Janet Fletcher
Mae Janet wedi ysgrifennu myfyrdodau a gweddïau Adfent a Garawys, yn ogystal â litwrgi ar gyfer gwahanol gynulliadau. Mae hi hefyd yn arwain y cwrs hyfforddi mewn cyfeiriad ysbrydol ac yn goruchwylio cyfarwyddwyr ysbrydol yn yr esgobaeth. O fewn y dalaith mae Janet yn aelod o Grŵp Ysbrydolrwydd y Dalaith a'r Grŵp Cynullwyr Cyfeiriad Ysbrydol.
Ordeiniwyd Janet yn Esgobaeth Lerpwl yn 2000 a gwasanaethodd mewn nifer o blwyfi cyn dod i Esgobaeth Bangor yn 2011 a Bywoliaeth Reithorol Bangor; yna i Fro Ystumanner ac oddi yno i Fro Enlli. Yn 2021 symudodd Janet i Landudno a swydd lawn amser fel Swyddog Ysbrydolrwydd a Gweinidogaeth yr Esgobaeth. Mae’r rôl hon yn cynnwys helpu a chefnogi anghenion hyfforddi mewn Ardaloedd Gweinidogaeth, ysgrifennu gweddïau a litwrgi, ac unrhyw beth sy’n ymwneud â ffydd a’r bywyd ysbrydol.
Yn 2021, daeth Janet yn gyd-gadeirydd Mae Cymru, gan eiriol dros fenywod yn y weinidogaeth leyg ac ordeiniedig. Mae hi hefyd yn aelod o Fforwm Cenedlaethol y Cyfarwyddwyr Ysbrydol [Hyfforddwyr], ac o Urdd Iechyd a St Raphael. Ei llyfr cyntaf oedd Pathway to God [2006] ac mae wedi cyfrannu dros nifer o flynyddoedd i Ganllawiau BRF a Quite Spaces. Yn fwyaf diweddar mae Llyfr Enlli: Gweddïau'r Dydd, [2021].
Mae Janet yn mwynhau treulio amser tawel yn Holy Rood House, Thirsk, Gogledd Swydd Efrog, lle mae hi hefyd yn Gydymaith. Ers dod i Gymru mae teulu a ffrindiau wedi dod i aros llawer mwy.
Janet Fletcher
Janet has written Advent and Lent reflections and prayers, as well as liturgy for various gatherings. She also leads the training course in spiritual direction and has oversight of spiritual directors in the diocese. Within the province Janet is a member of the Provincial Spirituality Group and the Convenors of Spiritual Direction Group.
Janet was ordained in the Diocese of Liverpool in 2000 and served in a number of parishes before coming to the Diocese of Bangor in 2011 and the Rectorial Benefice of Bangor; then to Bro Ystumanner and from there to Bro Enlli. In 2021 Janet moved to Llandudno and a full-time post as Diocesan Spirituality and Ministry Officer. This role includes helping and supporting training needs in Ministry Areas, writing prayers and liturgy, and anything to do with faith and the spiritual life.
In 2021, Janet became co-chair of Mae Cymru, advocating for women in lay and ordained ministry. She is also a member of the National Forum of Spiritual Directors [Trainers], and of the Guild of Health and St Raphael. Her first book was Pathway to God [2006] and has contributed over a number of years to BRF Guidelines and Quite Spaces. Most recently is the Bardsey Book: Prayers for the Day, [2021].
Janet enjoys spending quiet time at Holy Rood House, Thirsk, North Yorkshire, where she is also a Companion. Since coming to Wales there have been far more visits from family and friends.