the Penrhyn Estate in memory of Lord Penrhyn.

Graveyard

The church is surrounded by a graveyard which is often praised for being tidy and well maintained. In the early 2000 sit was recognised that space in the graveyard was getting short. In order to address the problem the church entered into a legal agreement with the Penrhyn Estate and acquired half an acre of land, part of an adjacent field. This was consecrated in 2009. To date there are four graves in the extension.

Congregation

The average age of the regular congregation is fifty plus. A few children come with a parent or grandparent from time to time. Quite a number of members live outside Tal-y-Bont and the immediate community, but they attend because of family connections to the church and the area. Church members are friendly and enthusiastic and, over the years, St Cross has welcomed Christians from traditions other than Anglicanism. Services are bilingual. Sunday attendances fluctuate.The average for 2019 being a little under fourteen, taking all Sundays into account (though the average for Eucharist is fifteen and, for Morning Prayer, nine). However, the number is just over twelve when calculated for the purposes of the annual returns to the Diocese.

Music

We share an organist with St Tegai’s and sometimes sing unaccompanied or with a recording. We are quite adaptable and enjoy good music when possible.

Ministry and Outreach

Ysgoldy, the Church Hall, is a valuable resource and is used for various events and social activities. These include Monthly Coffee Mornings,a Summer Strawberry Tea, Talks and Bingo. Parish Lunches and Dinners are occasionally organised at outside venues. We endeavour to foster good relations with the community and support events held by other churches in the Ministry Area, including the local chapel, Bethlehem.

Advent, Lent and Bible study courses organised by the Parish Team have not, on the whole, been well supported.

We maintain a separate Church Committee with responsibility for St. Cross, Ysgoldy and their finances.


Christ Church, Glanogwen, Bethesda

  • Membership of around 98% first language Welsh speakers with everyone understanding and wishing to be ministered in Welsh
  • The largest church in the area by size
  • Congregation: largely over 60 years old
  • Membership: 20 on a Sunday morning, and 10 on a Wednesday morning
  • A strong musical tradition; the present organist works hard to plan music for our services
  • Regular fundraising activities to raise money. We have not missed any Bishop Ministry Fund payments
  • Members of the area are supportive of fundraising activities
  • There is a tradition of outreaching in our local schools

Eglwys Crist, Glanogwen | Christ Church, Glanogwen

St Mary's Church, Gelli, Tregarth

We are a happy, welcoming church family with average attendances of around twelve, comprising a varied age range. Over the last few years we have welcomed several newcomers to our congregation and are always looking for new ways to grow.

In June 2019 St. Mair celebrated its 150th anniversary. We had a week of celebrations, culminating in a confirmation service whenthree teenagers of the congregation were confirmed.

We hold a service in Tregarth every week, with the exception of the fifth Sunday or at special times of the year. Currently we have two Eucharist services, one Morning Prayer and one All Age service. All services are bilingual, with the exception one Welsh service held at Harvest Thanksgiving.

We don’t have an organist, but we do have a sound system on which we play all our music. This is all organized by a member of our congregation.

There are excellent amenities which include disabled access. A kitchen area and toilets are available inside the church.

We have a long established relationship with the village church school and occasionally hold services on its behalf. St. Mair is anxious to maintain good relations with both its staff and pupils.

A variety of fundraising events are held throughout the year. These are organised by the church warden with the support of the people’s warden. Together, a huge effort is made to put on all events. Social gatherings play an important role. They contribute to the upkeep of the church and allow us to reach out to the community.

Externally, the church has a small number of parking spaces. All parts of the grounds and graveyard are well maintained. 


Eglwys Cedol Sant, Pentir | Saint Cedol's Church, Pentir

St Tegai's Church, Llandegai

We are the oldest parish church in Bro Ogwen having been a Christian presence in the valley since the 12th century. We are the mother church for the Llandygai parish which stretches along the right bank of the Ogwen river, from Aberogwen at Porth Penrhyn through Nant Ffrancon up to Llyn Ogwen.

