Gobeithion a nodau'r Esgob ar gyfer gweinidogaeth yr Arweinydd Ardal Weinidogaeth ym Mro Ogwen
Mae’r disgrifiad hwn o obeithion a nodau ar gyfer gweinidogaeth yr Arweinydd Ardal Weinidogaeth ym Mro Ogwen yn cyd-fynd â dyletswyddau cyffredinol offeiriad sy’n cael eu hamlinellu yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac yn Llawlyfr Clerigion yr Eglwys Yng Nghymru.Bydd y disgrifiad hwn o obeithion a nodau’n cael ei adolygu fel rhan o’r cylch Adolygu Datblygiad Gweinidogaethol.
Arweinyddiaeth a goruchwyliaeth
- Gorchwylio casgliad amrywiol o gymunedau gan gynnig arweinyddiaeth glir i annog tyfu'r ffydd, disgyblaeth a thrugaredd.
- Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y swydd, paratoi Cynllun Datblygu Cenhadaeth o fewn fframwaith yr Esgobaeth, a fydd yn cynnwys yr amcanion a’r nodau cyffredinol.
- Ar y cyd â'r Esgob, yr Archddiacon, Ysgrifennydd yr Esgobaeth a Chyngor yr Ardal Weinidogaeth, datblygu strategaeth adnoddau i gefnogi gweithredu'r Cynllun Datblygu Cenhadaeth.
- Cymryd rhan lawn yn: (i) y cylch Adolygu Datblygiad Gweinidogaethol, gan gynnwys cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda’r Archddiacon; (ii) bywyd ehangach yr esgobaeth a’r archddiaconiaeth, gan gefnogi gweinidogaeth yr Esgob yn yr esgobaeth ac yn y dalaith yn ôl y gofyn.

Addoli Duw
- Goruchwylio addoli Duw yn yr Ardal Weinidogaeth, gan gynnwys gwahanol fynegiannau o addoli ar y Sul a thrwy'r wythnos.
- Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y swydd, sefydlu nodau cyraeddadwy ar gyfer gweithgaredd a chysylltu ar gyfer y chwe eglwys yn y cyfnod pum mlynedd 2022 - 2026.
Tyfu’r Eglwys
- Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y swydd, yn sefydlu nodau cyraeddadwy ar gyfer efengylu yn ystod y pum mlynedd 2022 – 2026.
- Gweithio’n agos â Thîm Deiniol i sicrhau safon ragorol o ddarparu ac allbwn yn y meysydd: (i) addysg a gweinidogaeth ysgolion; (ii) gweinidogaeth plant, ieuenctid a teuluoedd; (iii) datblygu disgyblaeth; (iii) rheolaeth a stiwardiaeth ariannol; (iv) cyfathrebu a gweinidogaeth ddigidol.
- Ar y cyd â’r Archddiacon, adeiladu tîm o gydweithwyr ordeiniedig a lleyg i rannu eu gweinidogaeth, yn enwedig ym meysydd: (i) arwain a dysgu addoli; (ii) gofal bugeiliol; (iii) gweinidogaeth teuluoedd; (iv) efengylu.Bydd hyn yn gofyn am gynllunio, goruchwyliaeth ac arweinyddiaeth bugeiliol clir. Ym Mro Ogwen, mae yna gyfle newydd, arwyddocaol, ar gyfer hyn gyda datblygiad, ym Methesda, y prosiect efengylu yn y Gymraeg, “prosiect Llan”. Tasg allweddol i Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth fydd datblygu cysylltiadau gyda’r prosiect.
Caru’r byd
- Sefydlu partneriaethau bwriadol a strategol gyda sefydliadau, asiantaethau ac enwadau eraill, a, gyda eu cydweithrediad: (i) galluogi i lais Cristnogol gael ei glywed yn y maes cyhoeddus; (ii) gweithio dros drawsnewid strwythurau anghyfiawn.

