Pererindod
Bydd pwyslais Llan ar Bererindod yn caniatáu inni ddathlu lleoedd, adeiladau a thirnodau sy'n mynegi ehangder ein treftadaeth Gristnogol.
Byddwn yn buddsoddi mewn chwe chanolfan ragoriaeth newydd o amgylch yr esgobaeth, ac mewn llwybrau pererindota hen a newydd ym mhob cwr o’r esgobaeth. Yn bwysicach fyth, byddwn hefyd yn buddsoddi mewn pobl trwy hyfforddi croesawyr a thywyswyr i adrodd ein stori Gristnogol, a gwahodd ymwelwyr i ddod yn wir bererinion trwy gydblethu eu stori eu hunain â stori fyw ffydd.
Dywedodd yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionnydd, am Bererindod:
"Rwyf mor falch bod pererindod wrth galon Llan. Ers cenedlaethau mae pererinion wedi dod i’n hesgobaeth i ymweld â’r nifer o ‘gyrchfannau sanctaidd’ sydd gennym ar garreg ein drws. Dros y blynyddoedd rwyf wedi arsylwi gyda chyffro'r traffig pererindod cynyddol i Ynys Enlli ar adeg pan mae cynulleidfaoedd eglwysig rheolaidd yn gwanhau. Mae pob un o'n safleoedd pererindod yn leoedd o dawelwch, harddwch, goleuni a hyd yn oed o drawsnewid dychmygus o'r byd hwn i'r nesaf - gofodau sy’n cynnig inni roddion gwerthfawr ac unigryw.”
Beth?
Beth ydym ni'n gobeithio fydd yn cael ei gyflawni gan y ffrwd hon o Llan?
Datblygu llwybrau aml-lefel i adrodd y stori Gristnogol
Llwybrau sy’n cysylltu eglwysi, cysegrfeydd, meini hirion, ffynhonnau, safleoedd hanesyddol a diwylliannol, seintiau o bob oes
Pererindodau diwrnod a phreswyl
Pererindodau un safle
Amlgyfrwng
Ar gyfer pob oedran
Llwybrau y tu hwnt / yn ddyfnach
Adeiladu brand a nwyddau pererindod Eglwys yng Nghymru
Meithrin gweinidogaeth arwain pererindod fel gweinidogaeth efengylaidd a gomisiynwyd
Datblygu canolfannau pererindod
Allbynnau cynnar?
Beth fydd yr allbynnau yn ystod y flwyddyn gyntaf, fwy neu lai?
Haneswyr, diwinyddion, litwrgwyr a chatecistiaid yn crefftio llwybrau
Cyfarwyddwr Marchnata, Datblygu a Chynaladwyedd yn meithrin gallu masnachol twristiaeth ffydd
Brand wedi’i ddatblygu
Hyfforddiant gweinidogaeth wedi’i gomisiynu gydag Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain
Canlyniadau?
Beth fydd canlyniadau'r ffrwd dros bum mlynedd?
150 o bererindodau ysgol p.a.
18,000 o gyfarfyddiadau trothwy
6 pererindod undydd, 3 aml-ddiwrnod p.a.
3 phrosiect dehongli eglwysig p.a.
3 Lle Pererindota Bach p.a.
Seilwaith ar-lein cynhwysfawr
Effaith?
Sut fydd y ffrwd yn cael effaith hirdymor?
Gwell hygrededd yr Eglwys fel stiward pethau ystyrlon
Dal straeon am ymgysylltu â ffydd
Gweinidogaeth sy’n canolbwyntio ar geiswyr
Cronni hygrededd yr Eglwys yn yr economi ffydd-dwristiaeth
Pilgrimage
Llan’s emphasis on Pilgrimage will allow us to celebrate places, buildings and landmarks that hold the breadth of our Christian heritage.
We will invest in six new centres of excellence around the diocese, and in new and old pilgrim pathways that will criss-cross the diocese. More importantly, we will also invest in people through training welcomers and guides to become excellent at telling our Christian story, and inviting visitors to become true pilgrims by interweaving their own story with the living story of faith.
Speaking about the Pilgrimage stream, the Archdeacon of Meirionnydd, Andrew Jones, said:
"I am so delighted that pilgrimage is at the heart of our Llan evangelism project. For generations pilgrims have come to our diocese to visit the many “holy pilgrim places” we have on our doorstep. Over the years I have observed with excitement the increasing pilgrimage traffic to Bardsey Island at a time when regular church congregations are weakening. All of our pilgrimage sites are places of silence, beauty, light and even of imaginative transition from this world to the next - spaces of precious and irreplaceable gifts."
What?
What do we hope will be achieved by this stream of Llan?
Development of multi-valent pathways to tell the Christian story
Routes connecting churches, shrines, standing stones, wells, historical and cultural sites, saints of all the ages
Day-long and residential pilgrimages
Single-site pilgrimages
Multi-media
For all ages
Pathways beyond / deeper
Building up Church in Wales pilgrimage brand and merchandise
Nurturing ministry of pilgrimage-leading as an evangelistic commissioned ministry
Development of pilgrimage centres
Early outputs?
What will the outputs be in the first year or so?
Historians, theologians, liturgists and catechists crafting pathways
Director of Marketing, Development & Sustainability building up faith-tourism commercial capacity
Brand developed
Ministry training commissioned with British Pilgrimage Trust
Outcomes?
What will the five-year outcomes of the stream be?
150 school pilgrimages p.a.
18,000 threshold encounters
6 day, 3 multi-day pilgrimages p.a.
3 church interpretation projects p.a.
3 Small Pilgrim Places p.a.
Comprehensive online infrastructure
Impact?
How will the stream have a long-term impact?
Enhanced credibility of Church as steward of meaningful things
Capturing stories of faith engagement
Seekers-focused ministry
Accumulating credibility of Church in faith-tourism economy