We have thirty-six members on the electoral roll of whom around fifteen to twenty are regular attendees. 55% of the electoral roll are over seventy, of which nine are men. Two young families are occasional worshippers. Of the regular attendees 90% are over sixty (just three men) and50% are over seventy. Approximately 27% of the congregation live within half a mile of the church.Theremainder are drawn from the Bangor and Bethesda area for historical reasons. Seven members of the church congregation joined St Tegai following the closure of St David’s and St Mary’s, Bangor. They have fully integrated into church life. The electoral roll has almost 51% Welsh speakers. Easter and Christmas attract congregations of twenty to thirty-five and the Nine Lessons and Carols service attracts approximately eighty. The village is an enclosed community composed mainly of retirees. The church school draws its pupils from a widespread catchment area with Talybont as the main source of pupils. We have a gipsy traveller site on the outskirts of the village whose residents use the church from time to time as a venue for baptisms/weddings and funerals.

The church follows traditional forms of worship and in normal circumstances is fortunate in having a regular organist (also a member of the Congregational Meeting) who it shares with St Cross, Talybont.All services, including a midweek service, are bilingual. One member is a licensed lay Eucharistic assistant and bilingual intercessor. Another five members of the congregation read the lessons on an established rota.

What we do?

Worship

  • Established pattern of worship over four Sundays together with three church rota for the fifth Sunday.
  • Host church for midweek three Churches’ Eucharist.
  • Host church for monthly Ministry Area Taizé services.
  • One licensed lay Eucharistic assistant/intercessor.
  • Sacristan and assistants help prepare church for worship.
  • Consistent fifteento twenty in weekly congregation.
  • Good support for ministry area services and events eg pilgrimages.
  • Shared three church worship for feast days e.g. Ash Wednesday, Ascension, Maundy Thursday, Good Friday Walk of Witness and Harvest Thanksgiving.
  • Joint Remembrance Day service with St Mary’s Tregarth.
  • Music considered an important part of worship – excellent new organ and organist of over twenty-six years’ service. Popular Candlelit Nine Lessons and Carols service at Christmas.
  • Church school service and worship at Easter, Harvest Thanksgiving and Christmas.
  • Previous priest incumbent led weekly worship at church school.
  • Three members are governors on the church school governing body.

Community and world Mission

  • Open Church (Easter to All Souls).
  • Close connection with Church School. Previous incumbent had energetic presence in day to day school life. Assessed as Excellent in Section 50, June 2019 Report (Canon Robert Townsend on behalf of Bangor Diocese).
  • One member was part of the Open the Book team at Llandygai, Caetop, Penybryn and Hirael schools. Two members continue to be part of the OTB team in Maesgeirchen.
  • National Schools’ Trust charity for maintenance of the two school houses. Church school music lessons and other parish based charitable gifts supported annually.
  • Harvest donations annually to Cathedral Food Bank.
  • Harvest Collection annually to African charity.
  • Annual donation to Christian Aid.
  • Fair Trade church.
  • Monthly report to local Welsh language newspaper “Llais Ogwan” highlighting services, times of services, events, reports on events etc.

What can we offer?

As a congregation we are very sociable, warm and welcoming with a sense of humour! We value our sense of family and community and work well together as a team. We are all committed to maintaining a strong Christian presence in the village and in the wider community. The church building is undergoing a substantial restoration programme with funding already in place for the first phase. A designated Congregational Meeting member liaises with the architect appointed to project manage the restoration schedule. Energetic fundraising continues in order to finance the second phase. The church is fortunate to have received generous donations from individuals in support of the congregation’s efforts.

Gifts, Talents and Resources

  • Long serving active wardens with clearly defined roles.
  • Efficient and reliable church secretary and sacristan with excellent organisational skills.
  • Dependable treasurer for Church and National Schools’ Trust.
  • Stable financial situation – Bishop’s Ministry Fund contribution paid in full, accounts in the black!
  • Committed Congregational Meeting takes concrete decisions, minuted by designated PCC member.
  • Lead liaison Congregational Meeting member for church restoration/building work.
  • Excellent long serving organist and active choir director with tenor voice for local ensembles.
  • Small but energetic core group of volunteers.
  • Congregational Teamwork – individuals adopt roles which are a comfortable fit.
  • Flower arrangers and cleaners on monthly rota.
  • Team of flower arrangers and cleaners who collaborate for major church festivals.
  • Supportive congregation show care, love, tolerance and good humour towards each other!
  • Established programme of fundraising events raising profile in community eg Ysbyty Gwynedd stall, Neuadd Ogwen Stall, annual Three Churches Fête, Neuadd Talgai Bingo/Beetle Drive, Poetry Evening, Garden Party, Archbishop John Williams Lecture, Cefnfaes (Bethesda) Coffee Morning, Santes Dwynwen Raffle.
  • Neuadd Talgai managers who assist with fundraising activities.
  • Only active six bell tower in the area with local and university based Tower Captain and team of ringers.
  • Positive relations with the other five churches in the Ministry Area - good communication and support for their fundraisers.