Nodweddion a Sgiliau Personol
Rydym ni’n chwilio am Arweinydd Ardal Weinidogaeth sy’n:
- Caru Duw ac yn gallu gweithio’n effeithiol gyda phobl
- Yn onest ynghylch cryfderau a gwendidau personol
- Yn gallu ein harwain mewn gweddi a dysgu
- Yn cynnig pregethau sy’n ysgogi ac yn ein hysbrydoli mewn disgyblaeth
- Yn weinyddydd effeithiol ac yn deall stiwardiaeth.
Gofynion hanfodol:
- Bugail profiadol sy'n gallu cymysgu'n dda gyda phobl o bob oedran a chefndir, sy'n deall fod gan bob eglwys ei thraddodiadau a'i gwerthoedd ei hunan, sy’n meithrin synnwyr cynyddol o bartneriaeth ac o undod.
- Siaradwr Cymraeg rhugl neu ddysgwr brwdfrydig.
- Offeiriad sy'n mwynhau annog plant a phobl ifanc yn y ffydd, yn enwedig gan fod ein cynulleidfaoedd yn heneiddio.
- Offeiriad sy'n cydnabod nodweddion penodol pob un o'n cynulleidfaoedd ac a fydd yn dod i'n hadnabod, yn ein helpu i ddal i feithrin synnwyr o bartneriaeth ac o undod.
- Dysgwr gydol oes sy'n gallu cofleidio’r defnydd o dechnolegau a chyfryngau cyfathrebu newydd.
- Rhywun sy’n edrych i’r dyfodol mewn ffordd bositif.
Beth Allen ni ei gynnig:
- Brwdfrydedd!
- Help gyda Chymraeg llafar ac ysgrifenedig
- Cefnogaeth wrth gynnig ein rhoddion
- Croeso gyda chyfeillgarwch a lletygarwch gweddigar.
The Bishop's hopes and goals for the ministry of the Ministry Area Leader in Bro Ogwen
This description of hopes and goals for the ministry of the Ministry Area Leader in Bro Ogwen sits alongside the generic duties of an incumbent as outlined in the Constitution of the Church in Wales and the Church in Wales Clergy Handbook. This description of hopes and goals will be revised as part of the Ministerial Development Review cycle.
Leadership and supervision
- Exercise oversight across a diverse set of communities, offering clear leadership to encourage a growth in faith,discipleship and compassion.
- During their first year in post, prepare a Mission Development Plan within the diocesan framework, which will incorporate the overall aims and objectives.
- In collaboration with the Bishop, Archdeacon, Diocesan Secretary and the Ministry Area Council, develop a resource strategy to support the implementation of the Mission Development Plan.
- Participate fully in: (i) the Ministerial Development Review cycle, including regular one-to-one meetings with the Archdeacon; and, (ii) the broader life of the diocese and the archdeaconry, supporting the Bishop’s ministry in the diocese and province as necessary.

Worshipping God
- Oversee the worship of God across the Ministry Area, offering diverse expressions of worship on Sundays and throughout the week.
- During their first year in post, establish achievable goals for activity and engagement with the six churches during the quinquennium 2022-2026.
Growing the Church
- During their first year in post, establish achievable goals for evangelism for the quinquennium 2022 to 2026.
- Work closely with Tîm Deiniol to ensure a high quality of delivery and output in the areas of: (i) inclusive education and schools ministry; (ii) children, youth and family ministry; (iii) discipleship development; (iv) financial management and stewardship; and (v) communication and digital ministry.
- In conjunction with the Archdeacon, build up a team of ordained and lay colleagues to share in their ministry, especially in the areas of: (i) worship leading and teaching; (ii) pastoral care; (iii) family ministry; and, (iv) evangelism. This will require clear planning, supervision and pastoral leadership. In Bro Ogwen there is a significant new opportunity for this with the recent development of the Welsh language, evangelism “Llan project” which will be located in Bethesda. A key task of the Ministry Area Leader will be to build links with this project.
Loving the world
- Establish intentional and strategic partnerships with other organisations, agencies and denominations and through their collaboration: (i) enable the Christian voice to be heard and, (ii) work for the transformation of unjust structures.

Personal Qualities and Skills
We seek a Ministry Area Leader who:
- Loves God and is effective at working with people.
- Is honest about their own strengths and weaknesses.
- Can lead us in prayer and learning.
- Offers thought provoking sermons and inspires us in discipleship.
- Is an effective administrator with an understanding of stewardship.
Essential requirements:
- An experienced pastor who is able to interact well with people of all ages and backgrounds and, recognising that each church has its own traditions and values, fosters a growing sense of partnership and unity.
- A fluent Welsh speaker or an enthusiastic Welsh learner.
- A priest who enjoys encouraging children and young people in the faith, particularly as our congregations are ageing.
- A priest who will recognise the distinctive gifts of each of our congregations and get to know us; helping to continue to foster a sense of partnership and unity.
- A life-long learner able to embrace the use of newtechnologies and communications media.
- Someone who looks to the future in a positive way.
What we can offer:
- Enthusiasm!
- Assistance with spoken and written Welsh
- Support in offering our gifts.
- A welcome with friendship and prayerful hospitality.