What would we like to improve at St Tegai?

  • As stated, the church is in the middle of a very small community of mainly retired people who hail from outside the area. Neuadd Talgai, next door, allows access to facilities and a venue subject to advance booking. Few of the villagers attend church services although they support some fundraising events occasionally. More interaction between church and village (non-churchgoers) would be excellent.
  • Explore ways to encourage young people and families to attend services.
  • More engagement from a congregation who rely on four core members to organise and run events and motivate/persuade volunteers.
  • Encourage all to support Ministry Area services/events.

We would like our new Vicar to….

  • See the neighbouring church school as a natural extension of the church community and maintain the excellent cooperation and rapport built up over the years with the Head, staff and pupils. This is a happy Welsh school with a very high proportion of successful Welsh second language learners.
  • Have organisational skills, an eye for detail and specifically the drive to push through to completion the extensive restoration programme to St Tegai’s Grade II* building.
  • Be willing to listen to and value different opinions.
  • Appreciate our strong musical tradition.
  • Encourage further use of the church building as an amenity for the school and the local community.

Stryd Fawr Bethesda | Bethesda High Street

St Cedol's Church, Pentir

The Congregation 

St Cedol's church is a nineteenth-century construction built to replace a nearby eighteenth-century chapel. It is in a rectangular churchyard to the north of the tiny village of Pentir. It was built in 1848 to the designs of diocesan architect Henry Kennedy, an early example of his work, and is largely unaltered. It is built of roughly squared igneous stone with limestone dressings and has a large unit slate roof. The moulded chancel arch leads up three steps to a chancel of three bays. Three further steps lead up to the sanctuary. Fittings include a polished limestone pulpit, cantilevered from the east nave wall on moulded corbels with access from the vestry and a font consisting of a polished bowl, set in a slate bowl, carved with trefoil sides.

Who we are:

  • St. Cedol strives to be a caring church, reaching out to and serving the community, encouraging others to join us.
  • We endeavour to be a bi-lingual congregation with a strong culture of Biblical teaching, prayer, support and concern for the community.
  • The Church has several families whose faith and involvement support the work of St. Cedol. Most of the membership are over sixty, with a committed drive to look beyond the Church Building.
  • More than anything else we want to be Children of God in this place. St. Cedol is not perfect and we do not expect perfection. We do, however, seek to be supportive and encouraging.
  • We are an outward looking congregation. Our church is open, friendly and welcoming. A place where people of all ages may joyfully take part in worship, prayer and fellowship as we grow in faith together.

What we want:

  • We want a minister who can help lead us through the next phase of our Christian journey, eager to move forward in faith.
  • A teacher to educate and direct, through their own Christian faith and experience .
  • A challenger to help us continue working, both in the parish and beyond and, where necessary, to push us out of our comfort zones and inspire us to do more than we think possible.
  • A leader who can direct us robustly to find the right way forward with a sense of humour, some kindness and a great deal of patience.
  • As willing people, we are eager to move forward in our Christian lives. This presents an exciting opportunity for us and for our new minister. We believe that God has placed us in the right position for the coming years to be the heart of a fruitful and wonderful ministry

St Mair and St Ann's Church, Mynydd Llandegai

This is a new church established in a converted school building after it was found that St Ann's Church was structurally unsafe. It is dedicated to Mary and her mother, St Ann.

We are a church with a traditional heart, although not unwilling to face change and grow. We are set in a beautiful, rural location. We are keen to support a new vicar in every way.

We are a small and varied congregation who have been used to being somewhat self-sufficient.

Our church seeks to be warm and welcoming and has good local community links. We would like to build on these and to reach out to younger families and do more work with children.

We are a bi-lingual church and community and maintaining our two languages in worship and activities is important to us.

There are a number of groups and activities that make use of our church. These include Amana Chapel, who worship in our church once a month for most of the year, and a choir who who use the facilities to practise. These links and community activities are important to us.

We are looking for a vicar with a pastoral heart and whose preaching and teaching will help us to better understand the faith.

As indicated, the building of our church was a resurrection response when we lost the church on the hill in 1996. We seek to be a church presence here on the mountain and are looking forward to our twenty year anniversary in the refurbished church.